Neidio i'r prif gynnwy

Croeso

Croeso i'n cynllun corfforaethol 2025 i 2028. Dyma'r pedwerydd cynllun rydym wedi'i gynhyrchu ers i ni gael ein ffurfio yn 2017 i wasanaethu pobl Cymru drwy reoli trethi datganoledig.

Mae hwn yn gyfle da i edrych yn ôl ar yr hyn yr ydym eisoes wedi'i gyflawni yn ogystal â'r hyn yr ydym am ei wneud yn y dyfodol.

Ers 2018 rydym wedi codi dros £2 biliwn mewn Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi. Mae hyn wedi cynhyrchu refeniw hanfodol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, fel ysgolion a'r GIG, mewn cymunedau ledled Cymru.

Rydym wedi gwneud hyn drwy fabwysiadu ffordd Gymreig o drethu, sef 'Ein Dull'. Rydym hefyd wedi cael cefnogaeth gan bartneriaid ledled Cymru. Rydym yn ddiolchgar i'n cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru yn ehangach, trethdalwyr a'u hasiantau, a'n hased orau, y bobl medrus sy'n gweithio i ni. Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'n taith hyd yn hyn.

Nawr, rydym yn barod i dyfu a darparu gwasanaethau hyd yn oed mwy cynaliadwy, hir eu parhad a fydd o fudd i Gymru am flynyddoedd i ddod.

Gan dybio bod deddfwriaeth newydd yn cael ei phasio yn haf 2025, byddwn yn gyfrifol am gasglu a rheoli ardoll ymwelwyr a'r gofrestr genedlaethol o lety i ymwelwyr yng Nghymru.

Mae ein cynllun corfforaethol yn esbonio sut y byddwn yn cymhwyso Ein Dull a'n hegwyddorion craidd i'r cyfrifoldebau newydd hyn. Mae hefyd yn edrych ar y safonau y mae angen i ni eu bodloni a sut rydym yn bwriadu parhau i dyfu ein galluoedd a chryfhau ein partneriaethau. 

Mewn cynllun corfforaethol blaenorol, buom yn sôn am arloesi. Mae hyn yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedd bryd hynny. Wrth i ni esblygu, byddwn yn parhau i ddefnyddio hyder i barhau i fod yn uchelgeisiol a dewr. Byddwn yn gosod safonau uchel i'n hunain wrth i ni wasanaethu Cymru i'r dyfodol. Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni ar gam nesaf ein taith. 

Prif gerrig milltir

  • 2017: Ffurfiwyd gan Lywodraeth Cymru
  • 2018: Casglu a rheoli'r trethi datganoledig cyntaf
  • 2021: Codi £1 biliwn o refeniw treth
  • 2023/4: Prosiect darganfod digidol ar wasanaeth ardoll ymwelwyr
  • 2024: Enwi’n 'bartner cyflawni' ar gyfer ardoll ymwelwyr a chofrestr genedlaethol o ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru
  • 2025: Codi £2 biliwn o refeniw treth

 

Cyflwyniad

Mae'r cynllun corfforaethol hwn yn nodi dechrau esblygiad sylweddol i ni, wrth i ni wneud mwy i gyflawni dros Gymru.

Rydym yn adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru, a grëwyd er mwyn cydweithio i reoli trethi datganoledig Cymru. Mae'r trethi hyn wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn ein cymunedau yng Nghymru.

Ein pwrpas yw dylunio a darparu gwasanaethau refeniw ac arwain ar wneud gwell defnydd o ddata trethdalwyr Cymru.

Ein nod yw cyflawni hyn drwy:

  • ei gwneud yn hawdd gwneud y peth iawn 
  • bod yn deg ac yn gyson yn y ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau 
  • bod yn sefydliad cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar y dyfodol.

Rydym yn cyflogi dros 100 o bobl gyda sgiliau a phrofiad sy’n rhychwantu 14 o broffesiynau. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith sy'n cynnig cydbwysedd synhwyrol rhwng bywyd a gwaith, rolau sydd â phwrpas a hyblygrwydd.

Hyd yn hyn rydym wedi bod yn gyfrifol am y Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. At ddiben y cynllun corfforaethol, rydym wedi cymryd yn ganiataol bod y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) yn cael ei basio yn ystod haf 2025. Bydd hyn yn golygu y byddem hefyd yn gyfrifol am gasglu a rheoli'r ardoll ymwelwyr ac am weithredu'r chofrestr genedlaethol o ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru.

Byddwn yn symud tuag at fod yn sefydliad sy'n seiliedig ar wasanaethau sy'n cymhwyso egwyddorion Ein Dull i'n meysydd gwaith ychwanegol mewn ffyrdd newydd. Byddwn hefyd yn aeddfedu'r dull hwn ar gyfer ein trethi cyfredol. Mae cydweithredu’n rhan o'n cyfansoddiad sefydliadol. Bydd ein partneriaethau gydag awdurdodau lleol a sefydliadau sector cyhoeddus eraill yn cryfhau ein heffaith, ar y cyd, er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i bobl Cymru.

Am y tro cyntaf byddwn yn ddarostyngedig i amryw o safonau rheoleiddiol a deddfwriaethol, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a Rheoliadau Safonau’r Gymraeg. Mae Ein Dull yn dangos ein bod wedi ymrwymo mewn ysbryd ac o ran cyflawni'r safonau hyn ers cryn amser. Yn benodol, rydym yn falch o'n gwasanaethau Cymraeg a'n hymrwymiad i weithio gyda phobl yn eu dewis iaith. Wrth i ni aeddfedu, rydym yn edrych ymlaen at eu hymgorffori ym mhopeth rydym yn ei wneud. Gallwch ddysgu mwy yn atodiad ein cynllun.

Datblygu Ein Dull 

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu system dreth deg i Gymru drwy Ein Dull - ffordd unigryw Gymreig o drethu. Mae'r dull hwn yn dechrau o sefyllfa o ymddiriedaeth uchel. Mae'n canolbwyntio ar gydweithio â threthdalwyr, cynrychiolwyr, sefydliadau partner a'r cyhoedd er mwyn sicrhau ein bod yn casglu trethi yn deg ac yn effeithlon. 

Mae Ein Dull wedi'i ysbrydoli gan Ein Siarter, sy'n diffinio'r egwyddorion sy'n sail i'n gwaith. Caiff ei ysbrydoli gan 3 gair.

Cydweithio: Mae hyn y golygu gweithio gyda’n gilydd tuag at nod cyffredin.

Cadarnhau: Mae hyn yn awgrymu cadernid y gellir dibynnu arno. Mae’n ymwneud â darparu sicrwydd, bod yn gywir ac atgyfnerthu ymddiriedaeth.

Cywiro: Ystyr llythrennol ‘cywiro’ yw 'dychwelyd at y gwir' ac mae'n ymwneud â sut rydym yn gweithio gyda phobl i ddatrys gwallau neu bryderon.

Trwy ymgorffori'r egwyddorion hyn, ein nod yw darparu gwasanaeth rhagorol sy'n cefnogi uchelgeisiau Cymru ar gyfer dyfodol teg a llewyrchus.

Rydym yn adolygu Ein Dull a'n Siarter yn rheolaidd er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn dal i fod yn effeithiol. Maen nhw’n cynrychioli ein hagwedd hirdymor tuag at ddatblygu cynaliadwy. Mae hyn yn sicrhau eglurder a chysondeb yn y ffordd yr ydym yn gweithio drwy gydol oes pob cynllun corfforaethol.

Datblygu ein gwasanaethau

Rydym wedi cychwyn ar ein taith tuag at ddod yn sefydliad sy'n seiliedig ar wasanaethau – gweledigaeth a nodir yn ein cynllun corfforaethol diwethaf.

Mae hyn yn golygu y byddwn yn:

  • ei gwneud yn haws ac yn decach cefnogi pobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau, nawr ac yn y dyfodol
  • dysgu, yn addasu ac yn gwella’n barhaus er mwyn diwallu anghenion unigol pobl gan greu model cynaliadwy, y gellir ei ddefnyddio i gefnogi mwy o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol
  • cydweithio ac ymgysylltu â phobl sy'n defnyddio gwasanaethau yn unol ag ysbryd Ein Dull.

Cofrestru, treth a thalu fydd ein gwasanaethau o’r dechrau i’r diwedd. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio o amgylch ein defnyddwyr a byddan nhw’n gweithredu'n barhaus.

Gwneud y gorau o'n galluoedd

Mae gennym eisoes gyfoeth o brofiad o ran dylunio a rheoli trethi ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi twf a datblygiad personol ein pobl. Ein nod yw grymuso ein pobl gyda sgiliau, arbenigedd a'r hyder i arwain. 

Rydym yn tyfu ein galluoedd digidol, data a thechnoleg mewnol. Bydd ein timau'n hyblyg, yn amlddisgyblaethol ac yn canolbwyntio ar ddysgu parhaus.

Bydd yr ymrwymiad hwn i ddatblygu ein galluoedd mewnol yn ein helpu i strwythuro ein sefydliad o amgylch gwasanaethau a'r bobl sy'n eu defnyddio. Bydd yn ein gwneud yn fwy gwydn yn wyneb heriau'r dyfodol ac yn lleihau ein dibyniaeth ar bartneriaid allanol.

Sut rydym yn newid

Rydym yn dechrau cyfnod newydd fel sefydliad. Byddwn yn datblygu'r ffordd rydym yn gweithio wrth i ni weithredu'r ardoll ymwelwyr a’r gofrestr genedlaethol o ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru. Ein nod craidd yw parhau â'r rhagoriaeth yr ydym wedi gweithio tuag ato wrth ddarparu gwasanaethau treth hyd yn hyn. Rydym yn sylweddoli bod heriau o'n blaenau. Byddwn yn defnyddio ein profiad a'n harbenigedd ac yn aros yn driw i'n Dull er mwyn ein sefydlogi.

Byddwn yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol: 

  • ehangu ein hamcanion strategol
  • esblygu Ein Dull
  • meithrin ein diwylliant
  • cryfhau ein partneriaethau 

Ehangu ein hamcanion strategol

Erbyn i'r cynllun corfforaethol hwn ddod i ben, byddwn wedi bod yn casglu a rheoli trethi datganoledig ers 10 mlynedd. Rydym bellach wedi aeddfedu i fod yn rhan o gyfansoddiad sector cyhoeddus Cymru ac mae hynny'n golygu mwy o gyfrifoldeb ac atebolrwydd. Yn benodol, mae'n rhaid i ni gydymffurfio â safonau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a Rheoliadau Safonau’r Gymraeg.

Mae Ein Dull a'n Siarter eisoes yn cyd-fynd ag egwyddor datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Mae hyn yn golygu ein bod wedi ymrwymo i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol pobl Cymru. Ac rydym bob amser wedi cefnogi'r 5 prif ffordd o weithio a nodir yn y Ddeddf: hirdymor, atal, integreiddio, cydweithio a chynnwys.

Byddwn yn siarad yn fwy eglur am sut yr ydym yn cynnal ac yn hyrwyddo'r safonau hyn. Yr atodiad i'n cynllun yw'r 'datganiad llesiant' y mae'n rhaid i ni ei gyhoeddi er mwyn cydymffurfio â'r Ddeddf.

O ystyried eu pwysigrwydd rydym wedi penderfynu gwneud y safonau’n nodwedd amlwg o'n hamcanion strategol, ochr yn ochr â'n hamcanion cydraddoldeb. Rydym hefyd eisiau bod yn gynaliadwy ac yn y sefyllfa orau bosibl ar gyfer cyflawni er lles hirdymor Cymru. Felly mae'r ffocws hwn ar y dyfodol yn amcan strategol amlwg arall i ni.

Rydym hefyd wedi cadw hawdd a theg fel amcanion strategol ar gyfer y cyfnod hwn gan mai dyma mae pobl yn ei ddisgwyl o'n gwasanaethau.

Esblygu Ein Dull

Mae defnyddio'r ffordd Gymreig o drethu, Ein Dull, ar gyfer rheoli trethi Cymru wedi bod yn llwyddiannus. Gan ddechrau o sefyllfa o ymddiriedaeth uchel, rydym wedi datblygu'r model hwn dros amser er mwyn ein galluogi i sicrhau bod y gyfran fwyaf posibl o dreth yn cael ei thalu’n gywir y tro cyntaf. Mae hefyd yn gwella ein gallu i reoli risg treth (meysydd risg rydym wedi'u nodi, lle mae trethdalwyr yn fwy tebygol o gael eu trethi’n anghywir).

Mae'r manteision yn amlwg, ac rydym wedi defnyddio Ein Dull i'n harwain mewn sawl ffordd, o newidiadau digidol i gynnal fforymau treth addysgol a'r ffordd rydym yn ymdrin ag ymholiadau. Mae'r ffordd yr ydym yn cymhwyso Ein Dull yn esblygu'n gyson ac ni fydd byth wedi’i gwblhau.

Nawr rydym yn edrych ymlaen at ei gymhwyso mewn cyd-destun mwy lleol, gan weithio ochr yn ochr â'n partneriaid mewn awdurdodau lleol ac ystod ehangach o gwsmeriaid i ddarparu'r ardoll ymwelwyr a'r gofrestr genedlaethol o ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru. 

Meithrin ein diwylliant

Rydym yn sefydliad pobl a'n diwylliant yw ein pwynt gwerthu unigryw – ein USP. Mae gennym weithlu sy'n ymgysylltiedig iawn, fel y dengys ein canlyniadau ymgysylltiad yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil. Rydym yn gwybod mai canlyniad ymgysylltiad uchel yw perfformiad o safon uchel. Ond gyda dyfodiad yr ardoll ymwelwyr a'r gofrestr genedlaethol o ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru bydd angen i ni dyfu fel sefydliad. 

Rydym am ddiogelu'r diwylliant rydym wedi'i feithrin drwy gydweithio fel tîm. Rydym am barhau i fod yn lle sydd â phwrpas, lle mae pobl yn dod i dyfu eu gyrfa, gwneud gwaith diddorol a phwysig, a gwneud gwahaniaeth i bobl Cymru.

Cryfhau ein partneriaethau 

Rydym ar ein gorau pan fyddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill - bydd y rhain yn ganolog i'n llwyddiant, fel y bydd ein perthynas gyda'n cwsmeriaid. Byddwn yn dyfnhau ein partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn defnyddio pwerau’r 2 sefydliad ymhellach i fynd i'r afael â throseddau gwastraff. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar ddylunio gwasanaethau refeniw newydd. Byddwn hefyd yn cryfhau ein gwaith gydag awdurdodau treth eraill.

Y ogystal, byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid newydd i sicrhau bod yr ardoll ymwelwyr a'r gofrestr genedlaethol o ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru yn llwyddiant. Rydym eisiau partneru gydag awdurdodau lleol a'r sector llety ymwelwyr.

Ein hamcanion strategol 

Hawdd 

Byddwn yn ei gwneud yn hawdd gwneud y peth iawn trwy:

Bod yn hygyrch, yn gefnogol ac yn rhagweithiol

  • Byddwn yn annog cwsmeriaid i wirio’u hymholiadau gyda ni er mwyn datrys cymaint ohonynt â phosibl y tro cyntaf.
  • Byddwn yn sicrhau bod ein gwasanaethau'n hygyrch i bawb.

Cynnig gwasanaethau sy'n helpu pobl i wneud yr hyn y maen nhw am ei wneud

  • Byddwn yn diwygio ein gwasanaethau cyfredol ac yn dylunio rhai newydd gan roi’r defnyddiwr yn ganolbwynt iddynt.
  • Byddwn yn gweithio gyda chwsmeriaid i'w hannog a'u cefnogi i gywiro pethau. 

Gwneud defnyddio'r Gymraeg yn hawdd i bawb 

  • Byddwn yn cefnogi ein pobl i allu cyrraedd lefel o gwrteisi yn Gymraeg. 
  • Byddwn yn cynyddu ein defnydd o'r Gymraeg yn fewnol ac yn tyfu o ran ein hyder. 
  • Byddwn yn annog ein defnyddwyr gwasanaeth i gyfathrebu â ni yn Gymraeg. 

Teg

Byddwn yn deg ac yn gyson yn y ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau trwy: 

Ei gwneud yn fwy anodd gwneud y peth anghywir 

  • Byddwn yn defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar ddata i nodi risgiau. 
  • Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i adolygu ein canllawiau, ein systemau a’n prosesau. 
  • Byddwn yn ceisio newid deddfwriaethol, lle bo hynny'n briodol, er mwyn mynd i'r afael â risgiau. 

Cyflawni ein hamcanion cydraddoldeb

  • Byddwn yn meithrin gweithle teg a chynhwysol lle gall ein pobl ffynnu. 
  • Byddwn yn cynyddu ein dealltwriaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant er mwyn dileu gwahaniaethu a rhagfarn wrth ddarparu gwasanaethau. 
  • Byddwn yn sicrhau cydraddoldeb yn ein proses gaffael. 

Cymryd camau i gywiro pethau 

  • Byddwn yn cynyddu ein gweithgarwch ar liniaru risg ac adfer treth.
  • Byddwn yn defnyddio ein pwerau’n deg i nodi osgoi ac efadu ac yn cymryd y camau cywir i adennill treth sydd heb ei thalu. 

Cynaliadwy

Byddwn yn sefydliad cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar y dyfodol trwy:

Meithrin gallu er mwyn bod yn fwy gwydn

  • Byddwn yn dod yn sefydliad seiliedig ar wasanaethau sy'n cynnig gwasanaethau cyson.
  • Byddwn yn adeiladu ein capasiti a'n gallu mewnol ac yn dibynnu llai ar eraill wrth i ni gyflawni dros Gymru. 

Gwneud y gorau o’n hadnoddau

  • Byddwn yn alinio ein dyluniad sefydliadol â’n gwasanaethau.
  • Byddwn yn cefnogi ein pobl i ddatblygu eu sgiliau ac adeiladu gyrfaoedd y tu hwnt i ni er mwyn parhau i ddarparu ar gyfer Cymru.
  • Byddwn yn sicrhau bod ein llywodraethiant yn grymuso ein pobl i wneud penderfyniadau ar y lefel gywir. 

Adeiladu partneriaethau mwy newydd a chryfach

  • Byddwn yn dylunio ein gwasanaethau ar gyfer yr ardoll ymwelwyr a’r gofrestr genedlaethol o ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru mewn partneriaeth â busnesau, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.
  • Byddwn yn parhau i gefnogi Llywodraeth Cymru i ddylunio a darparu gwasanaethau refeniw.
  • Byddwn yn dyfnhau ein partneriaethau gyda'n partneriaid cyflenwi. 

Ein mesurau

Mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar wasanaethau

Bydd ein mesurau "Hawdd a Theg" yn parhau i ganolbwyntio ar ein dull sy'n seiliedig ar wasanaethau. Mae hyn yn golygu y byddwn yn gwerthuso ein gwaith fel gwasanaethau o'r dechrau i'r diwedd, o safbwynt y cwsmer. Rydym yn ymdrîn â thaith gyfan y cwsmer, o gofrestru i gyfrifo’u treth a’u taliad terfynol. Mae trefnu ein mesurau fel hyn yn ein galluogi i asesu llwyddiant yn fwy effeithiol a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â phrofiadau ein cwsmeriaid. 

Mae'n anodd mesur cynaliadwyedd sefydliad, felly rydym wedi dewis sawl mesur sydd, yn ein barn ni, yn rhoi golwg cyflawn ar iechyd y sefydliad a sut mae'n diwallu anghenion hirdymor Cymru. Efallai y byddwn yn esblygu'r rhain dros gyfnod y cynllun corfforaethol hwn.

Hawdd 

Gwasanaeth Treth 
  • 90% o ymatebwyr yr arolwg yn dweud bod ein gwasanaethau'n hawdd eu defnyddio.
  • Gostyngiad yn yr amser cyfartalog ar gyfer prosesu achosion.
  • Amser cyfartalog o ddim mwy na 10 diwrnod ar gyfer prosesu achos ad-daliad cyfraddau uwch. 
Gwasanaeth Talu 
  • 90% o ymatebwyr yr arolwg yn dweud bod ein gwasanaethau'n hawdd eu defnyddio.
  • Gostyngiad yn yr amser cyfartalog ar gyfer prosesu achosion.
  • 97% o'r taliadau a wneir yn gywir y tro cyntaf. 

Teg 

Gwasanaeth Treth 

Yn ein proffiliau risg treth gweithredol byddwn yn: 

  • lleihau cyfran y ffurflenni treth sy'n cael eu nodi fel rhai sy’n peri risg
  • cynnal proses adfer treth sy'n gymesur â'r lefelau risg
  • cynyddu cyfran yr ymchwiliadau lle mae swm o dreth yn cael ei adennill neu ei ddiogelu
  • lleihau'r amser y mae'n ei gymryd i gwblhau ymchwiliad treth 
Gwasanaeth Talu 
  • 99% o'r dreth a godwyd yn yr un cyfnod y llynedd bellach wedi cael ei gasglu.
  • 95% o'r cosbau a godwyd yn yr un cyfnod y llynedd bellach wedi cael eu casglu.
  • Cyfartaledd yr amser y mae’n ei gymryd i gasglu dyledion.
  • Oedran cyfartalog dyledion sy'n ddyledus. 

Cynaliadwy 

Beth rydym yn ei fesur a sut rydym yn ei fesur.

Awtomeiddiad 

Ni fydd angen ymyrraeth â llaw ar 98% o achosion rhwng derbyn taliad a chau’r achos. 

Ymgysylltiad Staff 

Naratif ynglŷn â sut yr ydym yn parhau i fod yn un o'r sefydliadau gwasanaeth sifil uchaf ei safle i weithio ynddo. 

Defnyddio'r Gymraeg 

Adroddiad naratif ar ein defnydd o’r Gymraeg.

Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Adroddiad naratif ar sut rydym yn ymgorffori’r 5 ffordd o weithio yn y sefydliad.

Ein datganiad llesiant

Mae'r datganiad hwn, a gyhoeddwyd yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn esbonio sut yr ydym yn ymgorffori datblygu cynaliadwy yn amcanion ACC er mwyn cefnogi'r 7 nod llesiant. 

Y nodau llesiant

Mae 7 nod llesiant cysylltiedig ar gyfer Cymru, sef: 

  1. Cymru lewyrchus.
  2. Cymru gydnerth.
  3. Cymru iachach.
  4. Cymru sy’n fwy cyfartal.
  5. Cymru o gymunedau cydlynus.
  6. Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.
  7. Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Mae disgrifiad llawn o'r nodau ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Mae'r nodau llesiant hyn wedi'u seilio ar Fframwaith Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol. Mae hwn yn darparu cyfres o ganlyniadau mesuradwy ar gyfer pob nod drwy ddangosyddion llesiant penodol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.

Ein hamcanion llesiant 

Rydym mewn lle unigryw o fewn sector cyhoeddus Cymru. Rydym yn codi refeniw y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio i gyflawni ei hamcanion, yn aml drwy ariannu gweithgareddau cyrff eraill yn y sector cyhoeddus. Rydym yn cyfrannu at lesiant Cymru drwy gasglu'r refeniw hwnnw'n effeithlon.

Mae ein swyddogaethau statudol wedi'u nodi yn Neddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 a Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'n rhaid i ni ddefnyddio ein hadnoddau i gyflawni'r swyddogaethau statudol hyn yn effeithiol. Ein cyfraniad uniongyrchol pennaf i lesiant Cymru yw'r ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau i bobl Cymru.

Amcanion strategol ein cynllun corfforaethol yw ein hamcanion llesiant hefyd. Yn gryno, yr amcanion hyn yw: 

  • Hawdd – Byddwn yn ei gwneud yn hawdd gwneud y peth iawn.
  • Teg – Byddwn yn deg ac yn gyson yn y ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau.
  • Cynaliadwy – Byddwn yn sefydliad cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar y dyfodol.

Dros y blynyddoedd nesaf, byddwn yn dod yn sefydliad sy'n canolbwyntio fwyfwy ar wasanaethau, gan weithredu ac ymestyn model sy'n canolbwyntio ar y cwsmer er mwyn cyflawni ein trethi presennol a'n swyddogaethau yn y dyfodol.

Bydd yr amcanion strategol hyn, o'u cyflawni trwy Ein Dull ac wedi'u hategu gan Ein Siarter, yn cyfrannu at y 7 nod llesiant. Mae ein cylch gwaith yn golygu ein bod yn cyfrannu at rai nodau yn fwy nag eraill. Dangosir isod sut mae ein hamcanion strategol yn adlewyrchu nodau llesiant penodol. 

Gosod a gweithredu ein hamcanion 

Ym mhob cylch cynllun corfforaethol rydym yn gosod camau gweithredu wedi'u targedu, o dan yr amcanion strategol. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar yr hyn y gellir ei gyflawni o fewn amserlen y cynllun. Bydd ein hamcanion llesiant yn cael eu hadolygu a'u diweddaru os oes angen fel rhan o'n cylch cynllunio corfforaethol. 

Cynnwys ein pobl a'n partneriaid 

Mae partneriaethau'n ganolog i'r hyn yr ydym yn ei wneud. Mae ein llwyddiannau’n perthyn i'n pobl i gyd. Rydym yn gwerthfawrogi eu harbenigedd o ran darparu gwasanaethau. Maen nhw’n chwarae rhan allweddol o ran cyflawni ein hamcanion a'n nodau llesiant.

Rydym yn ddarostyngedig i'r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol y mae angen i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ei bodloni. Mae hyn yn golygu ein bod yn cynnwys pawb sy'n cyfrannu at yr hyn yr ydym yn ei wneud wrth i ni drafod yr heriau sy'n ein hwynebu a’r datrysiadau posibl. 

Rydym wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda'n partneriaid undeb llafur. Buom yn gweithio gyda'n partneriaid undeb llafur i greu in hamcanion, gan ystyried eu hadborth wrth fireinio Ein Dull. Mae hyn wedi sicrhau eu cefnogaeth lawn i'n hamcanion. 

Adrodd ar gynnydd llesiant 

Byddwn yn cyflwyno adroddiadau partneriaeth gymdeithasol i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol. Bydd ein hadroddiad cyntaf o'r fath yn cael ei gyflwyno yn 2026.

Mae integreiddio ein hamcanion strategol gyda'n hamcanion llesiant yn golygu bod llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn rhan annatod o'n gwaith. Byddwn yn adolygu'r amcanion hyn yn rheolaidd ac yn cyhoeddi gwybodaeth glir yn adroddiadau a chyfrifon blynyddol ACC yn y dyfodol. 

Rydym hefyd yn ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Rydym yn adrodd ar y gwaith yr ydym yn ei wneud i gefnogi cydraddoldeb a hawliau dynol yn ein hadroddiad blynyddol ar gydraddoldeb a'n hamcanion strategol.

Amcanion Llesiant Strategol a chamau gweithredu ACC 

Bod yn hygyrch, yn gefnogol ac yn rhagweithiol

Byddwn yn:

  • annog cwsmeriaid i wirio ymholiadau gyda ni er mwyn datrys cymaint ohonynt â phosibl y tro cyntaf 
  • sicrhau bod ein gwasanaethau'n hygyrch i bawb

Mae hyn yn ategu nodau 1 i 7. Gwelwch y rhestr lawn o nodau llesiant.

Cynnig gwasanaethau sy'n helpu pobl i wneud yr hyn y maen nhw am ei wneud 

Byddwn yn:

  • diwygio ein gwasanaethau cyfredol ac yn dylunio rhai newydd gan roi’r defnyddiwr yn ganolbwynt iddynt
  • gweithio gyda chwsmeriaid i'w hannog a'u cefnogi i gywiro pethau

Mae hyn yn ategu nodau 1 i 5. Gwelwch y rhestr lawn o nodau llesiant.

Gwneud defnyddio'r Gymraeg yn hawdd i bawb 

Byddwn yn:

  • cefnogi ein pobl i allu cyrraedd lefel o gwrteisi yn Gymraeg
  • cynyddu ein defnydd o'r Gymraeg yn fewnol ac yn tyfu ein hyder
  • annog ein defnyddwyr gwasanaeth i gyfathrebu â ni yn Gymraeg

Mae hyn yn ategu nodau 1,3,4,5,6,7. Gwelwch y rhestr lawn o nodau llesiant.

Ei gwneud yn fwy anodd gwneud y peth anghywir

Byddwn yn:

  • defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar ddata i nodi risgiau
  • defnyddio'r wybodaeth hon i adolygu ein canllawiau, ein systemau a’n prosesau
  • ceisio newid deddfwriaethol, lle bo hynny'n briodol, er mwyn mynd i'r afael â risgiau 

Mae hyn yn ategu nodau 3 i 5. Gwelwch y rhestr lawn o nodau llesiant.

Cyflawni ein hamcanion cydraddoldeb 

Byddwn yn:

  • meithrin gweithle teg a chynhwysol lle gall ein pobl ffynnu
  • cynyddu ein dealltwriaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant er mwyn dileu gwahaniaethu a rhagfarn wrth ddarparu gwasanaethau
  • Byddwn yn sicrhau cydraddoldeb yn ein proses gaffael

Mae hyn yn ategu nodau 1,3,4,5. Gwelwch y rhestr lawn o nodau llesiant.

Cymryd camau i gywiro pethau 

Byddwn yn:

  • cynyddu ein gweithgarwch ar liniaru risg ac adfer treth
  • defnyddio ein pwerau’n deg i nodi osgoi ac efadu ac yn cymryd y camau cywir i adennill treth sydd heb ei thalu

Mae hyn yn ategu nodau 1,2,3,5,6,7. Gwelwch y rhestr lawn o nodau llesiant.

Meithrin gallu er mwyn bod yn fwy gwydn

Byddwn yn:

  • dod yn sefydliad seiliedig ar wasanaethau sy'n cynnig gwasanaethau cyson
  • adeiladu ein capasiti a'n gallu mewnol ac yn dibynnu llai ar eraill wrth i ni gyflawni dros Gymru

Mae hyn yn ategu nodau 1,3,4. Gwelwch y rhestr lawn o nodau llesiant.

Gwneud y gorau o’n hadnoddau

Byddwn yn: 

  • alinio ein dyluniad sefydliadol â’n gwasanaethau
  • cefnogi ein pobl i ddatblygu eu sgiliau a chreu gyrfaoedd sy'n darparu ar gyfer Cymru
  • sicrhau bod ein llywodraethiant yn grymuso ein pobl i wneud penderfyniadau ar y lefel gywir 

Mae hyn yn ategu nodau 1,2,3,4.7. Gwelwch y rhestr lawn o nodau llesiant.

Adeiladu partneriaethau mwy newydd a chryfach

Byddwn yn: 

  • dylunio ein gwasanaethau ar gyfer yr ardoll ymwelwyr a’r gofrestr genedlaethol o ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru mewn partneriaeth â busnesau, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.
  • parhau i gefnogi Llywodraeth Cymru i ddylunio a darparu gwasanaethau refeniw
  • dyfnhau ein partneriaethau gyda'n partneriaid cyflenwi 

Mae hyn yn ategu nodau 1 i 7. Gwelwch y rhestr lawn o nodau llesiant.