Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 18 Hydref 2012.

Cyfnod ymgynghori:
9 Medi 2012 i 18 Hydref 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 93 KB

PDF
93 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Rhestr o ymgynghoreion ac ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 648 KB

PDF
648 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae addysgu a dysgu effeithiol wrth wraidd diwygiadau ym maes addysg yng Nghymru.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Yn dilyn canlyniad ymgynghoriad sydd wedi’i gynnal ar y cynigion i ddiwygio’r gofynion i gofrestru’r gweithlu addysg yng Nghymru mae’r Gweinidog yn nodi ei fwriadau fel a ganlyn:

  • bydd angen i athrawon mewn ysgolion a gynhelir barhau i gofrestru
  • bydd angen i eraill sy’n rhan o’r gweithlu addysg gofrestru hefyd
  • bydd gan y corff cofrestru swyddogaethau disgyblu a bydd y corff yn cyflawni’r swyddogaethau hynny yn annibynnol ar y Llywodraeth
  • bydd y corff cofrestru yn cael ei ffurfio drwy adeiladu ar brofiad Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
  • yn ychwanegol at y swyddogaethau craidd sydd ynghlwm wrth gofrestru a disgyblu ymhen amser bydd gan y corff cofrestru amrywiaeth o swyddogaethau cynghori gan gynnwys achredu ac ardystio hyfforddiant
  • yn ogystal bydd gan y corff cofrestru rôl i hyrwyddo cyfleoedd dysgu a rhannu data yn effeithiol o fewn y gweithlu.

Mae’r ddogfen ymgynghori yn rhoi mwy o fanylder ynghylch swyddogaethau a gweithrediadau’r corff cofrestru ac yn gofyn am safbwyntiau pobl ar fanylion y gweithrediadau y rolau a’r swyddogaethau. Gwnaed hynny fel rhan o’r gwaith paratoi ar gyfer rheoliadau’r Bil Addysg (Cymru) a fydd yn cael ei gyflwyno maes o law.

Mae’r cynigion a geir yn yr ymgynghoriad hwn yn fodd o ddatblygu system gofrestru gadarn a fydd yn gwella’r gwaith o gynllunio’r gweithlu ei hyfforddi a’i ddatblygu. Bydd hyn hefyd yn rhoi mwy o gydlyniant a chydnabyddiaeth ymhlith yr holl weithlu addysg tuag at addysg pob dysgwr yng Nghymru.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 119 KB

PDF
119 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad plant a phobl ifanc , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 753 KB

PDF
753 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.