Cynllun cyflenwi tai fforddiadwy Llywodraeth Cymru
Cyfeirnod y Cymhorthdal: SC11272 - cynllun hwn yw darparu'r ymyriad cymhorthdal lleiaf sy'n angenrheidiol drwy gyllid benthyciad a grant i gynyddu'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych yn defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymorthdaliadau, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau drwy anfon e-bost i: scu@gov.wales.
1. Rhanbarth
Cymru
2. Teitl y cynllun cymhorthdal
Darparu Tai Fforddiadwy Llywodraeth Cymru
3. Sail gyfreithiol yn y DU
Mae pwerau Gweinidogion Cymru sy'n caniatáu i Lywodraeth Cymru gefnogi Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig wedi’u cynnwys yn y canlynol:
- Adran 58A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
- Adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
- Adran 126 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996
- Adran 18(1) o Ddeddf Tai 1996
- Adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006
- Adran 79(1), 127 a 128 o Ddeddf Cymdeithasau Tai 1985
4. Amcanion polisi penodol y cynllun
Amcan polisi penodol y cynllun hwn yw darparu'r ymyriad cymhorthdal lleiaf sy'n angenrheidiol drwy gyllid benthyciad a grant i gynyddu'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy.
Mae cynyddu darpariaeth tai fforddiadwy yn elfen allweddol o ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i wneud ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi yn lleoedd gwell hyd yn oed i fyw a gweithio ynddynt.
Bydd yn cyfrannu at y targed o ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel i'w rhentu yn y sector cymdeithasol yn nhymor y llywodraeth hon ac unrhyw darged dilynol a fydd yn cael ei osod gan lywodraethau'r dyfodol.
Bydd yn cael effaith gadarnhaol hefyd ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gan gyfrannu'n benodol at Gymru iach a mwy cyfartal. Dangosir hyn gan fuddiannau clir o ran iechyd cael cartref o ansawdd da sy'n fforddiadwy mewn man diogel.
Wrth gyflawni'r uchod, bydd y cynllun yn:
- cefnogi'r cynnydd yn y cyflenwad o gartrefi fforddiadwy o ansawdd da
- gweithio tuag at roi diwedd ar ddigartrefedd a galluogi'r symud ymlaen o lety dros dro, a
- Cefnogi'r cynnydd yn y cyflenwad tai i ddiwallu anghenion pobl ag anghenion cymorth a gofal.
5. Diben y cynllun
Pwrpas y cynllun yw cefnogi'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy sy'n cynnwys y deiliadaethau a'r anghenion penodol canlynol:
Deiliadaeth
- Tai Cymdeithasol (ar Rent Cymdeithasol)
- Tai Cymdeithasol (nid ar rent cymdeithasol)
- Rhent Canolradd
- Rhanberchnogaeth
Angen
- Anghenion Cyffredinol
- Achub Morgeisi
- Pobl Hŷn
- Gofal ychwanegol i bobl hŷn
- Tai â chymorth - Trais Domestig, Camddefnyddio Sylweddau, Cyn-droseddwyr, Digartrefedd, Anableddau Dysgu, Iechyd Meddwl, Ffoaduriaid, Anableddau Corfforol, Camddefnyddio Sylweddau, Pobl Ifanc Agored i Niwed neu unrhyw grwpiau cleientiaid eraill y cytunwyd arnynt gan Lywodraeth Cymru
Math o weithgarwch
- Prynu tir i adeiladu tai fforddiadwy
- Adeiladu cartrefi fforddiadwy gan gynnwys dymchwel ac ailadeiladu stoc awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig presennol.
- Prynu cartrefi o'r farchnad agored neu gan ddatblygwyr preifat.
- Caffael a datblygu adeiladau annomestig, e.e. swyddfeydd, gwestai, cartrefi gofal, llety myfyrwyr i dai fforddiadwy
- Defnyddio llety modiwlar ar dir sy'n cael ei ddefnyddio yn y cyfamser (h.y. wedi'i glustnodi ar gyfer datblygu yn y dyfodol).
- Dod ag eiddo gwag Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig presennol yn ôl i ddefnydd
6. Awdurdodau Cyhoeddus sydd wedi'u hawdurdodi i weithredu'r cynllun
Llywodraeth Cymru
7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys
Awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd a sefydliadau trydydd sector yng Nghymru a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSLs) sydd wedi'u cofrestru gyda Llywodraeth Cymru.
8. Crynodeb o delerau ac amodau'r cynllun
Rhaid i bob cynllun sy'n derbyn grant neu fenthyciadau Llywodraeth Cymru ar gyfer tai fforddiadwy:
- Fod wedi'i leoli yng Nghymru a chael ei ddatblygu yn unol â blaenoriaethau tai strategol yr awdurdod lleol.
- Gydymffurfio â'r safonau dylunio, ynni a chynnal a chadw perthnasol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
- Cydymffurfio â pholisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhent Cymdeithasol a Chanolradd lle bo hynny'n berthnasol.
- Cydymffurfio â chanllawiau perthnasol Llywodraeth Cymru ar gyfer pob gweithgaredd o dan y cynllun.
- Bod â'r holl gymeradwyaethau statudol angenrheidiol ar waith e.e. cynllunio, SAB, Rheoliadau Adeiladu ac ati.
- Sicrhau bod yr holl yswiriant angenrheidiol, bondiau perfformiad contractwr, premiymau gwarant yn eu lle.
- Cydymffurfio â'r holl drefniadau cyllido gan fenthycwyr preifat neu'r PWLB.
- Cydymffurfio â'r Safonau Rheoleiddio cyfredol ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru fel y nodir yn y Fframwaith Rheoleiddio.
Rhestrir telerau ac amodau sy'n benodol i weithgareddau unigol yn yr atodlenni sydd wedi'u hatodi:
- Atodlen 1: Grant ar gyfer adeiladu tai fforddiadwy gan gynnwys prynu tir, dymchwel ac ailadeiladu stoc presennol yr ALl a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
- Atodlen 2: Prynu cartrefi o'r farchnad agored neu gan ddatblygwyr preifat
- Atodlen 3: Caffael a datblygu adeiladau annomestig, e.e. swyddfeydd, gwestai, cartrefi gofal, llety myfyrwyr, tafarndai ac ati yn dai fforddiadwy
- Atodlen 4: Defnyddio llety modiwlar ar dir sy'n cael ei ddefnyddio yn y cyfamser (h.y. wedi'i glustnodi ar gyfer datblygu yn y dyfodol)
- Atodlen 5: Cymorth i sicrhau y caiff eiddo gwag ei ddefnyddio unwaith eto
- Atodlen 6: Benthyciadau i brynu tir ar gyfer datblygu tai fforddiadwy
- Atodlen 7: Benthyciadau Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
9. Sectorau i'w cefnogi
- Y sector tai yng Nghymru
- Y sector adeiladu
10. Hyd y cynllun
1 Ionawr 2024 hyd at 31 Mawrth 2031.
11. Y gyllideb ar gyfer cymorth o dan y cynllun hwn
Hyd at £5,533,500,000 (Pum biliwn, pum cant tri deg tri miliwn pum can punt) dros oes y cynllun.
12. Ffurf y cymorth
Darperir cymorth drwy naill ai grantiau uniongyrchol neu arian benthyciad.
13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Cyfrifir cymorthdaliadau i sicrhau bod y lefel isaf o iawndal/cyllid yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ddarparu tai fforddiadwy. Mae'r seiliau ar gyfer cyfrifo cymhorthdal yn benodol i weithgareddau unigol ac fe'u rhestrir yn yr amserlenni sydd wedi'u hatodi.
14. Y cymhorthdal mwyaf a ganiateir o dan y cynllun
£30 miliwn
15. Gwybodaeth gyswllt
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig
Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400
E-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Atodlen 1: Grant ar gyfer adeiladu tai fforddiadwy gan gynnwys prynu tir, dymchwel ac ailadeiladu stoc presennol yr ALl a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
Safonau
- Rhaid i bob cartref hunangynhwysol newydd gydymffurfio â Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru (WDQR 2021).
- Ar gyfer llety a rennir, mae cyfuniadau o Ofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021 (WDQR 2021), Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC) a'r Rhaglen Cyfalaf Llety Trosiannol (RhCLlT), yn cael eu defnyddio yn unol â gofynion penodol y grŵp cleientiaid.
- Mae prosesau craffu technegol Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod dyluniadau'n adlewyrchu anghenion cleientiaid fesul cynllun. Lle bynnag y bo'n bosibl, rhaid cynllunio cartrefi i safonau anghenion cyffredinol ar gyfer cartrefi newydd, ac i'r graddau y bo'n ymarferol gwneud hynny, caniatáu byw'n annibynnol.
- Bydd pob cartref hunangynhwysol yn cael ei reoli a'i gynnal i gydymffurfio â Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC 2023).
Polisi rhenti
- Rhaid i bob eiddo a ariennir gan grant ar gyfer anghenion cyffredinol neu bersonau hŷn gydymffurfio â pholisi Rhent Llywodraeth Cymru.
- Rhaid i bob eiddo a ariennir gan grant ar gyfer rhent canolradd gydymffurfio â pholisi Rhent Canolradd Llywodraeth Cymru.
Cyfrifo cymhorthdal
- Cyfrifir cymorthdaliadau gan ddefnyddio'r Model Hyfywedd Safonol ("SVM"). Mae'r SVM yn fodel gwerth net presennol sy'n dangos y bwlch cyllido, h.y. lefel y grant sydd ei angen i adennill costau. Mae'r SVM yn cynnwys rhagdybiaethau ar incwm rhent a chodiadau rhent a chostau rheoli a chynnal eiddo.
- Mae pob cynllun yn cael y swm o gymhorthdal sydd ei angen i bontio'r bwlch ariannu rhwng y rhenti dros oes y prosiect a'r costau datblygu/cynnal a chadw, yn amodol ar gap cyfradd grant o 70%. Gellir cynyddu'r cap i 75% os yw'r Awdurdod Lleol/Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) yn darparu digon o gyfiawnhad nad yw'r cynllun yn hyfyw ar y gyfradd sydd wedi'i gapio.
Uchafswm cymhorthdal a ganiateir
- Y cymhorthdal uchaf a ganiateir yw £30m.
Gofynion adfachu
- Pan fydd eiddo'n cael ei werthu, rhaid ailgylchu'r grant naill ai i'r gronfa Grant Cyfalaf wedi'i Ailgylchu (RCG) neu ei ad-dalu i Lywodraeth Cymru.
Atodlen 2: Prynu cartrefi o'r farchnad agored neu gan ddatblygwyr preifat
Safonau
- Rhaid i'r holl eiddo sydd ar werth ar y farchnad agored neu eiddo oddi ar y silff a brynwyd gan ddatblygwyr gydymffurfio â Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC 2023) o leiaf.
- Lle nad yw cartrefi yn gallu bodloni SATC 2023, dim ond o dan safonau gofynnol Llywodraeth Cymru y gellir eu datblygu. Gellir eu defnyddio am o leiaf 5 mlynedd ac uchafswm o 10 mlynedd ac yna mae'n ofynnol eu gwerthu.
- Ar gyfer llety a rennir, mae cyfuniadau o Ofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021 (WDQR 2021), Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC) a'r Rhaglen Cyfalaf Llety Trosiannol (TACP), yn cael eu defnyddio yn unol â gofynion penodol y grŵp cleientiaid.
Polisi rhenti
- Rhaid i bob eiddo a ariennir gan grant ar gyfer anghenion cyffredinol neu bersonau hŷn gydymffurfio â pholisi Rhent Llywodraeth Cymru.
- Rhaid i bob eiddo a ariennir gan grant ar gyfer rhent canolradd gydymffurfio â pholisi Rhent Canolradd Llywodraeth Cymru.
Cyfrifo cymhorthdal
- Cyfrifir cymorthdaliadau gan ddefnyddio'r Model Hyfywedd Safonol ("SVM"). Mae'r SVM yn fodel gwerth net presennol sy'n dangos y bwlch cyllido, h.y. lefel y grant sydd ei angen i adennill costau. Mae'r SVM yn cynnwys rhagdybiaethau ar incwm rhent a chodiadau rhent a chostau rheoli a chynnal eiddo.
- Mae pob cynllun yn cael y swm o gymhorthdal sydd ei angen i bontio'r bwlch ariannu rhwng y rhenti dros oes y prosiect a'r costau datblygu/cynnal a chadw, yn amodol ar gap cyfradd grant o 70%. Mae'r cap yn cynyddu i 75%, os darperir digon o gyfiawnhad gan y sefydliad ALl/LCC/Bwrdd Iechyd/3ydd sector nad yw'r cynllun yn hyfyw ar y gyfradd wedi'i gapio.
Uchafswm cymhorthdal a ganiateir
- Yr uchafswm cymhorthdal a ganiateir fesul eiddo yw £1.5m.
Gofynion adfachu
- Pan fydd eiddo'n cael ei werthu, rhaid ailgylchu'r grant naill ai i'r gronfa Grant Cyfalaf wedi'i Ailgylchu (RCG) neu ei ad-dalu i Lywodraeth Cymru.
Atodlen 3: Caffael a datblygu adeiladau annomestig, e.e. swyddfeydd, gwestai, cartrefi gofal, llety myfyrwyr, tafarndai ac ati yn dai fforddiadwy
Safonau
- Rhaid i bob eiddo gydymffurfio â Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru (WDQR 2021) neu SATC 2023 o leiaf.
- Lle nad yw adeiladau'n gallu bodloni SATC 2023, dim ond o dan safonau gofynnol Llywodraeth Cymru y gellir eu datblygu. Gellir eu defnyddio am o leiaf 5 mlynedd ac uchafswm o 10 mlynedd ac yna mae'n ofynnol eu gwerthu.
- Ar gyfer llety a rennir, mae cyfuniadau o Ofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021 (WDQR 2021), Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC) a'r Rhaglen Cyfalaf Llety Trosiannol (TACP), yn cael eu defnyddio yn unol â gofynion penodol y grŵp cleientiaid.
Polisi rhenti
- Rhaid i bob eiddo a ariennir gan grant ar gyfer anghenion cyffredinol neu bersonau hŷn gydymffurfio â pholisi Rhent Llywodraeth Cymru.
- Rhaid i bob eiddo a ariennir gan grant ar gyfer rhent canolradd gydymffurfio â pholisi Rhent Canolradd Llywodraeth Cymru.
Cyfrifo cymhorthdal
- Cyfrifir cymorthdaliadau gan ddefnyddio'r Model Hyfywedd Safonol ("SVM"). Mae'r SVM yn fodel gwerth net presennol sy'n dangos y bwlch cyllido, h.y. lefel y grant sydd ei angen i adennill costau. Mae'r SVM yn cynnwys rhagdybiaethau ar incwm rhent a chodiadau rhent a chostau rheoli a chynnal eiddo.
- Mae pob cynllun yn cael y swm o gymhorthdal sydd ei angen i bontio'r bwlch ariannu rhwng y rhenti dros oes y prosiect a'r costau datblygu/cynnal a chadw, yn amodol ar gap cyfradd grant o 70%. Mae'r cap yn cynyddu i 75%, os darperir digon o gyfiawnhad gan yr ALl / RSL / Byrddau Iechyd / Sefydliadau Trydydd Sector (TSO) nad yw'r cynllun yn hyfyw ar y gyfradd gapio.
Uchafswm cymhorthdal a ganiateir
- Y cymhorthdal uchaf a ganiateir yw £30m.
Gofynion adfachu
- Pan fydd eiddo'n cael ei werthu, rhaid ailgylchu'r grant naill ai i'r gronfa Grant Cyfalaf wedi'i Ailgylchu (RCG) neu ei ad-dalu i Lywodraeth Cymru.
Atodlen 4: Defnyddio llety modiwlar ar dir sy'n cael ei ddefnyddio yn y cyfamser (h.y. wedi'i glustnodi ar gyfer datblygu yn y dyfodol)
Safonau
- Rhaid i bob eiddo fodloni Safonau Gofynnol Llywodraeth Cymru os bwriedir eu defnyddio yn y cyfamser yn unig a bod modd eu trosglwyddo o safle i safle.
- Os bydd cartrefi yn cael eu newid o'r cyfamser i'w defnyddio'n barhaol yn y dyfodol, rhaid dangos y gellir ail-fodelu'r cynnig canlyniadau i gwrdd â WDQR 2021.
Polisi rhenti
- Rhaid i bob eiddo a ariennir gan grant ar gyfer anghenion cyffredinol gydymffurfio â pholisi Rhent Llywodraeth Cymru.
Cyfrifo cymhorthdal
- Cyfrifir cymorthdaliadau gan ddefnyddio'r Model Hyfywedd Safonol ("SVM"). Mae'r SVM yn fodel gwerth net presennol sy'n dangos y bwlch cyllido, h.y. lefel y grant sydd ei angen i adennill costau. Mae'r SVM yn cynnwys rhagdybiaethau ar incwm rhent a chodiadau rhent a chostau rheoli a chynnal eiddo.
- Mae pob cynllun yn cael y swm o gymhorthdal sydd ei angen i bontio'r bwlch ariannu rhwng y rhenti dros oes y prosiect a'r costau datblygu/cynnal a chadw, yn amodol ar gap cyfradd grant o 70%. Gellir cynyddu'r cap i 75% os yw'r Awdurdod Lleol/Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn darparu digon o gyfiawnhad nad yw'r cynllun yn hyfyw ar y gyfradd sydd wedi'i gapio.
Uchafswm cymhorthdal a ganiateir
- Y cymhorthdal uchaf a ganiateir yw £30m.
Gofynion adfachu
- Pan fydd eiddo'n cael ei werthu, rhaid ailgylchu'r grant naill ai i'r gronfa Grant Cyfalaf wedi'i Ailgylchu (RCG) neu ei ad-dalu i Lywodraeth Cymru.
Atodlen 5: Cymorth i sicrhau y caiff eiddo gwag ei ddefnyddio unwaith eto
Safonau
- Rhaid i bob eiddo gwag gydymffurfio â Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC 2023) o leiaf.
Polisi rhenti
- Rhaid i bob eiddo a ariennir gan grant ar gyfer anghenion cyffredinol neu bersonau hŷn gydymffurfio â pholisi Rhent Llywodraeth Cymru.
Cyfrifo cymhorthdal
- Gellir hawlio hyd at 80% o gostau'r gwaith gwella, gan gydnabod bod yr eiddo hyn wedi bod yn wag am gyfnod sylweddol mewn llawer o achosion ac bod angen buddsoddiad mawr i ddod yn ôl i ddefnydd yn gyflym.
Uchafswm cymhorthdal a ganiateir
- Yr uchafswm cymhorthdal a ganiateir yw £1m.
Gofynion adfachu
- Pan fydd eiddo'n cael ei werthu, rhaid ailgylchu'r grant naill ai i'r gronfa Grant Cyfalaf wedi'i Ailgylchu (RCG) neu ei ad-dalu i Lywodraeth Cymru.
Atodlen 6: Benthyciadau i brynu tir ar gyfer datblygu tai fforddiadwy
Safonau
- Rhaid i unrhyw dai fforddiadwy sy'n cael eu darparu ar dir a gefnogir gan y cynllun benthyciadau ac sy'n ceisio cael ei ariannu gan raglen grant berthnasol gan Lywodraeth Cymru fodloni safonau'r rhaglen grant honno.
Polisi rhenti
- Rhaid i bob eiddo a ariennir gan grant ar gyfer anghenion cyffredinol neu bersonau hŷn gydymffurfio â pholisi Rhent Llywodraeth Cymru.
- Rhaid i bob eiddo a ariennir gan grant ar gyfer rhent canolradd gydymffurfio â pholisi Rhenti Canolradd Llywodraeth Cymru.
Cyfrifo cymhorthdal
- O ran benthyca arian ar gyfer tai fforddiadwy mae methiant yn y farchnad. Nid oes marchnad weithredol mewn benthyca gan y Llywodraeth ar gyfer tai cymdeithasol, h.y. ni all landlordiaid cymdeithasol fynd i ffynonellau eraill o fenthyca gyda thermau tebyg h.y. cyfraddau llog is ar gyfer canlyniadau cymdeithasol. O ganlyniad, cymhwysir cyfradd llog islaw'r farchnad mewn perthynas â'r benthyciad neu gyfran o'r benthyciad, sef datblygu tai fforddiadwy o dan eithriad y Gwasanaeth o Fudd Economaidd Cyhoeddus.
- Gan mai cyllid benthyciad yw hwn, y llog a ildiwyd yw'r cymhorthdal. Ermwyn penderfynu ar gyfradd llog briodol, ystyrir y canllawiau HMT a gynhwysir yn y Datganiad Gwariant Cyhoeddus (PES). Dyma'r gyfradd i'w defnyddio pan nad oes marchnad weithredol neu debyg ar gyfer ariannu'r mathau hyn o gynlluniau. Fel y gwelir uchod, mae'r methiant hwn yn y farchnad yn golygu ei fod yn rhy gostus i landlord cymdeithasol gyflwyno cynlluniau sy'n bodloni safonau ansawdd Llywodraeth Cymru ar gyfer Tai Cymdeithasol.
- Pan fydd benthyciad yn destun llog ar lefel y farchnad, megis ar gyfer datblygu tai'r farchnad agored, caiff ei gyfrifo naill ai trwy ddefnyddio'r gyfradd a ddarperir yn y Rheolau Rheoli Cymhorthdal neu drwy feincnodi yn erbyn darparwyr masnachol sy'n cynnig dyled tymor byr i'r sector LCC yn unol â pharagraff 15.73 o'r Rheolau Rheoli Cymhorthdal . Defnyddir yr un gyfradd i gyfrifo'r llog a ildiwyd neu gymhorthdal ar gyfer benthyciadau ar gyfer tai fforddiadwy.
- Darperir benthyciadau ar sail tymor 5 i 10 mlynedd fel y gellir cyfrifo'r cymhorthdal ar adeg dyfarnu.
- Mae angen prisiad RICS neu Prisiwr Ardal i gefnogi'r gwerth caffael tir / benthyciad. Nid yw'r SVM yn cael ei ddefnyddio i benderfynu ar werth y benthyciad y gallai cais Tir ar gyfer Tai ei dderbyn. Fodd bynnag, gan fod y SVM yn cyfrifo'r grant cymwys tebygol a ganiateir ar gyfer cynllun pan/os caiff ei gyflwyno am gyllid grant, gall yr RSL ei ddefnyddio i sicrhau hyfywedd cyn bwrw ymlaen â benthyciad ar gyfer caffael tir o dan y cynllun Tir ar gyfer Tai.
Uchafswm cymhorthdal a ganiateir
- Y cymhorthdal uchaf a ganiateir yw £4.2m.
Gofynion adfachu
- Mae benthyciadau (neu gyfran o'r benthyciad) yn ad-daladwy ar:
- dderbyn unrhyw grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer datblygu tai marchnad a/neu dai fforddiadwy ar y tir
- gwaredu unrhyw ran o'r tir.
- Os na fydd yr uchod yn digwydd, rhaid ad-dalu'r benthyciad cyfan ar y cynharaf o:
- ar ôl ichi gael tystysgrif cwblhau ymarferol mewn perthynas â'r uned olaf yn y datblygiad o dai ar y tir
- ar ddiwedd tymor y benthyciad.
Atodlen 7: Benthyciadau Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
Safonau
- Rhaid i unrhyw dai fforddiadwy sy'n cael eu cefnogi a'u darparu gan ddefnyddio'r cynllun benthyciadau ac sy'n ceisio cael eu hariannu gan raglen grant berthnasol gan Lywodraeth Cymru fodloni safonau'r rhaglen grant honno.
Polisi rhenti
- Rhaid i bob eiddo a ariennir gan grant ar gyfer anghenion cyffredinol neu bersonau hŷn gydymffurfio â pholisi Rhenti Llywodraeth Cymru.
- Rhaid i bob eiddo a ariennir gan grant ar gyfer rhent canolradd gydymffurfio â pholisi Rhenti Canolradd Llywodraeth Cymru.
Cyfrifo cymhorthdal
- O ran benthyca arian ar gyfer tai fforddiadwy mae methiant yn y farchnad. Nid oes marchnad weithredol mewn benthyca gan y Llywodraeth ar gyfer tai cymdeithasol, h.y. ni all landlordiaid cymdeithasol fynd i ffynonellau eraill o fenthyca gyda thermau tebyg h.y. cyfraddau llog is ar gyfer canlyniadau cymdeithasol. O ganlyniad, cymhwysir cyfradd llog islaw'r farchnad mewn perthynas â'r benthyciad neu gyfran o'r benthyciad, sef datblygu tai fforddiadwy o dan eithriad y Gwasanaeth o Fudd Economaidd Cyhoeddus.
- Gan mai cyllid benthyciad yw hwn, y llog a ildiwyd yw'r cymhorthdal. Ermwyn penderfynu ar gyfradd llog briodol, ystyrir y canllawiau HMT a gynhwysir yn y Datganiad Gwariant Cyhoeddus (PES). Dyma'r gyfradd i'w defnyddio pan nad oes marchnad weithredol neu debyg ar gyfer ariannu'r mathau hyn o gynlluniau. Fel y gwelir uchod, mae'r methiant hwn yn y farchnad yn golygu ei fod yn rhy gostus i landlord cymdeithasol gyflwyno cynlluniau sy'n bodloni safonau ansawdd Llywodraeth Cymru ar gyfer Tai Cymdeithasol.
- Pan fydd benthyciad yn destun llog ar lefel y farchnad, megis ar gyfer datblygu tai'r farchnad agored, caiff ei gyfrifo naill ai trwy ddefnyddio'r gyfradd a ddarperir yn y Rheolau Rheoli Cymhorthdal neu drwy feincnodi yn erbyn darparwyr masnachol sy'n cynnig dyled tymor byr i'r sector LCC yn unol â pharagraff 15.73 o'r Rheolau Rheoli Cymhorthdal. Defnyddir yr un gyfradd i gyfrifo'r llog a ildiwyd neu gymhorthdal ar gyfer benthyciadau ar gyfer tai fforddiadwy.
- Darperir benthyciadau ar sail tymor 5 i 30 mlynedd fel y gellir cyfrifo'r cymhorthdal ar adeg dyfarnu.
- Nid yw'r SVM yn cael ei ddefnyddio ar gyfer benthyciadau LCC Datblygu. Rydym yn nodi bod unrhyw unedau a ddarperir trwy ein benthyciadau yn cael eu hariannu gyda chymorthdaliadau benthyciad yn unig, gan ganiatáu i hyd at 100% o'r costau gael eu talu. Wrth asesu cais am fenthyciad, rydym yn sicrhau gwerth am arian, trwy ystyried swm y prif fenthyciad a chyfradd gwahaniaethol llog y cymhorthdal.
Uchafswm cymhorthdal a ganiateir
- Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir yw £10m.
Gofynion adfachu
- Bydd y benthyciadau yn cael eu had-dalu fel ad-daliad bwled ar y dyddiad aeddfedu a bydd llog yn cael ei godi'n flynyddol a'i ailgylchu yn ôl i raglenni Tai.