Neidio i'r prif gynnwy

Mewn datganiad llafar heddiw, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething ei fod yn bwriadu cyhoeddi Cynllun Ataliad ar y Galon y tu allan i'r Ysbyty.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cynllun yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn, ac fe fydd yn sicrhau bod mwy o bobl yn cael gwell siawns o oroesi a gwella ar ôl dioddef ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd:

"Mae tua 8,000 o achosion o ataliad sydyn ar y galon yng Nghymru bob blwyddyn. Gallwn ni achub llawer mwy o fywydau drwy godi ymwybyddiaeth am ddulliau ddadebru a sicrhau bod CPR a diffibrilwyr yn cael eu defnyddio'n gynnar yn amlach.  

"Rydyn ni'n ceisio gwella'r gofal mae cleifion yn ei dderbyn, o ddadebru llwyddiannus i'r gofal adsefydlu. Mae gofal y galon a'r cyfraddau goroesi yn parhau i wella ac fe hoffwn i ddiolch i staff y Gwasanaeth Iechyd a'r rhanddeiliaid eraill sydd wedi cyfrannu at y gwelliannau hyn."

Mae'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau ar y Galon, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2017, yn ceisio darparu gofal sylfaenol, cymunedol, eilaidd ac arbenigol cwbl integredig, wedi'i lunio o amgylch anghenion y claf. Mae hefyd yn golygu bod cyfrifoldeb ar gleifion i reoli eu cyflyrau, gan gynnwys gwneud y dewisiadau cywir o ran ffordd o fyw.

Bydd y Cynllun Ataliad ar y Galon y tu allan i’r Ysbyty yn cynnwys camau gweithredu i adnabod ataliad ar y galon yn gynt, rhoi CPR o ansawdd uchel ar unwaith, defnyddio diffibrilwyr yn gynnar a rhoi gofal effeithiol ar ôl dadebru. Mae'r cynlluniau'n cynnwys sicrhau fod gan y timau adsefydlu cardiaidd yr hyfforddiant cywir a'u bod yn rhoi gofal cyson ledled Cymru.

Mae gofal cardiaidd yn gwella'n gyson yng Nghymru, gyda llai o bobl yn marw o glefyd cardiofasgwlaidd. Yn ddiweddar, disgrifiwyd Cymru fel un o'r gwledydd sy'n arwain ym maes adsefydlu cardiaidd gan Sefydliad Prydeinig y Galon, gan fod cynnydd wedi bod yn nifer y cleifion sy'n derbyn y gwasanaeth yn dilyn trawiad ar y galon.