Cynllun arloesi cynaliadwyedd a datblygu sector Digwyddiadau Cymru
Cyfeirnod y cymhorthdal SC11174 - cynllun i gefnogi datblygiad sgiliau a ffyrdd newydd ac arloesol o wella amrywiaeth a hygyrchedd digwyddiadau yng Nghymru.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych yn defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymorthdaliadau, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau drwy anfon e-bost i: scu@gov.wales.
1. Rhanbarth
Cymru.
2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal
Cynllun Arloesi Cynaliadwyedd a Datblygu Sector Digwyddiadau Cymru
3. Sail gyfreithiol y DU
Adran 1 (datblygu Cymru yn economaidd, hyrwyddo Cymru fel lleoliad i fusnesau) o Ddeddf Asiantaeth Datblygu Cymru 1975 a'r adrannau canlynol o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006: adran 60 (hyrwyddo llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru) adran 61(i) (cefnogi gweithgareddau a phrosiectau diwylliannol sy'n ymwneud â Chymru) adran 61(j) (Gweithgareddau chwaraeon a hamdden) adran 58A (swyddogaethau gweithredol).
4. Amcanion polisi penodol y Cynllun
Mae Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru yn nodi y bydd diwydiant cryf yn creu ac yn cadw cyfleoedd swyddi yng Nghymru ac yn cefnogi gwaith teg a Chymru gryfach, decach a gwyrddach. Er mwyn cefnogi'r rhaglen datblygu pobl yn y sector a arweinir gan y diwydiant, a argymhellir yn y strategaeth, mae Llywodraeth Cymru yn targedu rhywfaint o gymorth ariannol tuag at brosiectau newydd ac arloesol, y gellir eu hatgynhyrchu, i helpu'r diwydiant gyflawni'r camau gweithredu a argymhellir o addysgu a chefnogi trefnwyr digwyddiadau unigol i fod yn hyrwyddwyr a rhannu enghreifftiau ymarferol o arferion gorau sy'n cyd-fynd â thargedau Economi Gylchol yn y strategaeth Mwy nag Ailgylchu. Bydd cyllid hefyd yn cefnogi datblygu sgiliau a ffyrdd newydd ac arloesol o wella amrywiaeth a hygyrchedd digwyddiadau yng Nghymru.
5. Yr Awdurdod Cyhoeddus sydd wedi’i awdurdodi i roi’r Cynllun ar waith
Llywodraeth Cymru
6. Categorïau o fentrau sy’n gymwys
Mae'r cynllun yn agored i fusnesau yn y sector digwyddiadau yng Nghymru, neu fusnesau a all gael effaith gadarnhaol ar y sector hwnnw, gan gynnwys trefnwyr digwyddiadau, cyflenwyr, cyrff academaidd, cyrff ymchwil a chyrff budd cyhoeddus eraill gan gynnwys y trydydd sector.
7. Sector(au) a gefnogir
Y celfyddydau, adloniant a hamdden.
8. Hyd y cynllun
28 Awst 2024 i 31 Mawrth 2031.
9. Cyllideb ar gyfer cymorth o dan y cynllun
£3,000,000.
10. Ffurf y cymorth
Bydd yr holl gymhorthdal a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael ei ddyfarnu drwy grantiau.
11. Telerau ac amodau cymhwysedd
Mae'r cynllun yn agored i fusnesau yn y sector digwyddiadau yng Nghymru, neu fusnesau a all gael effaith gadarnhaol ar y sector hwnnw, gan gynnwys trefnwyr digwyddiadau, cyflenwyr, cyrff academaidd, cyrff ymchwil a chyrff budd cyhoeddus eraill gan gynnwys y trydydd sector.
Yn benodol, croesewir ceisiadau sy'n gallu dangos gwaith partneriaeth a/neu gyllid o ffynonellau eraill i sicrhau'r effaith fwyaf posibl ar draws y sector a gwerth am arian ar gyfer arian cyhoeddus. Bydd prosiectau sy'n ceisio cyllid llawn yn cael eu hystyried os ydynt yn dangos effeithiau cadarnhaol ar draws y sector na fyddent fel arall yn cael eu cyflawni mor effeithiol, neu ddim yn cael eu cyflawni o gwbl.
Er mwyn bod yn gymwys i ymgeisio am gyllid, bydd angen iddynt ddangos:
- Eu bod yn cyd-fynd yn strategol â Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022-2030
- Y byddant yn cyfrannu at ddatblygu'r sector yng Nghymru yn y tymor canolig a'r hirdymor
- Y byddant yn sicrhau effeithiau cadarnhaol a all gefnogi'r sector ehangach ledled Cymru
Bydd ceisiadau cymwys yn cael eu hasesu yn erbyn meini prawf ariannu manwl y cynllun.
Bydd cyllid yn cael ei flaenoriaethu tuag at brosiectau sy'n dangos bod ganddynt y potensial i wneud gwahaniaeth i'r diwydiant digwyddiadau yng Nghymru dros y tymor canolig a'r hirdymor, ac sydd hefyd yn hyrwyddo neu'n cefnogi egwyddorion gwaith a chyflog teg, lles, cynaliadwyedd, cydraddoldeb ac amrywiaeth a hyrwyddo'r Gymraeg gan arwain at ddatblygu astudiaethau achos y gellir eu rhannu ar draws y diwydiant.
Rhaid i bob cynnig ddangos 'gwerth ychwanegol' y gweithgaredd a gynigir i Gymru a'r diwydiant yn ehangach.
Ni fydd y gronfa hon yn cefnogi costau craidd cynnal digwyddiad nac unrhyw un o'r canlynol:
- Unrhyw gostau cyfalaf;
- Costau a ysgwyddwyd cyn gwneud cais, neu gostau y gellir eu talu drwy ffynonellau cyllid eraill (ee. Rhaglen Sgiliau Hyblyg Llywodraeth Cymru neu'r Rhaglen Brentisiaethau)
- TAW y gellir ei hadennill
- Costau diswyddo
- Ffioedd dyled neu daliadau i wasanaethau dyled;
- Difidendau
- Taliadau llog
- Unrhyw beth sy'n mynd yn groes i ddeddfwriaeth neu gyngor Llywodraeth Cymru
- Unrhyw fath o weithgaredd a allai, yn ein barn ni, ddwyn anfri ar Lywodraeth Cymru
- Costau sy'n gysylltiedig â hyrwyddo achos neu gredoau sefydliadau gwleidyddol neu sefydliadau ffydd
- Prosiectau sy'n dibynnu ar lafur am ddim neu sy'n ei annog
- Costau nad ydynt yn benodol i'r gweithgaredd/prosiect y gwneir cais amdano
- Costau craidd digwyddiadau presennol neu fersiynau ychwanegol o ddigwyddiadau presennol
Bydd dyfarniadau cyllid ar gyfer ceisiadau llwyddiannus yn cynnwys targedau, yn seiliedig ar wybodaeth y cais ac allbynnau arfaethedig. Bydd y rhain yn cael eu monitro'n rheolaidd, a bydd adroddiad yn cael ei gynhyrchu ar ôl cwblhau'r prosiect/gweithgaredd.
12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Hoffem gefnogi cynifer o brosiectau ag y bo modd, felly nid ydym yn disgwyl i geisiadau unigol fod dros £20,000 – £30,000; ond canllaw yn unig yw hwn ac ystyrir pob cais ar sail ei rinweddau ei hun. Caiff ymgeiswyr gyflwyno mwy nag un cais. Er y byddwn yn cefnogi costau llawn prosiectau, hoffem weld yn benodol geisiadau sy'n gallu ysgogi arian atebol (gan gynnwys cymorth mewn ffyrdd nad ydynt yn ariannol), gan y bydd hyn yn galluogi ein cyllid i fynd ymhellach.
13. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun
£30,000.
14. Gwybodaeth gysylltu
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig
Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.