Neidio i'r prif gynnwy

Cael cymorth i arbed ynni yn eich cartref

Pan fyddwch yn cysylltu â ni, bydd ein tîm o gynghorwyr cyfeillgar yn cynnig cyngor diduedd i chi er mwyn eich helpu i leihau eich biliau ynni a gwella eich iechyd a’ch llesiant drwy’r canlynol:

  • y tariff ynni a dŵr gorau i’ch cartref 
  • budd-daliadau i gynyddu incwm eich aelwyd
  • help i leihau’ch ôl troed carbon
  • cyngor ar osod eich technoleg carbon eich hun

Bydd ein cynghorwyr yn gallu eich helpu i wybod a allwch fanteisio ar welliannau am ddim i arbed ynni.

Os ydych yn gymwys, gallwn gynnig pecyn o welliannau wedi’u teilwra’n arbennig i chi. Gallai’r pecyn gynnwys gwaith inswleiddio, pwmp gwres a phaneli solar. 

Gofynnwch i Nyth am help nawr

Dysgwch fwy am y cymorth a’r cyngor y gallwn ei roi ichi ar sut i arbed ynni. 

Neu siaradwch â chynghorydd ar 0808 808 2244
(Llun i Gwener, 9am i 6pm)
Croesawir galwadau yn Gymraeg