Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwella mynediad a darparu profiadau o'r radd flaenaf y gall ymwelwyr ymgolli eu hunain ynddynt yn rhan o gynigion cyffrous ar gyfer Porth y Brenin yng Nghastell Caernarfon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn bwriadu gwella profiadau ymwelwyr yn un o Safleoedd Treftadaeth y Byd ac mae wedi manteisio ar raglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth Croeso Cymru i sicrhau rhaglen gwerth £3.3 miliwn.

Mae'r cynigion presennol yn cynnwys:

  • Darparu mynediad gwastad i'r furflychau uwch a fydd y ddarpariaeth gyntaf o'i math yn unrhyw safle debyg yn y DU, gan roi profiad unigryw i'r rheini a phroblemau symudedd.
  • Datblygu profiadau dychmygol a rhyngweithiol y gall ymwelwyr ymgolli eu hunain ynddynt, megis rhith-wirionedd.
  • Gwaith cadwraeth arwyddocaol i'r porth.
  • Lifft gwydr ysgafn i roi mynediad ym Mhorth y Brenin a fydd yn mynd ag ymwelwyr i fan gwylio ar ben y Porth.
  • Man addysgol lle y gellir cynnal digwyddiadau.
  • Cyfleusterau tŷ bach hygyrch.
  • Darparu ardal i fwynhau lluniaeth a byrbrydau ysgafn.
  • Cyfleuster manwerthu gwell a mwy o faint yn ardal Tŵr Porth y Brenin. 

Bydd Cadw yn cynnal digwyddiad ymgynghori am gyfnod byr yn Sgwâr y Castell, Caernarfon i holi barn pobl leol am y cynigion hyn ar 26 a 27 Tachwedd.

Bydd byrddau stori, profiad rhith-wirionedd a model 3D o'r castell gan gynnwys y gwelliannau arfaethedig i’w gweld yno. Bydd cynrychiolwyr o Cadw ar gael i drafod y gwelliannau a awgrymir.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas:

“Mae Castell Caernarfon yn atyniad hynod o arwyddocaol, yn un o'r cestyll mwyaf adnabyddus yn y DU ac mae’n cael ei adnabod ar draws y byd hefyd.

“Mae'r prosiect hwn yn hoelio sylw ar wella'r cynnig gwych hwn. Rydyn ni am ysgogi mwy o bobl i ymweld â'r heneb, a thref Caernarfon wrth gwrs drwy ei gwneud yn fwy hygyrch i gynulleidfa ehangach.

“Os ydym am fynd ati o ddifrif i drechu rhwystrau, rhaid i'n safleoedd fod yn fwy hygyrch, perthnasol a difyr. Rhaid inni barhau i roi'r mynediad gorau posibl i'r rheini â phroblemau symudedd.

“Rydyn ni wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd o ran darparu pontydd mynediad yng Nghaernarfon a Harlech – rydym am ychwanegu at hyn drwy wella mynediad i lefelau uwch ein cestyll, megis Caernarfon, gan wneud hynny mewn ffordd a fydd yn cyd-fynd â'u cymeriad hanesyddol. Mae ein cynigion yn cefnogi hynny'n llwyr”.