Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 yn diwygio Deddf Adeiladau 1984 sy'n cynnwys darpariaeth ar gyfer cofrestru arolygwyr adeiladu (unigolion, i'w galw'n Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu) a chymeradwywyr rheolaeth adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu). 

Mae adran 105B o Ddeddf Adeiladu 1984 yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i godi ac adennill tâl mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau perthnasol o dan Ddeddf Adeiladu 1984. Disgrifir swyddogaethau'r proffesiwn rheolaeth adeiladu y codir tâl amdanynt yn Rheoliadau Proffesiwn Rheolaeth Adeiladu (Taliadau) (Cymru) 2023 (“y Rheoliadau"). O dan y Rheoliadau, caniateir nodi, mewn cynllun codi tâl, y taliadau y caiff Gweinidogion Cymru eu hadennill am gyflawni swyddogaethau y gellir codi amdanynt. Mae'r ddogfen hon yn ateb y gofyn hwnnw.  

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i gytundeb i neilltuo eu swyddogaethau o dan Ran 2A o Ddeddf Adeiladu 1984 i'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu ("BSR"). Felly, mae cyfeiriadau yn y ddogfen hon at Weinidogion Cymru yn golygu hefyd y BSR sy'n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru. 

Bydd cost cyflawni'r swyddogaethau, y penderfynir arnynt gan y BSR ar ran Gweinidogion Cymru, yn cael ei hadennill drwy godi tâl er mwyn gwneud yn siŵr mai'r rheini sy'n elwa ar y gwasanaeth sy'n ysgwyddo'r gost. Rydym yn cynnig trefn gymesur lle codir y gost fwyaf ar y rheini sy'n cynnal y gweithgareddau sy'n gofyn am y lefel uchaf o ymyrraeth a goruchwylio.

Disgrifir y tâl a godir a sut i'w gyfrif yn y ddogfen hon oni bai bod fersiwn newydd o'r cynllun codi tâl yn cael ei gyhoeddi i gymryd ei lle.

Disgrifiad o'r cynllun codi tâl

Mae atodlenni'r cynllun codi tâl yn esbonio:

  • y swyddogaethau y codir tâl amdanynt;
  • y sbardun ar gyfer codi tâl am bob gweithgaredd;
  • pwy sydd i dalu am y gweithgaredd y codir tâl amdano (fel y'i diffinnir yn y Rheoliadau);
  • faint fydd y tâl sy'n daladwy; a
  • deddfwriaeth berthnasol sy'n cwmpasu'r gweithgaredd hwnnw.

Mae atodlenni'r cynllun codi tâl yn cynnwys rhagor o wybodaeth sy'n esbonio sut mae taliadau'n cael eu cyfrifo; sut mae taliadau ac ad-daliadau yn cael eu prosesu; a'r broses ymholiadau ac unioni anghydfodau. Gan fod Gweinidogion Cymru wedi neilltuo'r swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt, ac adennill y taliadau ar gyfer y swyddogaethau hynny, i'r BSR, gwelir yr wybodaeth hon yn yr Atodiadau yn y Cynllun codi tâl BSR.

Bydd y gyfradd fesul awr o amser staff yn cael ei chymhwyso i'r holl amser a dreulir yn cyflawni'r swyddogaethau ac fe'i defnyddir i gyfrifo'r tâl a godir am y swyddogaethau perthnasol. Mae hyn yn golygu y bydd y taliadau'n ddigonol, o gymryd un flwyddyn gyda'r llall, i dalu am y gwariant a ysgwyddir gan neu ar ran Gweinidogion Cymru mewn perthynas â'r swyddogaethau y codir tâl amdanynt. 

Codir y tâl pan gaiff y swyddogaethau eu cyflawni.  Pan ddarperir ffigurau ar gyfer swyddogaethau nad ydynt mewn grym eto, byddant yn symiau dangosol yn unig a gellir eu newid. 

Mae'r cynllun codi tâl yn darparu'r buddion canlynol i randdeiliaid Gweinidogion Cymru:

  • tryloywder - mae'r cynllun codi tâl yn nodi'r egwyddorion a ddefnyddir wrth gyfrifo tâl, a pha weithgaredd y codir tâl amdano.
  • hyblygrwydd a thegwch - mae'r cynllun codi tâl yn cynnig mwy o hyblygrwydd i newid taliadau (gan y bydd y cynllun yn rhywbeth ar wahân i'r Rheoliadau) er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r gwir gost. Gall olygu gostwng neu gynyddu'r tâl.
  • atebolrwydd - mae'r cynllun codi tâl yn rhoi eglurder i'r rheini y codir tâl arnynt.

Pa swyddogaethau y byddwn yn codi tâl amdanynt

Mae'r atodlenni canlynol yn rhoi manylion y swyddogaethau y codir tâl amdanynt o dan y Rheoliadau, pwy fydd yn talu a sail y taliadau hynny.

Atodlen 1 Rheoliad 3(2)(a)

  • penderfynu ar gais a wneir o dan adran 58D o'r Ddeddf i gofrestru person yn arolygydd adeiladu a chynnal y gofrestr o dan adran 58C o’r Ddeddf, gan gynnwys amrywio neu ganslo cofrestriad o dan adran 58E o’r Ddeddf.

Disgrifiad

Cofrestru unigolyn sydd am gael ei gofrestru fel arolygydd adeiladu. 

Codir tâl pan gaiff cais i gofrestru ei wneud (gan gynnwys cais i ail-gofrestru). Bydd y tâl cofrestru cychwynnol yn cynnwys costau gweinyddol cychwynnol, costau asesu gan y Gweinidogion Cymru a chostau rhedeg systemau sy'n codi o asesu'r cais. Yn ogystal, bydd tâl cynnal a chadw blynyddol am gostau gweinyddu a systemau, gan gynnwys monitro a diweddaru'r gofrestr. Bydd y tâl yn cynnwys hefyd unrhyw asesiad a gwaith i newid y cofrestriad, gan gynnwys newid dosbarth o fewn y cyfnod cofrestru o 4 blynedd.

(Fel y darperir ar ei gyfer o dan Ran 2A, adrannau 58C i 58E, o Ddeddf Adeiladu 1984).

Sbardun

Cyflwyno cais i gofrestru a/neu gost cynnal a chadw blynyddol yn dod yn ddyledus i Weinidogion Cymru.

Swm sy'n daladwy

Tâl o £336 gyda chais i gofrestru (fydd yn para 4 blynedd pe bai'n cael ei roi);

  • ynghyd â tâl cynnal a chadw blynyddol o £216 o flwyddyn 2.
  • ynghyd ag unrhyw gostau i Weinidogion Cymru o ddefnyddio trydydd partïon fel arbenigwyr.

Yn unol â Rheoliad 8(5) o'r rheoliadau, gall Gweinidogion Cymru ystyried ad-dalu rhan o'r tâl cofrestru, os bydd yr arolygydd cofrestredig adeiladu yn gofyn am gael canslo ei gofrestriad neu dynnu ei gais yn ôl. Penderfynir ar bob ad-daliad yn ôl ei rinweddau.

Telir gan 

Ceisydd.

Gallai Gweinidogion Cymru wrthod diweddaru cofrestriad presennol neu ailgofrestru ceisydd lle nad yw taliadau cofrestru (gan gynnwys unrhyw daliadau cynnal a chadw) wedi’u talu, gan gynnwys unrhyw daliadau yn y cyfnod cofrestru blaenorol. 

Atodlen 2 Rheoliad 3(2)(b)

  • penderfynu ar gais i gofrestru person yn gymeradwywr rheolaeth adeiladu a wneir o dan adran 58P o’r Ddeddf a chynnal y gofrestr o dan adran 58O o’r Ddeddf, gan gynnwys amrywio neu ganslo cofrestriad a dan adran 58Q o’r Ddeddf.

Disgrifiad

Cofrestru unrhyw berson neu sefydliad sydd am gael ei gofrestru fel cymeradwywr rheolaeth adeiladu.

Codir tâl pan gaiff cais i gael ei gofrestru ei wneud (gan gynnwys cais i ail-gofrestru). Bydd y tâl cofrestru cychwynnol yn cynnwys costau gweinyddol cychwynnol, costau asesu Gweinidogion Cymru, a chostau rhedeg systemau sy'n codi o asesu'r cais. Cod tâl hefyd ar gyfradd fesul awr ar gyfer asesu'r cais.

Yn ogystal, bydd tâl cynnal a chadw blynyddol am gostau gweinyddu a systemau, gan gynnwys monitro a diweddaru'r gofrestr. Mae'r tâl ymgeisio a'r tâl cynnal a chadw blynyddol yn cynnwys hefyd unrhyw asesiad a gwaith i newid y cofrestriad o fewn y tymor cofrestru o 5 mlynedd.

(Fel y darperir ar ei gyfer o dan Ran 2A, adran 58O i 58Q, o Ddeddf Adeiladu 1984).

Sbardun

Cyflwyno cais i gofrestru a/neu gost cynnal a chadw blynyddol yn dod yn ddyledus i Weinidogion Cymru.

Swm sy'n daladwy

Tâl o £4,494 gyda chais i gofrestru (fydd yn para 5 mlynedd pe bai'n cael ei roi);

  • ynghyd â £130 am bob awr a weithir i gynnal yr asesiad;
  • ynghyd â tâl cynnal a chadw blynyddol o £3,439 o flwyddyn 2.
  • ynghyd ag unrhyw gostau i Weinidogion Cymru o ddefnyddio trydydd partïon fel arbenigwyr.

Yn unol â Rheoliad 8(5) o'r rheoliadau, gall Gweinidogion Cymru ystyried ad-dalu rhan o'r tâl cofrestru ar gais os bydd y cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu yn gofyn am gael canslo ei gofrestriad neu’n tynnu ei gais yn ôl. Penderfynir ar bob ad-daliad yn ôl ei rinweddau. 

Telir gan

Y Ceisydd.

Gallai Gweinidogion Cymru wrthod diweddaru cofrestriad presennol neu ailgofrestru ceisydd lle nad yw taliadau cofrestru (gan gynnwys unrhyw daliadau cynnal a chadw) wedi’u talu, gan gynnwys unrhyw daliadau yn y cyfnod cofrestru blaenorol. 

Atodlen 3 Rheoliad 3(2)(h)

  • goruchwylio cyrff rheolaeth adeiladu
  • arolygu awdurdod lleol neu gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu o dan adran 58Z8 o Ddeddf Adeiladu 1984 gan Weinidogion Cymru.

Disgrifiad

Arolygiadau (archwiliadau) gan Weinidogion Cymru o gyrff rheolaeth adeiladu (awdurdodau lleol neu gymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu).

(Pwerau arolygu o dan adran 58Z8 o Ddeddf Adeiladu 1984).

Sbardun

Arolygiad (archwiliad) cyfnodol neu ragweithiol gan Weinidogion Cymru

Swm sy'n daladwy

£130 fesul awr a weithir.

  • ynghyd ag unrhyw gostau i Weinidogion Cymru o ddefnyddio trydydd partïon fel arbenigwyr.

Telir gan 

Y corff rheolaeth adeiladu (awdurdod lleol neu gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu).

Atodlen 4 Rheoliadau 3(2)(c) ac (f)

  • goruchwylio proffesiwn rheolaeth adeiladau/cymeradwywyr cofrestredig adeiladu – ymyrraeth fonitro a rheoleiddio i sicrhau cydymffurfiaeth.

Disgrifiad

Ymchwiliadau gan Weinidogion Cymru i gamymddwyn proffesiynol gan arolygwyr adeiladau cofrestredig neu i dorri cod ymddygiad, o dan reoliad 3(2)c), ac unrhyw ymyrraeth trwy reoliadau i sicrhau cydymffurfiaeth (gan gynnwys, ymhlith eraill, newid, atal neu ganslo cofrestriad arolygydd) o dan reoliad 3(2)(f).

(Fel y darperir ar ei gyfer o dan Ran 2A o Ddeddf Adeiladu 1984).

Sbardun

Pan ddaw Gweinidogion Cymru yn ymwybodol o gamymddwyn, tramgwydd neu o dorri amodau.

Swm sy'n daladwy

£130 fesul awr a weithir;

  • ynghyd ag unrhyw gostau i Weinidogion Cymru o ddefnyddio trydydd partïon fel arbenigwyr.

I'w dalu pan fydd Gweinidogion Cymru yn dod i'r casgliad bod camymddwyn, tramgwydd neu dorri amod o'r fath wedi digwydd.

Telir gan 

Y corff rheolaeth adeiladu (yr awdurdod lleol neu'r cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu) sy'n cyflogi'r arolygydd cofrestredig adeiladu.

Dalier sylw: Yn unol â rheoliad 6(3) o'r rheoliadau, rhaid i gyflogwr dalu unrhyw daliadau sy'n gysylltiedig â chydymffurfio sydd i'w dalu gan berson a oedd yn gweithredu yn ei rinwedd fel cyflogai.

Atodlen 5 Rheoliad 3(2)(d) i (f):

  • goruchwylio proffesiwn/cyrff rheolaeth adeiladu – ymyrraeth fonitro a rheoleiddio i sicrhau cydymffurfiaeth.

Disgrifiad

Ymchwiliadau gan Weinidogion Cymru i gamymddwyn proffesiynol neu unrhyw dorri rheolau ynghylch safonau gweithredol a'r rheolau ymddygiad proffesiynol sy'n gymwys i awdurdodau lleol neu gymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu o dan reoliadau 3(2)(d) a 3(2)(e), ac unrhyw ymyrraeth trwy reoliadau i sicrhau cydymffurfiaeth o dan reoliad 3(2)(f).

(Fel y darperir ar ei gyfer o dan Ran 2A o Ddeddf Adeiladu 1984).

Sbardun

Mae Gweinidogion Cymru yn dod yn ymwybodol o gamymddwyn, tramgwydd neu dorri rheol.

Swm sy'n daladwy

£130 fesul awr a weithir;

  • ynghyd ag unrhyw gostau i Weinidogion Cymru o ddefnyddio trydydd partïon fel arbenigwyr.

I'w dalu pan fydd Gweinidogion Cymru yn dod i'r casgliad bod camymddwyn, tramgwydd neu dorri amod o'r fath wedi digwydd.

Telir gan  

Y corff rheolaeth adeiladu (awdurdod lleol neu gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu).

Atodlen 6 Rheoliad 3(2)(f)

  • unrhyw gamau a gymerir gyda'r bwriad o sicrhau cydymffurfiaeth â Rhan 2A o'r Ddeddf neu ofyniad a osodir oddi tani, neu osod cosb am fynd yn groes i Ran 2A o'r Ddeddf neu ofyniad a osodwyd oddi tani

Disgrifiad

Unrhyw ymyrraeth trwy reoliad gan Weinidogion Cymru er mwyn neu mewn cysylltiad â sicrhau cydymffurfiaeth â Rhan 2A o Ddeddf Adeiladu 1984 neu mewn ymateb i dramgwydd yn ei herbyn, neu ofyniad a osodir oddi tani, ac eithrio am gamymddwyn proffesiynol neu dramgwydd a restrir yn atodlenni 4 a 5 y cynllun codi tâl hwn.

(Fel y darperir ar ei gyfer o dan Ran 2A o Ddeddf Adeiladu 1984).

Sbardun

Pan welir diffyg cydymffurfio neu amheuaeth o ddiffyg cydymffurfio.

Swm sy'n daladwy

£151 fesul awr sydd wedi'i weithio;

  • ynghyd ag unrhyw gostau i Weinidogion Cymru o ddefnyddio trydydd partïon fel arbenigwyr.

Telir gan  

Y parti yn amodol ar yr ymyrraeth reoleiddiol.

Atodlen 7 Rheoliad 3(2)(g)

  • unrhyw gam a gymerir er mwyn ymateb i apêl yn erbyn penderfyniad gan Weinidogion Cymru a wneir o dan Ran 2A o’r Ddeddf.

Disgrifiad

Gwaith a wneir i baratoi ar gyfer ac yn ystod unrhyw apêl yn erbyn penderfyniad gan Weinidogion Cymru, gan gynnwys unrhyw gysylltiad â'r apelydd i ddatrys yr anghydfod.

(Fel y darperir ar ei gyfer o dan adran 56 o Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022 ac Atodlen 6 i'r Ddeddf honno).

Sbardun

Cyflwyno apêl yn erbyn penderfyniad gan Weinidogion Cymru.

Swm sy'n daladwy

£151 fesul awr sydd wedi'i weithio;

  • ynghyd ag unrhyw gostau i Weinidogion Cymru o ddefnyddio trydydd partïon fel arbenigwyr.

Dalier sylw: I'w dalu os yw'r apêl yn aflwyddiannus neu'n cael ei thynnu'n ôl.

Telir gan 

Yr apelydd.