Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Bum mlynedd yn ôl, fe gyhoeddon ni Strategaeth Ryngwladol Cymru.

Roedd yn gynllun beiddgar ac uchelgeisiol gyda chynlluniau ynddo i godi proffil Cymru, tyfu'r economi a sefydlu Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang.

Mae'r byd wedi newid yn sylweddol ers ei chyhoeddi yn 2020, ac mae Cymru wedi ymateb gyda gwytnwch a phwrpas. Cawsom ddangos dros y pandemig ein hymagwedd arloesol at iechyd cyhoeddus, gan ennill cydnabyddiaeth trwy'r byd. Wedi i'r DU ymadael â'r UE, rydym wedi ailddatgan ein hymrwymiad i ryng-genedlaetholdeb, trwy sefydlu partneriaethau newydd gyda rhanbarthau a gwledydd sy'n rhannu ein gweledigaeth a'n huchelgais. Mewn ymateb i'r rhyfel yn yr Wcráin, rydym wedi dangos dyngarwch a rhoi arweiniad, gan gryfhau ein henw fel Cenedl Noddfa. Mae ein llwyddiannau ym myd diwylliant a'r campau yn dal i ddyrchafu ein proffil byd-eang, gan roi llwyfan i ni ddathlu ein treftadaeth gyfoethog gan ddangos ehangder ein huchelgais arni i biliynau o bobl ledled y byd.

Mae Cymru'n cael ei hystyried yn arweinydd meddyliau. Mae ein ffordd unigryw a blaengar o ymdrin â datblygu cynaliadwy yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn dylanwadu'r byd ac, yn fwyaf diweddar, y Cenhedloedd Unedig yn Uwchgynhadledd y Dyfodol yn Efrog Newydd. Mae'n datblygiadau polisi arloesol mewn meysydd gan gynnwys iaith a'r economi gylchol yn destun sylw a thrafod ledled y byd.

Mae Cymru yn hyb ar gyfer arloesedd a thechnoleg, gyda'n sectorau addysg uwch ac addysg bellach ardderchog yn bwydo diwydiannau allweddol fel ynni glân, lled-ddargludyddion cyfansawdd, gweithgynhyrchu uwch, gwyddorau bywyd, technoleg ariannol, bwyd a diod a'r diwydiannau creadigol. Mae ein sectorau busnes deinamig yn enwog trwy'r byd, ac yn dod â thalentau a'r gorau o ddiwydiant ac academia Cymru ynghyd gyda busnesau blaenllaw y DU a thu hwnt. Mae'r ecosystem economaidd gydweithredol hon yn rhoi Cymru mewn lle blaenllaw o ran datblygiadau blaengar, gan ddangos ein gallu i arwain mewn economi fyd-eang sy'n datblygu'n gyflym. Mae busnesau yn y sectorau allweddol hyn yn allforio nwyddau a gwasanaethau arloesol a gwobrwyog i bob rhan o'r byd, gan barhau â'n hanes balch fel cenedl fasnachu lwyddiannus.

Nawr mae ein momentwm. Mae 2025 eisoes yn argoeli i fod yn flwyddyn bwysig arall i Gymru ar y llwyfan rhyngwladol—cyfle i gysylltu â'r byd a rhannu ein gwerthoedd a'r cyfleoedd sydd ar gael yma. Bydd Tîm Pêl-droed y Merched yn chwarae yn ei dwrnamaint rhyngwladol mawr cyntaf yn y Swistir, byddwn yn cynnal uwchgynhadledd fuddsoddi yng Nghymru, a byddwn yn cryfhau ein cysylltiadau economaidd a diwylliannol fel rhan o'n Blwyddyn Cymru a Japan 2025. Yn ogystal, mae 10mlwyddiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn gyfle da i ddangos sut mae polisïau blaengar nid yn unig wedi gwella bywydau pobl Cymru ond hefyd wedi codi proffil Cymru ar y llwyfan byd-eang.

Nid dyma'r foment am strategaethau newydd ond am ffocws brwd ar gyflawni.

Galwad i weithredu yw'r Cynllun hwn.

Nodau allweddol

Bydd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ein Rhwydwaith Tramor, yn parhau i weithio i gyflawni tri nod craidd y Strategaeth Ryngwladol.

Byddwn yn canolbwyntio ar gyflawni ac mae'r Cynllun hwn yn nodi ein nodau allweddol ar gyfer y flwyddyn nesaf.

1. Uwchgynhadledd Fuddsoddi Ryngwladol

Byddwn yn cynnal Uwchgynhadledd Fuddsoddi Ryngwladol yng Nghymru, gan ddod ag arweinwyr busnes a buddsoddwyr o bob cwr o'r byd ynghyd. Bydd yr uwchgynhadledd yn llwyfan i ddangos medrau disglair ein sectorau uwch-dechnoleg, o ynni glân i weithgynhyrchu uwch a thechnoleg cyllid. Bydd yn gyfle heb ei ail i'r bobl weld yr arloesedd, y talentau a'r adnoddau sy'n gwneud Cymru'n gyrchfan i fuddsoddwyr rhyngwladol.

2. Mewnfuddsoddiad

Byddwn yn denu mewnfuddsoddiad i Gymru, gan gysylltu'n uniongyrchol â diwydiannau a rhanddeiliaid o bedwar ban i hyrwyddo popeth sydd gennym i'w gynnig, gan greu swyddi bras yn y sectorau hynny o'r economi lle gallwn ddangos i'r byd bod gennym gryfderau o safon byd. I'r perwyl hwnnw, byddwn yn cymryd rhan mewn digwyddiadau, arddangosfeydd a chynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol, yn ogystal â denu ymwelwyr i Gymru iddynt gael gweld ein bod yn gyrchfan ardderchog i fewnfuddsoddi ynddo. Bydd ein timau yng Nghymru a thramor yn cydweithio â phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth y DU a'i rhwydwaith tramor, i sicrhau'r gefnogaeth fwyaf posibl i ddenu mewnfuddsoddwyr i Gymru.

3. Cefnogi busnesau Cymru

Byddwn yn cefnogi busnesau Cymru i allforio eu nwyddau a'u gwasanaethau ledled y byd, gan helpu busnesau Cymru yn gyffredinol i dyfu. Byddwn yn canolbwyntio ar ysbrydoli busnesau yng Nghymru i allforio am y tro cyntaf neu gynyddu eu busnes allforio presennol. Byddwn yn canolbwyntio hefyd ar feithrin gallu trwy sicrhau bod gan fusnesau'r sgiliau a'r wybodaeth gywir a'r hyder i fod yn allforwyr llwyddiannus; trwy helpu busnesau i gael hyd i gwsmeriaid newydd dramor; a chynorthwyo busnesau i ymweld â marchnadoedd tramor, gan gynnwys trwy ein rhaglen o deithiau masnach a digwyddiadau. Byddwn yn parhau i ddefnyddio ein polisi masnach ein hunain i sicrhau y gall busnesau Cymru elwa o'r cyfleoedd y mae cytundebau masnach newydd yn eu cynnig.

4. Blwyddyn Cymru a Japan

Byddwn yn cryfhau cysylltiadau economaidd a diwylliannol fel rhan o'n Blwyddyn Cymru a Japan, gan adeiladu ar 50 mlynedd o fuddsoddiad gan Japan yng Nghymru. Eleni, byddwn yn dathlu'r hyn rydym wedi'i wneud gyda'n gilydd a dangos cyfleoedd ar gyfer cydweithredu yn y dyfodol. Bydd hynny'n cynnwys hyrwyddo Cymru yn Expo'r Byd yn Osaka, lle byddwn yn cyflwyno ein gwlad, ein gwerthoedd a'n llwyddiannau i ymwelwyr o Japan a'r byd. Byddwn hefyd yn meithrin cysylltiadau economaidd â Japan ac yn mynd â thaith fasnach yno fel rhan o'r flwyddyn.

5. Huchelgeisiau o ran yr hinsawdd a'r amgylchedd

Byddwn yn cymryd rhan mewn mentrau rhyngwladol pwysig i wireddu ein huchelgeisiau o ran yr hinsawdd a'r amgylchedd, a byddwn yn parhau i sicrhau bod gweithgarwch ein polisi masnach yn cefnogi ein nod i fod yn genedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Mae hyn yn cynnwys taith ffeithiau i Latfia i weld eu Cynllun Dychwelyd Ernes, cymryd rhan yn y Grŵp Llywio Dan2 Ewropeaidd i gryfhau'r gweithredu ar sawl lefel dros yr hinsawdd cyn COP30, a dangos ymdrechion Cymru i fynd i'r afael â'r heriau i systemau'r cefnforoedd yng Nghynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar y Cefnforoedd. Yn COP30 ym Mrasil, byddwn yn cynrychioli Cymru yn uwchgynhadledd hinsawdd bwysica'r byd, gan ddadlau o blaid mwy o uchelgais yng ngweithredu'r byd dros yr hinsawdd a phwysleisio rôl hanfodol natur a defnydd tir wrth fynd tuag at sero net.

6. Diplomyddiaeth chwaraeon

Byddwn yn cadarnhau ein safle fel arweinydd byd mewn diplomyddiaeth chwaraeon trwy gymryd cyfleoedd newydd i ddangos goreuon ein gwlad mewn digwyddiadau rhyngwladol mawr gan gynnwys Pencampwriaethau Pêl-droed Ewropeaidd y Merched yn y Swistir a Thwrnamaint Menywod yr AIG Open ym Mhorthcawl. Byddwn yn defnyddio'r cyfleoedd hyn i fagu ymwybyddiaeth am gryfderau economaidd Cymru, a'n huchelgeisiau i fod yn wlad deg, fel ein hymrwymiad i fod yn genedl wrth-hiliol.

7. Perthyn

Byddwn yn arddangos ein hunaniaeth unigryw a'n cysylltiadau byd-eang drwy Perthyn, cyfres o ddeunyddiau sy'n rhannu straeon am berthyn gan y Cymry ar wasgar a'r rheini sy'n byw ar dir Cymru. Yn 2025, rydym yn dathlu hefyd Blwyddyn Croeso, i fawrhau ein diwylliant, ein hiaith a'n hatyniadau drwy ymgyrch Hwyl Cymru, fydd yn meithrin dealltwriaeth ddyfnach o'n hymdeimlad o le a chroeso.

8. Tîm Cymru

Byddwn yn cryfhau ein model diplomyddu 'Tîm Cymru' sy'n dwyn ynghyd y Llywodraeth a phartneriaid o bob rhan o Gymru i fanteisio ar gyfleoedd i rannu'r hyn rydyn ni wedi dysgu, i ddylanwadu ar eraill a gwella canlyniadau yma yng Nghymru. Mae hyn yn golygu ymuno â sefydliadau ledled Cymru i gynyddu'n heffaith. Byddwn yn defnyddio digwyddiadau mawr gartref a thramor i rannu'r gorau o Gymru.

9. Cydweithio â llywodraeth y DU

Byddwn yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gweithgareddau rhyngwladol yn nodi diwylliant a chryfderau unigryw Cymru yn effeithiol. Byddwn yn gweithio gyda Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO), yr Adran Busnes a Masnach (DBT), ac adrannau eraill Llywodraeth y DU i feithrin cysylltiadau â rhanbarthau sy'n allweddol i Gymru. Byddwn yn dangos bod Cymru'n wlad unigryw, arloesol gyda'i threftadaeth gyfoethog a'i dyfodol deinamig ei hun. Byddwn yn parhau i gydweithio â'r Llywodraethau Datganoledig i godi proffil holl genhedloedd y DU ar y llwyfan byd-eang, gan sicrhau bod cyfraniadau pob cenedl yn cael eu dathlu a'u cydnabod yn rhyngwladol.

10. Ymgysylltu Ewropeaidd

Byddwn yn canolbwyntio ar ein cysylltiadau ag Ewrop, a manteisio ar gyfleoedd i gryfhau'n perthynas heddiw ac adeiladu cysylltiadau newydd. Bydd hyn yn cynnwys arwyddo cytundebau newydd â Chatalonia a Gwlad y Basg neu eu hadnewyddu. Byddwn yn cytuno ar Ddatganiad a Rennir newydd gyda Llywodraeth Iwerddon, a byddwn hefyd yn gweithio i barhau i ddyfnhau ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd gan gynnwys gweithio gyda Llywodraeth y DU ar ei huchelgais i adnewyddu perthynas yr UE â'r DU.

11. Ymwybyddiaeth o Gymru

Byddwn yn defnyddio cyfleoedd i ddyfnhau a chynyddu ymwybyddiaeth am Gymru ar lwyfan y byd. Ar Ddydd Gŵyl Dewi bydd rhaglen gydlynol o weithgareddau yn dangos Cymru i'r byd drwy gyfres o ddigwyddiadau a chyweithiau gyda phartneriaid.

12. Cysylltiadau amlochrog

Byddwn yn mynd ati mewn ffordd newydd i greu cysylltiadau amlochrog i sicrhau bod Cymru'n chwarae ei rhan i annog cyfrifoldeb byd-eang. Byddwn yn gweithio'n agos gyda sefydliadau amlochrog ar nifer o ddigwyddiadau a phrosiectau eleni. Byddwn hefyd yn cryfhau ein gweithgarwch gyda Regions4 ac yn ystyried sut y gallwn gymhwyso'r ffordd rydyn ni'n rhedeg ein rhaglen Cymru ac Affrica i sefyllfaoedd eraill ehangach. 
13

13. Gwella canlyniadau gartref

Byddwn yn defnyddio astudiaethau achos i ddangos sut mae gweithgarwch rhyngwladol yn gwella canlyniadau gartref. Bydd hyn yn cynnwys rhannu enghreifftiau fel prosiectau cydweithio ar symudedd a chyfnewid dysgu a pholisi, megis datblygu technoleg iaith i fynegi yn gliriach mor bwysig yw cysylltiadau rhyngwladol er budd pawb yng Nghymru. 

14. Canlyniadau iechyd

Byddwn yn cryfhau prosiectau cydweithio rhyngwladol i wella iechyd pobl Cymru, gan adeiladu ar lwyddiant ein partneriaeth â Kerala, India – menter sy'n dod â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol medrus, gan gynnwys nyrsys, meddygon a seiciatryddion, i'r GIG yng Nghymru. Yn ogystal, bydd rhaglen beilot sy'n gwahodd myfyrwyr nyrsio rhyngwladol i hyfforddi ac aros ar ôl cofrestru yn gwella gofal iechyd tymor hir.

15. Addysg

Byddwn yn gweithio i sicrhau bod cysylltiadau addysg yn cael eu cynnal a'u cryfhau i gefnogi partneriaethau rhyngwladol sy'n gwneud gwahaniaeth. Byddwn yn hyrwyddo ein sectorau addysg uwch ac addysg bellach ardderchog ledled y byd, gan gydnabod eu rôl hanfodol o ran ysgogi ffyniant yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar symudedd rhyngwladol i wella canlyniadau i bobl, gan dynnu sylw at ein Rhaglen Taith arloesol fel enghraifft o fenter sy'n gwella canlyniadau i bobl ac sy'n dangos Cymru fel gwlad sy'n edrych tuag allan.

Casgliad

Nid yw hon yn rhestr lawn o'n gweithgarwch, ond dyma ein prif flaenoriaethau ar gyfer cyflawni dros y flwyddyn nesaf. Mae angen i ni gadw rhywfaint o hyblygrwydd i fanteisio ar gyfleoedd wrth iddynt godi.

Byddwn yn parhau i weithio gydag adrannau ar draws Llywodraeth Cymru yn ogystal â chyda Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig ar ymgysylltu a gweithgarwch rhyngwladol.

Bydd ein swyddfeydd ar draws y byd yn parhau i weithio i gyflawni nodau craidd y Strategaeth Ryngwladol. Mae Cymru ar agor ar gyfer busnes, ac rydym yn agored ar gyfer creu cysylltiadau a chydweithio.