Neidio i'r prif gynnwy

Sut y byddwn yn storio ac yn prosesu eich manylion o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (Cynllun Cartrefi i Wcráin).

Rhan o:
Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Er mwyn rhoi cymorth i ddinasyddion Wcráin sy’n ffoi rhag y gwrthdaro yno, bydd Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn y sector cyhoeddus yn prosesu data personol adnabyddadwy’r bobl hynny, a'r rhai sy'n eu noddi i ddod i'r DU. Cesglir y data o ffynonellau lluosog, gan gynnwys adrannau Llywodraeth y DU, ac yn uniongyrchol gan unigolion. Ni fyddwn ond yn casglu’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i gefnogi dinasyddion Wcráin sy'n cael eu noddi i ddod i Gymru  naill ai gan Lywodraeth Cymru neu gan unigolion a sefydliadau eraill yn y DU.

Llywodraeth Cymru fydd rheolydd y data ar gyfer y data personol y mae’n ei gasglu, ac unrhyw ddata personol y mae adrannau Llywodraeth y DU yn ei rannu â ni. Byddwn yn prosesu’r data hwn yn unol â’n tasg gyhoeddus a’r awdurdod swyddogol sydd wedi’i freinio ynom. Pan fydd yr wybodaeth yn ddata categori arbennig, byddwn yn ei phrosesu er budd sylweddol y cyhoedd o ran amddiffyn pobl agored i niwed.

Bydd y data’n cael ei brosesu i gefnogi dinasyddion Wcráin pan fyddant yn cyrraedd Cymru a thra bydd unrhyw drefniadau noddi ar waith yng Nghymru. Bydd hyn at ddibenion darparu a rheoli gwasanaethau cymorth hanfodol i’r rheini sy’n cyrraedd Cymru, a chynnal gwiriadau diogelu gofynnol.

Byddwn yn rhannu’r wybodaeth angenrheidiol â thrydydd partïon, megis partneriaid yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol yng Nghymru, a chyda Llywodraeth y DU. Pan fo angen, byddwn hefyd yn rhannu gwybodaeth bersonol â phartneriaid yn y sector elusennol a’r sector preifat a fydd yn darparu gwasanaethau ar ein rhan. Ni fyddwn yn rhannu data personol ond i’r graddau y bydd angen hynny er mwyn cefnogi dinasyddion Wcráin, neu pan fo’n ofynnol yn ôl y gyfraith inni wneud hynny.

Mae data personol a roddir i Lywodraeth Cymru’n cael ei storio ar weinyddion diogel. Bydd data personol, adnabyddadwy a rennir â’n partneriaid yn y sector cyhoeddus a phartneriaid eraill yn cael ei drosglwyddo yn unig gan ddefnyddio systemau trosglwyddo data diogel achrededig. Dim ond data sy’n gwbl angenrheidiol ar gyfer darparu cymorth i ddinasyddion Wcráin a gaiff ei rannu.

Bydd data personol adnabyddadwy a ddelir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw am gyfnod y cynllun noddi, ac am gyfnod o 6 mis, o leiaf, ar ôl hynny. Mae’n bosibl y cedwir y data am gyfnodau hwy, gan gynnwys gan ein partneriaid yn y sector cyhoeddus, pan fo rhwymedigaeth statudol neu ofyniad parhaus i wneud hynny. Bydd y data yn cael ei ddinistrio’n ddiogel unwaith y bernir nad oes ei angen mwyach.

O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol y byddwch yn ei rhoi inni er mwyn ein galluogi i’ch cefnogi, yn benodol mae gennych yr hawl:

  • i weld y data personol rydym yn ei gadw amdanoch
  • i ofyn inni gywiro unrhyw beth sy’n anghywir yn y data hwnnw
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
  • i ofyn bod eich data yn cael ei ddileu (o dan rai amgylchiadau)
  • i gofrestru cwyn yn Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Gwybodaeth bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r data, neu os ydych am arfer eich hawliau drwy ddefnyddio’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru