Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi annog proseswyr a gweithgynhyrchwyr bwyd a diod bychain Cymru i wneud cais am eu cyfran o’r cyllid gwerth £800,000.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cynllun ar agor i broseswyr a gweithgynhyrchwyr bwyd a diod micro a bach, cyfredol a newydd ledled Cymru, nad ydynt yn gymwys o dan y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd.  

Gall busnesau cymwys wneud cais am hyd at £50,000 ar gyfer unrhyw brosiect buddsoddi unigol.  Mae’n rhaid i’r prosiectau hyn gyfrannu at Gynllun Gweithredu uchelgeisiol y Strategaeth Bwyd gydag un neu fwy o’r amcanion canlynol:    

  • hyrwyddo a datblygu sector bwyd a diod sy’n ffynnu yng Nghymru 
  • parhau i ddatblygu delwedd werdd yn seiliedig ar ddulliau cynhyrchu cynaliadwy 
  • sicrhau bod y diwydiant yn gallu gwrthsefyll newidiadau yn y farchnad 
  • sbarduno gwelliannau o ran diogelwch bwyd 
  • hyrwyddo arloesedd technolegol o ran cynnyrch a phrosesau  
  • darparu cyfleoedd ar gyfer gyrfaoedd ar wahanol lefelau sgiliau. 

Cyn agor y ffenestr datganiad diddordeb cyntaf, dywedodd Lesley Griffiths:

“Mae ein diwydiant bwyd a diod yn llwyddiant mawr. Rydym wedi ymrwymo i gynnal y momentwm hwn drwy sicrhau bod yr amodau yn iawn i fusnesau o bob maint ffynnu.   

“Byddem yn annog busnesau bychain i ddod i wybod mwy am y cynllun, ac os ydynt yn gymwys, i wneud cais am y cyllid."   

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys meini prawf cymhwyster, ar gael ar tudalen Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig - FOOD (RBISF).