Daeth yr ymgynghoriad i ben 23 Medi 2024.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem gael eich barn ar Reoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Lleoli) (Cymru). Rydym hefyd yn galw am dystiolaeth am yfed diodydd egni gan blant.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae 2 ran i’r cyhoeddiad hwn:
- Rhan 1: ymgynghoriad sy'n ceisio barn ar y rheoliadau drafft a'r dull gorfodi ar gyfer Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Lleoli) (Cymru).
- Rhan 2: galwad am dystiolaeth sy’n gofyn am dystiolaeth yn ymwneud ag yfed diodydd egni gan blant.
Nod y rheoliadau drafft arfaethedig yw sicrhau mai’r dewis iach yw’r dewis hawsaf i ddefnyddwyr Cymru drwy wneud y canlynol:
- Cyfyngu ar hyrwyddiadau pris ar sail swmp o gynhyrchion â lefelau uchel o fraster, halen a siwgr sy’n gallu annog pobl i orfwyta. Mae hyn yn cynnwys cynigion amleitem (er enghraifft prynu un eitem a chael un arall am ddim) a chyfleoedd i ail-lenwi diodydd meddal llawn siwgr am ddim.
- Cyfyngu ar leoli cynhyrchion bwyd a diod â lefelau uchel o fraster, halen a siwgr mewn lleoliadau gwerthu allweddol, sy’n cynnwys wrth fynedfeydd siopau, wrth y desgiau talu ac ar ben yr eiliau. Gall hyn arwain at bŵer plagio a phrynu cynhyrchion â lefelau uchel o fraster, halen a siwgr ar fympwy.
Rydym hefyd yn manteisio ar y cyfle i alw am dystiolaeth sy'n ymwneud ag yfed diodydd egni gan blant er mwyn deall yr effeithiau’n well, gan gynnwys yr effeithiau ar y gymdeithas ehangach.
Dogfennau ymgynghori
Dogfen ymgynghori a galwad am dystiolaeth , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 301 KB
Atodiad 1: offeryn statudol drafft , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 409 KB
Asesiad effaith hawliau plant , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 648 KB
Asesiad effaith ar gydraddoldeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 244 KB
Asesiad effaith integredig , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 309 KB
Asesiad effaith rheoleiddiol , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Asesiad o’r effaith ar y Gymraeg , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 104 KB
Help a chymorth
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.