Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych yn defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymorthdaliadau, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau drwy anfon e-bost i: scu@gov.wales.

1. Rhanbarth

Chwe ardal awdurdod lleol yng Nghymru yn y cyfnod peilot.

2. Enw'r Cynllun Cymhorthdal

Cynllun Cymhorthdal Llywodraeth Cymru ar gyfer Cost y Diwrnod Ysgol

3. Sail gyfreithiol y DU

Gwneir y dyfarniad Cyllid hwn ar Amodau ac yn ddarostyngedig i Amodau ac o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru, sy’n gweithredu yn unol â swyddogaethau a drosglwyddwyd o dan adran 58A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

4. Amcanion polisi penodol y cynllun

Nod y cymhorthdal yw rhoi gwybodaeth fanwl i ysgolion ac addysgwyr am brofiad bywyd o dlodi ac effaith tlodi ar addysg yn eu cymuned ysgol.

Bydd y cymhorthdal yn cefnogi peilot cychwynnol gwaith 'prawfesur polisïau ar dlodi' ar raddfa fawr mewn clystyrau o ysgolion cysylltiedig, a elwir hefyd yn 'gymunedau dysgu'. Mae hyn yn cefnogi nodau datganedig polisi addysg Llywodraeth Cymru ac yn cefnogi Strategaeth Tlodi Plant 2024 yn uniongyrchol.

Bydd y cymhorthdal yn cefnogi gwaith i wneud addysg yn brofiad niwtral o ran cost ac i gael gwared ar rwystrau i bresenoldeb a chyrhaeddiad a achosir gan dlodi. Bydd y cymhorthdal yn cynhyrchu symiau mawr o ddata defnyddiadwy am effaith tlodi ar ddisgyblion o ystod o leoliadau ledled Cymru a fydd ar gael i ysgolion, clystyrau, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru ac yna gellir defnyddio'r data i lywio gweithgareddau a gwaith yn y dyfodol.

Ceisir data ychwanegol i werthuso effaith y prosiect ac asesu ei allu i dyfu yn unol â'r anghenion ar gyfer ei gyflawni'n ehangach/yn genedlaethol. Y bwriad ar gyfer y peilot hwn yw mynd i'r afael â sail resymegol tegwch ymgysylltu mor gynnar â phosibl ym mywydau plant sy'n byw mewn tlodi er mwyn gwella eu canlyniadau iechyd, llesiant ac economaidd posibl i'r eithaf, o ystyried mai Cymru yw un o'r rhanbarthau tlotaf yn y DU ar hyn o bryd yn seiliedig ar GDP y pen.

5. Yr Awdurdod cyhoeddus sydd wedi’i awdurdodi i roi’r cynllun ar waith

Llywodraeth Cymru

6. Categorïau o fentrau sy’n gymwys

Y mentrau sy'n gymwys i gael cymorth yw partneriaid trydydd sector sydd â phrofiad yn y sector tlodi plant ac sydd â methodolegau priodol i ymgysylltu'n uniongyrchol â chymunedau a dysgwyr â sensitifrwydd ac arbenigedd.

Er mwyn bod yn gymwys rhaid meddu ar hanes blaenorol o fynd i'r afael yn llwyddiannus â rhai o'r meysydd â blaenoriaeth allweddol a amlinellir yn y Strategaeth Tlodi Plant a'r gallu i weithredu yng Nghymru er mwyn cymryd camau cadarnhaol i fynd i'r afael ag effaith barhaus tlodi ar gyfranogiad/presenoldeb a chyrhaeddiad plant ym myd addysg.

7. Sector(au) a gefnogir

Addysg

8. Hyd y cynllun

22 Gorffennaf 2024 hyd 22 Gorffennaf 2029.

9. Cyllideb ar gyfer cymorth o dan y cynllun

£3,000,000 (amcangyfrif yn unig).

10. Ffurf y cymorth

Bydd yr holl gymhorthdal a ddyfernir o dan y cynllun yn cael ei ddyfarnu drwy grantiau.

11. Telerau ac amodau cymhwysedd

Er mwyn bod yn gymwys rhaid meddu ar hanes blaenorol o fynd i'r afael yn llwyddiannus â rhai o'r meysydd â blaenoriaeth allweddol a amlinellir yn y Strategaeth Tlodi Plant a'r gallu i weithredu yng Nghymru er mwyn cymryd camau cadarnhaol i fynd i'r afael ag effaith barhaus tlodi ar gyfranogiad/presenoldeb a chyrhaeddiad plant ym myd addysg.

12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Cyfrifir cymhorthdal ar sail cyllideb ddangosol fanwl ar gyfer prosiect peilot. Manylir ar y pethau penodol sydd i'w cyflawni a chytunir arnynt drwy ddyfarniad grant, gydag amserlenni clir wedi eu nodi. Bydd yr amodau ar gyfer sefydliadau sy'n cael cymhorthdal yn cynnwys:

  • cyswllt rheolaidd â Llywodraeth Cymru drwy gydol y cyfnod cymhorthdal drwy ymgysylltiad wyneb yn wyneb ac ar-lein, gan gynnwys, fel y bo'n berthnasol, grwpiau llywio prosiect rheolaidd a fynychir gan Lywodraeth Cymru
  • cymryd rhan mewn gwaith monitro a gwerthuso, gan gynnwys, fel y bo'n briodol, rannu data â Llywodraeth Cymru
  • adroddiadau ysgrifenedig ar weithgarwch i Lywodraeth Cymru drwy gydol y cyfnod cymhorthdal.

Bydd amserlen dalu yn cael ei sefydlu ar sail cyflawni allbynnau penodol.

13. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

£150,000.

14. Gwybodaeth gysylltu

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image