Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1 - Gofynion storio silwair, slyri ac olew

Mae'r rheoliadau canlynol yn berthnasol i storio silwair, slyri ac olew. 

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) Silwair a Slyri (Cymru) 2010 (SSAFO)

Mae'r rheoliadau hyn yn pennu'r gofynion ar gyfer cynllun (capasiti), adeiladu a chynnal a chadw cyfleusterau storio silwair a slyri.

Maent yn berthnasol i bob gosodiad a gwblhawyd ers mis Medi 1991.

Maent yn ei gwneud yn ofynnol i chi hysbysu CNC, yn ysgrifenedig, o leiaf 14 diwrnod cyn dechrau adeiladu storfa newydd, sydd wedi'i hehangu'n sylweddol neu wedi'i hailadeiladu'n sylweddol.  Mae gan CNC ffurflen ar-lein ar gael i'ch helpu i ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol.

Caiff y rheoliadau hyn eu dirymu a'u disodli fesul cam gan Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (Y Rheoliadau) mewn perthynas ag unrhyw ddaliad neu ran o ddaliad nad oedd wedi'i leoli'n flaenorol o fewn parth perygl nitradau.  Dylid nodi'r newidiadau a ganlyn yn benodol mewn perthynas â'r Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau: 

  • O 1 Ebrill 2021 ymlaen, roedd y Rheoliadau wedi disodli'r gofynion sy'n ymwneud â silwair.  Yn ymarferol, bydd y gofynion yn parhau'r un fath.

O 28 Ebrill 2021, bydd y gofyniad i roi gwybod i CNC, yn ysgrifenedig, am system storio slyri neu silwair sy'n newydd, cyfleuster sydd wedi'i ehangu'n sylweddol neu ei ailadeiladu'n sylweddol, wedi newid i o leiaf 14 o ddiwrnodau cynbod y gwaith adeiladu yn dechrau.

O 1 Awst 2024, bydd y gofynion storio slyri yn newid. Bydd safonau adeiladu SSAFO yn cael eu cadw, ond bydd angen i chi ddarparu 5 mis o slyri wedi'i storio (6 mis ar gyfer moch ac ieir), neu fwy os oes angen i gwrdd â gofynion eraill y rheoliadau (fodd bynnag, gallwch ddefnyddio data glawiad cyfartalog i benderfynu ar eich angen storio – gweler y canllawiau am ragor o fanylion).

Am fwy o fanylion, gweler https://www.llyw.cymru/rheoli-rheoliadau-llygredd-amaethyddol-canllawiau

Newidiadau storio olew 2016

Disodlwyd y gofynion ar gyfer storio olew amaethyddol gan Reoliadau Rheoli Llygredd (Storio Olew) (Cymru) 2016 ym mis Mawrth 2016.

I gael rhagor o fanylion, gweler Rheoliadau Storio Olew

Mae’r rheoliadau hyn yn berthnasol i danciau olew amaethyddol o bob math, waeth pryd y cawsant eu hadeiladu. 

Safonau Cydymffurfio ar gyfer slyri a silwair 

Rhaid i bob storfa slyri a silwair gael ei hadeiladu i fodloni'r safonau capasiti ac adeiladu yn unol â'r Rheoliadau sydd wedi'u crynhoi isod. Gall eithriadau i'r gofynion adeiladu fod yn berthnasol i storfeydd a adeiladwyd, neu oedd wrthi'n cael eu hadeiladu, cyn 1991. Mae storfeydd cyn 1991 ond wedi'u heithrio rhag y safonau adeiladu os nad ydynt yn peri risg sylweddol o achosi llygredd ac nid ydynt wedi'u heithrio rhag y gofynion capasiti.

Silwair - Byrnau a maes: 

  • Ni ellir storio nac agor silwair sydd mewn byrnau a silwair sydd wedi'i lapio neu ei gau mewn bagiau o fewn 10 metr i gwrs dŵr.
  • Os ydych chi'n defnyddio safleoedd silwair maes i greu neu storio silwair maes, neu silwair nad yw mewn byrnau mewn bagiau mawr, er enghraifft 'Bagiau Ag', mae'n rhaid i chi hysbysu CNC o leiaf 14 diwrnod cyn defnyddio'r safle am y tro cyntaf.

Claddfeydd silwair:

  • Mae'n rhaid i waelod y gladdfa, y tanc elifion a'r draeniau fod yn anhydraidd ac yn gallu gwrthsefyll ymosodiad gan elifion silwair. Mae'n rhaid i waelod y gladdfa gael ei chynllunio a'i hadeiladu'n unol â BS8007 neu BS5502 Rhan 21.
  • Os caiff muriau eu defnyddio, mae'n rhaid i'r gwaelod ymestyn y tu hwnt i'r muriau.  Mae'n rhaid i bob claddfa silwair gynnwys sianel ddraenio o'i hamgylch sy'n cysylltu â thanc elifion.
  • Mae'n rhaid casglu a chadw'r holl elifion mewn cynhwysydd.  Mae'n rhaid i gapasiti'r tanc elifion silwair fod yn 20 litr/metr ciwbig o gapasiti seilo – hyd at 1500 metr ciwbig, a 6.7 litr/metr ciwbig o gapasiti seilo wedi hynny.
  • Ni ddylai unrhyw ran o'r gosodiad hwn fod o fewn 10 metr i gwrs dŵr neu ddraeniau tir.
  • Rhaid sicrhau bod claddfeydd a draeniau yn gallu para o leiaf 20 mlynedd (gyda gwaith cynnal a chadw rheolaidd).
  • Rhaid sicrhau bod tanciau elifion islaw wyneb y tir yn gallu para o leiaf 20 mlynedd heb waith cynnal a chadw.  Mae'n rhaid anfon tystysgrif i CNC yn cadarnhau bod y tanc a'r gladdfa wedi'u cynllunio a'u hadeiladu'n briodol 14 diwrnod cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau.  
  • Os oes gan y gladdfa furiau, mae'n rhaid iddynt gael eu cynllunio'n unol â safonau BS5502 Rhan 22 a gallu gwrthsefyll ymosodiad gan elifion silwair.

 Slyri

  • Mae rheoliadau yn diffinio slyri fel deunydd hylifol neu led hylifol sy'n cynnwys tail a gynhyrchir gan dda byw ar fuarth neu mewn adeilad.
  • Mae’r diffiniad o slyri'n cynnwys golchiadau parlwr a buarth, ac unrhyw ddŵr glaw halogedig.
  • Gall gwahanu dŵr glaw glân o doeon a buarthau leihau'r capasiti storio slyri sydd ei angen. 
  • Ni all unrhyw ran o'r system gael ei lleoli o fewn 10 metr i gwrs dŵr y gallai slyri fynd i mewn iddo, oni bai bod CNC wedi cytuno, yn ysgrifenedig, i'r lleoliad a mesurau ychwanegol i osgoi llygredd.

Gofynion cyfleusterau storio slyri

  • Mae'n rhaid i storfeydd, tanciau, pibellau a sianelau slyri fod yn anhydraidd. Os nad yw muriau'r storfa slyri'n anhydraidd (e.e. storfeydd wal hidlo), mae'n rhaid i'r gwaelod ymestyn y tu hwnt i'r muriau gyda draeniau o'u hamgylch sy'n cysylltu â thanc slyri.
  • Mae'n rhaid amddiffyn gwaelod a muriau'r tanc storio slyri, unrhyw danciau elifion, sianeli a phyllau derbyn, a muriau unrhyw bibellau yn erbyn cyrydiad, yn unol â disgrifiad BS 5502, Rhan 50 (1993).
  • Rhaid sicrhau bod cynllun y tanc storio slyri a'r pwll derbyn yn cydymffurfio â BS 5502, Rhan 50 (1993).
  • Mae'n rhaid i'r pwll derbyn a'r sianeli cysylltiedig ddal o leiaf dau ddiwrnod o gynhyrchiant slyri fel arfer, gan gynnwys dŵr glaw tebygol.
  • O 1 Awst 2024 ymlaen, rhaid i chi ddarparu storfa i gadw gwerth o leiaf bump neu chwe mis o slyri, yn ddibynnol ar y math o slyri a gynhyrchir. (Sicrhewch fod unrhyw ochrau ar oleddf a bwrdd rhydd sydd ei angen yn cael eu tynnu wrth gyfrifo capasiti.)
  • Mae'n rhaid i ddyluniad y tanc storio slyri sicrhau fod y pellter fertigol rhwng gwefus y storfa slyri ac wyneb y slyri, sef y bwrdd rhydd, yn 300mm o leiaf, ond rhaid i storfeydd gyda muriau wedi'u gwneud o bridd fod â bwrdd rhydd 750mm o leiaf, sydd i'w gynnal bob amser.
  • Rhaid cynllunio pob rhan o'r system storio slyri i bara 20 mlynedd o leiaf, a gwneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd.
  • Mae'n rhaid i unrhyw bibell ddraenio sefydlog o'r tanc storio slyri fod â dwy falf mewn cyfres. Mae'n rhaid cau a chloi'r falfiau hyn os nad ydynt yn cael eu defnyddio, ac mewn tanciau storio a adeiladwyd ar ôl 2010, rhaid bod bwlch o 1 metr o leiaf rhwng y falfiau.
     
  • Dylech sicrhau eich bod yn defnyddio contractwyr neu adeiladwyr medrus sy'n deall rheoliadau SSAFO a Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 ac yn gweithio yn unol â nhw.
     
  • Mae elifion silwair a slyri wedi achosi llygredd difrifol, yn aml oherwydd capasiti storio annigonol neu adeiladwaith gwael.  Mae storfeydd digonol ar gyfer elifion silwair a slyri neu wrtaith yn hanfodol i osgoi'r angen am daenu y tu allan i'r tymor tyfu neu yn ystod amodau tywydd a phridd amhriodol.
     
  • Dylech gysylltu â CNC cyn gynted â phosibl yn y cam cynllunio, gan y gallai'ch helpu i arbed amser ac arian.
     
  • Gall CNC sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r rheoliadau ac yn lleihau peryglon llygredd yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol.
     
  • Os oes unrhyw system gwneud silwair neu storio slyri yn achosi perygl o lygredd sylweddol i ddŵr wyneb neu ddŵr daear, gall CNC gyhoeddi Hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i chi wneud gwelliannau.

Cysylltwch â CNC ar:

E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Ffôn: 0300 065 3000 (Dydd Llun-Dydd Gwener, 8am – 6pm) 

neu drwy'r post: 

Cyfoeth Naturiol Cymru,
Maes y Ffynnon, 
Penrhosgarnedd,
Bangor,
Gwynedd,

LL57 2DW.

Adran 2 - Caniatâd a thrwyddedau amgylcheddol

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Awdurdod Lleol (ALl)

Os yw ymgeisydd yn bwriadu gosod eitemau cyfalaf sy'n effeithio ar systemau storio slyri neu silwair, neu a allai effeithio ar lif dŵr, fe'i cynghorir i ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a/neu ei Awdurdod Lleol (ALl) gan ei bod yn bosibl y bydd angen caniatâd i wneud y gwaith.  Mae'n rhaid i ymgeiswyr wneud hyn cyn ymrwymo i unrhyw waith arfaethedig a chyn iddynt gyflwyno cais am gymorth grant o dan y cynllun.  Noder y gall CNC/yr ALl godi tâl am y caniatâd perthnasol.  Cynghorir ymgeiswyr i gysylltu ag CNC/yr ALl yn ddigon buan i gadarnhau a oes angen caniatâd perthnasol ar gyfer y gwaith arfaethedig.  Os yw CNC/yr ALl yn cadarnhau bod angen caniatâd, mae'n rhaid cyflwyno'r caniatâd gyda'r cais.  Ni ellir prosesu ceisiadau nes bod unrhyw ganiatâd perthnasol gan CNC/yr ALl wedi'i gyflwyno.

Caniatâd cynllunio, rheoliadau adeiladu etc

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sicrhau unrhyw ganiatâd cynllunio gofynnol a chydymffurfio ag unrhyw ofynion statudol perthnasol eraill.  Mae angen i ymgeiswyr sicrhau hefyd nad yw eu cynigion yn torri unrhyw is-ddeddf, yn rhwystro hawliau tramwy, yn effeithio ar biblinellau olew neu nwy etc, ac mae'n rhaid iddynt osgoi niweidio cefn gwlad neu achosi llygredd.  Ni ellir prosesu ceisiadau heb dderbyn unrhyw ganiatâd perthnasol.

O safbwynt caniatâd cynllunio, mae'n rhaid i ymgeiswyr gynnwys eu dogfennau caniatâd cynllunio gwreiddiol neu dderbynneb wreiddiol yr awdurdod cynllunio lleol bod y cais cynllunio wedi'i gyflwyno.  Ni thelir unrhyw grant nes bod y dogfennau caniatâd cynllunio gwreiddiol wedi'u derbyn a'u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

Atodiad A – Rhestr o eitemau cyfalaf cymwys

Gellir defnyddio'r grant ar gyfer buddsoddiad cyfalaf mewn cyfarpar a pheiriannau sydd wedi'u nodi o flaen llaw i fynd i'r afael ag effeithiau llygredd ar y fferm ac sy'n cynnig manteision clir a mesuradwy ar gyfer eich fferm a'r amgylchedd yn ehangach.

Ni all cyfleusterau storio slyri dderbyn cymorth oni bai bod y toeon a'r buarthau sy'n gysylltiedig â dŵr glaw sy'n mynd i mewn i'r cyfleuster storio arfaethedig neu unrhyw storfa bresennol yn cael eu trwsio yn gyntaf, er mwyn dangos y gall y seilwaith presennol gyflawni hyn neu drwy ofyn am yr eitemau angenrheidiol i wneud hynny drwy'r cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau .

Pan fo slyri’n cael ei gynhyrchu, os cewch eich dewis ac i sicrhau eich bod yn gymwys ar gyfer taliad, bydd angen i chi ddangos sut y bydd y grant yn eich galluogi i gydymffurfio â gofynion capasiti storio slyri'r Rheoliadau erbyn 1 Awst 2024.

Os nad ydych yn bodloni gofynion storio slyri y rheoliadau, naill ai cyn buddsoddi, neu yn dilyn buddsoddiad gyda chymorth y Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais am fuddsoddiad ychwanegol nad yw'n gysylltiedig â storio maethynnau, e.e. offer gwasgaru slyri ac ati.

Rhestr o eitemau cyfalaf cymwys
Cod yr EitemBuddsoddiadDisgrifiadCyfanswm y sgôr%Grant
 Storfeydd – Gyda tho neu orchudd    

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

NM1   

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

 

 

                                                                       

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Storfeydd a sianeli trosglwyddo tanlawr

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Sianeli trosglwyddo / llif tanlawr i ddarparu ffordd o drosglwyddo slyri o fan casglu i storfa barhaol. 

Dylai gwaelod a waliau sianeli allu dal dŵr er mwyn atal hylifau llygredig rhag dianc, neu er mwyn atal dŵr rhag dod i mewn os yw'r storfa wedi'i hadeiladu o dan ddaear.  Os yw slyri'n cael ei wagio o sianeli i bwll derbyn trwy lifddor, dylai'r pwll fod yn ddigon mawr i ddal yr holl slyri a allai gael ei ryddhau.

Rhaid adeiladu sianeli trosglwyddo at safon BS5502.  Ceir y manylion yn adroddiad ‘C759b CIRIA - Livestock manure and silage storage Part 2 Design and construction’.

Nid yw sianeli tanlawr, y mae lloriau slatiog wedi’u gosod drostynt ar gyfer cadw anifeiliaid dan do neu fel ardaloedd i'r anifeiliaid orwedd   yn gymwys am gymorth.

Mae gorchuddion slatiog sy’n galluogi slyri sydd wedi'i grafu i fynd i mewn i'r sianel yn gymwys i gael cymorth. 

Nid yw toeon dros sianeli trosglwyddo yn gymwys i gael cymorth.

Bydd angen darparu ffotograffau fel rhan o'r cais i ddangos tystiolaeth o leoliad y sianel newydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

485

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

     50%

 

 

 

 

 

 

 

NM2 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Storfeydd slyri a phyllau derbyn cysylltiedig 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Storfeydd, yn cynnwys lagwnau slyri, strwythurau storio concrit, ar ben tir, storfeydd concrit neu ddur sy’n addas ar gyfer storio slyri sy’n hawdd ei bwmpio.

Yn cynnwys pyllau derbyn, storfeydd ar gyfer slyri sy'n gymysg â dŵr, fel dŵr buarthau brwnt neu dail solet sy'n cael ei storio ar fuarthau, golchion o adeiladau neu fuarthau a ddefnyddir gan dda byw.

Dylid adeiladu pyllau derbyn fydd yn gallu dal o leiaf deuddydd o gynhyrchiant slyri, a dŵr brwnt gan ystyried glaw tebygol. 

Dylid darparu trefniadau mynediad digonol os oes bwriad defnyddio tanceri slyri wedi'u tynnu gan dractor i wacáu tanciau a phyllau. 

Dim ond os nad yw'r ardal yn cael ei defnyddio ar gyfer llety i dda byw y mae to storfa slyri newydd yn gymwys o dan yr eitem hon:

Lle bwriedir i'r storfa gael ei gorchuddio â slatiau a tho ar gyfer llety da byw, mae strwythur y storfa danddaearol yn gymwys, ond nid yw gosod llawr wedi'i slatio, to a waliau neu gatiau i gadw da byw yn gymwys. Yn yr achosion hyn, mae'n ofynnol i'r storfa fod â chapasiti storio 5 mis ar gyfer y da byw sy’n cael eu cadw dan do.

Nid yw unrhyw strwythurau ychwanegol a gaiff eu gosod i helpu gyda gosod slatiau, fel waliau cynnal neu byst ychwanegol yn y storfa slyri, yn gymwys.

Pan fydd to wedi'i osod i gadw dŵr glaw rhag mynd i mewn i'r storfa, dylai'r to orchuddio ardal y storfa slyri yn unig ac ni all ymestyn i ardaloedd eraill.

Os yw ymgeisydd yn bwriadu gosod storfa newydd gyda slatiau ar gyfer lletya da byw, mae angen i'r dyfynbrisiau a'r anfoneb ddilynol osod costau'r storfa yn glir ar wahân i’r buddsoddiad sy'n weddill.

Rhaid dargyfeirio dŵr glân o'r to i ddraen dŵr glân neu system cynaeafu dŵr glaw.

Rhaid adeiladu cyfleusterau storio slyri at safon BS5502.  Ceir y manylion yn adroddiad ‘C759b CIRIA - Livestock manure and silage storage Part 2 Design and construction’.

Rhaid i'r capasiti storio ychwanegol a ddarperir gan y storfa newydd fod yn ddigonol i sicrhau bod y fferm yn cydymffurfio â gofynion capasiti storio slyri Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021.

 

 

 

 

 

 

 

428.75

 

 

 

 

 

 

 

     50%

 

 

 

 

NM3 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Tanciau ar gyfer storio dŵr sydd ychydig yn frwnt

 

 

 

 

 

Tanciau ar gyfer storio dŵr sydd ychydig yn frwnt a phibellau a sianeli cysylltiedig.  Yn cynnwys dŵr ffo wedi'i halogi'n ysgafn o fuarthau concrit sydd ychydig yn frwnt neu o'r parlwr llaeth sy'n cael ei gasglu ar wahân i slyri.

Dylech sicrhau bod unrhyw hylif sy'n mynd i mewn i storfa ddŵr sydd ychydig yn frwnt ar gyfer dyfrhau rheolaidd mewn cyfnodau caeedig yn bodloni'r diffiniad Rheoliadol ar gyfer dŵr sydd ychydig yn frwnt.  Nid yw'r hylif yn cynnwys draeniad o fuarthau neu adeiladau a ddefnyddir i gadw neu fwydo da byw, hylifau o storfeydd waliau hidlo, storio tail ar dir caled, blychau hidlo, gwahanwyr slyri neu elifion silwair, y mae pob un ohonynt yn gyfoethog mewn nitrogen.

 

 

 

 

428.75

 

 

 

 

     50%

 

 

 

 

 

 

 

 

NM4 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Storfeydd tail dan orchudd

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Storfa ar gyfer tail (solet) o fuarth y fferm (ond nid slyri).  Yn addas ar gyfer unrhyw sarn (deunydd gwely) sydd wedi'i halogi ag unrhyw dail organig y gellir ei bentyrru'n domen heb iddo chwalu.

Rhaid ei orchuddio (â tho parhaol) a gosod llawr sy'n dal dŵr.  Mae costau’r to, y llawr a'r waliau cynnal yn gostau cymwys.  Dylai gwaelod waliau allanol ddal dŵr rhag i hylifau llygredig allu dianc, neu er mwyn atal dŵr rhag dod i mewn.

Rhaid cadw hylif sy'n dod o dail solet (slyri) yn y storfa neu ei ddargyfeirio i storfa slyri sy'n bod eisoes neu i bwll derbyn. Os nad yw'r hylif yn cael ei gasglu mewn storfa slyri sy'n bod eisoes, rhaid i'r llawr wyro tuag at gefn y storfa.

Rhaid dargyfeirio dŵr glân o'r to i ddraen dŵr glân neu i system casglu dŵr glaw.

Rhaid i ddyluniad yr adeilad fod yn addas ar gyfer tail organig y gellir ei bentyrru'n domen heb iddo chwalu. Dylai'r waliau allanol fod fel a ganlyn:

  • O leiaf 3.6m o uchder fel y gellir ei bentyrru'n domen ac i sicrhau defnydd effeithlon o'r ardal sy’n derbyn cymorth. 
  • Wedi'i adeiladu o goncrit.
  • Rhaid ei adeiladu ar dair ochr i'r storfa. (Y cefn a'r ddwy ochr).

Dylai blaen (pen mynediad) yr adeilad aros ar agor heb wal na drws. (ddim yn gostau cymwys) Gellir codi gatiau da byw ar draws mynediad i wahardd da byw.

Dylai maint y storfa fodloni gofynion storio tail y fferm.

Ni ellir defnyddio'r ardal ar gyfer lletya na storio anifeiliaid.

Rhaid adeiladu cyfleusterau storio slyri at safon BS5502. Ceir y manylion yn adroddiad ‘C759b CIRIA - Livestock manure and silage storage Part 2 Design and construction’. 

 

 

 

 

 

 

 

 

485

 

 

     

 

 

 

 

 

 

     50%

 

NM5

Systemau ar gyfer rheoli slyri

 

Pympiau, hidlyddion a chyfarpar rheoli i reoli lefel y slyri sydd mewn pyllau derbyn.327.5     50%
NM6Claddfeydd silwairCyfleuster storio silwair.  Rhaid i waelod y gladdfa, y waliau, y tanc elifion a'r draeniau allu dal dŵr a gwrthsefyll elifion silwair.  Wedi’u hadeiladu at safon BS5502.465     50%
NM7Storfa slyri integredig.Bag ffabrig â chaen polyester PVC cyfnerthedig o fewn strwythur pridd.  Wedi'i gyfyngu ar yr ochrau, ac yn cynnwys fentiau nwy.430     50%
 Gorchuddion a thoeon   
NM8Pilen blastig arnofiol sefydlog i orchuddio lagŵn.Gorchudd plastig mawr sy'n gallu arnofio ac sydd â fentiau nwy ynddo.  Bydd ymylon y gorchudd wedi'u cysylltu'n sownd wrth lannau'r lagŵn i sicrhau nad yw cryfder strwythurol y storfa yn cael ei effeithio.  Rhaid dargyfeirio'r dŵr glaw sy'n cwympo ar y gorchudd fel ei fod yn llifo oddi ar y storfa i ddraen dŵr glân.302.50     50%

 

NM9

 

Gorchudd plastig sy'n arnofio'n rhydd ar gyfer storfeydd slyri uwchben y ddaear.

 

Gorchudd plastig, wedi'i ymestyn dros y storfa a’i dynnu'n dynn o amgylch cylchyn plastig i gynnal y tensiwn.  Mae’n arnofio ar yr wyneb.

Rhaid dargyfeirio'r dŵr glaw sy'n cwympo ar y gorchudd fel ei fod yn llifo oddi ar y storfa i ddraen dŵr glân.

 

297.50

 

50%

 

NM10

 

Gorchudd sefydlog ar gyfer tanc slyri ar ben tir sy'n bodoli eisoes 

Gorchudd ffabrig â haen polyester PVC cyfnerthedig neu orchudd tun.  Fel arfer, cysylltir y mathau hyn o orchudd wrth ochrau'r tanc gyda pholyn cynnal canolog a fentiau nwy.

Rhaid dargyfeirio'r dŵr glaw sy'n cwympo ar y gorchudd fel ei fod yn llifo oddi ar y storfa.

 

335

 

     50%

 

NM11

 

 

 

 

 

 

 

Toeon ar gyfer buarthau sy'n bodoli eisoes

 

 

 

 

 

 

Strwythur to, gan gynnwys pyst cynnal a nwyddau dŵr glaw, sy'n gallu dal dŵr glaw a gorchuddio mannau presennol ar gyfer bwydo da byw, mannau casglu da byw, mannau storio tail presennol, storfeydd slyri a storfeydd silwair. 

Rhaid i'r llawr presennol allu dal dŵr, e.e. concrit.

Ni ellir defnyddio'r ardal a gefnogir i gadw da byw. 

Nid yw to dros storfa slyri sy'n bodoli eisoes gyda slatiau ar gyfer cadw da byw yn gymwys.

Rhaid dargyfeirio slyri o'r man bwydo da byw dan do neu'r man casglu da byw dan do i storfa slyri neu bwll derbyn.

Rhaid cadw hylif sy'n dod o dail solet (slyri) yn y storfa neu ei ddargyfeirio i storfa slyri neu bwll derbyn.

Ar gyfer toeon dros gladdfa silwair neu storfa slyri, dylai'r storfa fodloni'r gofynion rheoleiddio neu'r gofyniad eithrio.

Rhaid dargyfeirio dŵr glân o'r to i ddraen dŵr glân neu i system casglu dŵr glaw.

Nid yw'n cynnwys unrhyw waliau, lloriau na draeniau cysylltiedig.

Bydd angen darparu ffotograffau fel rhan o'r cais i ddangos tystiolaeth o’r ardal i’w chefnogi.

 

 

 

225

 

     40%

 Tanciau a Gwasgaru    

 

 

NM12 

 

 

 

 

 

 

Tancer gwactod a Thaenwr Band neu 'Trailing Shoe' 

 

 

 

 

Tancer gwactod: Caiff slyri ei sugno i'r tancer gan ddefnyddio pwmp aer i dynnu'r aer o'r tanc er mwyn creu gwactod; caiff y tancer ei wagio gan ddefnyddio'r pwmp aer i greu pwysedd yn y tancer i wthio'r slyri allan. 

Taenwr Band: Mae nifer o bibellau wedi'u cysylltu â braich y gwasgarwr slyri, gan wasgaru'r slyri'n agos i'r ddaear mewn stribedi neu fandiau.  Daw'r slyri i'r fraich o un bibell, ac mae'n dibynnu felly ar y pwysedd wrth arllwysfa pob un o'r pibellau i wasgaru'r slyri'n gyfartal.  Mae systemau mwy datblygedig yn defnyddio system gylchdroi sy'n gwasgaru'r slyri'n gyfartal i arllwysfa pob pibell. 

Trailing Shoe: Patrwm tebyg i'r taenwr band, ond mae 'esgid' wrth bob pibell i chwistrellu'r slyri o dan orchudd y cnwd i mewn i'r pridd.

 

 

341.25

 

 

40%

NM13Tancer pwmp â Chwistrellwr (Slyri)

Caiff slyri ei sugno i mewn i'r tancer gan ddefnyddio pwmp aer i dynnu'r aer o'r tanc er mwyn creu gwactod; caiff y tancer ei wagio gan ddefnyddio'r pwmp aer i greu pwysedd yn y tancer, a thrwy hynny wthio'r slyri allan. 

Chwistrellwr: Caiff slyri ei chwistrellu o dan wyneb y pridd. Mae gwahanol fathau o chwistrellwr ond mae pob un yn perthyn i un o ddau gategori: naill ai chwistrelliad bas slot agored, hyd at 50mm o ddyfnder; neu chwistrelliad dwfn dros 150mm o ddyfnder.

361.25     40%

 

 

 

 

 

NM14   

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Tancer pwmp a Thaenwr Band neu 'trailing shoe'. 

 

 

 

 

 

Tancer pwmp: Caiff y slyri ei bwmpio i'r tancer ac allan o'r tancer gan ddefnyddio pwmp slyri, naill ai pwmp allgyrchol (e.e. fel troellwr) neu bwmp dadleoli positif (e.e. fel llabed). 

Taenwr Band: Mae nifer o bibellau wedi'u cysylltu â braich y gwasgarwr slyri, gan wasgaru'r slyri'n agos i'r ddaear mewn stribedi neu fandiau.  Daw'r slyri i'r fraich o un bibell, ac mae'n dibynnu felly ar y pwysedd wrth arllwysfa pob un o'r pibellau i wasgaru'r slyri'n gyfartal.  Mae systemau mwy datblygedig yn defnyddio system gylchdroi sy'n gwasgaru'r slyri'n gyfartal i arllwysfa pob pibell.

Trailing Shoe: Patrwm tebyg i'r taenwr band, ond mae 'esgid' ar bob pibell i chwistrellu'r slyri o dan orchudd y cnwd i'r pridd.

 

 

 

 

 

341.25

 

 

 

 

 

     40%

 

NM15

 

Tancer pwmp a Chwistrellwr (Slyri)

Tancer pwmp: Caiff y slyri ei bwmpio i'r tancer ac allan o'r tancer gan ddefnyddio pwmp slyri, naill ai pwmp allgyrchol (e.e. fel troellwr) neu bwmp dadleoli positif (e.e. fel llabed. 

Chwistrellwr: Caiff slyri ei chwistrellu o dan wyneb y pridd.  Mae gwahanol fathau o chwistrellwr ond mae pob un yn perthyn i un o ddau gategori: naill ai chwistrelliad bas slot agored, hyd at 50mm o ddyfnder; neu chwistrelliad dwfn dros 150mm o ddyfnder.

 

361.25

 

     40%

 

NM16

 

Taenwr Band neu trailing shoe

 

Taenwr band: Mae nifer o bibellau wedi'u cysylltu â braich y gwasgarwr slyri, gan wasgaru'r slyri'n agos i'r ddaear mewn stribedi neu fandiau.  Daw'r slyri i'r fraich o un bibell, ac mae'n dibynnu felly ar y pwysedd wrth arllwysfa pob un o'r pibellau i wasgaru'r slyri'n gyfartal. Mae systemau mwy datblygedig yn defnyddio system gylchdroi sy'n gwasgaru'r slyri'n gyfartal i arllwysfa pob pibell.

Trailing shoe: Patrwm tebyg i'r taenwr band, ond mae 'esgid' wrth bob pibell i chwistrellu'r slyri o dan orchudd y cnwd ac i’r pridd. 

 

390

     

     40%

 

NM17

 

Piben llinyn y bogail a Thaenwr Band neu 'trailing shoe'

 

Caiff y slyri ei fwydo gan bibell lusg i'r system ddosbarthu sydd wedi'i gosod ar y tractor; daw'r slyri'n uniongyrchol i'r bibell o'r storfa slyri fel arfer, drwy ddefnyddio pwmp allgyrchol neu bwmp dadleoli positif. 

 

375

 

 

     40%

 

NM18

 

Pibell llinyn y bogail a Chwistrellwr (Slyri)

Caiff y slyri ei fwydo gan bibell lusg i'r system ddosbarthu sydd wedi'i gosod ar y tractor; daw'r slyri'n uniongyrchol i'r bibell o'r storfa slyri fel arfer, drwy ddefnyddio pwmp allgyrchol neu bwmp dadleoli positif. 

 

395

 

 

     40%

 

NM19

 

Piben llinyn y bogail a Dyfrhäwr 

Caiff y slyri ei fwydo gan bibell lusg i'r system ddosbarthu sydd wedi'i gosod ar y tractor; daw'r slyri'n uniongyrchol i'r bibell o'r storfa slyri fel arfer, drwy ddefnyddio pwmp allgyrchol neu bwmp dadleoli positif. 

 

315

     

     40%

NM20DyfrhäwrPeiriant sy'n teithio ar ei ben ei hun â phibellau hyblyg neu ar olwyn a gaiff eu bwydo o rwydwaith o bibellau tanddaear fel arfer, â phwmp allgyrchol neu ddadleoli positif, wedi'i leoli ger storfa'r slyri.270     40%
NM21Chwistrellwr (Slyri)Caiff slyri ei chwistrellu o dan wyneb y pridd. Mae gwahanol fathau o chwistrellwr ond mae pob un yn perthyn i un o ddau gategori: naill ai chwistrelliad bas slot agored, hyd at 50mm o ddyfnder; neu chwistrelliad dwfn dros 150mm o ddyfnder.430     40%
NM22Rheolydd cyfradd amrywiol ar gyfer chwistrellwyr a pheiriannau gwasgaru gwrtaithDyfais electronig i'w chysylltu wrth chwistrellwr neu wasgarwr gwrtaith sy'n bodoli eisoes er mwyn gallu gwasgaru ar gyfradd amrywiol.  Bydd y system reoleiddio yn gweithio o synhwyrydd gwasgedd neu synhwyrydd llif a bydd yn darparu gwybodaeth am y cyflymder ymlaen, cyfradd defnydd, cyfanswm arwynebedd ac arwynebedd rhannol, cyfanswm cyfaint a’r cyfaint rhannol a wasgarwyd, statws a gwasgedd y fraich a'r darn, cyfradd llif a lefel y tanc. 440     40%

 

 

 

NM23

 

 

 

 

 

 

 

 

Peiriant gwasgaru tail buarth sy'n troelli, sy'n gollwng o'r tu ôl neu system ddeuddiben.

 

 

 

Peiriant gwasgaru sy'n troelli (rotaspreader): Peiriant gwasgaru sy'n gollwng o'r ochrau gyda chorff silindraidd a siafft pto, a ffustiau ar hyd canol y silindr. Wrth i'r rotor droi, mae'r ffustiau'n taflu'r tail solet allan tua'r ochrau. 

Peiriant gwasgaru sy'n gollwng o'r tu ôl: Trelar gyda llawr symudol neu fecanwaith arall wedi'i osod arno i roi'r tail solet yng nghefn y gwasgarwr. Bydd y mecanwaith gwasgaru yn curo naill ai i fyny ac i lawr neu ar draws, gyda disgiau troelli hefyd ambell waith. 

Gwasgarwr deuddiben: Peiriant gwasgaru sy'n gollwng o'r ochrau â chorff siâp-V diorchudd sy'n gallu trin slyri a thail solet.  Mae troellwr neu rotor sy'n troi'n gyflym, fel arfer ym mhen blaen y gwasgarwr, yn taflu'r deunydd dros yr ochr.  Mae taradr neu fecanwaith arall yng ngwaelod y gwasgarwr yn bwydo deunydd i'r rotor ac mae gât lithro yn rheoli llif y deunydd i'r rotor.

 

 

 

 

 

 

 

307.5

 

 

 

     40%

 Storio cemegion/plaladdwyr/olew tanwydd   

 

 

 

NM24

 

 

 

Tanciau a byndiau tanwydd 

Tanciau storio a’r pibellwaith cysylltiedig.  Rhaid i'r system a osodir gydymffurfio â gofynion Rheoliadau Rheoli Llygredd (Storio Olew) (Cymru) 2016.  Rhaid i'r tanc storio fod yn addas at y diben a rhaid iddo fod wedi’i amgáu gan ail wal (bwnd fel arfer) sy'n gallu dal o leiaf 110% o gynnwys y tanc. 

Hefyd, mae'r Rheoliadau'n cynnwys cyfarwyddiadau ynghylch mannau llenwi, cyfarpar arllwys a phibellwaith gorlif y mae'n rhaid cydymffurfio â nhw.  Rhaid i ddeunyddiau'r tanc a'r bwnd fod yn anhydraidd i’r olew sy'n cael ei storio ynddynt.

 

 

 

80

 

 

 

     40%

 

 

NM25

 

 

Storio Cemegion

Adeilad neu uned storio byndiog diogel (y gellir ei gloi) gyda system ddraenio addas er mwyn casglu gollyngiadau.  Diogelwch rhag rhew.  Wedi'i gysylltu o bosibl â phad llenwi/golchi.

Rhaid i faint y storfa fod yn briodol i ofynion y fferm.

 

 

80

 

 

     40%

 Eraill Cyffredinol    

 

 

 

NM28

 

 

 

Adnewyddu buarthau da byw a phibellwaith draenio tanddaear

Adnewyddu buarthau da byw a phibellwaith draenio tanddaear ar gyfer ardaloedd sy'n bodoli eisoes i fwydo neu i gasglu da byw.  (Nid yw buarthau da byw newydd yn gymwys).

Dim ond ardaloedd ag arwyneb a oedd yn gallu dal dŵr yn flaenorol ac y mae angen ei adnewyddu sy'n gymwys.  Byddai'r ardal yn llawr concrit y mae angen ei adnewyddu.

Rhaid dargyfeirio slyri o'r buarth i storfa slyri neu bwll derbyn.

Bydd angen darparu ffotograffau fel rhan o'r cais i ddangos tystiolaeth o’r ardal i’w chefnogi.

 

 

 

240

 

 

 

     40%

NM29Nwyddau dŵr glawSystemau gwaredu mewnol neu allanol ar gyfer cludo dŵr glaw oddi ar doeon etc i'r cysylltiad neu'r rhigol gyntaf i ddraen tanddaear, gan gynnwys cwteri, pibellau dŵr etc. Yn cynnwys tanciau storio.300     40%
NM30Dargyfeirwyr/hidlyddion pibellau dŵr glawDargyfeirwyr/hidlyddion pibellau dŵr glaw.300    40%
NM31GPS ar gyfer ffermio manwlUned GPS annibynnol â chyfleuster awtomatig ar gyfer mesur ffiniau caeau ac adnabod caeau.  Dylai fod ganddo foddau llywio syth a chrwm o leiaf a dylai allu argraffu mapiau.445     40%
NM32Systemau GPS a systemau llif ar gyfer gwasgaru slyriMesurydd llif slyri, dangosydd/rheolydd yn y caban a system GPS.445     40%
NM34Tanc slyri mewn caeDefnyddir i gludo amrywiol gemegau a hylifau amaethyddol i'r man y byddant yn cael eu taenu.380     40%
NM35Gwthiwr silwair robotigSystem robotig â meddalwedd ddeallus y gellir ei rhaglennu ar gyfer y llwybr bwydo bwriadedig. Dylai'r cyfarpar allu canfod y pellter o'r atalfa bwydo yn ogystal â faint o borthiant sydd yn y llwybr.170     40%
NM36Systemau crafu slyri

System crafu slyri sy’n gallu gweithio’n awtomatig. Gall fod yn system drydan ar gyfer crafu slyri er mwyn cymryd lle tractor sy’n defnyddio system grafu gyriant hydrolig neu winsh rhaff/cadwyn, neu gall fod yn wthiwr/casglwr slyri robotig.

Rhaid dargyfeirio slyri i sianel gasglu neu storfa.

215     40%
NM37Uned gwahanu slyriPwmp ac uned gwahanu slyri er mwyn gwahanu hylif o'r elfen ffibr mewn slyri anifeiliaid.280     50%
NM38Pympiau (Slyri)Pympiau slyri pwysedd uchel i'w defnyddio gyda phibell llinyn y bogail.  Dadleoli allgyrchol neu bositif. 260     40%
NM39Pad dŵr golchi/llenwad chwistrellwr Pad concrit wedi'i fwndio a/neu wedi'i orchuddio er mwyn cyfyngu ar ollyngiadau/dŵr golchi o'r chwistrellwr cnydau. 130     40%
NM40Sgwrwyr AerSgwrwyr aml-lygrydd ar gyfer dileu amonia, arogleuon a deunydd gronynnol o adeiladau da byw.330     40%
NM41Canfyddwr nwy a ddelir â llawMonitorau nwy cludadwy a all helpu ffermwyr i gadw'n ddiogel wrth weithio o amgylch slyri. Monitorau nwy sy'n monitro hyd at 4 nwy - Ocsigen, Carbon Monocsid, Methan a Hydrogen Sylffid. 75     40%

 

 

 

 

 

NM42

 

 

 

 

 

Cyfarpar cynaeafu a hidlo dŵr. (Uwchben y ddaear).

Systemau cynaeafu a hidlo dŵr glaw, sy'n cynnwys: 

Tanc uwchben y ddaear. 

System hidlo a thapiau a ffitiadau cysylltiedig. 

Maint tanc o 10,000 o litrau o leiaf. 

System hidlo mynediad (pan fo mwy nag un tanc wedi'i osod a'i gysylltu, dim ond un system hidlo mynediad sydd ei hangen). 

Gorlif wedi'i ddargyfeirio i ddraen dŵr glân. 

Dŵr a ddefnyddir ar gyfer glanhau, yfed neu olchi, tanc a osodir wedi'i gysylltu â system defnyddio dŵr addas. 

Dŵr a gynaeafwyd o adeiladau amaethyddol a'i ddefnyddio at ddibenion fferm.

 

 

 

 

 

150

     

 

 

 

 

     40%

 

 

 

 

 

NM43

 

 

 

 

 

Cyfarpar cynaeafu a hidlo dŵr. (O dan y ddaear).

System cynaeafu dŵr glaw, sy'n cynnwys: 

Tanc o dan y ddaear. 

Maint tanc o 20,000 o litrau o leiaf. 

System hidlo a chysylltwyr a ffitiadau cysylltiedig. 

Pwmp dŵr. 

Hidlydd UV.

System hidlo mynediad.

Gorlif wedi'i ddargyfeirio i ddraen dŵr glân. 

Dŵr a ddefnyddir ar gyfer glanhau, yfed neu olchi, tanc a osodir wedi'i gysylltu â system defnyddio dŵr addas. 

Dŵr a gynaeafwyd o adeiladau amaethyddol a'i ddefnyddio at ddibenion fferm.

 

 

 

 

 

160

 

 

 

 

     

 

     40%