Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory: Canllawiau ar gyfer Partneriaethau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) o 2023
Canllawiau ar gyfer Partneriaethau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) i cefnogi cyflwyno Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory o fis Medi 2023. Canllawiau
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae’r Cynllun hwn ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio rhaglen AGA ôl-raddedig (uwchradd) achrededig sy'n eu galluogi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu i addysgu'r Gymraeg fel pwnc, gan arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC).
Mae'r Cynllun hwn wedi bod ar gael ers 2018. Cyflwynir y Cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru a phartneriaethau AGA ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae'r Cynllun yn cefnogi strategaeth Cymraeg 2050, sef uchelgais Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer yr athrawon Cymraeg. Mae Cymraeg 2050 yn gosod targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory yn darparu grant o £5,000 i fyfyrwyr sy'n dilyn rhaglen AGA ôl-raddedig uwchradd:
- drwy gyfrwng y Gymraeg neu
- i addysgu'r Gymraeg fel pwnc
Mae'r cynllun hwn ar gael ar gyfer rhaglenni llawn amser a rhai rhan-amser.
Nid yw myfyrwyr sy'n ymgymryd ag unrhyw gynllun hyfforddi i athrawon ar sail cyflogaeth yn gymwys i gael y grant hwn. Mae hyn yn cynnwys y cynllun TAR Cyflogedig.
Nid yw myfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni hyfforddi sy'n eu galluogi i addysgu yn y Sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (TAR AHO) wedi’u cynnwys o dan y cynllun hwn.
Nid yw’r cynlluniau hyn ar gael i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â rhaglenni AGA cymwys cyn 2018.
Cyfreithiol
Mae’r grantiau cymhelliant AGA sydd ar gael yn adlewyrchu’r blaenoriaethau recriwtio cyfredol o fewn y gweithlu addysgu yng Nghymru. Maent ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn rhaglenni AGA ôl-raddedig cymwys yng Nghymru.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau o dan adrannau 14 i 17 o Ddeddf Addysg 2002 i ddarparu cymorth ariannol i hyrwyddo'r ymgais i recriwtio neu gadw athrawon neu staff nad ydynt yn addysgu. Mae'r grant hwn ar waith i annog unigolion i hyfforddi, dechrau gyrfa ac aros yn y proffesiwn addysgu. Ni ddylent fod yn rhan o becyn cyllid i fyfyrwyr.
Mae Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory yn Gynllun cyfreithiol (“y Cynllun”) a wnaed gan Weinidogion Cymru wrth arfer eu pwerau. Mae'r cynllun yn cael ei adolygu'n flynyddol. Mae pob Cynllun yn gwneud darpariaeth ar gyfer myfyrwyr AGA ôl-raddedig uwchradd, sy’n astudio eu rhaglen AGA achrededig trwy gyfrwng y Gymraeg neu sy’n hyfforddi i addysgu’r Gymraeg fel pwnc, iddynt gael manteisio ar y cymhellion hyn. Bydd partneriaethau AGA a CGA yn cael llythyr cynnig grant i gefnogi'r gwaith o gyflwyno’r cynllun hwn.
Bydd partneriaethau AGA yn cael llythyr cynnig grant i gefnogi'r gwaith o gyflwyno’r cynllun hwn.
Rhaid i bartneriaethau AGA gyfeirio at y dogfennau priodol canlynol:
- cynllun cyfreithiol
- llythyr cynnig grant
- hysbysiad preifatrwydd
sy’n gysylltiedig â'r flwyddyn astudio i wirio cymhwystra myfyrwyr a manylion llawn y cynllun.
Cyfeiriwch y cynllun priodol at y flwyddyn astudio academaidd i wirio cymhwystra a meini prawf gwneud hawliad. Os oes gennych unrhyw gwestiynau sy'n gysylltiedig â'r blynyddoedd blaenorol, cysylltwch ag ITEIncentives@llyw.cymru.
Pa grant sydd ar gael a phryd caiff taliadau eu gwneud
O dan y cynllun hwn mae grant cymhelliant o £5,000 ar gael i bob myfyriwr sy'n bodloni'r meini prawf cymhwystra ar gyfer y flwyddyn astudio academaidd.
Bydd y taliadau cymhelliant gwerth £5,000 yn cael eu gwneud mewn 2 randaliad. Byddant yn cael eu talu ar yr adegau canlynol:
- £2,500 ym mis Gorffennaf/Awst ar ôl cwblhau TAR yn llwyddiannus ac ennill SAC Os caiff myfyriwr ei asesu gan y bwrdd arholi ailgyflwyno, gwneir taliadau cyn 31 Rhagfyr Partneriaethau AGA sy'n gyfrifol am y taliad hwnnw
- £2,500 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am wneud y taliad hwn
Dylid cyflwyno ffurflenni hawlio wedi'u diweddaru i Lywodraeth Cymru os caiff myfyriwr ei asesu gan fwrdd arholi ailgyflwyno. Dylai hyn gael ei wneud gan bartneriaethau AGA. Dylai hyn gynnwys unigolion sydd wedi ennill SAC, er mwyn galluogi i daliadau gael eu gwneud cyn 31 Rhagfyr.
Sut caiff hawliadau eu gweinyddu
Os dechreuodd myfyriwr raglen AGA rhwng Medi 2018 ac Awst 2023 dylent wneud cais i Lywodraeth Cymru. Cyfeiriwch fyfyrwyr at ganllawiau sy'n ymwneud â'r flwyddyn astudio berthnasol.
Os dechreuodd myfyriwr raglen AGA o fis Medi 2023, dylent gofrestru'n uniongyrchol â'i Bartneriaeth AGA. Mae Partneriaethau AGA a Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am weinyddu ac asesu cymhwystra myfyrwyr ar gyfer y cynllun cymhelliant hwn. Mae Partneriaethau AGA yn gwneud hyn ar ran Llywodraeth Cymru.
Dim ond os yw’r canlynol yn wir y gall myfyrwyr hawlio grant cymhelliant:
- maent yn bodloni’r meini prawf cymhwystra
- maent yn astudio ar raglen gymwys
- maent wedi gwneud cais drwy lenwi’r ffurflen gofrestru berthnasol
Bydd ffurflenni cofrestru i fyfyrwyr ar gyfer y cynllun yn cael eu darparu i bartneriaethau gan Lywodraeth Cymru.
Os oes gan fyfyrwyr unrhyw ymholiadau, dylent gysylltu â’u Partneriaeth AGA.
Taliad SAC
Dim ond i'r myfyrwyr cymwys hynny sydd wedi cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy’n arwain at SAC (ar ôl i SAC gael ei ddyfarnu) y dylid gwneud y taliad SAC. Os yw myfyriwr yn methu â chael SAC, ni ddylid gwneud y taliad.
Os bydd myfyriwr wedi tynnu'n ôl o raglen neu wedi ei gohirio (neu wedi’i hatal dros dro) cyn i SAC gael ei ddyfarnu, ni ddylid gwneud y taliad.
Y cymelldaliad olaf
Dylai'r cymelldaliad olaf gael ei wneud i'r athrawon newydd gymhwyso hynny sy'n gymwys yn unig, ac sydd:
- wedi cwblhau eu cyfnod sefydlu yn llwyddiannus ac wedi derbyn tystysgrif sefydlu. A hynny o fewn tair blynedd, ar ôl i SAC gael ei ddyfarnu
- wedi ymgymryd â chyfnod sefydlu mewn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg
neu
- wedi ymgymryd â chyfnod sefydlu mewn unrhyw ysgol uwchradd a gynhelir os yw'n addysgu'r Gymraeg fel pwnc
- wedi cael y taliad SAC ar gyfer y cynllun hwn
Rolau a chyfrifoldebau
Gweinyddir y cynllun cymhelliant hwn gan Lywodraeth Cymru ac ar ran Llywodraeth Cymru gan Bartneriaethau AGA.
Mae Partneriaethau AGA yn gyfrifol am daliadau a wneir pan ddyfernir Statws Athro Cymwysedig (SAC).
Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y cymelldaliad olaf. Telir hwnnw i fyfyrwyr cymwys sy'n hyfforddi mewn ysgol cyfrwng Cymraeg neu sy’n hyfforddi i addysgu'r Gymraeg fel pwnc mewn ysgol a gynhelir. Telir hwn ar ôl llwyddo i gwblhau cyfnod sefydlu ac ar ôl i dystysgrif sefydlu gael ei dyfarnu.
Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am delerau ac amodau'r cynllun, ynghyd â chasglu data i alluogi taliadau i Bartneriaethau AGA.
Cyfrifoldebau Partneriaeth AGA o ran gweinyddu’r grant
Mae Partneriaethau AGA yn gyfrifol am:
- nodi'r myfyrwyr sy'n bodloni’r meini prawf cymhwystra
- sicrhau mynediad i fyfyrwyr cymwys at y ffurflen gofrestru ar ddechrau'r rhaglen AGA
- sicrhau bod myfyrwyr yn deall telerau'r grant
- casglu'r holl ffurflenni cofrestru wedi'u llofnodi, a'u dychwelyd drwy ddull diogel i Lywodraeth Cymru
- llenwi ffurflenni hawlio yn unol â dyddiadau dyfarnu SAC (a nodir yn eu llythyr cynnig grant)
- helpu myfyrwyr i gwblhau Ffurflenni Gohirio ac Ailddechrau yn ôl yr angen
- rhannu'r wybodaeth hon, ynghyd â hawliadau, â Llywodraeth Cymru mewn modd diogel sy'n cydymffurfio â gofynion diogelu data sydd mewn grym ar y pryd
- gweinyddu taliadau grant SAC i fyfyrwyr
- delio ag ymholiadau gan fyfyrwyr ynghylch y cynllun cymhelliant
Caiff holl gyfrifoldebau'r Partneriaethau AGA eu cyhoeddi bob blwyddyn mewn llythyrau cynnig grant a llythyrau contract unigol. Dylai Partneriaethau AGA gysylltu â ITEIncentives@llyw.cymru os oes ganddynt unrhyw ymholiadau.
Sut caiff y taliad ei wneud i Bartneriaethau AGA
Dylai pob myfyriwr lenwi ffurflen gofrestru. Mae'r ffurflen gofrestru yn cynnwys gwybodaeth sydd ei hangen ar Lywodraeth Cymru i weinyddu a gwerthuso'r cynllun. Rhaid i Bartneriaethau AGA gyflwyno'r rhain i Lywodraeth Cymru ar ddechrau pob blwyddyn academaidd mewn modd diogel. Mae’r ffurflen gofrestru yn gofyn i fyfyrwyr gadarnhau eu bod wedi darllen a deall yr wybodaeth sydd ar we-dudalennau’r canllawiau i fyfyrwyr. Os na dderbynnir y cadarnhad hwn gan Lywodraeth Cymru, ni ellir gwneud taliadau grant.
Mae'n rhaid i Bartneriaethau AGA lenwi a chyflwyno ffurflen hawlio i Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn sicrhau bod arian priodol yn cael ei ryddhau ar gyfer talu'r rhandaliad SAC. Bydd Partneriaethau AGA yn cael gwybod am y dyddiadau cyflwyno drwy lythyr y cytundeb grant.
Bydd ffurflenni cofrestru a hawlio’n cael eu dosbarthu i Bartneriaethau AGA yn uniongyrchol. Dylai Partneriaeth AGA gyfeirio unrhyw gwestiynau sydd ganddynt mewn perthynas â'r broses dalu, i ITEIncentives@llyw.cymru.
Taliadau SAC ar ôl gohirio ac ailgydio
Os bydd myfyriwr yn gohirio ei astudiaethau cyn ennill SAC, ni fydd yn gymwys i gael y taliad SAC. Fodd bynnag, os bydd yn ailgydio yn ei astudiaethau ac yn ennill SAC, bydd ganddo hawl i’r taliad pan ddyfernir SAC iddo. Gwneir y taliad ar ôl cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy'n arwain at SAC (ar ôl dyfarnu SAC). Gwneir y taliad yn unol â'r amodau hyn.
Os bydd myfyriwr yn ailgydio mewn rhaglen AGA mewn blwyddyn academaidd wahanol, bydd angen llenwi ffurflen ohirio ac ailgydio. Gall Partneriaethau AGA gael y ffurflenni oddi wrth Lywodraeth Cymru. Ar ôl llenwi’r ffurflen, bydd angen ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru ynghyd â’r ffurflen hawlio berthnasol. Caiff yr wybodaeth ar y ffurflen a ddaw i law ei rhannu â phartneriaethau AGA a Llywodraeth Cymru.
Ni fydd gan fyfyrwyr nad ydynt yn ennill SAC ar ddiwedd eu rhaglen AGA hawl i gael taliad SAC y cymhelliant hwn.
Cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru o ran gweinyddu’r grant
Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y cymelldaliad olaf. Telir hwn ar ôl cwblhau’r cyfnod sefydlu yn llwyddiannus ac ar ôl dyfarnu tystysgrif sefydlu.
Sut caiff y taliad sefydlu ei dalu i fyfyrwyr
Bydd Llywodraeth Cymru yn cysylltu â myfyrwyr yn ystod eu cyfnod sefydlu. Mae hyn er mwyn sicrhau bod yr holl fanylion perthnasol ar gael i brosesu’r taliad grant hwn.
Gall myfyrwyr gysylltu â Llywodraeth Cymru am y taliad hwn drwy CymelldaliadauAGA@llyw.cymru
Mae angen i Lywodraeth Cymru gael y dogfennau a nodir isod cyn i'r taliad sefydlu gael ei wneud:
- ffurflenni Hawlio Taliad Sefydlu (A1 ac A2) a ddarperir gan Lywodraeth Cymru
- copi o Dystysgrif Sefydlu a gyhoeddwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg
- cadarnhad bod yr ymgeisydd yn gymwys (i'w gadarnhau gan yr ysgol lle cwblhawyd y cyfnod sefydlu)
Ffurflenni hawlio taliad sefydlu
A1: Dychwelwch y ffurflen hawlio hon yn uniongyrchol at Lywodraeth Cymru yn CymelldaliadauAGA@llyw.cymru.
A2: Ar ôl cwblhau adrannau A – D o'r ffurflen hawlio taliad sefydlu, rhannwch y ffurflen a chopi electronig o'ch tystysgrif sefydlu gyda'r Pennaeth, y Dirprwy Bennaeth neu’r Pennaeth Adran, yn yr ysgol lle cwblhawyd y cyfnod sefydlu.
Dylai'r ddogfennaeth uchod gael ei chyflwyno ar eich rhan gan y Pennaeth, y Dirprwy Bennaeth neu'r Pennaeth Adran a lofnododd y datganiad, ar ran yr ysgol lle cwblhawyd eich cyfnod sefydlu.
Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth
Mae gwybodaeth y mae myfyriwr yn ei chyflwyno fel rhan o'i hawliad o dan Gynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y "Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth"), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr "EIR") Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (y “GDPR”) a Deddf Diogelu Data 2018 (y "Ddeddf Diogelu Data").
Mae myfyrwyr hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr:
- a ddylid datgelu unrhyw wybodaeth yr ydym wedi’i chael o dan neu mewn cysylltiad â’r Cyllid i’r graddau y mae’n ofynnol inni ddatgelu gwybodaeth o’r fath i berson sy’n gwneud cais am ddatgeliad o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r EIR a/neu
- a yw unrhyw wybodaeth wedi ei heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR
- a ddylid cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i ddilysu hunaniaeth. Mae angen y gwiriadau hyn i brosesu data personol i asiantaethau atal twyll trydydd parti
Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol y mae'n ei chael. Bydd unrhyw ddata personol a gasglwn yn cael ei reoli yn unol â'n Hysbysiad Preifatrwydd sydd hefyd a Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru
Dogfennau'r cynllun
Mae Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory yn cael ei adolygu'n flynyddol. Rhaid i bartneriaethau AGA gyfeirio at y dogfennau priodol, sef:
- cynllun cyfreithiol
- llythyr cynnig grant
- canllawiau i fyfyrwyr
- hysbysiad preifatrwydd
sy’n gysylltiedig â'r flwyddyn astudio. Bydd hyn yn helpu i wirio cymhwystra myfyrwyr a manylion llawn y cynllun.
Darllenwch ein cynlluniau cyfreithiol, canllawiau myfyrwyr a hysbysiadau preifatrwydd am fwy o wybodaeth.
Y fwrsariaeth i gadw athrawon Cymraeg mewn addysg
Yn 2023 lansiodd Llywodraeth Cymru fwrsariaeth beilot i gefnogi cadw athrawon sy’n addysgu drwy gyfrwng Cymraeg. Bydd y fwrsariaeth ar gael tan 2028, sef diwedd y cyfnod peilot. Bydd y bwrsariaethau olaf yn cael eu talu yn hydref 2028.
O dan y cynllun hwn, mae Bwrsariaeth o £5,000 ar gael i athrawon sydd:
- wedi ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC) o fis Awst 2020 ymlaen
- wedi cwblhau 3 blynedd o:
- addysgu mewn ysgol uwchradd neu ganol cyfrwng Cymraeg neu
- addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgol uwchradd neu ysgol ganol ddwyieithog neu
- addysgu'r Gymraeg fel pwnc mewn unrhyw ysgol uwchradd neu ganol a gynhelir yng Nghymru
Mae canllawiau a meini prawf cymhwysedd ar fwrsariaeth cadw athrawon Cymraeg mewn addysg ar gael.