Cynllun Addysg Gychwynnol Athrawon o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol: Canllawiau i Bartneriaethau AGA o 2023 a thu hwnt
Canllawiau i Bartneriaethau AGA i gefnogi’r gwaith o gyflwyno Cymhelliant AGA i Gymunedau Ethnig Lleiafrifol o fis Medi 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae'r Cynllun Cymhelliant AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol yn rhoi grant o £5,000 i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â thystysgrif achrededig addysg i raddedigion (TAR). Rhaid i’r Rhaglen arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC). Rhaid i fyfyrwyr fodloni’r meini prawf cymhwystra.
Mae’r cynllun hwn ar gael i fyfyrwyr llawnamser a rhan-amser.
Nid yw myfyrwyr sy'n ymgymryd ag unrhyw gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth yn gymwys i gael y grant hwn. Mae hyn yn cynnwys y ‘cynllun TAR Cyflogedig’.
Nid yw myfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni hyfforddi sy'n eu galluogi i addysgu yn y Sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (TAR AHO) wedi'u cynnwys o dan y cynllun hwn.
Cyfreithiol
Mae’r grantiau cymhelliant AGA sydd ar gael yn adlewyrchu’r blaenoriaethau recriwtio o fewn y gweithlu addysgu yng Nghymru. Maent ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn rhaglenni AGA ôl-raddedig cymwys yng Nghymru.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau o dan adrannau 14 i 17 o Ddeddf Addysg 2002 i ddarparu cymorth ariannol i hyrwyddo'r ymgais i recriwtio neu gadw athrawon neu staff nad ydynt yn addysgu. Sefydlwyd y grant hwn i annog unigolion i hyfforddi ar gyfer y proffesiwn addysgu, ymuno â’r proffesiwn ac aros. Ni ddylai fod yn rhan o becyn cyllid myfyrwyr.
Mae'r Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol yn gynllun cyfreithiol (“y cynllun”). Gwnaed y cynllun gan Weinidogion Cymru wrth iddynt arfer eu pwerau. Caiff y cynllun ei adolygu bob blwyddyn. Mae pob cynllun yn gwneud darpariaeth i fyfyrwyr AGA Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol ôl-raddedig, sy’n astudio eu rhaglen AGA achrededig, gael manteisio ar y cymhellion hyn.
Cyflwynwyd Cynllun Cymhelliant AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol ym Medi 2022. Mae’r cynllun yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru Wrth-hiliol. Nod y cynllun yw cynyddu nifer athrawon ethnig leiafrifol. Nid yw myfyrwyr a ymgymrodd â chwrs AGA cyn Medi 2022 yn gymwys ar gyfer y cymhelliant hwn.
Rhoddir llythyr cynnig grant i bartneriaethau AGA i gefnogi cyflwyno’r cynllun hwn.
Rhaid i bartneriaethau AGA Addysg gyfeirio at:
- y cynllun cyfreithiol priodol
- y llythyr cynnig grant priodol
- yr hysbysiad preifatrwydd priodol
sy’n gysylltiedig â’r flwyddyn astudio er mwyn gwirio cymhwysedd myfyrwyr a manylion llawn y cynllun.
Gweler y cynllun priodol ar gyfer y flwyddyn astudio academaidd i wirio cymhwysedd a meini prawf hawlio. Os oes gennych unrhyw gwestiynau sy'n gysylltiedig â blynyddoedd blaenorol, cysylltwch â ITEIncentives@llyw.cymru.
Pa grant sydd ar gael a phryd caiff taliadau eu gwneud
O dan y cynllun hwn, mae grant cymhelliant o £5,000 ar gael i bob myfyriwr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer y flwyddyn astudio academaidd.
Myfyrwyr llawnamser
Gwneir y cymelldaliadau o gyfanswm o £5,000 mewn dau randaliad. Byddant yn cael eu talu ar ddiwedd rhaglen AGA a dechrau gyrfa myfyriwr:
- £2,500 ym mis Gorffennaf/Awst ar ôl cwblhau ei gwrs TAR yn llwyddiannus ac ar ôl dyfarnu SAC iddo. Os caiff myfyriwr ei asesu gan y bwrdd arholi ailgyflwyno, gwneir taliadau cyn 31 Rhagfyr. Partneriaethau AGA sy'n gyfrifol am y taliad hwn.
- £2,500 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y taliad hwn.
Dylid cyflwyno ffurflenni hawlio wedi’u diweddaru i Lywodraeth Cymru lle caiff myfyriwr ei asesu gan fwrdd arholi ailgyflwyno. Partneriaethau AGA ddylai wneud hyn. Dylai hyn gynnwys unigolion y dyfernir SAC iddynt er mwyn i’r taliadau gael eu gwneud cyn 31 Rhagfyr.
Bydd union ddyddiadau’r taliadau wedi’u nodi yn nhelerau ac amodau’r cytundeb grant.
Sut mae ceisiadau’n cael eu gweinyddu
Partneriaethau AGA sy’n gyfrifol am weinyddu’r cymhelliant hwn ac asesu cymhwysedd myfyrwyr amdano. Maent yn gwneud hyn ar ran Llywodraeth Cymru.
Dim ond os yw’r canlynol yn wir y gall myfyrwyr hawlio grant cymhelliant:
- maent yn bodloni’r holl feini prawf cymhwysedd
- maent yn astudio ar raglen gymwys
- maent wedi gwneud cais drwy lenwi’r ffurflen gofrestru berthnasol
Caiff ffurflenni cofrestru myfyrwyr ar gyfer y cynllun eu darparu i bartneriaethau gan Lywodraeth Cymru.
Os oes gan fyfyrwyr unrhyw gwestiynau, dylent gysylltu â’u Partneriaeth AGA.
Taliad SAC
Dim ond i’r myfyrwyr cymwys hynny sydd wedi cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru, sy’n arwain at SAC (pan ddyfernir SAC) y dylid gwneud y taliad SAC.
Os bydd unrhyw fyfyriwr wedi tynnu’n ôl o raglen neu wedi ei gohirio cyn i SAC gael ei ddyfarnu, ni ddylid gwneud y taliad.
Y cymelldaliad olaf
Bydd y taliad cymhelliant terfynol yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru. Dylai myfyrwyr gysylltu â ITEIncentives@llyw.cymru os oes ganddynt unrhyw ymholiadau am y taliad terfynol.
Dim ond i’r athrawon newydd gymhwyso cymwys hynny sydd wedi gwneud y canlynol y dylid gwneud y cymelldaliad olaf:
- cwblhau eu cyfnod sefydlu yn llwyddiannus mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru ac ennill tystysgrif sefydlu. Rhaid i hyn ddigwydd o fewn tair blynedd i ennill SAC
- derbyn pob taliad blaenorol o dan y cynllun hwn
Rolau a Chyfrifoldebau
Gweinyddir y cymhelliant hwn gan Llywodraeth Cymru ar ran Llywodraeth Cymru gan Bartneriaethau AGA.
Partneriaethau AGA sy’n gyfrifol am y taliadau pan ddyfernir Statws Athro Cymwysedig (SAC).
Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y cymelldaliad olaf. Telir hwn ar ôl cwblhau’r cyfnod sefydlu yn llwyddiannus ac ar ôl dyfarnu tystysgrif sefydlu.
Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am delerau ac amodau’r cynllun. Yn ogystal â chasglu’r data i allu gwneud taliadau i Bartneriaethau AGA a Chyngor y Gweithlu Addysg.
Cyfrifoldebau Partneriaethau AGA o ran gweinyddu’r grant
Mae Partneriaethau AGA yn gyfrifol am:
- ddefnyddio’r cynllun cymhelliant i helpu i recriwtio i raglenni AGA cymwys lle bo’n briodol
- cefnogi’r rhai sy’n uniaethu â chymuned ethnig leiafrifol i gofrestru ar y cynllun. Rhaid i fyfyrwyr uniaethu ag un o’r grwpiau ethnig cymwys. Disgwylir i hyn gyfateb â chofnodion y Bartneriaeth AGA
- sicrhau mynediad i fyfyrwyr cymwys at y ffurflen gofrestru ar ddechrau'r rhaglen AGA
- sicrhau bod myfyrwyr yn deall telerau'r grant
- casglu'r holl ffurflenni cofrestru wedi'u llofnodi, a'u dychwelyd drwy ddull diogel i Lywodraeth Cymru. Wrth rannu gwybodaeth, dylid cydymffurfio â’r gofynion diogelu data sydd mewn grym ar y pryd
- llenwi ffurflenni hawlio yn unol â dyddiadau taliadau yn ystod y rhaglen (a nodir yn y llythyr cynnig grant)
- llenwi ffurflenni hawlio yn unol â dyddiadau dyfarnu SAC (a nodir yn y llythyr cynnig grant). Pan fydd myfyriwr yn cael ei asesu gan fwrdd arholi sy’n delio ag ail geisiadau, dylai Partneriaethau AGA gyflwyno gwybodaeth wedi’i diweddaru i Lywodraeth Cymru ynghylch yr unigolion hynny y dyfernir SAC iddynt er mwyn i’r taliadau gael eu gwneud cyn 31 Rhagfyr
- rhannu ffurflenni drwy ddull diogel â Llywodraeth Cymru, ynghyd â hawliadau perthnasol. Wrth rannu gwybodaeth, dylid cydymffurfio â’r gofynion diogelu data sydd mewn grym ar y pryd
- gweinyddu taliadau SAC i fyfyrwyr
- casglu'r holl ffurflenni tynnu’n ôl ac ailgydio wedi'u llofnodi, a'u dychwelyd drwy ddull diogel i Lywodraeth Cymru. Wrth rannu gwybodaeth, dylid cydymffurfio â’r gofynion diogelu data sydd mewn grym ar y pryd
- delio ag ymholiadau gan fyfyrwyr ynghylch y cynllun cymhelliant
- rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am unrhyw gŵyn a ddaw i law sy’n gysylltiedig â’r cymhelliant hwn. Rhaid gwneud hyn, p’un a oes angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau ai peidio
Caiff holl gyfrifoldebau'r Partneriaethau AGA eu cyhoeddi bob blwyddyn mewn:
- llythyrau cynnig grant
- llythyrau contract unigol
Dylai Partneriaethau AGA gysylltu â ITEIncentives@llyw.cymru os oes ganddynt unrhyw gwestiynau.
Sut caiff y taliad ei wneud i Bartneriaethau AGA
Dylai pob myfyriwr lenwi ffurflen gofrestru. Mae'r ffurflen gofrestru yn cynnwys gwybodaeth sydd ei hangen ar Lywodraeth Cymru i:
- weinyddu'r cynllun
- gwerthuso’r cynllun
Rhaid i Bartneriaethau AGA gyflwyno’r rhain i Lywodraeth Cymru ar ddechrau pob blwyddyn academaidd drwy ddull diogel. Caiff yr wybodaeth hon ei rhannu hefyd â Chyngor y Gweithlu Addysg at ddibenion gweinyddu. Mae’r ffurflen gofrestru yn gofyn i fyfyrwyr gadarnhau eu bod wedi darllen a deall yr wybodaeth sydd ar we-dudalennau’r canllawiau i fyfyrwyr. Os na dderbynnir y cadarnhad hwn gan Lywodraeth Cymru, ni ellir gwneud taliadau grant.
Rhaid i Bartneriaethau AGA lenwi ffurflenni hawlio a’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn sicrhau bod cyllid priodol yn cael ei ryddhau i wneud taliadau. Bydd Partneriaethau AGA yn cael gwybod am y dyddiad cyflwyno drwy lythyr y cytundeb grant.
Bydd ffurflenni cofrestru a ffurflenni hawlio’n cael eu dosbarthu i Bartneriaethau AGA yn uniongyrchol. Dylai Partneriaethau AGA gyfeirio unrhyw gwestiynau sydd ganddynt, sy’n gysylltiedig â’r broses daliadau, i ITEIncentives@llyw.cymru.
Taliadau SAC ar ôl gohirio ac ailgydio
Os bydd myfyriwr yn gohirio ei astudiaethau cyn ennill SAC, ni fydd yn gymwys i gael y taliad SAC. Fodd bynnag, os bydd yn ailgydio yn ei astudiaethau ac yn ennill SAC, bydd ganddo hawl i’r taliad pan ddyfernir SAC iddo. Gwneir y taliad ar ôl cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy'n arwain at SAC (ar ôl dyfarnu SAC). Gwneir y taliad yn unol â'r amodau hyn.
Os bydd myfyriwr yn ailgydio mewn rhaglen AGA mewn blwyddyn academaidd wahanol, bydd angen llenwi ffurflen ohirio ac ailgydio. Gall Partneriaethau AGA gael y ffurflenni oddi wrth Lywodraeth Cymru. Ar ôl llenwi’r ffurflen, bydd angen ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru ynghyd â’r ffurflen hawlio berthnasol. Caiff yr wybodaeth ar y ffurflen a ddaw i law ei rhannu â phartneriaethau AGA, Llywodraeth Cymru.
Ni fydd gan fyfyrwyr nad ydynt yn ennill SAC ar ddiwedd eu rhaglen AGA hawl i gael taliad SAC y cymhelliant hwn.
Sut caiff y taliad sefydlu ei talu i myfyrwyrwneud i Gyngor y Gweithlu Addysg
Bydd Llywodraeth Cymru yn cysylltu â myfyrwyr yn ystod eu cyfnod Sefydlu. Mae hyn er mwyn sicrhau bod ganddynt yr holl fanylion perthnasol i brosesu'r taliad grant hwn.
Gall myfyrwyr gysylltu â Llywodraeth Cymru am y taliad hwn CymhellionITEA@llyw.cymru.
Mae Llywodraeth Cymru angen y ddogfennaeth isod ar gyfer y taliad sefydlu:
- cyflwyno ffurflenni hawlio Sefydlu (A1 ac A2) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru
- copi o dystysgrif Sefydlu a gyhoeddwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg
- cadarnhad o gymhwysedd (i'w gwblhau gan yr ysgol sefydlu)
Ffurflenni cais sefydlu
A1: Dychwelwch y ffurflen gais hon yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru yn ITEIncentives@gov.wales.
A2: Ar ôl cwblhau adrannau A i D o'r ffurflen hawlio sefydlu. Rhannwch y ffurflen a chopi electronig o'ch tystysgrif sefydlu gyda Phennaeth, Pennaeth, Dirprwy Bennaeth neu Bennaeth Adran, yr ysgol lle y cwblhawyd y cyfnod sefydlu.
Datganiad y myfyriwr
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud Cymru yn genedl wrth-hiliol ac i gynyddu nifer yr athrawon sydd o gymunedau ethnig lleiafrifol, fel bod dysgwyr ysgolion Cymru yn cael gweithlu addysgu mwy amrywiol.
Wrth wneud cais am y Grant Cymhelliant AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol, gofynnir i’r myfyrwyr am wybodaeth am eu hethnigrwydd. Gwneir hyn er mwyn:
- sefydlu p’un a ydynt yn gymwys ar gyfer y cynllun
- deall yr amrywiaeth gyffredinol sydd o fewn y garfan o fyfyrwyr
- ceisio amcangyfrif amrywiaeth gweithlu'r dyfodol
Gofynnwn i fyfyrwyr ddewis o restr o grwpiau ethnig sy'n adlewyrchu'n agos y rhai a ddefnyddir gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Bydd hyn yn sicrhau dull cyson o ddeall amrywiaeth ethnig o fewn addysg uwch yng Nghymru.
Adennill grantiau cymhelliant a dalwyd
Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i adennill grantiau cymhelliant a dalwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Mae ganddi ddisgresiwn i arfer y pwerau hyn ai peidio, a bydd yn ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod.
Caniateir i'r pwerau hyn gael eu harfer gan Lywodraeth Cymru:
- os bydd y derbynnydd, ar ôl cael unrhyw randaliad o grant cymhelliant, yn methu â bodloni unrhyw feini prawf cymhwysedd a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru ac a nodir yn yr atodlen neu'r canllaw gwybodaeth mewn perthynas â rhandaliad dilynol, neu
- os yw’r derbynnydd, yn ei gais am grant cymhelliant, neu mewn cysylltiad â’r cais hwnnw, wedi darparu gwybodaeth ffug neu wybodaeth sy’n gamarweiniol mewn ffordd berthnasol, neu os oes tystiolaeth ddigamsyniol nad oedd y derbynnydd erioed wedi bwriadu cwblhau'r rhaglen neu nad oedd yn fwriad ganddo, ar ôl ei chwblhau, fynd i addysgu
Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth
Mae gwybodaeth y mae myfyriwr yn ei chyflwyno fel rhan o'i hawliad o dan Gynllun Cymhelliant AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y "Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth"), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr "EIR") Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (y “GDPR”) a Deddf Diogelu Data 2018 (y "Ddeddf Diogelu Data").
Mae myfyrwyr hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr:
-
- a ddylid datgelu unrhyw wybodaeth yr ydym wedi’i chael o dan neu mewn cysylltiad â’r Cyllid i’r graddau y mae’n ofynnol inni ddatgelu gwybodaeth o’r fath i berson sy’n gwneud cais am ddatgeliad o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r EIR a/neu
- bod unrhyw wybodaeth wedi ei heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR
- a ddylid cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i ddilysu hunaniaeth. Mae angen y gwiriadau hyn i brosesu data personol i asiantaethau atal twyll trydydd parti.
Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol y mae'n ei chael. Bydd unrhyw ddata personol a gasglwn yn cael eu rheoli yn unol â'n Addysg Gychwynnol Athrawon Cynllun Cymhelliant pynciau a blaenoriaeth: hysbysiad preifatrwydd a hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru.
Dogfennau'r cynllun
Caiff y cynllun AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol ei adolygu bob blwyddyn. Rhaid i bartneriaethau AGA gyfeirio at:
- y cynllun cyfreithiol priodol
- y llythyr cynnig grant priodol
- y canllawiau priodol i fyfyrwyr
- yr hysbysiad preifatrwydd priodol
sy’n gysylltiedig â’r flwyddyn astudio er mwyn gwirio cymhwysedd myfyrwyr a manylion llawn y cynllun.
Mae’r cynlluniau cyfreithiol, y canllawiau i fyfyrwyr a’r Hysbysiadau Preifatrwydd ar gael.