Heddiw (dydd Mawrth 27 Medi), cyhoeddwyd cynigion yng Nghymru ar gyfer y pecyn cymorth ariannol mwyaf hael i fyfyrwyr unrhyw le yn y DU.
Cyflwynwyd y cynigion i drawsnewid y system yng Nghymru yn llwyr yn dilyn adolygiad annibynnol dan arweiniad yr Athro Syr Ian Diamond a phanel o arbenigwyr.
Mae'n awgrymu newid mawr i system sy'n darparu cymorth ariannol ar gyfer costau byw myfyrwyr llawn-amser a rhan-amser drwy gymysgedd o grantiau a benthyciadau. Byddai'n golygu bod myfyrwyr yn cael swm sydd werth yr un faint â'r Cyflog Byw Cenedlaethol yn ystod y tymor pan fyddant yn astudio.
Gallai myfyriwr yng Nghymru gael grant o £7,000 y flwyddyn wrth iddynt astudio, gyda fersiwn pro-rata ar gael i fyfyrwyr rhan-amser. Yr uchafswm a fyddai ar gael bob blwyddyn fyddai £9,113 y flwyddyn ar gyfer y rheini sy'n astudio'n llawn-amser.
Nod cynigion yr Athro Diamond yw sicrhau bod y rheini sydd eisiau mynd i'r brifysgol yn gallu gwneud hynny, a bod y system yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir.
Mae'r panel yn argymell ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu cymorth ariannol i fyfyrwyr rhan-amser, a phecyn cymorth ar gyfer astudiaethau ôl-radd sy'n helpu myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig. Maent hefyd yn cynnig syniadau newydd ar rannu ymchwil a gwybodaeth a rhaglen i gefnogi myfyrwyr ymchwil.
Mae'r argymhellion yn cynnwys:
- System newydd a gwell ar gyfer grantiau cynhaliaeth i israddedigion, myfyrwyr ôl-radd a myfyrwyr rhan-amser. Y rheini sydd â'r angen mwyaf fydd yn cael y lefel uchaf o gymorth.
- Grant cynhaliaeth cyffredinol blynyddol o £1,000 i bob myfyriwr nad yw'n seiliedig ar brawf modd, ochr yn ochr â'r grant ychwanegol ar gyfer costau byw sydd yn seiliedig ar brawf modd. Bydd myfyrwyr rhan-amser yn cael fersiwn wedi'i haddasu o'r cymorth hwn ar sail pro-rata.
- Dylai'r gyfradd uchaf o'r benthyciad a/neu grant cynhaliaeth ar gyfer myfyrwyr sy'n byw oddi cartref y tu allan i Lundain, fod yr un faint â'r Cyflog Byw Cenedlaethol - sef £8,100 ar gyfer 37.5 awr yr wythnos dros gyfnod o 30 wythnos. Felly, darparu uchafswm grant sydd 25% yn fwy (£10,125) ar gyfer myfyrwyr sy'n byw oddi cartref yn Llundain, a 15% yn fwy (£6,885) ar gyfer myfyrwyr sy'n byw gartref.
- Talu cymorth cynhaliaeth i fyfyrwyr bob mis er mwyn iddynt allu cynllunio a chyllidebu'n fwy effeithlon.
- Yn y cyfnod ariannol anodd iawn sydd ohoni yn y DU, gellid ond cyflawnir gwelliannau i'r pecyn cymorth cyffredinol i fyfyrwyr drwy ryddhau cyllid sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i ddarparu grantiau ffioedd dysgu i israddedigion llawnamser. Dylai'r grant ffioedd dysgu ar gyfer israddedigion llawnamser gael ei ddisodli gan fenthyciad, gydag uchafswm y cytunir arno gyda Llywodraeth Cymru. Byddai'r ad-daliadau ond yn dechrau pan fydd graddedigion yn ennill cyflog sy'n uwch na £21,000.
Dywedodd yr Athro Diamond:
"Mae’n hollbwysig parhau i fuddsoddi mewn addysgu’r cenedlaethau i ddod a fydd yn llywio’r economi a’r gymdeithas yn y dyfodol.
"Yn yr unfed ganrif ar hugain, mae hyn golygu bod gofyn cael system addysg sy’n lleihau’r bwlch rhwng y cefnog a’r tlawd, ac yn galluogi pobl i gael mynediad at sgiliau lefel uwch sy’n hanfodol i greu’r math o genedl y mae Cymru’n anelu ati.
“Dylai’r trefniadau ar gyfer ariannu addysg uwch fod yn bartneriaeth rhwng y gymdeithas ehangach a’r unigolyn. Yn wahanol i Loegr, lle bydd y cymorth cynhaliaeth i fyfyrwyr yn seiliedig ar fenthyciadau, rydym yn cynnig darparu cymorth cyffredinol sylweddol i fyfyrwyr llawn-amser. Golyga hyn y bydd myfyrwyr Cymru’n wynebu dipyn llai o ddyled ar gyfartaledd na myfyrwyr o Loegr pan fyddant yn gadael y brifysgol.”
Dywedodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd dros Addysg:
"Hoffwn ddiolch i'r Athro Diamond a'i dîm am eu gwaith. Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno cynllun blaengar a chynaliadwy ar gyfer Addysg Uwch yng Nghymru.
"Rydw i, a'm cydweithwyr yn y Cabinet, yn cefnogi'r egwyddorion sy'n sail i'r adroddiad a byddwn yn mynd ati nawr i ystyried yn fanylach sut y gallwn weithredu'r argymhellion hyn.
"Rydym am sicrhau bod y rheini sy'n dymuno symud ymlaen i brifysgol yn gallu gwneud hynny. Pryder ynghylch methu â thalu costau byw bob dydd, yn hytrach na'r syniad o ad-dalu benthyciadau ar ôl cael swydd, sy'n codi ofn ar nifer o bobl. Mae'r system yn mynd i'r afael â'r broblem hon, ond bydd hefyd yn golygu gwneud penderfyniadau anodd i sicrhau bod y system yn gynaliadwy yn y tymor hir.
"Bydd y pecyn cymorth hael a gynigir gan y panel yn golygu y bydd myfyrwyr o Gymru yn elwa ar yr unig system yn y DU sy'n gyson, yn flaengar ac yn deg ar bob lefel a dull astudio.
"Rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i wneud yn siŵr y dylai mynediad at addysg uwch fod ar sail gallu academaidd ac nid cefndir cymdeithasol.”
Ni fydd y newidiadau i'r system cymorth i fyfyrwyr yng Nghymru yn dod i rym tan 2018 o leiaf.