Neidio i'r prif gynnwy

Yn esbonio pwy sy'n gymwys i gael y cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol a sut i wneud cais.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae’r cynllun hwn yn darparu grant o £5,000 ar gyfer athrawon dan hyfforddiant. I fod yn gymwys, rhaid eich bod yn astudio ar gyfer Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC). Rhaid i chi hefyd fodloni'r holl feini prawf cymhwystra.

Mae'r canllawiau hyn yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2024 i 2025. Gallwch wneud cais os ydych ar raglen AGA sy’n arwain at SAC rhwng 1 Medi 2024 a 31 Awst 2025.

Dylech ddarllen y canllawiau hyn ochr yn ochr â’r cynllun cyfreithiol sy’n amlinellu gofynion statudol y cynllun.

Mae'r grant cymhelliant AGA hwn yn adlewyrchu’r blaenoriaethau recriwtio presennol yn gweithlu addysgu. Nod y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon sydd o gymunedau ethnig lleiafrifol, fel bod dysgwyr yn cael profiad dysgu mwy amrywiol. Mae’n cefnogi ein uchelgais ar gyfer Cymru Wrth-hiliol.

Meini prawf cymhwysedd ar gyfer y Cynllun Cymhelliant AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol

Gallwch wneud cais os ydych:

  • yn dilyn tystysgrif addysg i raddedigion sy’n achrededig ac sy’n arwain at SAC
  • yn bodloni meini prawf cymhwystra’r grant

Mae’n bosibl na fyddwch yn gallu cael y grant hwn os yw’r nifer targed ar gyfer y rhaglen wedi’i gyrraedd. Dylech ofyn i’ch darparwr am gadarnhad nad yw hyn yn effeithio arnoch chi.

Pwy sy'n gymwys

I fod yn gymwys i gael Grant Cymhelliant AGA i’r Rhai o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol, rhaid i chi:

  • fod wedi dilyn rhaglen gymwys yng Nghymru a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi ond cyn 31 Awst y flwyddyn astudio
  • bod yn gymwys am gymorth ariannol o dan reoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998
  • peidio â bod yn athro cymwysedig eisoes wrth ddechrau astudio tuag at SAC
  • peidio â bod wedi’ch cyflogi i addysgu mewn ysgol neu sefydliad arall fel athro neu athrawes wrth ddechrau ar raglen AGA ôl-raddedig gymwys
  • peidio â bod yn dilyn hyfforddiant a drefnwyd o dan gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth. Mae hyn yn cynnwys y TAR cyflogedig
  • bodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer y taliadau
  • uniaethu â grŵp ethnig leiafrifol o dan un o’r grwpiau cymwys a datgan hynny i'ch partneriaeth AGA

Ethnigrwydd a grwpiau ethnig sy’n gymwys ar gyfer y cynllun hwn

Asiaidd:

  • Bangladeshaidd neu Fangladeshaidd Prydeinig
  • Tsieinïaidd neu Dsieinïaidd Prydeinig
  • Indiaidd neu Indiaidd Prydeinig
  • Pacistanaidd neu Bacistanaidd Prydeinig
  • Unrhyw gefndir Asiaidd arall

Du, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd:

  • Affricanaidd neu Affricanaidd Prydeinig
  • Caribïaidd neu Garibïaidd Prydeinig
  • Unrhyw gefndir Du arall

Grwpiau cymysg neu aml-ethnig:

  • Gwyn neu Wyn Prydeinig ac Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig
  • Gwyn neu Wyn Prydeinig a Du Affricanaidd neu Ddu Affricanaidd Prydeinig
  • Gwyn neu Wyn Prydeinig a Du Caribïaidd neu Ddu Caribïaidd Prydeinig
  • Unrhyw gefndir Cymysg neu Aml-ethnig arall

Gwyn:

  • Sipsiwn neu Deithwyr Gwyddelig
  • Roma
  • Iddewig

Grŵp ethnig arall:

  • Arabaidd
  • Cwrdaidd

Os oes gennych gwestiynau ynghylch cymhwysedd, dylech eu trafod gyda’ch partneriaeth AGA.

Cyrsiau nad ydynt yn gymwys ar gyfer y grant hwn

Nid yw myfyrwyr sy'n ymgymryd ag unrhyw gynllun hyfforddi athrawon sy’n seiliedig ar gyflogaeth yn gymwys. Mae hyn yn cynnwys y 'cynllun TAR Cyflogedig'

Nid yw myfyrwyr ar raglenni sy'n eu galluogi i addysgu yn y sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (TAR AHO) yn gymwys.

Pa grant sydd ar gael a phryd caiff taliadau eu gwneud

Mae grant cymhelliant o hyd at £5,000 ar gael i bob myfyriwr sy'n bodloni’r meini prawf cymhwysedd. 

Gwneir y taliadau cymhelliant o £5,000 mewn 2 randaliad. Cânt eu talu ar yr adegau canlynol:

  • £2,500 ym mis Gorffennaf neu Awst ar ôl cwblhau TAR yn llwyddiannus a dyfarnu SAC. Pan fydd myfyriwr yn cael ei asesu gan fwrdd arholi sy’n delio ag ail geisiadau, bydd y taliadau yn cael eu gwneud cyn 31 Rhagfyr.
  • £2,500 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru

Sut i wneud cais a sut caiff taliadau eu gwneud

Gweinyddir y cynllun hwn gan Llywodraeth Cymru ac ar ran Llywodraeth Cymru gan Bartneriaethau AGA. Cysylltwch â’ch Partneriaeth AGA i drafod a ydych yn gymwys, i wneud cais am y cymhelliant, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael eich taliad SAC gan eich partneriaeth AGA. Caiff ei dalu ar ôl i chi ennill SAC. Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y cymelldaliad olaf. Caiff ei dalu ar ôl cwblhau cyfnod sefydlu yn llwyddiannus a chael tystysgrif sefydlu.

Datganiad y myfyriwr a chofrestru

Rydym yn gofyn i fyfyrwyr sy’n gwneud cais am y Grant Cymhelliant AGA i’r Rhai o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol am wybodaeth am eu hethnigrwydd. Gwneir hyn er mwyn:

  • sefydlu p’un a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun
  • deall yr amrywiaeth gyffredinol sydd o fewn y garfan o fyfyrwyr
  • ceisio amcangyfrif amrywiaeth gweithlu'r dyfodol

Gofynnwn ichi ddewis o blith restr o grwpiau ethnig sy'n adlewyrchu'r rhai a ddefnyddir gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Mae hyn yn sicrhau dull cyson o ddeall amrywiaeth ethnig o fewn addysg uwch.

Bydd partneriaethau AGA yn darparu ffurflen gofrestru i fyfyrwyr cymwys. Rhaid i chi lofnodi’r ffurflen gofrestru ar ddechrau eich rhaglen AGA. Mae’r ffurflen hon yn cadarnhau eich bod yn gymwys ac yn galluogi gwneud taliadau. 

Mae’r ffurflen gofrestru yn gofyn ichi gadarnhau eich bod wedi darllen a deall yr wybodaeth sydd ar y gwe-dudalennau hyn. Os na dderbynnir y cadarnhad hwn, ni ellir gwneud taliadau grant.

Bydd eich partneriaeth AGA yn rhannu’r wybodaeth ar y ffurflen gofrestru gyda Llywodraeth Cymru er mwyn gallu gwneud y taliadau.

Mae adran Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi manylion am yr hyn a wnawn â gwybodaeth.

Taliad SAC

Cewch eich taliad SAC pan fyddwch wedi cwblhau eich rhaglen AGA ac wedi ennill SAC.

Eich partneriaeth AGA sy’n gyfrifol am hyn a byddant yn penderfynu ar yr union ddyddiad. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau atyn nhw.

Os na fyddwch chi'n ennill SAC ar ddiwedd eich rhaglen AGA, ni fyddwch chi'n cael hawlio taliad SAC y cymhelliant hwn. 

Y cymelldaliad olaf

Gallwch hawlio’r cymelldaliad olaf ar ôl cwblhau eich cyfnod sefydlu yng Nghymru ac wedi cael tystysgrif sefydlu. Ni allwch hawlio’r taliad hwn oni bai eich bod wedi cael y taliad SAC ar gyfer y cynllun hwn.

Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am wneud y taliad hwn. Byddant yn cysylltu â chi yn ystod y broses sefydlu er mwyn sicrhau bod ganddynt yr holl fanylion perthnasol i brosesu’r taliad grant hwn.

Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau at datblygiadproffesiynol@cga.cymru.

Rhaid i chi hawlio'r cymelldaliad olaf o fewn blwyddyn i gwblhau eich cyfnod sefydlu, neu ni fydd modd gwneud y taliad. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod wedi hawlio’r taliad.

Gohirio, tynnu'n ôl ac ailgydio

Os byddwch yn gadael rhaglen AGA gymwys cyn ei chwblhau a chyn dyfarnu SAC, ni fydd hawl gennych i’r cymhelliant hwn.

Os byddwch:

  • yn ailgydio mewn rhaglen gymwys
  • yn dechrau rhaglen gymwys, ar ôl ei gohirio

gwneir taliadau ar yr un gyfradd a oedd yn weithredol y flwyddyn academaidd pan wnaethoch ddechrau neu pan wnaethoch ohirio, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn cytuno fel arall yn ysgrifenedig.

Dychwelyd at Raglen AGA ar ôl Medi 2022

Os:

  • gwnaethoch ddechrau eich rhaglen AGA cyn Medi 2022
  • rydych yn dychwelyd i gwblhau eich rhaglen ar neu ar ôl 1 Medi 2022

nid ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun cymhelliant hwn.

Taliad SAC

Os byddwch yn gohirio eich astudiaethau cyn ennill SAC, ni fyddwch yn gymwys i gael y taliad SAC. Fodd bynnag, os byddwch yn ailgydio yn eich astudiaethau ac yn ennill SAC, bydd gennych hawl i’r taliad pan ddyfernir SAC ichi. Gwneir y taliad ar ôl cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy'n arwain at SAC (ar ôl dyfarnu SAC). Gwneir y taliad yn unol â'r amodau hyn.

Os byddwch yn ailgydio mewn rhaglen AGA mewn blwyddyn academaidd wahanol, bydd angen llenwi ffurflen ohirio ac ailgydio. Siaradwch â’ch partneriaeth AGA. Caiff yr wybodaeth ar y ffurflen a ddaw i law ei rhannu â phartneriaethau AGA a Llywodraeth Cymru.

Ni fydd gan fyfyrwyr nad ydynt yn ennill SAC ar ddiwedd eu rhaglen AGA hawl i gael y taliad SAC.

Y cymelldaliad olaf

Os ydych yn gymwys i gael y cymhelliant hwn ac wedi ennill SAC, ond nad ydych yn cwblhau eich proses sefydlu, ni fydd hawl gennych i gael y taliad hwn.

Rhaid cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru.

Rhaid cwblhau'r broses sefydlu yn llwyddiannus o fewn tair blynedd i ennill SAC.

Adennill grantiau

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i adennill grantiau a dalwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Mae ganddynt ddisgresiwn i arfer y pwerau hyn ai peidio, a byddant yn ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod.

Dyma sefyllfaoedd pan ganiateir i’r pwerau hyn gael eu harfer gan Weinidogion Cymru:

  • os bydd y derbynnydd, ar ôl cael unrhyw randaliad o grant cymhelliant, yn methu â bodloni unrhyw feini prawf cymhwysedd a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru ac a nodir yn y cynllun cyfreithiol neu'r canllaw hwn mewn perthynas â rhandaliad dilynol
  • os yw’r derbynnydd, yn ei gais am grant, neu mewn cysylltiad â’r cais hwnnw, wedi darparu gwybodaeth ffug neu wybodaeth sy’n gamarweiniol mewn ffordd berthnasol
  • os oes tystiolaeth ddigamsyniol nad oedd y derbynnydd erioed wedi bwriadu cwblhau'r rhaglen neu nad oedd yn fwriad ganddo, ar ôl ei chwblhau, fynd i addysgu

Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth

Mae’r wybodaeth y mae myfyrwyr yn ei chyflwyno, fel rhan o'u hawliad o dan Gynllun Cymhelliant AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (“y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth"), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr "EIR"), Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018 (“y Ddeddf Diogelu Data").

Mae myfyrwyr hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr:

  • a ddylid datgelu unrhyw wybodaeth yr ydym wedi’i chael o dan neu mewn cysylltiad â’r Cyllid i’r graddau y mae’n ofynnol inni ddatgelu gwybodaeth o’r fath i berson sy’n gwneud cais am ddatgeliad o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r EIR a/neu
  • a yw unrhyw wybodaeth wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r EIR
  • a ddylid cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych. Mae angen y gwiriadau hyn i brosesu data personol amdanoch i asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol y mae'n ei chael. Bydd unrhyw ddata personol a gasglwn yn cael ei reoli yn unol â'n Hysbysiad Preifatrwydd a’n 'Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru'.

Grantiau cymhelliant AGA eraill sydd ar gael

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu 3 chynllun cymhelliant sydd ar gael i fyfyrwyr AGA.

Bydd partneriaethau AGA yn gweithio gyda’u myfyrwyr i helpu i nodi pwy sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer pob cynllun. Efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer mwy nag un cynllun. Nid yw’r ffaith eich bod yn gymwys o dan un cynllun yn effeithio ar eich cymhwysedd ar gyfer cynlluniau cymhelliant AGA eraill. Mae’n bosibl derbyn cyllid grant o dan bob un o’r 3 chynllun cymhelliant. Rhaid bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer pob cynllun unigol.

Yr effaith ar unrhyw gymorth ariannol arall

Treth

Fel rheol, ni chaiff grantiau cymhelliant ar gyfer myfyrwyr llawn-amser eu trethu.

Efallai y trethir y cymelldaliad olaf yn achos unigolion sy’n gweithio.

Gallwch ofyn i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi am gyngor ynghylch eich union amgylchiadau chi.

Cymorth ariannol i fyfyrwyr

Ni ystyrir grant cymhelliant yn rhan o incwm aelwyd at ddibenion darpariaethau cyllid myfyrwyr. Ni ddylid cynnwys grantiau wrth gyfrifo incwm trethadwy nas enillwyd.

Dylech ofyn i’ch darparwr cyllid myfyrwyr am gyngor ynghylch eich union amgylchiadau chi.

Ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr

Yn achos myfyrwyr llawn-amser, ni fydd y grant yn arwain at orfod ad-dalu benthyciad myfyriwr.

Yn achos myfyrwyr rhan-amser, bydd yn dibynnu p’un a yw eich cyflog gwaith yn ddigon uchel ichi fod angen ad-dalu benthyciad myfyriwr.

Mae’n bosibl y bydd y cymelldaliad olaf yn arwain at orfod ad-dalu benthyciad myfyriwr. Bydd yn dibynnu p’un a yw eich cyflog gwaith yn ddigon uchel.

Yr effaith ar fudd-daliadau

Bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.

Dylech ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau am gyngor.

Yr effaith ar bensiynau

Nid yw’r grant cymhelliant yn bensiynadwy.

Manylion cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â’ch partneriaeth AGA.