Cynigion am orfodi’r Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru): adendwm
Trosolwg o’r ymgynghoriad â’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a Llywodraeth y DU ar gynigion Gweinidogion Cymru mewn perthynas â rheoliadau ar gosbau sifil. Rhwng 3 Gorffennaf a 31 Awst 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar 3 Gorffennaf, ysgrifennodd y Gweinidog Newid Hinsawdd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (“yr Ysgrifennydd Gwladol”) i’w hysbysu am gynigion i gyflwyno cosbau sifil er mwyn cefnogi’r broses o weithredu Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 (“y Ddeddf”).
Ymatebodd Gweinidog Pow, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig – fel y Gweinidog â chyfrifoldeb dros y maes polisi – ar 26 Gorffennaf 2023. Ni wnaed unrhyw sylwadau penodol oherwydd yr ymgysylltu cadarnhaol parhaus rhwng swyddogion Llywodraeth y DU a swyddogion Llywodraeth Cymru. O ganlyniad i’r ymgysylltu parhaus hwn, nodwyd newid arfaethedig i’r dull gweithredu yn Lloegr o ran gwneud y cosbau sifil ar gael i swyddogion gorfodi awdurdodau lleol mewn perthynas â’u rheoliadau presennol (Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Gwellt, Ffyn Cotwm a Throellwyr Plastig) (Lloegr) 2020) a’u rheoliadau sydd ar y gweill (Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Platiau Plastig etc. a Chynwysyddion Polystyren etc.) (Lloegr) 2023).
Roedd y cynnig hwn yn cynnwys darparu Cosbau Ariannol Penodedig (FMPau), hysbysiadau cydymffurfio, hysbysiadau stop ac ymgymeriadau gorfodi ar gyfer y ddwy set o reoliadau. Golygodd hyn y câi Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Gwellt, Ffyn Cotwm a Throellwyr Plastig) (Lloegr) 2020 eu diwygio er mwyn cael Cosbau Ariannol Penodedig yn lle Cosbau Ariannol Amrywiadwy (VMPau).
Yn ogystal, nodwyd bod cynigion i ddiwygio Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Microbelenni) (Lloegr) 2017 (unwaith eto er mwyn darparu ar gyfer Cosbau Ariannol Penodedig yn lle Cosbau Ariannol Amrywiadwy).
Roedd y rhesymeg dros wneud y newidiadau hyn yn seiliedig ar drafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a Chymdeithas y Prif Swyddogion Safonau Masnach. Roedd swyddogion gorfodi’n tueddu i ffafrio defnyddio Cosbau Ariannol Penodedig wrth ymdrin â’r mathau hyn o droseddau amgylcheddol. Gwnaethant awgrymu bod defnyddio’r rhain yn llai trwm ar adnoddau. Mynegodd un o’r ymatebwyr i’n hymgynghoriad farn debyg.