Mae cynllun gwelliant gwerth £30 miliwn Aber Tai’r Meibion yn symud ymlaen, gyda mesurau diogelwch mewn llaw i ganiatáu i’r gwaith ddechrau pe byddai cyfyngiadau Covid-19 yn parhau pan fydd yr adeiladu’n digwydd.
Mae gwaith dylunio manwl yn cael ei wneud ar hyn o bryd ac mae’r gwaith adeiladu i ddechrau ym mis Medi. Roedd angen amser ychwanegol a chyllid i gynllunio’r gwaith fel y gellid ei wneud yn ddiogel yn ystod Covid-19.
Bydd y cynllun yn gwella diogelwch ar hyd y 2.2km o’r gerbytffordd drwy gael gwared ar fynediad uniongyrchol oddi ar yr A55 yn ogystal â chael gwared ar wyth o fylchau yn y llain ganol sydd ar hyn o bryd yn caniatáu i gerbydau amaethyddol araf groesi’r A55.
Mae hefyd yn cynnwys dros bedair cilomedr o gyfleusterau teithio llesol newydd a gwell i annog beicio a cherdded, gan gefnogi’r egwyddorion o gymdeithas carbon isel.
Bydd hefyd yn rhoi mwy o ddiogelwch rhag llifogydd ar yr A55, drwy adeiladu system ddraenio well i sicrhau bod y system yn fwy cadarn.
Caiff y gwaith ei wneud gan yr adeiladwyr Alun Griffiths, fydd yn golygu nifer o fanteision gan gynnwys cynnig cyfleoedd ar gyfer hyfforddeion a phrentisiaid.
Meddai’r Gweinidog Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
“Mae hwn yn gynllun pwpysig ar gyfer gwella’r A55. Roedd angen rhagor o amser i gynllunio’r gwaith o adeiladu’r cynllun gyda rheoliadau Covid-19 ac rydym bellach mewn sefyllfa ble y gallwn edrych ymlaen at adeiladu yn hwyrach ym mis Medi.
“Mae gwaith dylunio manwl eisoes mewn llaw ers amser gan y contractwyr.
“Mae buddsoddi yn ein seilwaith yn bwysicach nag erioed a bydd y cynllun hwn hefyd yn hwb i’r economi leol yn ogystal â gwella’r A55. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau y gall y cynllun hwn nddechrau gan ddiogelu’r gweithlu a chydymffurfio gyda rheoliadau Covid-19.
Meddai Cyfarwyddwr Gweithredol Griffiths, Martyn Evans:
“Rydyn ni’n falch iawn bod y gwaith o gyflawni y gweliannau diogelwch hanfodol hyn ar yr A55 bellach i ddechrau – gan gynnig teithiau mwy diogel ar gyfer defnyddwyr ffyrdd a gwell mynediad at y rhai hynny sy’n byw ger y ffordd.
“O ganlyniad i’r Coronafeirws, rydyn ni wedi cynnwys mesurau diogelwch ychwanegol sy’n mynd y tu hwnt i ganllawiau presennol y Llywodraeth, i ddiogelu ein gweithlu a’r cymunedau lleol yr ydyn ni’n gweithio ynddyn nhw.
“Mae Griffiths wedi ymrwymo o hyd i leihau’r effaith ar breswylwyr lleol, busnesau a’r cyhoedd sy’n teithio yn ystod y gwaith adeiladu. Bydd ein Swyddog Cysylltiadau Cymunedol yn defnyddio ffyrdd newydd di-gyswllt o gysylltu gyda rhanddeiliaid fydd yn hysbysu ac yn rhoi’r newyddion diweddaraf i bawb. Byddwn yn rhannu’r rhain yn fuan.
“Rydyn ni’n edyrch ymlaen at ddechrau gweithio a sicrhau bod cymaint o fanteision â phosibl i’r prosiect, megis cyflogaeth leol a chyfleoedd drwy’r gadwyn gyflenwi drwy bob cyfnod o’r prosiect.
Roedd y gwaith adeiladu i ddechrau’n wreiddiol cyn diwedd Mawrth. Roedd angen rhagor o gynllunio yn dilyn Covid-19 i sicrhau y gellid cynnal y gwaith yn ddiogel gyda phellter cymdeithasol a mesurau eraill mewn llaw.