Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cynllun Benthyciadau Busnes Cymru COVID-19 wedi’i ddefnyddio’n llawn ar ôl derbyn mwy na 1,500 o geisiadau mewn ychydig dros wythnos.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Lansiwyd y cynllun gwerth £100 miliwn gan y Prif Weinidog ddydd Llun 30 Mawrth fel rhan o Gronfa Cadernid Economaidd gwerth £500 miliwn Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau i ddelio gyda’r achosion o goronafeirws.

Cymeradwywyd y benthyciadau cyntaf o fewn tridiau i lansio’r gronfa, gyda’r benthyciadau cyntaf yn cyrraedd yr ymgeiswyr erbyn diwedd yr wythnos ddiwethaf.

Bydd y Banc Datblygu, sy’n rheoli’r cynllun, yn sicrhau bod y cyllid wedi’i gymeradwyo’n cyrraedd busnesau cyn gynted â phosib fel bod y gefnogaeth yn cyrraedd y busnesau hynny sy’n wynebu heriau digynsail o ran llif arian o ganlyniad i COVID-19.

Nawr mae Llywodraeth Cymru yn galw ar y Canghellor i “ymateb a dysgu” oddi wrth lwyddiant y cynllun a darparu cyllid ychwanegol i gefnogi busnesau ledled Cymru.                      

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

“Rydyn ni’n deall yn llawn bod hwn yn gyfnod eithriadol anodd i’r gymuned fusnes.          

“Mae cynllun benthyciadau’r Banc Datblygu wedi bod yn gwbl hanfodol i helpu busnesau sy’n wynebu anawsterau ariannol o ganlyniad i’r achosion o goronafeirws.       

“Mae lefel y galw mewn ychydig mwy nag wythnos yn dystiolaeth glir bod hwn y cynnyrch priodol ar yr amser priodol. Byddai BDC yn disgwyl cwblhau tua 400 o fuddsoddiadau fel rheol yn ystod cyfnod o flwyddyn, ond mewn ychydig dros wythnos, mae wedi derbyn nifer syfrdanol o 1500 o geisiadau. Byddaf yn ysgrifennu at y Canghellor yn galw arno i ymateb a dysgu oddi wrth lwyddiant y cynllun a rhyddhau mwy o gyllid fel ein bod yn gallu lansio ail gam cefnogaeth BDC.            

“Mae hefyd yn gwbl hanfodol bod Llywodraeth y DU yn rhoi mwy o bwysau ar ddarparwyr y Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes i gael arian allan drwy’r drws ac i bocedi busnesau. Mae’n cymryd llawer gormod o amser i gyrraedd llawer o gwmnïau a chyflawni’r hyn sydd ei angen mewn cyfnod o argyfwng ariannol. 

“Fel Llywodraeth Cymru, byddwn yn cyhoeddi manylion pellach yn fuan am y gronfa argyfwng gwerth £400m o’r Gronfa Cadernid Economaidd gyda’r nod o fod ar agor i geisiadau yr wythnos nesaf.                         

“Fe hoffwn i ddiolch i Fanc Datblygu Cymru. Mae’r tîm cyfan yn gwneud popeth o fewn eu gallu, cyn gynted â phosib, i brosesu’r nifer digynsail o geisiadau am gyllid. Er bod y cynllun benthyciadau hwn wedi’i ddefnyddio’n llawn, mae’r Banc Datblygu yn parhau i gynnig cyfleoedd cyllido amrywiol i’r gymuned fusnes.”