Cynigion y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol ar gyfer newid
Safbwynt y pwyllgor ar gynnig y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol i ddod yn elusen.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Fel un o'r saith pwyllgor cynghori statudol a gyfansoddwyd i gynghori Llywodraeth Cymru, rôl Pwyllgor Fferyllol Cymru yw darparu cyngor proffesiynol arbenigol i Weinidogion Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru ar bob mater sy'n ymwneud â'r proffesiwn fferyllol; yn benodol mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, bolisïau'r gwasanaeth iechyd, materion cyflawni a materion y gweithlu megis anghenion addysg a hyfforddiant fferyllwyr ar ôl cofrestru, technegwyr fferyllol a'u staff cymorth.
Ar 12 Medi 2024, cyhoeddodd y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS) gynigion er mwyn geisio cofrestru fel elusen a symud i fod yn Goleg Brenhinol Fferylliaeth. Ar 12 Chwefror, cyhoeddodd yr RPS fanylion pellach am y cynlluniau gan gynnwys y newidiadau arfaethedig i'w siarter frenhinol a chynlluniau ar gyfer cynnal pleidlais penderfyniad arbennig i aelodau RPS yn ystod mis Mawrth 2025.
Mae Pwyllgor Fferyllol Cymru yn cydnabod bod rôl fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol wrth ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar y claf wedi ehangu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a bod newidiadau deddfwriaethol a safonau newydd ar gyfer addysg a hyfforddiant cychwynnol fferyllwyr, a thechnegwyr fferylliaeth maes o law, yn gwella'r cyfleoedd sydd gan weithwyr fferyllol proffesiynol i gyfrannu at wella canlyniadau i gleifion.
Mae'r Pwyllgor yn ymwybodol o'r ffaith bod siâp arweinyddiaeth fferyllol broffesiynol ym Mhrydain a Gogledd Iwerddon yn esblygu'n gyflym. Mae Comisiwn y DU ar Arweinyddiaeth Broffesiynol ym maes Fferylliaeth a sefydlu Bwrdd Cynghori'r DU ar Arweinyddiaeth Broffesiynol ym maes Fferylliaeth, ac adolygiad annibynnol y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol o'i gyfansoddiad a'i lywodraethiant, i gyd wedi nodi'r angen am lais cliriach, mwy cynhwysol ar gyfer arweinyddiaeth broffesiynol sy'n cynrychioli'r fferyllfa gyfan ym mhob rhan o'r DU.
Mae arweinyddiaeth broffesiynol gref ac effeithiol yn hanfodol i hyrwyddo ymarfer proffesiynol mewn ffordd sy'n sicrhau bod proffesiwn yn cyflawni ac yn gwella'r gofal y mae'n ei ddarparu i gleifion yn barhaus.
Felly, mae Pwyllgor Fferyllol Cymru yn llwyr gefnogi creu Coleg Brenhinol Fferylliaeth fel y cam cyntaf tuag at greu corff arweinyddiaeth broffesiynol a all esblygu dros amser i gynrychioli'r proffesiwn fferylliaeth cyfan.
Cynigion RPS
Dod yn Goleg Brenhinol Fferylliaeth
Mae Pwyllgor Fferyllol Cymru yn cefnogi uchelgais yr RPS i ddod yn goleg brenhinol. Bydd y newid yn dyrchafu statws proffesiynol fferyllwyr ac yn golygu y bydd gan RPS statws tebyg i gyrff arweinyddiaeth proffesiynol eraill ym maes iechyd.
Mae cydnabyddiaeth gyhoeddus o rôl ac arwyddocâd colegau brenhinol yn fwy, a bydd y newid yn helpu i wella hyder y cyhoedd mewn fferylliaeth. Trwy gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r proffesiwn, bydd y newid hwn yn cyfrannu at well ymgysylltiad ac ymddiriedaeth ymhlith cleifion.
Diwygio'r cynulliad a sefydlu senedd a chynghorau cenedlaethol newydd
Mae Pwyllgor Fferyllol Cymru yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio cynulliad yr RPS a chyflwyno senedd newydd gyda chylch gwaith Prydain-gyfan ar gyfer arweinyddiaeth broffesiynol. Bydd y model llywodraethu ar ei newydd wedd hwn yn helpu'r RPS i ddarparu cyfeiriad strategol a chefnogi'r proffesiwn wrth barchu natur ddatganoledig gofal iechyd. Bydd sefydlu cynghorau cenedlaethol yn sicrhau bod datblygu polisi yn parhau wedi'i deilwra i faes gofal iechyd unigryw pob cenedl, gan gynnwys Cymru.
Dod yn elusen gofrestredig
Mae Pwyllgor Fferyllol Cymru yn cefnogi'r cynnig i ddod yn elusen gofrestredig. Bydd y cam hwn yn gwella tryloywder, atebolrwydd a llywodraethu. Fel elusen, bydd yr RPS yn atebol i ymddiriedolwyr sydd â rhwymedigaeth gyfreithiol i sicrhau bod y coleg yn dilyn gweithgareddau sy'n gydnaws â'i siarter a bydd yn destun goruchwyliaeth gan y Comisiwn Elusennau. Bydd y mesurau hyn yn ategu hyder y cyhoedd yng ngweithrediadau'r coleg. Hefyd, bydd y newid yn creu cyfleoedd newydd i gael mynediad at adnoddau a chyllid i hyrwyddo ei genhadaeth, gan fod o fudd i weithwyr fferyllol proffesiynol a'r cleifion y maent yn eu gwasanaethu.
Rhesymeg dros sefyllfa'r pwyllgor
Mae cefnogaeth Pwyllgor Fferyllol Cymru i gynigion yr RPS yn seiliedig ar yr ystyriaethau allweddol canlynol:
Angen addasu i newid:
Mae ymarfer fferylliaeth yn esblygu diolch i ddatblygiadau meddyginiaethau, technoleg iechyd, gwyddor data, a deallusrwydd artiffisial. Bydd gan y newidiadau hyn oblygiadau sylweddol i ofal cleifion a'r proffesiwn. Bydd y cynigion yn helpu i sicrhau bod fferyllwyr a thimau fferylliaeth mewn sefyllfa dda i lywio'r heriau hyn a manteisio ar gyfleoedd sy'n codi.
Rhaid gwella proffesiynoldeb:
Bydd y newid i goleg brenhinol a diwygio'r maes llywodraethu yn cryfhau hunaniaeth broffesiynol fferylliaeth. Bydd hyn yn helpu i ddenu a chadw'r genhedlaeth nesaf o fferyllwyr a sicrhau bod fferyllwyr yn parhau i gael eu cydnabod fel rhan hanfodol o ddarpariaeth gofal iechyd effeithiol. Bydd swyddogaethau craidd coleg brenhinol, gan gynnwys gosod cwricwla a dangos tystiolaeth o ymarfer, yn gwella diogelwch cleifion trwy gefnogi fferyllwyr i ddangos nid yn unig cymhwysedd ond rhagoriaeth mewn ymarfer.
Cefnogi gofal cleifion yng Nghymru:
Bydd y diwygiadau arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff arweinyddiaeth broffesiynol gefnogi timau fferylliaeth yn well wrth ddarparu gofal o'r radd flaenaf i gleifion. Trwy arweinyddiaeth broffesiynol gref a mynediad gwell at y dystiolaeth ddiweddaraf, bydd coleg brenhinol yn helpu i sicrhau y gall fferyllwyr yng Nghymru ddiwallu anghenion newidiol cleifion, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a darparu mynediad at ofal fferyllol o'r radd flaenaf i gleifion ledled Cymru.
Mae cyrff arweinyddiaeth yn gweithredu mewn ffordd dryloyw ac maent yn atebol:
Bydd dod yn elusen gofrestredig yn atgyfnerthu'r ymrwymiad i safonau uchel o lywodraethu a stiwardiaeth ariannol. Bydd goruchwyliaeth gan y Comisiwn Elusennau yn rhoi sicrwydd ychwanegol i aelodau a rhanddeiliaid bod y Coleg Brenhinol yn gweithredu ag uniondeb a bod pwyslais clir ar fod o fudd i'r cyhoedd a'r proffesiwn.
Casgliad
Mae Pwyllgor Fferyllol Cymru yn llwyr gefnogi cynigion y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol i ddod yn Goleg Brenhinol Fferylliaeth.
Bydd y cynigion yn cefnogi hyrwyddo ymarfer fferylliaeth a rôl pob gweithiwr fferyllol proffesiynol. Credwn fod y cynigion hyn yn gam cyntaf hanfodol tuag at sicrhau bod fferylliaeth yn cyfrannu fwyfwy at wella canlyniadau cleifion yng Nghymru ac yn creu corff arweinyddiaeth broffesiynol sy'n wirioneddol gynhwysol.
Mae Pwyllgor Fferyllol Cymru yn credu mai pleidlais o blaid sefydlu Coleg Brenhinol, fydd y cam hanfodol cyntaf i alluogi dull cydweithredol a chynhwysol ar gyfer dyfodol arweinyddiaeth fferyllol broffesiynol, ac mae’n argymell bod pob fferyllydd sy'n aelodau o'r RPS yn cymryd rhan yn y bleidlais penderfyniad arbennig a gynhelir rhwng 12 a 25 Mawrth.
Byddai Pwyllgor Fferyllol Cymru yn croesawu'r cyfle i weithio gyda'r RPS, Cymdeithas y Technegwyr Fferyllfa ar gyfer y DU, UKPPLAB (Bwrdd Annibynnol a Chynghorol ar gyfer Arweinyddiaeth Broffesiynol Fferyllfeydd DU), Grwpiau Fferylliaeth Arbenigol a rhanddeiliaid eraill, ar ddatblygu arweinyddiaeth broffesiynol gynhwysol o fewn y proffesiwn fferyllol yn dilyn canlyniad y bleidlais.