Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych chi'n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, mae'n rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru

1. Rhanbarth

Cymru gyfan

2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal

Cymraeg 2050

3. Sail gyfreithiol yn y DU

Adran 61(k), 70 a 71 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

4. Amcanion polisi penodol y cynllun

Mae'r cynllun hwn yn cyd fynd â strategaeth Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr, sef gweledigaeth hir dymor Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg. Mae'r strategaeth hon yn cynnwys dau brif darged sef:

  1. Nifer y siaradwyr Cymraeg i gyrraedd 1 miliwn erbyn 2050.
  2. Canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, i gynyddu i 20 y cant erbyn 2050.

5. Diben y cynllun

Er mwyn cyflawni amcanion strategaeth Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr. Bydd y cynllun yn cefnogi ystod o weithgareddau ac ymyraethau fydd yn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg, creu siaradwyr newydd hyderus ynghyd â chynyddu isadeiledd y Gymraeg. Bydd y cynllun hwn yn cefnogi ystod eang o sefydliadau sydd a phrofiad o weithredu yn y maes cynllunio ieithyddol ar draws Cymru. Mae swm y cynllun yn amcanrif.

6. Awdurdodau Cyhoeddus sydd wedi'u hawdurdodi i weithredu'r cynllun

Llywodraeth Cymru

7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys

Cyrff cyhoeddus, mudiadau trydydd sector.

8. Sectorau i'w cefnogi

  • Addysg
  • Celfyddydau, adloniant a hamdden
  • Gweithgareddau gwasanaeth eraill

9. Hyd y cynllun

01 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2029.

10. Y gyllideb ar gyfer cymorth o dan y cynllun hwn

£45,000,000

11. Ffurf y cymorth

Grant.

12. Telerau ac amodau cymhwysedd

Bydd y cynllun hwn yn cefnogi ystod o sefydliadau sydd a chyfraniad sylweddol i'r maes cynllunio ieithyddol. Bydd y cynllun yn cefnogi ystod o weithgareddau fydd yn gysylltiedig a themâu strategol Cymraeg 2050.

13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Bydd swm y cymhorthdal yn seiliedig ar dyraniadau hanesyddol ac yn unol â blaenoriaethau strategol  a chanllawiau cyllido y cynllun. Yn arferol bydd y cymorth hyd at 70% o gostau cymwys.

14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

£9,500,00

15. Manylion cyswllt

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image