Daeth yr ymgynghoriad i ben 29 Mawrth 2012.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 88 KB
Rhestr o'r ymgynghoreion ac ymatebion llawn (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn amlinellu'r cynigion ar gyfer y dyfodol o ran cofrestru'r gweithlu addysg yng Nghymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Pam ein bod yn cynnig diwygio'r gofynion ar gyfer cofrestru'r gweithlu addysg yng Nghymru?
Ym mis Chwefror 2011 cyflwynodd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau ei agenda i godi safonau addysg yng Nghymru.
I gyflawni'r agenda hon mae'r Gweinidog eisiau sicrhau bod y gweithlu addysg yn gweithio gyda'i gilydd fel un grŵp cydlynus o weithwyr proffesiynol i wella safonau addysg ar gyfer pobl Cymru.
Mae cryn wahaniaeth rhwng y gofynion ar gyfer safonau proffesiynol cymwysterau hyfforddiant cychwynnol rheoli perfformiad a datblygiad proffesiynol parhaus ar draws amryfal sectorau'r gweithlu addysg. Er bod rhai o'r gwahaniaethau hyn yn dra phriodol ac yn adlewyrchu gwahaniaethau go iawn yng ngofynion y sectorau mae yna wahaniaethau eraill artiffisial sy'n rhwystro cydweithredu a symudedd ymhlith y gweithlu. Nid ydyw'n rhoi sicrwydd i'r cyhoedd chwaith fod pob gweithiwr addysg proffesiynol yn arddel safonau uchel o ymddygiad a chymhwysedd proffesiynol ac felly gall danseilio parch cydradd.
Mae potensial i gorff sy'n cofrestru'r gweithlu addysg fod yn bartner allweddol yn y broses o sicrhau gwell cydlyniant. Gallai gefnogi'r agenda ar gyfer gwella a gallai fonitro ac o bosibl helpu i godi safonau gan gynnal a meithrin hyder y cyhoedd yn y proffesiwn. Mae cwmpas a swyddogaethau'r Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC) fel y maen nhw wedi'u cyfansoddi ar hyn o bryd yn rhy gul i gyflawni hyn yn llwyr.
Pa newidiadau penodol yr ydym yn eu cynnig?
Rydym yn bwriadu ailgyfansoddi'r CyngACC neu sefydlu corff newydd i gofrestru addysg yng Nghymru. Fan lleiaf bydd y corff hwn yn cofrestru athrawon ysgol i sicrhau mai dim ond y rheini sydd wedi cymhwyso ac sy'n addas i weithio gaiff addysgu yng Nghymru. Rydym yn awyddus i gael eich barn am gwmpas a swyddogaethau ehangach y corff cofrestru ac rydym yn cynnig:
- bod gwaith y corff yn cael ei oruchwylio gan y proffesiwn. Gallai hyn gael ei gyflawni drwy gyngor proffesiynol sy'n cynnwys pobl ag arbenigedd yn y sectorau a'r swyddogaethau a gwmpesir gan y corff neu gyfres o gynghorau sector a phob un ohonyn nhw’n gyfrifol am ran benodol o'r gweithlu
- bod cwmpas y corff yn cael ei ymestyn i gynnwys y gweithlu addysg ehangach yn hytrach nag athrawon yn unig. Byddai hyn yn cynnwys fan lleiaf staff cymorth dysgu ysgolion darlithwyr addysg bellach a'r gweithlu dysgu seiliedig ar waith a thrwy'r ymgynghoriad hwn rydym yn ystyried a ddylid cynnwys categorïau ychwanegol o staff ac rydym yn awyddus i gael eich barn am hyn. Rydym yn bwriadu cofrestru categorïau ychwanegol y gweithlu addysgl fesul cam. Drwy hynny felly bydd modd i ni greu darlun cyflawn o'r holl weithlu
- y dylid ehangu swyddogaethau posibl y corff fel bod iddo ran allweddol mewn pennu safonau ar gyfer y gweithlu addysg ac mewn monitro'r safonau hynny. Bydd y swyddogaethau'n cael eu cyflwyno'n raddol a hynny pan fydd y Gweinidog o'r farn bod y corff yn barod i'w hysgwyddo. Gallai'r swyddogaethau gynnwys cymeradwyo cyrsiau hyfforddiant cychwynnol i athrawon y gofynion ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus a gosod safonau proffesiynol
- y dylai'r rheini sy'n cofrestru gyda'r corff dalu ffi gofrestru. Rydym yn awyddus i osgoi strwythur cymhleth o ffioedd a fyddai'n gostus i'w gweinyddu ond rydym yn fodlon ystyried cyfres gyfyngedig o ffioedd amrywiol os gellid eu cyfiawnhau'n briodol
- ein bod ni hefyd law yn llaw â'r newidiadau hyn yn ystyried y gwahaniaethau yn y gofynion ar gyfer cymwysterau safonau proffesiynol rheoli perfformiad a datblygiad proffesiynol ac yn ystyried a allai mwy o gydlyniant ar draws y materion hyn helpu ein hymgyrch i wella safonau
- y dylem geisio pwerau eang yn y Bil Addysg arfaethedig er mwyn i'r newidiadau hyn ddod i rym.