Neidio i'r prif gynnwy

Prif Negeseuon

Mae’r Cynllun Adfer Coetir (WRS) yn seiliedig ar y Cynllun Glastir a oedd yn rhan o’r Rhaglen Datblygu Gwledig. Y cyllid ar gael i gyfnod y Datganiad o Ddiddordeb (DOD) yw £1 filiwn. Bydd y cyfnod hwn yn agor ar 14 Mawrth 2022 ac yn cau am hanner nos ar 22 Ebrill 2022.

Mae’r DOD yma ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus a fydd yn gallu cwblhau yr holl waith cyfalaf a phlannu erbyn 31 Mawrth 2023.

Cewch gyflwyno DOD yn WRS os oes gennych trwydded cwympo coed, cyfeirnod cais trwydded cwympo neu Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol sydd yn cynnwys llarwydd.

Mae’n rhaid i chi gyflwyno y trwydded cwympo, cais am drwydded cwympo gyda rhif cofnodi neu Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol (SPHN) gyda eich DOD, erbyn 22 Ebrill 2022 fan bellaf ar gyfer asesiad gan Llywodraeth Cymru. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd i ategu unrhyw DOD a gyflwynwyd mewn rownd hanesyddol o GWR. Bydd methiant i wneud hyn yn arwain i’r caeau yn cael eu gwrthod.

Mae WRS yn arlwyo gwaith cyfalaf ar gyfer ail-blannu, ffensio a gweithgareddau cysylltiedig ar safleoedd ble mae llarwydd ac hyd at 50% o rhywogaethau sydd ddim yn llarwydd.

I fod yn gymwys am gefnogaeth i ail-blannu eich coetir, bydd rhaid i chi gyflwyno Cynllun Rheoli Coedwig am y safle sydd yn gymwys yw adfer.

Bydd Cwsmeriaid sydd yn derbyn contract Cynllun Adfer Coetir (WRS) ble mae PAWS yn cael ei ail-blannu yn gymwys i hawlio un taliad grant yn unig o £1500 tuag at y gost o gynhyrchu cynllun. Dylai’r cynllun yma ystyried yr ardal rheolaeth coetir yn ei gyfanrwydd, yn cynnwys yr ardal sydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer grant adfer drwy WRS. Ni chaiff ychwaneg o daliadau cynlluniau rheoli eu trawsgronni mewn rowndiau olynol o WRS.

Bydd rhaid i Gynlluniwr Cofrestredig ysgrifennu’r Cynllun WRS ar gyfer adfer PAWS o dan WRS sydd yn cydymffurfio â Safonau Coedwigo’r Deyrnas Unedig (UKFS).

Os yr ydych yn hawlio’r grant Cynllun WRS, bydd angen gwireddu adfer y PAWS a gyflwynwyd yn y rownd yma o WRS o fewn y cyfnod hawliad. Bydd methiant i gario allan yr adfer.

Rydym yn cynghori Cwsmeriaid a fydd yn dymuno gwneud budd o’r grant i ystyried eu holl coetir, yn sicr yr holl llarwydd sydd ganddynt, oherwydd falle y dymunent ymgeisio at unrhyw rownd dilynol o WRS os daw i gynllun.

I fod yn gymwys i gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb mae'n rhaid i chi fod yn gallu cadw at y dyddiadau yn y tabl canlynol:

Cyflwyno eich Datganiad o Ddiddordeb gyda’r Trwydded Cwympo, Cais am Trwydded Cwymp, SPHN ategol rhwng 14 Mawrth 2022 a 22 Ebrill 2022
Ymateb i ganlyniadau dewis o Mehefin 2022
Cwblhau holl waith sefydlu a cyfalaf a chyflwyno hawliadau ar gyfer taliad erbyn 31 Mawrth 2023

Byth hawliadau Cynllun Rheoli Coedwig yn cael eu prosesu ar gyfer taliad yn dilyn derbyniad o fap contract a wirwyd.

Mae'r ffurflen mynegi diddordeb yng nghynllun Adfer Coetir ar gael drwy wasanaeth Taliadau Gwledig Cymru Ar Lein (RPW). Bydd angen Cyfeirif Cwsmer (CRN) arnoch a cyfrif RPW Ar Lein cyn ichi allu cael gafael ar y Ffurflen i Fynegi Diddordeb yng nghynllun Adfer Coetir.

I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, bydd angen ichi lenwi’r ffurflen gofrestru ar-lein.  Darllenwch y canllaw ar sut i gofrestru i gael rhagor o fanylion. Gallwch newid y rhan fwyaf o fanylion eich busnes ar-lein. Ond os ydych am gofnodi newidiadau mawr, efallai y bydd Llywodraeth Cymru’n gofyn ichi am ragor o fanylion. Ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 am ragor o wybodaeth. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. I gael gwybod rhagor am gofrestru gyda RPW Ar Lein neu gyflwyno Ffurflen Mynegi Diddordeb, darllenwch Adran E y llyfryn hwn.

Dylech ddarllen y Llyfryn hwn a'r Canllawiau - Sut i Lenwi'r ffurflen mynegi diddordeb ar lein cyn ichi ei chyflwyno.

Dylech sicrhau eich bod yn cyflawni'r holl feini prawf drwy gyfnod llawn blwyddyn y contract ac yna drwy’r cyfnod cynnal a chadw, sef 10 mlynedd ar ôl yr hawliad terfynol.

Bydd angen ichi baratoi Cynllun Rheoli Coedwig a rhaid i hwnnw gydymffurfio â UKFS.

A fyddech cystal ag ymateb yn brydlon i unrhyw ymholiadau gan Lywodraeth Cymru neu Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW) am eich Datganiad o Diddordeb mewn Adfer Coetir. Os na fyddwch chi'n ymateb o fewn yr amser a nodir, mae'n bosibl y bydd oedi cyn cynnig contract Adfer Coetir ichi.

Bydd cyhoeddusrwydd yn cael ei roi i unrhyw newidiadau i’r canllawiau ac ymrwymiadau yn Gwlad a lle bydd angen, byddwn yn cysylltu busnesau fferm a rheolwyr tir y bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnynt.

Sefydliad Masnach y Byd a Rheoli Cymorthdaliadau

  1. Ystyrir bod cymorthdaliadau a ddarperir o dan y cynllun hwn yn daliadau o dan raglen amgylcheddol, sy'n dod o fewn cwmpas Atodiad II o Gytundeb y WTO ar Amaethyddiaeth ac sydd wedi'u categoreiddio fel rhai y tu mewn i’r 'blwch gwyrdd'.
  2. O'r herwydd, mae'r cymorthdaliadau hyn wedi'u heithrio o Gytundeb Masnach a Chydweithredu'r DU a'r UE (TCA) a threfn rheoli cymhorthdal interim y DU.

Adran A - Cyflwyniad

Yng Nghymru, mae llawer o goetiroedd llarwydd wedi'u heintio gan y pathogen ffwngaidd Phytophthora Ramorum. Mae cynllun Adfer Coetir wedi cael ei ddatblygu er mwyn ailblannu coetir sydd wedi'u heintio gan Phytophthora ramorum neu ardaloedd lle y torrwyd llarwydd er mwyn arafu lledaenu'r clefyd. Pan fydd coetir yn cael ei lwyrgwympo, bydd cryn gyfle i sicrhau mwy o amrywiaeth yn rhywogaethau'r coed, gan greu coetir mwy cymysg a brodorol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hybu amrywiaeth o rywogaethau yng Nghymru er mwyn gwneud ein coetir yn fwy cydnerth ac er mwyn iddynt allu cynnig amrywiaeth ehangach o fanteision.

Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus baratoi Cynllun Rheoli Coedwig sy'n cydymffurfio â UKFS cyn i’w cais gael mynd ymlaen i'w brosesu dan y contract. Bwriedir y llyfryn hwn ar gyfer coedwigwyr, ffermwyr a rheolwyr tir sy'n bwriadu cyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb mewn cynllun Adfer Coetir. Nid yw'r manylion hyn yn cynnwys popeth ac mae'n bosibl y byddant yn cael eu diweddaru.

Geirfa

Llain: mae hyn yn cyfeirio at ardal o goetir neu at ardal o goetir sydd wedi'i chwympo ac sydd yn mynd i gael ei hailstocio.

Coesynnau: term sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer y coed ifanc sy'n cael eu plannu mewn llain.

Adran B – Pwy sy’n gymwys?

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cynllun Adfer Coetir:

  • rhaid ichi fod yn gwsmer cofrestredig gyda Llywodraeth Cymru ac wedi cael Cyfeirif Cwsmer (CRN).
  • rhaid i'ch tir fod wedi'i gofrestru gyda System Adnabod Parseli Tir Llywodraeth Cymru (LPIS).
  • rhaid i arwynebedd y coetir fod o leiaf 0.25 hectar o dir cymwys.
  • rhaid ichi fod gyda rheolaeth lawn o’r tir o’r dyddiad gaiff y datganiad o ddiddordeb ei gyflwyno drwy gydol oes y contract a chyfnod llawn yr ymrwymiad. Os ydych ond yn dal trwydded pori ni fyddwch yn gymwys i wneud cais.
  • ni ddylech fod wedi gwneud hawliad yswiriant na bod wedi cael taliad yswiriant am golli coed oherwydd Phytophthora ramorum.
  • rhaid ichi gyflwyno cynllun Rheoli Coedwig sy'n cyflawni UKFS ac sydd wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

Adran C – Pa dir sy’n gymwys

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cynllun Adfer Coetir, rhaid i'r tir:

  • gynnwys llarwydd neu fod wedi cynnwys llarwydd sydd bellach wedi cael eu cwympo.
  • fod o dan SPHN, Drwydded Cwympo neu Cais Trwydded Cwympo.
  • fod yn dir sydd heb gael arian grant i’w ailstocio o unrhyw ffynhonnell arall.
  • fod wedi bodloni pob caniatâd angenrheidiol gyda rhanddeiliaid a chyrff statudol.
  • gynnwys parseli caeau sy'n 0.1ha neu'n fwy mewn ardal.
  • fod wedi'i leoli yng Nghymru.

Ariannu o Ffynonellau eraill

Os ydych chi'n cael taliad o unrhyw ffynhonnell arall am waith o dan gynllun Adfer Coetir , byddai hyn yn cael ei ystyried fel ariannu dwbl.

Sylwch mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau nad ydych yn llofnodi contract ar gyfer cynllun Adfer Coetir sy'n gorgyffwrdd ag unrhyw gytundeb arall ac nad oes dim gwrthdaro rhwng gofynion y cynlluniau.

Os gwelir eich bod yn cael arian o ffynhonnell arall neu wedi cael arian o ffynhonnell arall ar gyfer ymrwymiadau o dan gynllun Adfer Coetir, gallai hyn arwain at gosbau ariannol, gorfod ad-dalu taliadau ac, o bosibl, fe ellid terfynu eich Contract.

Adran D – Rheolau’r Cynllun Adfer Coetir

Os llwyddwch i gael eich dethol ar gyfer y Cynllun Adfer Coetir, bydd gofyn ichi baratoi Cynllun Rheoli Coedwig sy'n cydymffurfio â UKFS (Comisiwn Coedwigaeth – Safon a Chanllawiau Coedwigaeth y DU). Bydd y Cynllun Rheoli Coedwig yn cael ei asesu gan Lywodraeth Cymru neu Cyfoeth Naturiol Cymru. Ar ôl cymeradwyo'r Cynllun Rheoli Coedwig, gellir cynnwys yr eitemau Gwaith Cyfalaf cymwys sydd wedi'u rhestru yn eu Cynllun Rheoli yng nghontract y Cynllun Adfer Coetir. Mae'r adran hon yn rhoi manylion eitemau'r gwaith cyfalaf sydd ar gael o dan y Cynllun Adfer Coetir.

Os yr ydych yn ystyried adfer PAWS bydd angen i chi gysylltu a Cynlluniwr Coetir Cofrestredig i gwblhau eich cynllun o’r restr manylion cyswllt Cynllunwyr Coetir Cofrestredig Llywodraeth Cymru.

Yr Ardal Fwyaf sy'n Gymwys i gael Cymorth o dan y Cynllun Adfer Coetir

Bydd yr ardal fwyaf sy'n gymwys i gael cymorth o dan y Cynllun Adfer Coetir yn cyfateb i ddwywaith ardal y llarwydd a nodir yn yr Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol neu'r Drwydded Cwympo.

Er enghraifft, os bydd 1 hectar o larwydd yn cael ei ddangos ar eich Trwydded Cwympo, yr ardal fwyaf sy'n gymwys i gael arian o dan y Cynllun Adfer Coetir fydd 2 hectar.

Gan mae isafswm yr ardal sydd ei angen i fod yn gymwys ar gyfer cymorth yw 0.25 hectar, felly yr isafswm o ardal o llarwydd fyddai ei angen o fewn yr ardal yna fyddai 0.13 hectar

Gwaith Cyfalaf - Ailblannu

Mae'r gofynion canlynol yn berthnasol i holl opsiynau ailblannu sy'n Waith Cyfalaf:

  • Rhaid i'r holl ail-blannu gael ei wneud yn unol â’r UKFS.
  • Rhaid ailblannu o leiaf 2500 coesyn yr hectar.
  • Rhaid cynnal a chadw'r coetir sydd wedi'i ailblannu am 10 mlynedd ar ôl dyddiad yr hawliad terfynol. Rhaid i 2500 o goesynnau fod yn fyw ar ddiwedd y cyfnod cynnal a chadw 10 mlynedd neu fod y canopi wedi'i gau. Os na lwyddir i gyflawni'r dwysedd stocio penodedig yn ardal y contract drwyddi draw, mae'n bosibl y bydyn rhaid ad-dalu’r taliadau.

Rheolau penodol Adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS)

Bydd angen i unrhyw ardal o PAWS sydd yw ail-blannu gael arolwg tir a map i gyd ddilyn y Cynllun Rheoli Coedwig WRS er mwyn gael ei ystyried a’i gymeradwyo gan tîm gwirio Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae canllawiau pellach ar gael yn Gwaith Adfer PAWS – Canllawiau ar Arfer Gorau.

Dim ond ardaloedd o PAWS sydd yn cael ei nodi ar yr Rhestr o Goetiroedd Hynafol (AWI) a all gael eu ystyried yn gymwys ar gyfer gefnogaeth un-waith o £1500 am gynllun Rheoli Coedwig o dan WRS. Medr data AWI gael ei weld, neu ei lawrlwytho drwy Fap Cyfle Coetir ar FapDataCymru.

Ni fydd unrhyw ardal sydd yn cwympo y tŷ allan ir haen AWI 2011 yn cael ei ystyried fel PAWS ar gyfer diben WRS.

Mae canllawiau pellach ar cymorth ffi Cynllun Rheoli Coedwig ar gael yn Adran E o’r Llyfryn Rheolau yma.

Planhigfa ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS)

Os yw'r ardal rydych yn bwriadu ei hailstocio yn PAWS bydd angen i Cynlluniwr Coetir Cofrestredig ysgrifennu’r cynllun yn ogystal ag asesiad PAWS. Mae’n rhaid i hyn ddilyn Gwaith Adfer PAWS – Canllawiau ar Arfer Gorau a geir ar wefan Llywodraeth Cymru. Bydd angen ir Cynlluniwr arolygu’r coetir, os yn bosib cyn i’r coed gael eu cwympo, a asesu’r Meini Prawf Pwysig Ecolegol, yr Meini Prawf Datblygu Ecolegol a Bygythiadau i feddiannu sgôr Potensial Ecolegol. Bydd tîm gwirio coetir Cyfoeth Naturiol Cymru neu Lywodraeth Cymru yn gwirio’r Cynlluniau Rheoli Coedwig ac efallai yn archwilio cynllun fel rhan o’r broses wirio.

Bydd rhaid cyflwyno map digidol manwl gywir, anodedig sydd yn dangos Meini Prawf Pwysig Ecolegol a Bygythiadau gyda’r Cynllun WRS.

Bydd yr opsiynau ailstocio ar gyfer PAWS yn dibynnu ar sut mae’r ardal a gyflwynwyd ar gyfer grant yn cael ei flaenoriaethu (Uchel, Canolig neu Isel). Dylech sicrhau bod unrhyw gymysgedd rhywogaethau coed brodorol lydanddail yn addas i’r safle.

Opsiynau ailstocio ar gyfer PAWS

Blaenoriaeth ailstocio Uchel

Amcan – cyflawni adferiad llawn i goetir frodorol lydanddail tra’n anelu am amodau ffafriol. Mannau pwysig a atborion wedi ei amddiffyn a’u cryfhau efo dichon i ehangu. 100% o ailstocio gyda llydanddail a phrysglwyn brodorol i’r safle.

Opsiwn ailstocio – 100% Gwaith Cyfalaf (CW) W631

Blaenoriaeth Canolig

Amcan - PAWS Trosiannol/Adferedig – i gyflawni gwelliant fwy gymedrol tuag at amodau ffafriol h.y. adennill cyflwr (lleiafswm o 50% llydanddail brodorol yn y canopi) gyda dichon yn y dyfodol i wella amodau/adferiad llawn.

Opsiwn ailstocio – 45% CW W631; Hyd at 55% CW W615, W618, W619, W632 yn cynnwys 10% llydanddail brodorol.

Blaenoriaeth Isel

Amcan – Rheoli’r safle fel PAWS yn unol a Safonau Coedwigo’r Deyrnas Unedig, cynnal, amddiffyn a chryfhau unrhyw atbor o goetir hynafol. Lleiafswm o 15% o ailstocio llydanddail brodorol i’r safle yn unol a Safonau Coedwigo’r Deyrnas Unedig.

Opsiwn ailstocio – 10% CW W631; Gweddill hyd at 90% CW W615, W618, W619, W632

Planhigfa ar Safleoedd nad ydynt yn Goetiroedd Hynafol (PAWS)

Ar safleoedd nad ydynt yn blanhigfeydd ar safleoedd Coetir Hynafol, bydd angen ystyried faint yw uchder mewn metrau uwchben lefel y môr yw'r lleiniau a'r amrywiaeth o rywogaethau sydd i'w plannu.

Newidiadau i anghenion rhywogaethau ar gyfer Trwydded Cwympo

Mae’r cyfansoddiad rhywogaethau ar gyfer cynllun Adfer Coetir yn medru fod yn wahanol i fanylyn y drwydded cwympo. Os yw’r cynllun Adfer Coetir yn cynnwys Planhigfa ar Safle Coetir Hynafol, bydd Cynghorydd Coetir Cyfoeth Naturiol Cymru yn delio gyda ffurflen newid rhywogaethau ar ôl ymweld â’r safle. Ni ddylech ofyn i newid rhywogaethau cyn iddynt gael eu gwirio oherwydd mewn rhai achosion, bydd angen gwneud newidiadau pellach yn ystod y broses wirio. Bydd newid i’r rhywogaeth yn gorfod cydymffurfio gyda’r manylyn fel y caiff ei amlinellu yn Adfer PAWS - Canllawiau ar Arfer Gorau.

Os nad yw’r cynllun Rheoli Coedwig yn cynnwys Planhigfa ar Safle Coetir Hynafol, a mae angen newid i rhywogaeth bydd angen i’r cynlluniwr coetir gysylltu â’r tîm Caniatáu Cyfoeth Naturiol Cymru - forestregulations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae pump gwahanol opsiwn ar gyfer Gwaith Cyfalaf ailstocio ar gael o dan gynllun Adfer Coetir. Mae'r Opsiynau Gwaith Cyfalaf hyn yn cynnwys:

W615 Gwaith Cyfalaf, Ailstocio Sylfaenol - uwchben 350 metr

Mae'r opsiwn Gwaith Cyfalaf hwn ar gyfer ailstocio lleiniau lle bydd mwy na 50% o'r llain 350 metr uwchben lefel y môr (e.e. 1.4 ha (54%) o’r llain uwchben 350 metr ac 1.2 ha (46%) o dan 350m). Mae'n dderbyniol rhannu'r llain ar hyd y gyfuchlin berthnasol er mwyn gallu defnyddio'r opsiwn priodol uwchben y llinell ac o dani.

Rhaid plannu rhywogaethau coed llydanddail ar o leiaf 10% o ardal y llain.

Gellir plannu rhywogaethau llydanddail, rhywogaethau conwydd neu gymysgedd o'r ddwy ar weddill ardal y llain (90% ar y mwyaf). Rhaid plannu dwy wahanol rywogaeth fan leiaf, ac ni cheir plannu’r un rhywogaeth ar fwy na 75% o'r llain.

Ni cheir plannu rhywogaethau prysgwydd (e.e. cyll) ar fwy na 10% o'r llain. Ni chaiff rhywogaeth prysgwydd gyfrannu at gyfanswm y rywogaethau coed llydanddail y mae'n rhaid eu plannu.

W618 Gwaith Cyfalaf, Ailstocio Sylfaenol - rhwng 250 a 350 metr

Mae'r opsiwn Gwaith Cyfalaf hwn ar gyfer ailstocio lleiniau lle bydd mwy na 50% o'r llain rhwng 250 a 350 metr uwchben lefel y môr (e.e. 1.4 ha (54%) o’r llain uwchben 250 metr ac 1.2 ha (46%) o dan 250m). Mae'n dderbyniol rhannu'r llain ar hyd y gyfuchlin berthnasol er mwyn gallu defnyddio'r opsiwn priodol uwchben y llinell ac o dani.

Rhaid plannu rhywogaethau coed llydanddail ar o leiaf 10% o ardal yr safle.

Gellir plannu rhywogaethau llydanddail, rhywogaethau conwydd neu gymysgedd o'r ddwy ar weddill ardal y llain (90% ar y mwyaf). Rhaid plannu tair gwahanol rywogaeth fan leiaf, ac ni cheir plannu yr un rhywogaeth ar fwy na 70% o'r llain.

Ni cheir plannu rhywogaethau prysgwydd (e.e. cyll) ar fwy na 10% o'r llain. Ni chaiff rhywogaeth prysgwydd gyfrannu at gyfanswm y rhywogaethau coed llydanddail y mae'n rhaid eu plannu.

W619 Gwaith Cyfalaf, Ailstocio Sylfaenol - o dan 250 metr

Mae'r opsiwn Gwaith Cyfalaf hwn ar gyfer ailstocio lleiniau lle bydd mwy na 50% o'r llain o dan 250 metr uwchben lefel y môr (e.e. 1.4 ha (54%) o'r llain o dan 250 metr ac 1.2 ha (46%) uwchben 250 metr). Mae'n dderbyniol rhannu'r llain ar hyd y gyfuchlin berthnasol er mwyn gallu defnyddio'r opsiwn priodol uwchben y llinell ac o dani.

Rhaid plannu rhywogaethau coed llydanddail ar o leiaf 10% o ardal y llain.

Gellir plannu rhywogaethau llydanddail, rhywogaethau conwydd neu gymysgedd o'r ddwy ar weddill ardal y llain (90% ar y mwyaf). Rhaid plannu tair gwahanol rywogaeth fan leiaf, ac ni cheir plannu yr un rhywogaeth ar fwy na 70% o'r llain.

Ni cheir plannu Pyrwydd Sitca ar fwy na 40% o'r llain.

Ni cheir plannu rhywogaethau prysgwydd (e.e. cyll) ar fwy na 10% o'r llain. Ni chaiff rhywogaeth prysgwydd gyfrannu at y leiafswm y rhywogaethau coed llydanddail y mae'n rhaid eu plannu.

W631 Gwaith Cyfalaf, Coed Llydanddail Brodorol

Mae'r opsiwn Gwaith Cyfalaf hwn yn ei gwneud yn ofynnol plannu'r safle i gyd ag amrywiaeth o rywogaethau Coed Llydanddail Brodorol. Dylai'r gymysgedd fod yn gynhenid i'r safle ac yn cydymffurfio'n bennaf â mathau o Gynllun Gweithredu Cynefin (er enghraifft derw ucheldir, coedwigoedd collddail cymysg iseldir), fodd bynnag, efallai y bydd amodau lleol yn golygu bod angen rhywfaint o amrywiad o'r rhain.

Ni cheir plannu rhywogaethau prysgwydd (e.e. cyll) ar fwy nag 20% o'r llain.

W632 Gwaith Cyfalaf, Coed Llydanddail Brodorol

Mae'r opsiwn Gwaith Cyfalaf hwn yn ei gwneud yn ofynnol plannu rhywogaethau coed llydanddail brodorol ar 80% o'r safle. Gellir plannu naill ai rhywogaethau coed llydanddail brodorol neu anfrodorol ar yr 20% sy'n weddill.

Ni cheir plannu rhywogaethau prysgwydd (e.e. cyll) ar fwy nag 20% o'r llain.

Mannau Agored

Mae dwysedd y stocio a ddangosir yn y manylebau plannu wedi'i seilio ar nifer y coesynnau yr hectar a'r rhagdybiaeth yw y caiff yr ardal sydd wedi’i gynnwys yn y contract lle y cwympwyd y coed gael ei hailstocio'n llawn â choed i’r dwysedd a benodir yn y contract.

Rhaid mapio ardaloedd o fannau agored/ardaloedd lle nad oes modd plannu e.e traciau a glannau afonydd oddi fewn i’r coetir sydd yn 0.1ha neu'n fwy a'u heithrio o'r ardal sy'n cael cymorth grant. Nid yw’r ardaloedd yma yn gymwys ar gyfer cymorth o dan y Cynllun Adfer Coetir.

Gellir cynnwys mannau agored gwasgaredig a rhai nad oes modd eu mapio (h.y. llai na 0.1ha) yn yr ardal blannu hyd at gyfanswm o 15% o'r ardal i gyd. O dan amgylchiadau o'r fath, bydd angen nodi hyn ar y Cynllun Rheoli Coedwig. Bydd angen ichi gynyddu nifer y coesynnau ar bob hectar mewn rhannau eraill o'r safle er mwyn gwneud iawn am y tir sydd heb ei blannu ac i sicrhau bod nifer y coed sy'n ofynnol dan y contract yn cael eu plannu.

Mae'r tabl isod yn rhestru cyfraddau’r taliadau ar gyfer gwaith Cyfalaf.

Cyfraddau’r Taliadau
Gwaith Cyfalaf Math o Ailstocio £ / Ha
W615 Sylfaenol £1,900
W618 Sylfaenol £1,900
W619 Sylfaenol £2,300
W631 Llydanddail brodorol £2,770
W632 Llydanddail £2,770
Gwaith Cyfalaf Arall

Yn y tabl isod, rhestrir eitemau Gwaith Cyfalaf ychwanegol sydd ar gael o dan y Cynllun Adfer Coetir a chyfraddau'r taliadau ar eu cyfer. Mae'r eitemau hyn ar gyfer paratoi'r safle i alluogi ailstocio a gwaith i amddiffyn yr ardal sy'n dod o dan y Contract rhag pori.

Tabl Gwaith Cyfalaf

Rhif y Gwaith Cyfalaf Disgrifiad

Cyfradd

(£)
W549 Sedd uchel £348.33 each
W595 Ffensio postyn a gwifren a Stocrwydi £3.48 / m
W600 Gât pren meddal £150 each
W602 Ffensio rhag ceirw £3.98 / m
W654 Rheoli mieri/prysgwydd - chwistrellu â llaw/o fag cefn £185 / ha
W663 Rheoli Rhododendron/llawryf <1.5m £3882.60 / ha
W666 Clirio prysgwydd - mecanyddol £227 / ha
W669 Rheoli rhywogaethau ymledol £1179.00 / ha
W670 Rheoli Rhododendron/llawryf <2.5m £7461.13 / ha
W671 Rheoli Rhododendron/llawryf 1.5-2.5m £5129.10/ha

Dim ond at ddiben sefydlu coed y mae taliadau gwaith cyfalaf yn gymwys ar gyfer rheoli Rhododendron/llawryf. Nid yw clirio Rhododendron a llawryf at ddiben atal clefydau'n gymwys o dan y cynllun hwn

Rhanddirymiad

Mewn rhai amgylchiadau, mae posibilrwydd y medr caniatáu rhanddirymiad i addasu termau neu dynnu’n ôl gofynion eich contract. Caiff ceisiadau ei asesu yn ôl ei theilyngdod os na fedrwch gyflawni’r holl, neu ran, o’r gwaith erbyn dyddiad cwblhau eich contract.

Rhaid ichi gyflwyno gorchymyn ysgrifenedig i Lywodraeth Cymru am randdirymiad cyn gynted ag y bydd problem yn codi. Bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth i gefnogi eich gorchymyn sydd yn cynnwys eich ymdrechion i gwblhau y gwaith fel a ddynodir yn eich contract.

Ble na chaiff rhanddirymiad ei derbyn, mae’n bosib bydd eich contract yn cael ei dynnu’n ôl, adennill taliadau a byddwch yn cael ei atal rhag mynegi diddordeb am gyfnod o 2 flynedd.

Ymgynghori

Os ydych chi'n bwriadu gwneud gwaith ar safle dynodedig neu wrth ymyl safle dynodedig, rhaid cyflawni pob ymgynghoriad angenrheidiol e.e. Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI), Ardal Gadwraeth Arbennig (SAC), en Restredig (SAM), Nodwedd Hanesyddol yn yr Amgylchedd (HEF) a Pharc a Gardd a darparu’r ymatebion gyda'r Cynllun Rheoli Coedwig, sydd wedi neu heb eu Cofrestru.

Mae angen ystyried a oes unrhyw rhywogaethau gwarchodedig ( e.e. ystlumod, pathewod) ar y safle ac fe all fod gofyn ymgynghori â'r awdurdod priodol. Efallai hefyd bydd angen i chi geisio i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop fel rhan o eich cais am drwydded cwympo.

Defnydd o Chwynladdwr

Ni ddylai ddefnyddio chwynladdwr i drin ail-dyfiant bonyn ar llydanddail brodorol i’r safle oddi mewn PAWS.

Adran E - Sut i wneud Cais

Dethol Datganiad o Diddordeb

Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein

Rhaid Datgan Diddordeb yn y Cynllun Adfer Coetir trwy Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein. Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer (CRN) eisoes, fe ddylech fod wedi cael llythyr gyda’ch Cod Defnyddio arno ichi allu agor cyfrif. Os ydych wedi’i golli, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 a rhoi’ch CRN i’r cysylltydd. Caiff Cod Defnyddio newydd ei anfon atoch.

Ar ôl ichi gofrestru, gallwch fynd yn syth i’ch cyfrif RPW Ar-lein. Fe welwch ffurflen Datgan Diddordeb yn y Cynllun Adfer Coetir yn yr adran Ceisiadau a Hawliadau

Os oes gennych asiant yn gweithio ar eich rhan, bydd gofyn iddo gofrestru fel asiant ar RPW Ar-lein. Os nad ydych wedi gwneud hyn eto, dylech lenwi’r ffurflen Manylion Asiant / Undeb Ffermwyr (Cymru) ar unwaith. Mae copi o’r ffurflen ar gael ar RPW Ar-lein. Ar ôl i’r ffurflen ein cyrraedd, byddwn yn anfon CRN Asiant ato a Chod Defnyddio RPW Ar-lein. Bydd gofyn llenwi Ffurflen Ganiatâd Cymdeithasau hefyd i gytuno ar rolau’r cleient. Cedwir copi o’r ffurflen hon ar RPW Ar-lein.

Caiff neges darllediad ei yrru i bob cwsmer sydd â Datganiad o Ddiddordeb mewn statws drafft yn yr wythnos yn arwain i fyny i’r ffenestr yn cau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru ar RPW Ar-lein neu am Ddatgan Diddordeb, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. Byddan nhw’n gallu eich cynghori a rhoi gwybod ichi ble gallwch fynd am help digidol.

Am fwy o wybodaeth ar RPW Ar-lein a sut i gyflawni Datganiad o Ddiddordeb yn y Cynllun Adfer Coetir ewch Grantiau a Thaliadau Gwledig | Adfer Coetir.

Y Broses Ddewis

Detholir y sawl sy'n Mynegi Diddordeb ar sail eu gallu i gyflawni'r meini prawf cymhwysedd, a dibynnu ar y gyllideb a fydd ar gael. Y gyllideb amodol sydd ar gael ar gyfer y DOD yn y Cynllun Adfer Coetir yma fydd £1 Filiwn. Os na fydd y gyllideb sydd ar gael yn ddigon i gynnig contract i bob ymgeisydd cymwys, bydd Llywodraeth Cymru'n blaenoriaethu'r sawl sydd â Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol, wedyn y rheini sy'n dod o fewn parth cyfyngu'r clefyd, yn nhrefn yr ardal fwyaf gyntaf. Parth cyfyngu'r clefyd ar hyn o bryd yw'r ardal yn dwyrain a'r gogledd lle mae camau rheoli gweithredol ar waith o hyd.

Ar ôl cwblhau'r broses dethol, fe gewch eich hysbysu drwy eich cyfrif RPW Arlein yn cadarnhaucanlyniad eich DOD.

Cynnig o Gontract

Os caiff eich DOD ei ddewis, cewch gynnig o gontract ynghyd a’r cynnig o ddewisiad, lle bydd angen i chi dderbyn neu wrthod drwy eich cyfrif RPW Ar-lein erbyn y dyddiad a roddir yn y llythyr.

Bydd y contract yn cael ei ddyroddi drwy eich cyfrif RPW Ar-lein ac yn cynnwys:

  • Tabl yn cadarnhau y caeau, opsiynau plannu WRS ac arwynebedd o’r plannu a fwriedir fel a ddatganwyd yn eich DOD a wiriwyd gan Llywodraeth Cymru.
  • Map digidol o’r tir a ddatganwyd a wiriwyd ar y DOD.

Os yr ydych yn dymuno cario ymlaen gyda eich bwriadau plannu bydd angen i chi dderbyn y cynnig o gontract drwy eich cyfrif RPW Ar-lein o fewn 14 diwrnod o’r cynnig. Os derbyniwch y contract yma, ni fedrwch gychwyn y gwaith h.y. cychwyn unrhyw waith sefydlu neu ffensio gwaith cyfalaf yr ydych yn bwriadu hawlio amdano.

Unwaith eich bod wedi derbyn contract, fedrwch nawr gychwyn dylunio eich bwriadau ail-stocio ac i gyflawni Cynllun Rheoli Coedwig ar gyfer ei gyflwyno i Llywodraeth Cymru

Os wnewch chi wrthod, neu fethu ac ymateb i’r cynnig o ddewis, wedyn caiff eich Datganiad o Ddiddordeb WRS ei dynnu’n ôl a ni fyddwch yn gymwys i gyflwyno Cynllun Rheoli Coedwig i Llywodraeth Cymru ar gyfer gwiriad.

Caiff neges atgoffa ei yrru drwy eich cyfrif RPW Ar-lein yn yr wythnos yn arwain i fyny i’r dyddiad terfyn ar gyfer derbyn contract.

O na fydd eich DOD yn llwyddiannus, cewch eich hysbysebu drwy eich cyfrif RPW Ar-lein gyda rheswm pam na cawsoch eich dewis.

Cyflwyno’r Cynllun Rheoli Coedwig

Os bydd eich Mynegiant o Diddordeb yn llwyddiannus ac eich bod yn derbyn y cynnig o ddewisiad, bydd gofyn ichi baratoi Cynllun Rheoli Coedwig, a fydd yn rhan o'r sail ar gyfer eich cais Adfer Coetir. Rhaid ichi gwblhau eich Cynllun Rheoli Coedwig a'i ddychwelyd erbyn y dyddiad sydd yn eich llythyr dethol fan hwyraf.

Caiff neges atgoffa ei yrru drwy eich cyfrif RPW Ar-lein yn yr wythnos yn arwain i fyny i’r dyddiad terfyn ar gyfer cyflwyno Cynllun Rheoli Coedwig.

Fe fyddem yn gyrru map digidol sydd yn amlinellu’r parseli a gynhwyswyd yn eich Datganiad o Ddiddordeb i chi. Bydd templed Cynllun Rheoli Coedwig, a chanllawiau'n egluro sut i'w lenwi ynghyd â chanllawiau'n dangos sut i anodi’ch map digidol, ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Rhaid ichi ddefnyddio'r dogfennau hyn. Ni allwn dderbyn templedi cynlluniau a mapiau eraill. Os na fyddwch chi'n defnyddio'r rhai swyddogol, bydd eich cais yn annilys.

Cyn paratoi eich Cynllun Rheoli Coedwig, rhaid ichi ddarllen y canllawiau. Rhaid i'r cynllun gydymffurfio â UKFS (Forestry Commission – UK Forestry Standard and Guidelines). Os oes PAWS o fewn eich Datganiad o Ddiddordeb bydd angen i chi ymgynghori Cynlluniwr Coetir Cofrestredig am gymorth proffesiynol i sicrhau bod eich cais yn cydymffurfio â'r safonau hyn. Bydd y Cynllun Rheoli Coedwig wedyn yn cael ei asesu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r safonau. Wrth ei asesu, bydd y wybodaeth yn eich cynllun a'r map yn cael ei hystyried a hefyd pa mor gymwys yw'r gwaith sydd wedi'i gynnwys yn y cais i gael arian o dan y Cynllun Adfer Coetir.

Ar ôl cymeradwyo'r Cynllun Rheoli Coedwig, gellir cynnwys yr eitemau Gwaith Cyfalaf cymwys sydd wedi'u rhestru yn eu Cynllun Rheoli yng nghontract y Cynllun Adfer Coetir.

Taliad Cymorth Cynllun Rheoli Coedwig – Ailstocio PAWS yn unig

Bydd Cwsmeriaid sydd yn derbyn contract Cynllun Adfer Coetir, sydd yn cynnwys PAWS ble mae llarwydd a hyd at 50% dim llarwydd yn gymwys i hawlio £1,500 tuag at y gost o greu'r cynllun. Bydd taliad yn gyfyngedig i un taliad fesul cwsmer. Dylai’r cynllun yma ystyried yr uned rheoli coetir yn ei gyfanrwydd. Ni chaiff unrhyw rhagor o daliadau cynllun rheoli coedwig eu ystyried mewn rowndiau olynol.

I fod yn gymwys am y taliad cymorth un tro o £1,500, bydd angen i Gynlluniau Rheoli Coetir sydd yn cynnwys ailstocio PAWS fynd ymlaen i blannu ar ôl derbyniad o gontract WRS ar lein.

Cynnig Map Contract Wedi ei Wirio

Os bydd eich cais i gynllun Adfer Coetir yn llwyddiannus, bydd Map Contract Adfer Coetir wedi ei Wirio yn cael ei gynnig ichi drwy eich cyfrif ar lein sy'n cynnwys yr holl waith neu rywfaint o'r gwaith sydd wedi'i restru yn eich Cynllun Rheoli Coedwig.

Bydd angen ichi dderbyn y Map Contract wedi ei Wirio drwy ddefnyddio y botwm glas drwy eichcyfrif RPW Ar-lein o fewn 14 niwrnod ar ôl ichi gael y cynnig. Bydd hyn yn cadarnhau eich bod yn hapus â thelerau ac amodau'r contract. Bydd derbyniadau sy'n cyrraedd ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu gwrthod gan ac yn arwain at dynnu'n ôl y cynnig o gontract Adfer Coetir.

Os byddwch chi'n penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'ch cais neu, os byddwch chi'n penderfynu peidio derbyn y Map Contract wedi ei Wirio o fewn yr amser a ganiateir, ni fyddwch yn gallu gwneud cais o dan gynllun Adfer Coetir am 2 flynedd arall.

Os penderfynwch chi dynnu'n ôl o'r contract cyn diwedd ymrwymiad y contract (1 flwyddyn ar gyfer Gwaith Cyfalaf, 10 mlynedd ar gyfer Cynnal a Chadw) bydd gofyn ichi ad-dalu'r holl arian rydych wedi'i gael o dan gontract Adfer Coetir gyda llog.

Os bydd angen unrhyw newidiadau i'r raglenni gwledig domestig Llywodraeth Cymru yn sgil newidiadau i'r rheoliadau, mae'n bosibl y terfynir y contract Adfer Coetir.

Hawlio cymorth ar gyfer Cynllun Rheoli Coedwig gan gynnwys PAWS

Unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi derbyn y map contract wedi'i wirio ar-lein, ar gyfer contract sy'n cynnwys ailstocio PAWS cymeradwy, anfonir ffurflen gais cynllun WRS atoch drwy eich cyfrif ar-lein y bydd angen ei chwblhau a'i dychwelyd. Ar ôl ei derbyn, bydd eich cais yn cael ei ddilysu a'i brosesu ac, os yw'n gymwys, bydd y taliad yn cael ei brosesu a'i gyhoeddi drwy drosglwyddiad BACS.

Os na gwneir gwaith ailstocio PAWS, fel y nodir yng nghontract WRS, bydd Llywodraeth Cymru yn adennill y taliad o £1,500. Yn ogystal, yn unol â rheolau presennol y cynllun, ni fydd deiliad y contract yn gymwys i wneud cais am WRS am 2 flynedd arall oherwydd na wnaed y gwaith plannu.

Os gwrthodir y cynnig contract neu os na dderbynnir ymateb i'r cynnig, ni fydd y cynllun cymeradwy yn gymwys i gael cymorth.

Dechrau ar y Gwaith

Ni ddylai dalwyr contract gychwyn unrhyw waith cyn derbyn map contract a wirwyd sydd yn cadarnhau y safleoedd yw plannu yn dilyn CNC. Os eich bod yn dechrau ar y gwaith cyn ichi dderbyn y map yma, bydd Llywodraeth Cymru efallai'n gwrthod y gwaith sydd wedi'i ddechrau neu'n terfynu'r contract a bydd yn rhaid ichi ad-dalu unrhyw daliadau rydych wedi’u derbyn. Enghraifft bod gwaith wedi’i ddechrau yw plannu heb i’r map contract sydd yn cynnwys y safleoedd ail-stocio gwiriedig gael ei gyflwyno.

Hawlio Taliad ar gyfer Gwaith Cyfalaf Ailstocio a Ffensio

Caiff hawliadau gwaith cyfalaf eu gwneud drwy ddefnyddio’r ffurflen Hawlio Gwaith Cyfalaf drwy eich cyfrif RPW Ar-lein ac ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau. Bydd pob taliad o dan gynllun WRS yn cael eu talu ar radd safonol. Mae’n rhaid i waith cyfalaf sydd angen eu cwblhau erbyn y 31 Fawrth 2023 hefyd gael eu hawlio drwy RPW Ar-lein erbyn 31 Mawrth 2023.

Caiff neges atgoffa ei yrru drwy eich cyfrif RPW Ar-lein yn yr wythnos yn arwain i fyny i’r dyddiad terfyn ar gyfer cwblhau a hawlio am waith cyfalaf.

Adran F – Newid y Contract

Trosglwyddo neu Werthu Tir sydd o dan Gontract

Wrth arwyddo’ch contract y Cynllun Adfer Coetir, rydych yn gwneud ymrwymiad am 10 mlynedd. Os byddwch yn penderfynu gwerthu neu drosglwyddo’ch tir neu ran ohono yn ystod y 10 mlynedd o ymrwymiad, efallai y bydd gofyn ichi ad-dalu’r arian rydych eisoes wedi’i gael neu gael eich cosbi’n ariannol.

Os ydych am drosglwyddo contract CynllunAdfer Coetir i feddiannydd newydd, rhaid cael cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru. Os ydy’r meddiannydd newydd yn dewis cymryd eich ymrwymiad chi o dan gontract Cynllun Adfer Coetir oddi arnoch a bod y tir yn dal i fodloni’r meini prawf gofynnol o ran cymhwystra, rhaid i’r meddiannydd newydd barhau â’r ymrwymiad ar y tir hwnnw am weddill cyfnod y contract. Dylid gofalu fod y meddiannydd newydd yn gwybod am yr ymrwymiad Cynllun Adfer Coetir cyn cytuno i drosglwyddo’r tir dan sylw.

Mae’r rheoliadau sydd yn ymwneud a’r cynllun yn atal trosglwyddant o gontract gwaith cyfalaf. Daliwr y contract fydd yr unig fusnes a fydd yn gallu hawlio’r gwaith cyfalaf WRS. Ni fedrir brosesu trosglwyddiad nes bod yr hawliad o waith cyfalaf wedi ei wirio a taliad wedi ei awdurdodi.

Ar ôl trosglwyddo neu werthu rhan o’r tir, rhaid i unrhyw dir rydych wedi’i gadw ac sy’n dal yn rhan o’ch contract Cynllun Adfer Coetir gwreiddiol barhau i fodloni meini prawf gofynnol o ran cymhwystra. Os nad yw, bydd gofyn ichi ad-dalu pob taliad a wnaed ar y tir hwnnw, ynghyd â’r llog.

Os ydych yn trosglwyddo neu’n gwerthu unrhyw dir sy’n rhan o’ch contract Cynllun Adfer Coetir, yna rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru trwy lythyr o fewn 30 diwrnod ar ôl i hynny ddigwydd. O beidio â rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru, byddwch yn debygol o gael eich cosbi.

Os byddwch yn trosglwyddo neu’n gwerthu tir sydd o dan gontract a bod Llywodraeth Cymru’n credu bod amcanion Cynllun Adfer Coetir wedi’u tanseilio o’r herwydd, gallai’r contract gael ei derfynu ac efallai y bydd yn rhaid ichi ad-dalu pob taliad ynghyd â’r llog.

Newid y Tir a’r Gofyn i’n Hysbysu am Newidiadau i’r Tir

Rhaid i chi roi gwybod i Lywodraeth Cymru am newidiadau i’ch caeau o fewn 30 diwrnod ar ôl i’r newid ddigwydd. Gallai’r newidiadau hynny gynnwys:

  • Cofrestru caeau nad ydynt wedi’u cofrestru gydag IACS o’r blaen (h.y. caeau heb eu cofnodi ar y Ffurflen Gais Sengl (SAF))
  • Rhannu caeau yn barhaol
  • Uno caeau yn barhaol
  • Newid ffiniau caeau
  • Newid nodweddion parhaol caeau.

Hefyd, rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru o fewn y terfyn o 30 diwrnod ar ôl iddo ddigwydd os ydy meddianwyr y tir gan gynnwys perchennog newydd neu denantiaeth newydd, yn newid.

Rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am unrhyw newid o fewn 30 diwrnod. Mae gwasanaeth Rheoli Fy Nhir (MML) RPW ar lein wedi cymryd lle pob swyddogaeth yr FM4 papur fydd ddim ar gael rhagor. Gall ddefnyddio MML i hysbysu RPW ynglŷn a chofrestru tir, cyflwyno, neu thrin a newidiadau i nodweddion parhaol, newidiadau i terfynau a throsglwyddo tir. Cyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio Rheoli Fy Nhir.

Newidiadau i’r Ddeddfwriaeth (gan gynnwys Dehongliadau Newydd)

Mae Rheoliadau yn cael eu newid o dro i dro. Bydd yn rhaid ichi gydymffurfio â’r newidiadau hynny ar ôl i Lywodraeth Cymru eich hysbysu amdanyn nhw.

Newidiadau i Reolau’r Cynllun

Efallai weithiau, bydd angen newid eich contract. Er enghraifft, efallai y bydd angen diweddaru’r amodau rheoli yn sgil ymchwil wyddonol newydd, newid rheolau’r cynllun yn sgil newidiadau i’r rhaglen wledig ddomestig neu bennu cyfraddau talu newydd. Byddwn yn cyhoeddi’r newidiadau yn Gwlad ar wefan Llywodraeth Cymru a, lle bo gofyn, yn ysgrifennu atoch chi.

Adran G – Arolygon Gweinyddol, Archwiliadau a Chofnodion

Mae Llywodraeth Cymru’n gorfod gwneud yn siŵr bod ffermwyr yn cadw at reolau’r Cynllun Adfer Coetir. Bydd yn gwneud hynny trwy archwiliadau ar y safle a defnyddio’r Systemau Lleoli Global a lluniau o’r awyr, dronau a chan loeren.

Arolygon Gweinyddol

Mae angen i Lywodraeth Cymru gwirio pob hawliad cyn taliad. Yn achos y CynllunAdfer Coetir mae hyn yn cynnwys ymweliad i’r safle o leiaf unwaith yn ystod cyfnod y contract, os nad yw e wedi cael ei ddewis am archwiliad llawn yn barod. Bydd ymweliadau yn cael eu cario allan gan swyddog technegol coetir cyn i’r taliad gael ei wneud er mwyn cadarnhau for yr eitemau gwaith cyfalaf wedi cael ei cario allan yn gymwys a rheolau’r cynllun. Fedr eich hawliad gael ei leihau neu ei cosbi (gweler adran gosb)

Archwiliadau Fferm

Bydd angen i swyddogion archwilio gadarnhau’r Gwaith Cyfalaf ar eich daliad a chadarnhau manylion y tir a chywirdeb unrhyw ddogfennau a chofnodion perthnasol.

Gellir cynnal archwiliadau unrhyw adeg o’r flwyddyn ac archwilir yr holl ymrwymiadau a rhwymedigaethau y bydd modd eu harchwilio adeg yr ymweliad. Bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff gorfodi’n gwneud eu gorau glas i beidio a tharfu arnoch yn ormodol ond mae rhai archwiliadau’n gorfod cael eu cynnal heb rybudd. Gall archwiliadau gael eu cynnal fwy nag unwaith mewn blwyddyn.

Os byddwch yn gwrthod caniatáu archwiliad neu’n rhwystro’r archwilydd neu’n peidio â rhoi cymorth rhesymol iddo, fe allech golli’ch taliad a chael eich erlyn.

Cadw Cofnodion

Rhaid ichi gadw’r holl gofnodion a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i gadarnhau eich bod wedi rhoi gwybodaeth gyflawn a chywir i ni a’ch bod wedi cadw at eich ymrwymiadau.

Bydd gofyn ichi hefyd:

  • Roi gwybodaeth i Lywodraeth Cymru am eich contract Cynllun Adfer Coetir a hynny o fewn y cyfnod a bennir gan Lywodraeth Cymru
  • Darparu i Lywodraeth Cymru, ei phersonau â chaniatâd neu ei hasiantwyr, gofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall gan gynnwys cyswllt â data cyfrifiadur sy’n ymwneud â’ch contract Cynllun Adfer Coetir. Rhoi’r hawl i Lywodraeth Cymru gymryd dogfennau neu gofnodion o’r fath i wneud copïau neu i godi darnau ohonyn nhw.

Adran H – Cosbau

Bydd ffermwyr yn cael eu cosbi pan fydd rheolau neu ofynion Gwaith Cyfalaf yn cael eu torri.

Torri’r Contract

Bydd swyddogion yn ymweld â’r lleoliadau i gynnal archwiliadau gweinyddol ac archwiliadau yn y fan a’r lle i weld a ydych yn torri contract ac os gwelir eich bod, cewch wybod trwy lythyr. Lle gwelir eich bod wedi torri’r contract, byddwn yn lleihau a/neu’n atal eich taliadau gan ddibynnu ar ba mor ddifrifol, mawr, parhaol ac ailadroddus oedd y tramgwydd gan ei gymhwyso i daliadau’r blynyddoedd blaenorol.

Os bydd Llywodraeth Cymru’n credu bod y tramgwydd mor ddifrifol nad oes modd ei gywiro, gallai derfynu’ch Contract. Mewn sefyllfaoedd difrifol iawn, gallai olygu hefyd eich gwahardd rhag ymuno â chynllun Datblygu Gwledig arall am hyd at ddwy flynedd.

Mae Llywodraeth Cymru’n asesu tramgwyddau yn ôl safonau dilysadwy sy’n cyfateb i’r amodau ar gyfer ymuno â’r cynllun. Mae matrics wedi’i lunio i benderfynu ar lefel y gosb i’w rhoi. Mae’r matrics cosbi a’r safonau dilysadwy i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru llyw.cymru | Grantiau a thaliadau gwledig

Cosbau’r Gwaith Cyfalaf

Os ydych yn hawlio taliadau nad ydynt seiliedig ar arwynebedd, er enghraifft gwaith cyfalaf, a bod Llywodraeth Cymru yn pennu nad yw rhan o’r gost neu’r holl gost sydd wedi’i hawlio yn gymwys, ni fydd taliad am y costau anghymwys. Os pennir bod cyfanswm y costau anghymwys yn fwy na 10% o’r costau cymwys, tynnir swm sy’n gyfwerth â chyfanswm y costau anghymwys oddi ar eich taliad.

Os bydd hawliad ffug yn cael ei wneud, neu os bydd meddianwyr y tir yn methu â rhoi’r wybodaeth angenrheidiol, bydd gwaharddiad ar daliadau ar gyfer y flwyddyn dan sylw a bydd yn rhaid ad-dalu unrhyw symiau sydd eisoes wedi’u talu y flwyddyn honno. Hefyd, byddwch yn cael eich gwahardd rhag cael cymorth o dan unrhyw gynllun Datblygu Gwledig - Amaeth-amgylcheddol a Choedwigaeth – yn ystod y flwyddyn galendr lle gwnaed yr hawliad ffug a’r flwyddyn galendr ganlynol.

Adran I - Y Drefn Apelio

Mae’r broses apelio yng Nghymru yn cynnig trefn apelio annibynnol ichi os ydych yn teimlo nad yw Llywodraeth Cymru wedi dod i benderfyniad cywir yn ôl y rheolau.

Ni chaiff apêl ei ystyried os, yn dilyn y broses dewis, ni ddewiswyd eich Datganiad o Ddiddordeb oherwydd nad oedd y cyllideb priodol ar gael.

Mae dau gam i’r broses apelio ffurfiol:

  • Cam 1: pennaeth y Swyddfa Ranbarthol leol i adolygu’r achos
  • Cam 2: Panel Apelio Annibynnol i adolygu’r achos (os bydd y ffermwr yn anhapus â’r penderfyniad yng Ngham 1). Bydd y Panel Annibynnol yn gwneud argymhelliad i’r GweinidogMaterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd a fydd wedyn yn penderfynu’n derfynol ar y mater.

Daw’r broses apelio i ben pan gaiff penderfyniad y Gweinidog ei gyhoeddi. Nid oes tâl am gam cyntaf y broses ond codir tâl ar gyfer yr ail gam - £50 am wrandawiad ysgrifenedig a £100 am wrandawiad llafar. Bydd hwn yn cael ei dalu’n ôl i’r apeliwr os bydd ail gam y broses yn llwyddiannus neu’n rhannol lwyddiannus.

Rhaid ichi gyflwyno apel i RPW cyn pen 60 diwrnod ar ôl derbyn penderfyniad a allai effeithio ar eich taliad.

Cewch fwy o fanylion y broses apelio gan eich Swyddfa Ranbarthol.

Y Drefn Gwyno

Byddwn yn delio â chwynion o dan God Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gwynion. Cewch fwy o wybodaeth am sut i wneud cwyn gan eich Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Mae croeso ichi ysgrifennu at unrhyw Aelod o’r Senedd am eich cwyn a hefyd at:

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
Pen-y-bont ar Ogwr
CF35 5LJ

Adran J – Hysbysiad Preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru

Sut y byddwn yn ymdrin ag unrhyw ddata personol a ddarparwch mewn perthynas â’ch cais am grant neu eich cais am gyllid grant

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig ystod eang o gynlluniau grant i helpu i gyflawni ein polisïau a chreu Cymru decach, mwy llewyrchus.

Bydd Llywodraeth Cymru yn rheoli data yr ydych yn ei ddarparu ar gyfer eich cais am grant neu eich cais am gyllid grant. Caiff yr wybodaeth ei phrosesu fel rhan o’n tasg gyhoeddus (sef ymarfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) a bydd yn helpu i asesu a ydych yn gymwys ar gyfer cyllid.

Cyn inni ddarparu cyllid grant ichi, rydym yn cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i sicrhau pwy ydych. Mae’r gwiriadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol inni brosesu data personol amdanoch i asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os ydym ni, neu asiantaeth atal twyll yn penderfynu eich bod yn risg o ran twyll neu wyngalchu arian, mae’n bosibl y byddwn yn gwrthod y cyllid grant y gwnaethoch gais amdano, neu mae’n bosibl y byddwn yn rhoi’r gorau i ddarparu cyllid grant yr ydym yn ei ddarparu ar hyn o bryd ichi.

Bydd cofnod o unrhyw risg o ran twyll neu wyngalchu arian yn cael ei gadw gan ein asiantaethau atal twyll, a gallai olygu bod eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, eich cyllido neu eich cyflogi.

Er mwyn asesu cymhwysedd, efallai y bydd angen i ni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'ch cais gyda:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Y Gyfarwyddiaeth Meddygaeth Filfeddygol
  • Awdurdodau Lleol Cymru
  • Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
  • DEFRA
  • Swyddfeydd Amaethyddol eraill Llywodraeth y DU.
  • Awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau EM, Awdurdodau Lleol, Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a'r Heddlu.

Gall eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, fod yn destun cais gan aelod arall o'r cyhoedd. Wrth ymateb i geisiadau o'r fath, efallai y bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, i gyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol sydd wedi'i chynnwys mewn ffeiliau yn unol â'n polisi cadw. Os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais, bydd eich data personol yn cael ei gadw am 7 mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd o'r holl amodau sy'n ymwneud â'r grant a ddyfarnwyd ac mae'r holl daliad wedi'i wneud. Fodd bynnag, os dyfernir yr arian o dan Esemptiad Bloc Cyffredinol neu De Minimis, bydd eich data personol yn cael ei gadw am 10 mlynedd o ddiwedd unrhyw ddyfarniad cymorth. Os nad ydych yn llwyddiannus, bydd eich manylion yn cael eu cadw am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • I gael mynediad at ddata personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch
  • ei gwneud yn ofynnol inni gywiro camgymeriadau yn y data hynny
  • I wrthwynebu (mewn rhai amgylchiadau) neu gyfyngu ar brosesu
  • I’ch data gael ei ‘ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau)
  • I gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr diogelu data annibynnol

Am ragor o fanylion am yr wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch a’r defnydd ohono, neu os ydych am ddefnyddio eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Cyfeiriad E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: https://ico.org.uk/

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt Cwsmeriaid RPW.

Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru | LLYW.CYMRU

Cyhoeddi a Datgelu Gwybodaeth

Gall eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, fod yn destun cais gan aelod arall o'r cyhoedd. Wrth ymateb i geisiadau o'r fath, efallai y bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol.

Mae Rheoliad y Comisiwn (CE) 908/2014 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi manylion y symiau a delir i fuddiolwyr CAP. Bydd data'n cael ei gyhoeddi ar gyfer yr holl fuddiolwyr ar wefan chwiliadwy, a bydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau a'r cynlluniau y talwyd cymhorthdal ar eu cyfer. Fodd bynnag, i'r 26 hynny sy'n cael llai na'r hyn sy'n cyfateb i €1,250 mewn cymorthdaliadau, ni fydd yr enw yn cael ei rannu. Bydd y data'n cael eu cyhoeddi'n flynyddol ar 31 Mai ac yn parhau i fod ar gael am ddwy flynedd o'r dyddiad y caiff eu cyhoeddi. Bydd yr wybodaeth ar gael ar wefan Defra

Adran K – Manylion Cysylltu

Mae yna wybodaeth bwysig ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn Gwlad, y cylchgrawn deufisol Gwlad.

Dyma’r manylion cysylltu:

Y GANOLFAN GYSWLLT I GWSMERIAID

Taliadau Gwledig Cymru

PO Box 251
Caernarfon
LL55 9DA
Ffôn: 0300 062 5004. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.

Cysylltiadau defnyddiol eraill

Ar gyfer tir sy’n SoDdGA, GNG, ACA neu AGA:

CYFOETH NATURIOL CYMRU

d/o Canolfan Gofal Cwsmeriaid
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP

Ymholiadau cyffredinol: 0300 065 3000 (Llun–Gwener, 8am - 6pm)

Ymholiadau cyffredinol: enquiries@naturalresourceswales.gov.uk

Ymholiadau : queries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Ceisiadau Trwydded Cwympo: specieslicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Ymholiadau Twyddedau EPS: forestregulations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Ar gyfer Henebion Rhestredig / parciau a gerddi cofrestredig:

CADW
Llywodraeth Cymru
Plas Caeriw
Uned 5/7 Cefn Coed
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QQ

Ffôn: 01443 33 6000. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
Ffacs: 01443 33 6001
E-bost: cadw@gov.wales

Ar gyfer henebion sydd heb eu rhestru a nodweddion hanesyddol:

 

Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys

41 Broad Street
Y Trallwng
Powys
SY21 7RR

Ffôn: 01938 553670
Ffacs: 01938 552179
E-bost: trust@cpat.org.uk
Wefan: www.cpat.org.uk  

 

Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent
Heathfield House
Heathfield
Abertawe
SA1 6EL

Ffôn: 01792 655208
Ffacs: 01792 474469
E-bost: enquiries@ggat.org.uk
Wefan :www.ggat.org.uk

 

Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed
Corner House,
6 Stryd Caerfyrddin,
Llandeilo,
Sir Gaerfyrddin,
SA19 6AG
Ffôn: 01558 823121
Ffacs: 01558 823133
E-bost: info@dyfedarchaeology.org.uk Wefan: www.dyfedarchaeology.org.uk

 

Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd
Craig Beuno, Ffordd y Garth, Bangor, Gwynedd, LL57 2RT
Ffôn: 01248 352535
Ffacs: 01248 370925
E-bost: gat@heneb.co.uk
Wefan: www.heneb.co.uk