Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory: canllawiau i fyfyrwyr 2025 i 2026
Mae'n cynnig cymhelliant o £5,000 i fyfyrwyr sy'n astudio i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu i addysgu'r Gymraeg fel pwnc.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae'r cynllun cymhelliant hwn yn cynnig grant o £5,000 i fyfyrwyr sy'n dilyn rhaglen addysg gychwynnol athrawon (AGA) ôl-raddedig uwchradd. Rhaid i’r rhaglen fodloni un o’r canlynol:
- mae’n galluogi’r myfyriwr i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
- mae’n galluogi’r myfyriwr i addysgu'r Gymraeg fel pwnc
Mae'r canllawiau hyn yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2025 i 2026. Gallwch wneud cais am y grant hwn os ydych ar raglenni AGA sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC) rhwng 1 Medi 2025 a 31 Awst 2026.
Dylech ddarllen y canllawiau hyn ar y cyd â'r cynllun cyfreithiol. Mae hwnnw'n nodi gofynion statudol y cynllun.
Mae’r Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory yn cefnogi strategaeth Cymraeg 2050: strategaeth y Gymraeg.
Meini prawf cymhwystra ar gyfer Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory
Mae’r cynllun hwn yn targedu myfyrwyr sydd ar raglenni AGA ôl-raddedig uwchradd yng Nghymru. Rhaid ichi fod yn astudio i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu i addysgu'r Gymraeg fel pwnc. Mae’r cynllun ar gael ar gyfer myfyrwyr amser llawn a rhan-amser.
Efallai na fydd cyllid ar gael i fyfyrwyr sydd wedi’u derbyn ar raglen AGA wedi i’r nifer a ganiateir gael ei gyrraedd. Holwch eich Partneriaeth AGA a yw hyn yn berthnasol i chi.
Rhaglenni cymwys
Er mwyn i raglen AGA fod yn gymwys, mae’n rhaid iddi:
- fod wedi’i hachredu gan Fwrdd Achredu Addysg Athrawon Cyngor y Gweithlu Addysg
- arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC) yng Nghymru
- galluogi'r myfyriwr i addysgu mewn lleoliad uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg neu addysgu Cymraeg fel pwnc
Myfyrwyr cymwys
Er mwyn bod yn gymwys i gael grant cymhelliant, rhaid i'r myfyriwr:
- fod ar raglen gymwys, a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi, ond cyn 31 Awst fel y nodir yn y cynllun cyfreithiol
- bod yn gymwys i gael cymorth o dan Reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 sydd mewn grym ar hyn o bryd
- peidio â bod eisoes yn athro cymwysedig wrth ddechrau astudio tuag at SAC
- peidio â bod wedi'i gyflogi i addysgu mewn ysgol neu sefydliad arall fel athro neu athrawes
- peidio â bod yn cymryd rhan mewn hyfforddiant a drefnwyd o dan unrhyw gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth, yn cynnwys Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) cyflogedig
- bodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer y SAC a’r taliadau sefydlu
Cyrsiau nad ydynt yn gymwys ar gyfer y grant hwn
- Myfyrwyr sy'n ymgymryd ag unrhyw gynllun hyfforddi i athrawon ar sail cyflogaeth (mae hyn yn cynnwys y ‘cynllun TAR Cyflogedig’).
Myfyrwyr sy'n ymgymryd â rhaglenni hyfforddi a fydd yn eu galluogi i addysgu yn y Sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (TAR AHO).
Pa grant sydd ar gael a phryd caiff taliadau eu gwneud
O dan y cynllun hwn, mae grant cymhelliant o £5,000 ar gael i bob myfyriwr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra.
Bydd y taliadau cymhelliant gwerth £5,000 yn cael eu gwneud mewn 2 randaliad:
- £2,500 ym mis Gorffennaf neu Awst ar ôl cwblhau TAR yn llwyddiannus ac ennill SAC (os caiff myfyriwr ei asesu gan y bwrdd arholi ailgyflwyno, gwneir taliadau cyn 31 Rhagfyr)
- £2,500 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru
Sut i wneud cais a chofrestru
Gweinyddir y Cynllun hwn gan Llywodraeth Cymru ac ar ran Llywodraeth Cymru gan bartneriaethau AGA. Cysylltwch â’ch Partneriaeth AGA i wirio a ydych yn gymwys, gwneud cais am y grant cymhelliant, neu os bydd gennych unrhyw ymholiadau.
Bydd eich partneriaeth AGA yn rhoi gwybod ichi p’un a ydych yn gymwys ar gyfer cymhelliant. Bydd yn rhoi arweiniad ichi ar y broses gais a’r dogfennau cofrestru. Mae'r ffurflen gofrestru yn gofyn ichi gadarnhau eich bod wedi darllen a deall amodau’r cymhelliant hwn. Os na dderbynnir y cadarnhad hwnnw, ni ellir gwneud y taliadau.
Rhaid ichi ddychwelyd y ffurflen gofrestru, wedi’i llofnodi, i’ch partneriaeth AGA. Bydd yr holl ddogfennau cofrestru a gyflwynir i bartneriaethau AGA yn cael eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn caniatáu i daliadau gael eu gwneud.
Os ydych wedi ennill SAC cyn Medi 2023, bydd angen ichi wneud cais yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru am y grant cymhelliant hwn. Gweler canllawiau 2018 i 2022.
Cymhwystra am daliadau a sut i’w hawlio
Taliad SAC
I gael y taliad SAC, rhaid ichi:
- fod wedi cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig (ar ôl dyfarnu’r SAC) yn unol â Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012
Eich partneriaeth AGA sy'n gyfrifol am wneud y taliadau SAC. Byddant yn pennu'r union ddyddiad talu. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau at y bartneriaeth.
Os methwch ag ennill SAC, ni fydd gennych hawl i unrhyw daliadau o dan y cymhelliant hwn.
Y cymhelldaliad olaf
I gael y cymelldaliad olaf, rhaid ichi fodloni’r holl feini prawf canlynol:
- rhaid ichi fod wedi derbyn y taliad SAC
- rhaid ichi fod wedi cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus mewn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg neu mewn unrhyw ysgol uwchradd a gynhelir os ydych yn addysgu Cymraeg fel pwnc
- rhaid ichi fod wedi cael tystysgrif sefydlu
- rhaid ichi hawlio’r taliad hwn o fewn blwyddyn i gwblhau eich cyfnod sefydlu
Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am wneud y cymelldaliad olaf, a nhw fydd yn penderfynu ar yr union ddyddiad. Byddant yn cysylltu â chi yn ystod eich cyfnod sefydlu i sicrhau bod ganddynt yr holl fanylion perthnasol i brosesu’r taliad grant hwn. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau at CymelldaliadauAGA@llyw.cymru.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod wedi hawlio’r taliad o fewn yr amserlen a neilltuwyd.
Gohirio (wedi'i hatal), tynnu'n ôl ac ailgydio
Os byddwch yn gadael rhaglen AGA ôl-raddedig uwchradd cyn iddi gwblhau a chyn ennill SAC, ni fydd gennych hawl i'r cymhelliant hwn.
Os ydych chi’n fyfyriwr:
- sy’n ailgydio mewn rhaglen gymwys
- sy’n dechrau rhaglen gymwys, ac mae’r rhaglen wedi’i gohirio (wedi'i hatal)
yna, dim ond os na ohiriwyd eich rhaglen am fwy na blwyddyn academaidd y byddwch chi’n parhau i fod yn gymwys am y grant cymhelliant.
Ni fydd gan fyfyrwyr sy’n methu ag ennill SAC hawl i gael y taliad SAC.
Os ydych wedi ennill SAC cyn Medi 2023 bydd angen ichi wneud cais yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru am y cymhelliant hwn. Gweler canllawiau 2018 i 2022.
Adennill grantiau cymhelliant a dalwyd
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i adennill grantiau a dalwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Yn ôl eu disgresiwn, gallant arfer y pwerau hynny, a byddant yn ystyried pob achos ar sail ei deilyngdod unigol.
Efallai y bydd Gweinidogion Cymru yn arfer y pwerau hyn:
- os yw’r derbynnydd, yn ei gais am grant neu mewn cysylltiad â’r cais hwnnw, wedi darparu gwybodaeth ffug neu wybodaeth sy’n gamarweiniol mewn ffordd berthnasol
- os oes tystiolaeth nad oedd y derbynnydd erioed wedi bwriadu cwblhau'r rhaglen neu nad oedd yn fwriad ganddo, ar ôl ei chwblhau, fynd i addysgu
Diogelu data a rhyddid gwybodaeth
Mae gwybodaeth y mae myfyriwr yn ei chyflwyno fel rhan o'i hawliad o dan Gynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y "Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth"), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr "EIR"), Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (y “GDPR”) a Deddf Diogelu Data 2018 (y "Ddeddf Diogelu Data").
Mae myfyrwyr hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr:
- a ddylid datgelu unrhyw wybodaeth yr ydym wedi'i chael o dan neu mewn cysylltiad â'r Cyllid i'r graddau y mae'n ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth o'r fath i berson sy'n gwneud cais am ddatgeliad o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR a/neu
- a yw unrhyw wybodaeth wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r EIR
- a ddylid cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych. Mae angen y gwiriadau hyn i brosesu data personol amdanoch i asiantaethau atal twyll trydydd parti
Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth bersonol y mae'n ei chael. Bydd unrhyw ddata personol a gasglwn yn cael eu rheoli yn unol â'n hysbysiad preifatrwydd a’n tudalen ar y we 'Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru'.
Grantiau eraill sydd ar gael
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig 3 chynllun cymhelliant sydd ar gael i fyfyrwyr AGA.
Bydd Partneriaethau AGA yn gweithio gyda’u myfyrwyr i helpu i nodi’r unigolion hynny sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer pob cynllun. Efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer mwy nag un cynllun. Nid yw bod yn gymwys o dan un cynllun yn effeithio ar fod yn gymwys ar gyfer cynlluniau cymhelliant AGA eraill. Mae'n bosibl cael arian grant o dan bob un o’r 3 chynllun cymhelliant. Rhaid bodloni'r meini prawf cymhwystra ar gyfer pob cynllun unigol.
Bydd angen ichi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer pob cynllun cymhelliant yr hoffech wneud cais amdano. Bydd y ffurflen yn cadarnhau bod yr unigolion yn gymwys ac yn ei gwneud yn bosibl i’r taliadau gael eu gwneud o dan y cynllun perthnasol.
Y Fwrsariaeth i Gadw Athrawon Cymraeg mewn Addysg
Mae bwrsariaeth o £5,000 ar gael tan 2028 i gefnogi cadw athrawon sy’n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r fwrsariaeth hon ar gael i athrawon sydd wedi ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC) o fis Awst 2020 ymlaen. Bydd meini prawf cymhwysedd yn berthnasol.
Yr effaith ar gymorth ariannol arall
Treth
Nid yw grantiau cymhelliant fel arfer yn drethadwy i fyfyrwyr amser llawn.
Efallai y bydd y cymelldaliad olaf yn drethadwy i’r unigolion hynny sydd mewn cyflogaeth.
Gallwch ofyn am gyngor ar eich amgylchiadau eich hun gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi.
Cymorth ariannol i fyfyrwyr
Nid yw grant cymhelliant yn cael ei ystyried yn rhan o incwm y cartref at ddibenion darpariaethau cyllid myfyrwyr. Felly, ni ddylid cynnwys grantiau wrth gyfrifo incwm trethadwy heb ei ennill.
Dylech ofyn am gyngor gan eich darparwr cyllid myfyrwyr ar eich amgylchiadau unigol.
Ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr
Ar gyfer myfyrwyr amser llawn, ni fydd y grant yn sbarduno ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr.
Ar gyfer myfyrwyr rhan-amser mewn cyflogaeth, bydd eich rhwymedigaeth yn dibynnu ar a yw eich cyflog gwaith yn ddigon uchel i sbarduno ad-dalu eich benthyciad.
Gall ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr gael eu sbarduno gan y cymelldaliad olaf. Bydd eich rhwymedigaeth yn dibynnu ar a yw eich cyflog gwaith yn ddigon uchel i sbarduno ad-dalu eich benthyciad.
Yr effaith ar fudd-daliadau
Bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.
Dylech geisio cyngor gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Yr effaith ar bensiynau
Nid yw'r grant cymhelliant yn bensiynadwy.
Manylion cyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â’ch Partneriaeth AGA.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y taliad sefydlu, cysylltwch â ITEIncentives@llyw.cymru.