Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae’r canllawiau hyn yn cefnogi blynyddoedd academaidd 2020 i 2021 a 2021 i 2022.

Mae'r cynllun cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer pynciau â blaenoriaeth yn gynllun cyfreithiol a wneir gan Weinidogion Cymru. Bydd gan bob blwyddyn academaidd ei gynllun cyfreithiol ei hun. Mae'r cynllun yn gwneud darpariaeth ar gyfer myfyrwyr cymwys sy'n ymgymryd â rhaglen AGA ôl-raddedig mewn pynciau penodedig (pynciau â blaenoriaeth) fel eu bod yn cael manteisio ar y cymhelliant hwn.

Mae myfyrwyr sy'n ymgymryd â Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (TAR) (amser llawn a rhan-amser) yn gymwys i hawlio'r grant hwn ar yr amod eu bod yn cwrdd â'r meini prawf.

Nid yw myfyrwyr sy'n ymgymryd ag unrhyw Gynllun Hyfforddi Athrawon ar Sail Cyflogaeth, gan gynnwys y TAR Cyflogedig, yn gymwys i gael y grant hwn.

Nid yw myfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni hyfforddi sy'n eu galluogi i addysgu yn y Sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (TAR AHO) wedi'u cynnwys o dan y cynllun hwn.

Nodir gwybodaeth lawn am gymhwysedd ac amodau yn y Cynlluniau, cyfreithiol, y dylid eu darllen ochr yn ochr â'r wybodaeth hon. Ewch i’r adran ar flwyddyn academaidd berthnasol isod i weld y Cynllun cyfreithiol priodol.

Blwyddyn academaidd 2021 i 2022

Lluniwyd y Cynllun Cymhelliant Hyfforddi Athrawon (2021 WG20-62) (“y Cynllun”) gan Weinidogion Cymru wrth arfer eu pwerau ar 21 Ionawr 2021. Dylid darllen copi o’r Cynllun wrth ochr yr wybodaeth hon.

Daw Cynllun 2021 i rym ar 1 Medi 2021 ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru sy’n dechrau rhaglenni AGA rhwng 1 Medi 2021 a 31 Awst 2022 sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig mewn pynciau penodol.

Dylai myfyrwyr gyfeirio at y cynllun priodol ar gyfer y flwyddyn astudio academaidd berthnasol i wirio eu cymhwysedd a’r meini prawf. Os oes gennych unrhyw gwestiynau’n ymwneud â blynyddoedd blaenorol, cysylltwch â ITEIncentives@llyw.cymru

Cynlluniau blaenorol

Gwneud cais am grant

Partneriaethau AGA sy'n gweinyddu'r grantiau AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth. Os hoffech wirio eich cymhwysedd, gwneud cais am grant neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am y grantiau hyn, cysylltwch â'ch partneriaeth AGA.

Bydd y Partneriaethau AGA yn nodi'r myfyrwyr hynny sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd ac yn rhoi ffurflen ddatgan iddynt ei chwblhau ar ddechrau eu rhaglen AGA. Bydd hyn yn galluogi'r Partneriaethau AGA i dalu'r taliadau cymhelliant i'r myfyrwyr.

Pwy sy'n gymwys i gael y grant?

Mae'r grantiau AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth ar gael i fyfyrwyr cymwys sy'n dechrau rhaglenni AGA ôl-raddedig priodol yng Nghymru.

Mae'r grantiau AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth ar gael ar gyfer rhaglenni llawnamser a rhan-amser, a dylai myfyrwyr gyfeirio at y cynllun sy'n berthnasol i'r flwyddyn astudio er mwyn gwirio eu cymhwysedd.

I fod yn gymwys i gael grant AGA ar gyfer pwnc â blaenoriaeth, rhaid i’r unigolyn:

  • fodloni'r dosbarthiad cymwysterau gradd a bennir yn yr adran Swm y grant a dosbarthiad cymwysterau gradd ar gyfer y Cynllun a'r flwyddyn astudio academaidd
  • ymgymryd â rhaglen AGA a achredir gan Gyngor y Gweithlu Addysg ac sy'n cael ei gynnal gan Bartneriaeth AGA ac yn arwain at Statws Athro Cymwysedig
  • ymgymryd â hyfforddiant yng Nghymru
  • fod yn gymwys i gael cymorth o dan Reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 sydd mewn grym ar hyn o bryd;
  • peidio â bod wedi cymhwyso fel athro neu athrawes eisoes;
  • peidio â bod wedi'i gyflogi i addysgu mewn ysgol neu sefydliad arall fel athro neu athrawes;
  • peidio â bod yn cymryd rhan mewn hyfforddiant a drefnwyd o dan unrhyw gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth, yn cynnwys TAR cyflogedig;
  • peidio â bod yn ymgymryd â chwrs addysg bellach o unrhyw fath

Yn amodol ar gymhwysedd, mae grantiau’n ymwneud â phynciau â blaenoriaeth ar gyfer rhaglenni AGA ôl-raddedig yng Nghymru ar gael i fyfyrwyr sy'n:

  • astudio yn gyfan gwbl neu'n bennaf un neu fwy o'r pynciau neu'r cyfnodau a restrir ar gyfer y flwyddyn astudio academaidd; 
  • meddu, wrth ddechrau rhaglen AGA ôl-raddedig, radd neu gymhwyster cyfatebol a ddyfarnwyd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig, neu radd gyfwerth neu gymhwyster arall cyfwerth a ddyfarnwyd gan sefydliad tramor, o ddosbarthiad a bennir ar gyfer y flwyddyn astudio academaidd

Nid yw'n ofynnol bod y radd neu'r cymhwyster cyfatebol a bennir yn yr un pwnc â'r hyn a astudir ar y rhaglen AGA ôl-raddedig a restrir.

Ni thelir grant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth i fyfyrwyr sydd wedi'u derbyn ar raglen AGA achrededig ar ôl i'r targed derbyn ar gyfer y cwrs hwnnw gael ei gyrraedd. Dylai myfyrwyr geisio cadarnhad gan eu Partneriaeth AGA nad yw hyn yn effeithio arnynt.

Swm y grant a dosbarthiad cymwysterau gradd

Mae’r wybodaeth yn yr adran hon yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2021 i 2022 a blynyddoedd blaenorol.

Mae'r grantiau AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth yn amrywio o £3,000 i £20,000 yn dibynnu ar y pwnc neu'r cyfnod a lefel y cymhwyster. Byddai myfyrwyr rhan-amser yn cael yr un faint yn ystod cyfnod eu rhaglen. Cyfeiriwch at y cynllun cywir ar gyfer y flwyddyn astudio academaidd.

Swm y grant a dosbarthiad cymwysterau gradd i addysgu yn y sector uwchradd: 2021 i 2022 a blynyddoedd blaenorol
Swm y grant cymhelliant Pwnc Dosbarthiad cymwysterau grad
£20,000 Cyrsiau ôl-raddedig uwchradd mewn mathemateg, ffiseg, cemeg, bioleg, Cymraeg neu gyfrifiadureg (mae bioleg ond yn bwnc dosbarthedig o flwyddyn academaidd 2021/2022) 1af a/neu ddoethuriaeth/gradd Meistr
£15,000 Cyrsiau ôl-raddedig uwchradd mewn ieithoedd tramor modern 1af a/neu ddoethuriaeth/gradd Meistr
£10,000 Cyrsiau ôl-raddedig uwchradd mewn mathemateg, ffiseg, cemeg, bioleg, Cymraeg neu gyfrifiadureg (mae bioleg ond yn bwnc dosbarthedig o flwyddyn academaidd 2021/2022) 2.1
£6,000 Cyrsiau ôl-raddedig uwchradd mewn ieithoedd tramor modern 2.1
£6,000

Cyrsiau ôl-raddedig uwchradd mewn mathemateg, ffiseg, cemeg, bioleg, Cymraeg neu gyfrifiadureg (mae bioleg ond yn bwnc dosbarthedig o flwyddyn academaidd 2021/2022)

2.2
£3,000 Cyrsiau ôl-raddedig uwchradd mewn dylunio a thechnoleg, Saesneg, hanes, addysg grefyddol, addysg gorfforol, cerddoriaeth, drama, astudiaethau busnes, astudiaethau awyr agored, y gwyddorau cyffredinol neu ddaearyddiaeth 1af a/neu ddoethuriaeth/gradd Meistr

Nid yw’n ofynnol bod y radd neu’r cymhwyster cyfwerth a nodir uchod yn yr un pwnc â’r pwnc sy’n cael ei astudio ar y rhaglen AGA ôl-raddedig. 

O ran dosbarthiad y cymhwyster, nid yw graddau anrhydeddus o unrhyw fath yn cael eu cydnabod fel cymwysterau academaidd.

Swm y grant a dosbarthiad cymwysterau gradd i addysgu yn y sector cynradd: 2021 i 2022 a blynyddoedd blaenorol

Gall myfyrwyr sy'n dechrau ar raglenni cynradd ôl-raddedig fod â hawl i £3,000 ychwanegol er mwyn cefnogi arbenigeddau pwnc ym mhynciau craidd ysgolion cynradd.

Bydd myfyrwyr sydd ag arbenigedd pwnc gradd mewn Cymraeg, Saesneg, mathemateg, neu wyddoniaeth graidd, yn ogystal â'r radd a ddangosir, yn gymwys i gael y taliad ychwanegol hwn.

Swm y grant a dosbarthiad cymwysterau gradd i addysgu yn y sector cynradd: 2021 i 2022 a blynyddoedd blaenorol

Swm y grant cymhelliant

Pwnc neu Gyfnod

Dosbarthiad cymwysterau gradd

£3,000

Cyrsiau ôl-raddedig cynradd

1af a/neu ddoethuriaeth/gradd Meistr

Taliad ychwanegol o £3,000

Cyrsiau cynradd i ôl-raddedigion lle mae gan y radd flaenorol a gyflawnwyd arbenigedd pwnc mewn Cymraeg, Saesneg, Mathemateg neu wyddoniaeth graidd

1af a/neu ddoethuriaeth/gradd Meistr

O ran dosbarthiad y cymhwyster, nid yw graddau anrhydeddus o unrhyw fath yn cael eu cydnabod fel cymwysterau academaidd.

Talu'r grant

Pryd y dylid gwneud taliadau grant i fyfyrwyr

Mae’r wybodaeth hon yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2021 i 2022 a blynyddoedd blaenorol.

Rhaglenni llawnamser: bydd y grantiau ar gyfer pynciau â blaenoriaeth yn cael eu talu'n dymhorol mewn tri rhandaliad rhwng mis Hydref a mis Mehefin yn y flwyddyn astudio academaidd.

Rhaglenni rhan-amser: bydd y grantiau ar gyfer pynciau â blaenoriaeth yn cael eu talu'n dymhorol mewn 6 rhandaliad dros ddwy flwyddyn academaidd

Bydd y taliadau'n cael eu gwneud yn ystod wythnos olaf pob mis y mae taliadau'n daladwy. Bydd y Partneriaethau AGA yn penderfynu ar yr union ddyddiadau.

Ni ddylai taliadau gael eu gwneud ond i'r myfyrwyr hynny sy'n bresennol ar y rhaglen AGA ar y dyddiad talu. Os bydd unrhyw fyfyriwr wedi tynnu'n ôl neu wedi gohirio rhaglen cyn y dyddiad talu, ni ddylid talu'r taliad.

Pa grantiau y dylid eu talu

Taliadau grant cymhelliant llawnamser 2021 i 2022

Swm y grant cymhelliant

Taliad yr hydref i'w dalu ym mis Rhagfyr

Taliad gwanwyn i'w dalu ym mis Mawrth

Taliad yr haf a'r taliad olaf i'w dalu ym mis Mehefin

£20,000

£5,000

£5,000

£10,000

 £15,000

£3,750

£3,750

£7,500

 £10,000

£2,500

£2,500

£5,000

 £6,000

£1,500

£1,500

£3,000

£3,000

£750

£750

£1,500

 

Tabl taliadau grant cymhelliant rhan amser 2021 i 2022: Blwyddyn 1

Swm y grant cymhelliant

Taliad yr Hydref i'w dalu ym mis Rhagfyr

Taliad gwanwyn i'w dalu ym mis Mawrth

Taliad yr haf i'w dalu ym mis Mehefin

£10,000

£2,500

£2,500

£5,000

 £7,500

£1,875

£1,875

£3,750

 £5,000

£1,250

£1,250

£2,500

 £3,000

£750

£750

£1,500

 £1,500

£375

£375

£750

 

Tabl taliadau grant cymhelliant rhan amser 2021 i 2022: Blwyddyn 2

Swm y grant cymhelliant

Taliad yr Hydref i'w dalu ym mis Rhagfyr

Taliad gwanwyn i'w dalu ym mis Mawrth

Yr haf a'r taliad olaf i'w dalu ym mis Mehefin

£10,000

£2,500

£2,500

£5,000

 £7,500

£1,875

£1,875

£3,750

 £5,000

£1,250

£1,250

£2,500

 £3,000

£750

£750

£1,500

 £1,500

£375

£375

£750

Mae'r taliadau hyn ar sail pro rata i'r taliadau grant cymhelliant llawn amser.

Os yw myfyriwr wedi derbyn grant cymhelliant yn llawn neu'n rhannol o dan unrhyw gynllun blaenorol yng Nghymru, caiff y rhandaliadau o'r grant hwn eu lleihau yn ôl swm y taliadau blaenorol a dderbyniwyd.

Mae hyn hefyd yn gymwys i grantiau a dderbyniwyd o dan unrhyw drefniadau yn Lloegr y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn berthnasol yn rhinwedd y cynllun hwn.

Sut caiff y taliad ei wneud

Bydd myfyrwyr cymwys yn cael y taliadau grant gan eu Partneriaethau AGA.

I'r rhai sy'n gymwys i gael y taliad cynradd ychwanegol, bydd y taliadau'n cael eu gwneud ochr yn ochr â'r prif grant cymhelliant sy'n daladwy.

Mae'n ofynnol i bob myfyriwr cymwys sy'n ymgymryd â rhaglen AGA ôl-raddedig lofnodi ffurflen ddatgan er mwyn derbyn y grantiau cymhelliant. Bydd y Partneriaethau AGA yn rhoi'r ffurflenni hyn i fyfyrwyr ar ddechrau eu rhaglen. Bydd y datganiad hwn yn cael ei rannu â Llywodraeth Cymru. Mae'r ffurflen ddatgan yn gofyn i fyfyrwyr gadarnhau eu bod wedi darllen a deall yr wybodaeth sydd ar y tudalennau gwe hyn. Os na dderbynnir y cadarnhad hwn, ni ellir gwneud y taliadau grant.

Gohirio, tynnu'n ôl ac ailddechrau

Mae’r wybodaeth hon yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2021 i 2022 a blynyddoedd blaenorol.

Os bydd myfyriwr yn gohirio ei astudiaethau yn ystod tymor, ni fydd yn gymwys i gael y taliad tymhorol hwnnw. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailafael yn ei astudiaethau yn yr un flwyddyn academaidd, fe fydd ganddo hawl i gael taliad am y cyfnod a fethwyd, hyd at uchafswm y cymhelliant. O dan yr amgylchiadau hyn bydd taliad yn cael ei wneud ar ôl cwblhau ac yn ychwanegol at daliad y tymor canlynol.

Os bydd myfyriwr yn ailafael mewn rhaglen AGA mewn blwyddyn academaidd wahanol i'r un y dechreuodd ynddi, neu os bydd yn gohirio rhaglen, parheir i wneud taliadau ar yr un gyfradd (os o gwbl) a oedd yn gymwys yn y flwyddyn academaidd yr ymunodd y myfyriwr â'r rhaglen, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn cytuno fel arall yn ysgrifenedig. 

Bydd gan fyfyrwyr sy'n tynnu'n ôl o gwrs cyn iddo gael ei gwblhau, ac sy'n gymwys i gael grant cymhelliant, hawl i gael y taliad(au) tymhorol ar gyfer tymhorau y maent wedi’u cwblhau’n llawn yn unig.

Adennill grantiau cymhelliant a dalwyd

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i adennill grantiau cymhelliant a dalwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Mae ganddynt ddisgresiwn i arfer y pwerau hyn ai peidio, a byddant yn ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod.

Caniateir i'r pwerau hyn gael eu harfer gan Weinidogion Cymru:

  1. os bydd y derbynnydd, ar ôl cael unrhyw randaliad o grant cymhelliant, yn methu â chwrdd ag unrhyw feini prawf cymhwysedd a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru ac a nodir yn yr Atodlen neu'r canllaw gwybodaeth mewn perthynas â rhandaliad dilynol; neu
  2. os yw'r derbynnydd, yn ei gais am grant cymhelliant, neu mewn cysylltiad â'r cais hwnnw, wedi darparu gwybodaeth anwir neu wybodaeth sy'n gamarweiniol; neu os oes tystiolaeth ddigamsyniol nad oedd y derbynnydd erioed wedi bwriadu cwblhau'r cwrs neu, ar ôl ei gwblhau, nad oedd yn fwriad ganddo fynd i addysgu.

Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth

Mae’r wybodaeth y mae myfyrwyr yn ei chyflwyno fel rhan o'u hawliad o dan gynllun cymhelliant pwnc blaenoriaeth Addysg Gychwynnol Athrawon yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y "Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth"), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr "EIR"), y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (y "Ddeddf Diogelu Data").

Mae myfyrwyr hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr:

  1. ddatgelu unrhyw wybodaeth yr ydym wedi'i chael o dan neu mewn cysylltiad â'r Cyllid i'r graddau y mae'n ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth o'r fath i berson sy'n gwneud cais datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR; a/neu
  2. bod unrhyw wybodaeth wedi ei heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR.
  3. cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i ddilysu hunaniaeth. Mae angen y gwiriadau hyn i brosesu data personol am unigolyn i asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth bersonol y mae'n ei chael. Bydd unrhyw ddata personol a gasglwn yn cael ei reoli yn unol â'n hysbysiad preifatrwydd (PN00000374) a 'Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru'.

Cwestiynau cyffredin

A yw'r grant cymhelliant yn drethadwy?

Mae Cyllid a Thollau (HMRC) yn adran anweinidogol o Lywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gasglu trethi. Nid yw grantiau cymhelliant fel arfer yn drethadwy i fyfyrwyr amser llawn. Fodd bynnag, dylai myfyrwyr geisio cyngor gan Cyllid a Thollau ar eu hamgylchiadau unigol.

Beth fydd effaith y grant cymhelliant ar gymorth arall i fyfyrwyr?

Ni chaiff grant cymhelliant ei ystyried yn rhan o'ch incwm ar gyfer darpariaethau cyllid myfyrwyr sy'n seiliedig ar incwm y cartref. Felly, ni ddylid ei gynnwys wrth gyfrifo eich incwm trethadwy sydd heb ei ennill. Fodd bynnag, dylai myfyrwyr geisio cyngor gan eu darparwr cyllid myfyrwyr ar eu hamgylchiadau unigol.

Beth fydd effaith y grant cymhelliant ar fudd-daliadau?

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn adran o Lywodraeth y DU sy'n gyfrifol am bolisi lles a phensiwn. Dylech ofyn am gyngor ganddynt ar eich amgylchiadau unigol.

A fydd y grant cymhelliant yn sbarduno ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr?

Na, ddim os ydych yn dilyn cwrs llawnamser. Fodd bynnag, os ydych yn dilyn cwrs rhan-amser, bydd eich rhwymedigaeth yn dibynnu a ydych hefyd yn ennill cyflog (drwy waith nad yw'n gysylltiedig ag AGA) sy'n ddigon uchel i sbarduno ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr.

Gall ad-daliadau benthyciad gael eu sbarduno ar ôl i chi gwblhau eich cyrsiau, ennill SAC a dechrau ennill cyflog fel athro.

A fydd gennyf hawl i’r grant cymhelliant ‘Iaith Athrawon Yfory’?

Nid yw cymhwysedd i gael y grantiau cymhelliant o dan y cynllun hwn yn effeithio ar eich cymhwysedd i gael grant cymhelliant Iaith Athrawon Yfory. Mae'n bosibl cael arian grant o dan y ddau gynllun cymhelliant. Ceir rhagor o wybodaeth am gynllun cymhelliant Iaith Athrawon Yfory yn Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory

Rhagor o gwestiynau?

Os ydych yn fyfyriwr a bod gennych gwestiwn yn ymwneud â'r wybodaeth hon neu gwestiwn nad yw wedi'i ateb yn yr ddogfen hon, cysylltwch â'ch Partneriaeth AGA yn y lle cyntaf.