Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Pam mae angen pont newydd?

Mae Pont Afon Dyfrdwy ar yr A494 yn gysylltiad hanfodol ar gyfer traffig trawsffiniol rhwng gogledd Cymru, gogledd orllewin Lloegr a thu hwnt, gan gysylltu pobl, cymunedau a busnesau.

Mae’r bont yn cludo oddeutu 68,400 o gerbydau bob dydd (llif dyddiol saith diwrnod ar gyfartaledd yn seiliedig ar ddata cyfrif 2024). Mae’r lefel hon o draffig yn golygu y byddai cau’r bont i newid y rhannau sydd wedi dirywio yn amharu’n ddifrifol ar bobl sy’n teithio yn yr ardal ac yn cael effaith niweidiol ar yr economi yng ngogledd Cymru.

Mae’r angen am bont newydd yn cael ei yrru gan gyflwr strwythurol gwael dec presennol y bont. Mae’r arolygiadau a’r gwaith monitro hyd yma wedi dod i’r casgliad bod amlder y gwaith atgyweirio a’r risg o waith atgyweirio ac ymyrryd mawr sy’n golygu cau’r bont yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.

Datblygu atebion

Yn 2018, fe wnaethom gynnal gwerthusiad a oedd yn edrych ar opsiynau i adnewyddu Pont Afon Dyfrdwy ar yr A494. Yn dilyn ymateb Llywodraeth Cymru i’r Adolygiad Ffyrdd ym mis Chwefror 2023, rydym wedi adolygu Amcanion Cynllunio Trafnidiaeth y Cynllun fel eu bod yn cyd-fynd â’r pedwar prawf adeiladu ffyrdd newydd.

Cafodd y Cynllun ei ailwerthuso gan ddefnyddio’r Arweiniad diweddaraf ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2024. Drwy ddeall y materion cyfredol a’r heriau i’r dyfodol, gwnaethom nodi pum opsiwn posibl sy’n ceisio cyflawni amcanion y Cynllun.

Rydym nawr yn ymgynghori ar yr opsiwn sy’n perfformio orau o’r asesiad hwn, yn ogystal ag opsiynau eraill ar y rhestr fer a ystyriwyd gennym.

Yr opsiwn sy’n perfformio orau

Fe wnaethom asesu amrywiaeth o opsiynau fel rhan o’r cam hwn o WelTAG. Opsiwn E oedd yn perfformio orau ac mae’n cynnwys adeiladu pont newydd i gludo dwy lôn o draffig tua’r dwyrain a’r gorllewin a llwybr cyd-ddefnyddio ar gyfer beicwyr a cherddwyr.

Byddai’r bont newydd yn cael ei lleoli i’r de-ddwyrain o bont bresennol Afon Dyfrdwy ar yr A494. Cynigir bod y gwaith adeiladu’n cael ei wneud oddi ar y briffordd bresennol er mwyn i’r ffordd aros ar agor yn ystod y rhan fwyaf o’r gwaith adeiladu.

Dyma’r prif nodweddion eraill:

  • Gwelliannau i’r A494 bresennol i’r dwyrain o le mae’r ffordd yn pasio o dan Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Byddai hyn yn cynnwys cyflwyno llain galed newydd i bob cyfeiriad sy’n cysylltu â’r lleiniau caled presennol i’r dwyrain o Afon Dyfrdwy, gwella aliniad a systemau draenio cynaliadwy.
  • Mynedfa/allanfa newydd i adael yr A494 tuag at ardal Glan yr Afon, ychydig heibio i groesfan yr afon. Bydd defnyddwyr y ffordd hefyd yn gallu ymuno â’r A494 o’r un gyffordd, gan droi i’r chwith i gyfeiriad Queensferry. 
  • Hyd at 3km o lwybrau cerdded a beicio newydd a gwell sy’n cysylltu â Llwybr Arfordir Cymru, Llwybr 568 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, Queensferry a Garden City.
  • Gwyro ‘Draen Queensferry’ (prif afon Cyfoeth Naturiol Cymru), sydd ar ochr de ddwyreiniol yr A494 ac sy’n llifo ar hyn o bryd mewn ceuffos oddi tani, i’r gorllewin o Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru ac mewn sianel agored i’r dwyrain o’r rheilffordd. Byddai darnau newydd o sianel agored yn cael eu darparu'r naill ochr a’r llall i’r rheilffordd gyda rhan o’r cylfat presennol o dan y rheilffordd yn cael ei chadw.
  • Byddai gofer draenio newydd i Afon Dyfrdwy yn cael ei chreu a byddai Gorsaf Bwmpio newydd yn cael ei darparu i’r gorllewin o Afon Dyfrdwy ar gyfer Draen Queensferry.
  • Gwaith lliniaru amgylcheddol a gwella bioamrywiaeth gan gynnwys lleiniau blodau gwyllt, pantiau, planhigfeydd coetiroedd brodorol a glaswelltir amwynder.

Mae mwy o wybodaeth am yr opsiwn sy’n perfformio orau ar gael ar y dudalen ymgynghori.

Opsiynau eraill

Er mai Opsiwn E sy’n perfformio orau, byddem hefyd yn croesawu eich barn a’ch sylwadau ar yr opsiynau eraill a ystyriwyd gennym:

Opsiwn B

Pont dau strwythur newydd dros Afon Dyfrdwy ynghyd â chyswllt teithio llesol yn rhan o isbont y rheilffordd bresennol.

  • Byddai hyn yn golygu dwy bont newydd yn lle’r bont bresennol dros Afon Dyfrdwy.
  • Byddai’r gwaith ar y rheilffordd yn cael ei leihau drwy ailwampio'r llain ymyl ffordd bresennol drwy’r strwythur i hwyluso llwybr teithio llesol.
  • Hyd at 3km o lwybrau teithio llesol newydd a gwell.

Opsiwn C

Pont dau strwythur newydd dros Afon Dyfrdwy ynghyd â thanbont reilffordd ar wahân ar gyfer teithio llesol.

  • Byddai hyn yn golygu dwy bont newydd yn lle’r bont bresennol dros Afon Dyfrdwy.
  • Byddai tanbont newydd yn cael ei hadeiladu drwy arglawdd y rheilffordd ar gyfer llwybr teithio llesol.
  • Hyd at 3km o lwybrau teithio llesol newydd a gwell.

Opsiwn D

Pont un strwythur newydd oddi ar y ffordd bresennol dros Afon Dyfrdwy ynghyd â thanbont reilffordd newydd tua’r gorllewin.

  • Byddai hyn yn golygu cael pont newydd yn agos iawn at y bont bresennol dros Afon Dyfrdwy.
  • Byddai’r bont bresennol dros yr afon naill ai’n cael ei hailbwrpasu ar gyfer defnydd nad yw’n ymwneud â moduron neu’n cael ei dymchwel.
  • Byddai tanbont newydd yn cael ei hadeiladu drwy arglawdd y rheilffordd ar gyfer traffig ffordd i’r gorllewin a llwybr teithio llesol.
  • Hyd at 3km o lwybrau teithio llesol newydd a gwell.

Opsiwn E

Pont un strwythur newydd oddi ar y ffordd bresennol dros Afon Dyfrdwy ynghyd â chyswllt teithio llesol yn rhan o danbont y rheilffordd bresennol.

  • Byddai hyn yn golygu cael pont newydd yn agos iawn at y bont bresennol dros Afon Dyfrdwy.
  • Byddai’r gwaith ar y rheilffordd yn cael ei leihau drwy ailwampio'r llain ymyl ffordd bresennol drwy’r strwythur i hwyluso llwybr teithio llesol.
  • Hyd at 3km o lwybrau teithio llesol newydd a gwell.

Opsiwn F

Pont un strwythur newydd oddi ar y ffordd bresennol dros Afon Dyfrdwy ynghyd â thanbont reilffordd ar wahân ar gyfer teithio llesol.

  • Byddai hyn yn golygu cael pont newydd yn agos iawn at y bont bresennol dros Afon Dyfrdwy.
  • Byddai tanbont newydd yn cael ei hadeiladu drwy arglawdd y rheilffordd ar gyfer llwybr teithio llesol.
  • Hyd at 3km o lwybrau teithio llesol newydd a gwell.

Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau eraill ar gael ar y dudalen ymgynghori

Cwestiynau ymgynghoriad

Cwestiwn 1

Ydych chi’n byw neu’n gweithio ger Pont Afon Dyfrdwy ar yr A494?

Cwestiwn 2

A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar Opsiwn E (yr opsiwn sy’n perfformio orau) ar gyfer adnewyddu Pont Afon Dyfrdwy ar yr A494?

Cwestiwn 3

A oes gennych unrhyw sylwadau ar unrhyw un o’r opsiynau eraill ar gyfer adnewyddu Pont Afon Dyfrdwy ar yr A494?

Cwestiwn 4

Oes gennych chi unrhyw sylwadau ynghylch y cyfleusterau cerdded, olwyno a beicio arfaethedig? Byddai’r rhain yn cael eu cynnwys ym mhob opsiwn a gyflwynir.

Cwestiwn 5

A oes gennych unrhyw sylwadau eraill yr hoffech eu gwneud?

Cwestiwn 6

Byddem yn hoffi clywed eich barn am yr effaith y byddai’r diwygiadau arfaethedig yn ei chael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Pa effeithiau rydych chi’n credu y byddai? Sut y gellid cynyddu effeithiau positif a lliniaru effeithiau negyddol?

Cwestiwn 7

Hefyd, esboniwch sut rydych yn credu y gellid ffurfio neu newid y dewisiadau arfaethedig er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, ac nad ydynt yn effeithio’n niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg nac yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Cwestiwn 8

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydyn ni wedi mynd i’r afael â nhw, defnyddiwch y lle hwn i wneud hynny.

Sut mae ymateb

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng dydd Llun 9 Rhagfyr 2024 a 11.59yh ddydd Mawrth 4 Mawrth 2025.

Mae manylion am sut i ymateb ar gael ar y dudalen ymgynghori.

Ymweld â’n harddangosfa gyhoeddus

Rydym yn cynnal arddangosfa gyhoeddus lle gallwch weld yr wybodaeth hon a chwrdd â thîm y prosiect a fydd yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Rhwng 10yb a 7yh ar dydd Mawrth 21 Ionawr 2025 yn Eglwys Sant Andrew, Sealand Avenue, Garden City, CH5 2HN.

Y camau nesaf

Byddwn yn adolygu pob sylw ac awgrym ar ôl i ymgynghoriad cyhoeddus Cam 2 WelTAG gael ei gau. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth Gogledd Cymru yn ystyried canlyniadau’r ymarfer ymgynghori hwn wrth wneud penderfyniad ar yr opsiwn a ffefrir. Byddwn yn cynhyrchu adroddiad i grynhoi’r ymatebion adborth.

Bydd diweddariadau ar gynnydd y Cynllun yn cael eu darparu ar wefan y prosiect.

Eich hawliau chi

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru a’i hymgynghorwyr penodedig fydd yn rheoli data Cynllun Pont Afon Dyfrdwy A494 ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych fel rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol, a bydd hyn yn eu galluogi i ddefnyddio’r wybodaeth i wneud penderfyniadau am sut byddant yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â nhw neu'n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Os bydd Llywodraeth Cymru yn dadansoddi mwy ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad, mae’n bosibl y bydd trydydd parti achrededig (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i gyflawni’r gwaith hwn. Dim ond dan gontract y bydd unrhyw waith o’r fath yn cael ei wneud. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

I ddangos bod yr ymgynghoriad wedi'i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi'r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych chi’n dymuno i’ch enw neu’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod i ni yn ysgrifenedig pan fyddwch chi'n anfon eich ymateb. Byddwn yn eu golygu wedyn cyn eu cyhoeddi.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gallai fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu rhywfaint o wybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau a gyhoeddir eu cadw am gyfnod amhenodol. Bydd unrhyw ddata sy’n cael ei gadw fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw am ddim mwy na thair blynedd.

Eich hawliau chi

Dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi hawl:

  • i gael gwybod am y data personol sy’n cael ei gadw amdanoch chi, ac i gael gweld y data hwnnw
  • i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu atal prosesu (mewn rhai amgylchiadau)
  • i’ch data gael ei ‘ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau)
  • i gludadwyedd data (mewn rhai amgylchiadau)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael mwy o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r ffordd mae'n cael ei defnyddio neu, os ydych chi eisiau arfer eich hawl o dan Reoliad GDPR y DU, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data

Swyddog Diogelu Data,
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
CAERDYDD,
CF10 3NQ.

Ebost: dataprotectionofficer@gov.wales

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth,
Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Swydd Gaer,
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Neu gallwch ymweld â gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG51127

Mae rhagor o wybodaeth am y Cynllun, yr opsiynau a ystyriwyd a’r opsiwn sy’n perfformio orau ar gael ar dudalen ymgynghori’r prosiect.

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch ysgrifennu at:

Llywodraeth Cymru
Sarn Mynach
Cyffordd Llandudno I Llandudno Junction
LL31 9RZ 

Ebost: YmgynghoriadA494PontAfonDyfrdwy@llyw.cymru

Mae’r ddogfen hon hefyd ar gael yn Saesneg.