Bydd cofnodion brechu digidol a systemau trefnu symlach ymhlith rhai o'r newidiadau sydd wedi eu cynnwys mewn cynllun newydd i gynyddu'r nifer sy'n derbyn brechiadau yng Nghymru.
Mae'r cynllun, a gyhoeddir gan y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan heddiw [dydd Mawrth 25], yn adeiladu ar lwyddiant cyflwyno brechiadau COVID-19 a bydd yn helpu i wella mynediad at frechlynnau a’r cyflenwad ohonynt.
Mae Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol Cymru yn nodi cyfres o gamau gweithredu a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl wybod pa frechiadau y mae ganddynt hawl iddynt a sut i'w cael.
Bydd hyn yn cynnwys cofnodion brechu digidol, systemau trefnu symlach a rhoi brechlynnau gyda'i gilydd yn amlach, er mwyn rhoi cyfle i ragor o bobl gael eu brechiadau ffliw a COVID-19 ar yr un pryd, er enghraifft. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i bobl ac yn helpu i gynyddu’r nifer o bobl fydd yn cael y ddau frechlyn tymhorol ar yr un pryd yn y dyfodol.
Mae'r broses o drawsnewid gwasanaethau brechu wedi dechrau, wrth i raglenni atgyfnerthu COVID-19 yr hydref a rhaglenni pigiadau ffliw gaeaf y GIG gael eu hintegreiddio eleni.
Mae'r fframwaith hefyd yn nodi'r symudiad tuag at gaffael brechlyn y ffliw yn genedlaethol dros y ddwy flynedd nesaf, er mai meddygon teulu a fferyllfeydd fydd yn parhau i roi'r brechlyn i gleifion.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:
Rydyn ni eisiau i gymaint o bobl â phosib ddod ymlaen i gael eu brechiadau - o'r brechlynnau plentyndod arferol i bigiad ffliw gaeaf am ddim y GIG. Mae brechlynnau'n achub bywydau ac yn helpu i'n cadw ni i gyd yn ddiogel.
Ond er mwyn gwneud hyn mae angen i ni sicrhau bod brechlynnau ar gael yn hawdd. Mae ymateb pobl i'r rhaglen frechu yn erbyn COVID-19 wedi bod yn anhygoel, gan ddangos ymdrech ar y cyd go iawn i gadw Cymru'n ddiogel.
Mae'r Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol uchelgeisiol hwn yn adeiladu ar lwyddiant y rhaglen honno ac yn ei roi ar waith yn ein holl raglenni brechu eraill. Bydd yn helpu i drawsnewid y ffordd mae brechiadau'n cael eu darparu yng Nghymru.
Mae brechlynnau'n chwarae rhan bwysig mewn iechyd cyhoeddus. Mae'r brechlyn COVID-19 wedi trawsnewid ein hymateb i'r pandemig – gan helpu i leihau salwch difrifol a marwolaethau.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod brechu yn atal hyd at 3 miliwn o farwolaethau o amgylch y byd bob blwyddyn.
Dywedodd Dr Chris Johnson, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
Mae imiwneiddio yn helpu i atal salwch difrifol rhag lledaenu ac i ddiogelu iechyd ein poblogaeth gyfan. Mae'n bwysig sicrhau ein bod wedi cael y brechiadau diweddaraf sydd eu hangen arnom er budd ein hiechyd ein hunain, ond hefyd er mwyn diogelu iechyd ein plant, ein ffrindiau, ein teuluoedd a'r bobl yn ein cymunedau sy'n agored i niwed.
Mae brechiadau yn adnodd hanfodol yn arfdy iechyd y cyhoedd, gan achub miliynau o fywydau ledled y byd bob blwyddyn. Drwy raglenni brechu llwyddiannus rydyn ni wedi sicrhau bod clefydau megis y frech wen, polio a rwbela - clefydau a fyddai wedi lladd miloedd o bobl bob blwyddyn neu eu gwneud yn anabl - yn atgof yn unig yn y DU. Rydyn ni hefyd yn gwneud cynnydd mawr o ran lleihau achosion o ganser cysylltiedig â'r Feirws Papiloma Dynol (HPV) yn ogystal â llid yr ymennydd.
Mae'n bwysig ein bod yn sicrhau bod ein cymunedau yn cael eu diogelu o hyd, a bod y clefydau hyn yn parhau'n anghyffredin. Mae angen inni wneud hyn mewn partneriaeth â'r boblogaeth yng Nghymru. Mae'n hollbwysig bod pawb yn gallu dod o hyd i'r ffeithiau sydd eu hangen arnynt er mwyn gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth, a bod pawb yn cael y cyfle i gael eu diogelu rhag niwed y gellir ei atal. Dyna’r gwerthoedd sydd wrth wraidd y fframwaith hwn.