Daeth yr ymgynghoriad i ben 3 Rhagfyr 2014.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 196 KB
Ymatebion 1-30 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Ymatebion 31-60 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Ymatebion 61-80 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 889 KB
Ymatebion 81-100 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Ymatebion 101-115 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Bydd Cynllun Adfer Natur Cymru yn amlinellu'r uchelgais i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, y nodau y byddwn yn eu rhoi ar waith i gyflawni'r uchelgais honno a'r camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r nodau hynny.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Yr ymgynghoriad hwn yw'r cam cyntaf gan Lywodraeth Cymru i ddiffinio'r trywydd ar gyfer camau gweithredu ar fioamrywiaeth yng Nghymru yng nghyd-destun ein hymrwymiad i sefydlu dull integredig o reoli adnoddau naturiol a chyflawni ein hymrwymiadau rhyngwladol o dan y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol yn ystod y 5 mlynedd nesaf.
Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am eich barn ar ein huchelgais ein nodau a'n camau gweithredu arfaethedig ac yn gofyn beth yw'r ffordd orau o gyflawni'r Cynllun Adfer Natur.
Beth yw testun yr ymgynghoriad hwn?
Bioamrywiaeth - amrywiaeth a helaethrwydd y byd naturiol - yw sylfaen ein bywydau a'n bywoliaeth drwy ddarparu gwasanaethau hanfodol megis cylchu dŵr a ffurfio pridd yn ogystal â gwasanaethau diwylliannol megis ein tirweddau a bywyd gwyllt.
Mae angen inni roi cynllun ar waith i gefnogi bioamrywiaeth i barhau i ddarparu'r gwasanaethau hyn ac i ddiogelu ein rhywogaethau ein cynefinoedd a'n hecosystemau.
Bydd Cynllun Adfer Natur Cymru hefyd yn cyflawni ein hymrwymiad o dan y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol i roi strategaeth a chynllun gweithredu bioamrywiaeth cenedlaethol ar waith erbyn 2015.