Neidio i'r prif gynnwy

Rydym eisiau clywed eich barn am yr opsiwn gorau ar gyfer adnewyddu Pont Afon Dyfrdwy ar yr A494.

Sut i ymateb

Ymgynghoriad yn cau:
4 Mawrth 2025
Lansiwyd yr ymgynghoriad ar:

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae strwythur Pont Afon Dyfrdwy ar yr A494 mewn cyflwr gwael ac mae angen ei adnewyddu. 

Rydym wedi edrych ar amrywiaeth o opsiynau ac rydym yn anelu at gyflwyno cynllun a fydd yn:

  • sicrhau bod y ffordd yn addas ar gyfer ceir, cerbydau nwyddau a thrafnidiaeth gyhoeddus
  • galluogi pobl i gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
  • blaenoriaethu diogelwch a lleihau effaith digwyddiadau neu gau ffyrdd

Rydym wedi nodi'r opsiwn sy’n perfformio orau, sydd, yn ein barn ni, yn bodloni’r nodau hyn orau.

Hoffem glywed eich barn am yr opsiwn hwn, a’r pedwar opsiwn arall sydd ar y rhestr fer.

Dogfennau ymgynghori

Byrddau'r arddangosfa cyhoeddus , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 18 MB

PDF
18 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwybodaeth ychwanegol

Rydym yn cynnal arddangosfa gyhoeddus lle gallwch gael mwy o wybodaeth am y prosiect a’r opsiynau dylunio.

Gallwch gwrdd â’n tîm prosiect a fydd yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Gallwch hefyd ddewis llenwi ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad yn bersonol.

Dyddiad: Dydd Mawrth 21 Ionawr 2025
Amser: Rhwng 10yb a 7yh
Lleoliad: Eglwys Sant Andrew, Sealand Avenue, Garden City, CH5 2HN

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 4 Mawrth 2025, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:

Ffurflen ar-lein

Post

Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.

Llenwch y ffurflen a’i dychwelyd i:

Freepost A494