Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynigion i ailwampio safonau addysgu yng Nghymru wedi’u datgelu gan yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cynlluniau’n rhan o’r genhadaeth genedlaethol i ddiwygio addysg er lles disgyblion. Bwriad y safonau newydd yw hyrwyddo rhagoriaeth mewn addysgu a chefnogi datblygiad proffesiynol i bob athro drwy gydol ei yrfa.

Bydd y safonau newydd:

  • Yn datblygu sgiliau arweinyddiaeth pob athro.
  • Yn rhoi cyfle i athrawon ddatblygu eu sgiliau drwy gydol eu gyrfa i fodloni anghenion y system addysg.
  • Yn rhoi gwell cefnogaeth i newydd-ddyfodiaid sy’n ymuno â’r proffesiwn drwy ddwyn ynghyd ofynion y dyfarniad ar gyfer Statws Athro Cymwysedig a chwblhau’r cyfnod ymsefydlu’n llwyddiannus.
  • Yn galluogi athrawon i weithio gyda’i gilydd yn fwy effeithiol er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn elwa ar addysgu a dysgu gwych.

Y bwriad yw y bydd y safonau newydd yn berthnasol i bob athro mewn swydd o fis Medi 2018 ymlaen ac i bawb a fydd yn cwblhau rhaglenni hyfforddiant cychwynnol athrawon o fis Medi 2019 ymlaen. Bydd hyn yn caniatáu amser i bawb ddod yn gyfarwydd â’r safonau newydd cyn iddynt ddod yn orfodol.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r proffesiwn i helpu athrawon ac ymarferwyr i gyrraedd y safonau gorau posibl ac, ar yr un pryd, godi safon addysgu yn ogystal â chodi safle’r proffesiwn cyfan sydd yr un mor bwysig.

“Nid yw’r safonau proffesiynol presennol yn addas i’r diben mwyach ac nid ydynt yn cyfateb i fy ngweledigaeth ar gyfer gweithlu ysgolion.  Yr hyn a wnaeth yr hen system oedd pennu’r disgwyliadau gofynnol ond rydyn ni am symud y tu hwnt i hynny erbyn hyn.

“Diben y safonau newydd yw gwneud yn siŵr bod athrawon yn datblygu’r sgiliau iawn drwy gydol eu gyrfa a bod pawb sy’n addysgu yn ein hystafelloedd dosbarth yn ymgymryd â rôl arweinyddol wrth i ni weithio gyda’n gilydd i godi safonau. Y nod yw symud tuag system sy’n hyrwyddo datblygiad gydol gyrfa. Fy ngweledigaeth yw cryfhau arweinyddiaeth a sicrhau bod mwy o gysondeb ar draws ein hysgolion.

“Rydw i’n ddiolchgar i’r holl athrawon, arweinwyr a phartneriaid eraill sydd wedi bod ynghlwm wrth y gwaith o ddatblygu’r safonau newydd yma – mae’n dyst i’r hyn all gael ei gyflawni o weithio gyda’n gilydd”