Mae'r fersiwn diweddaraf o'n fframwaith Cynhyrchion a Gwasanaethau TG poblogaidd bellach yn fyw ac ar gael i'r sector cyhoeddus yng Nghymru ei ddefnyddio.
Mae'r cytundeb fframwaith hwn yn cynnig llwybr cydymffurfiol, syml a chystadleuol i'r farchnad ar gyfer cwsmeriaid sy'n dymuno archebu ystod o gynhyrchion caledwedd a meddalwedd TG a gwasanaethau cysylltiedig.
Mae'r fframwaith yn cynnwys 5 lot, wedi’u hisrannu fel a ganlyn:
Lot 1: Catalog Nwyddau Caledwedd TG |
Lot 2: Caledwedd TG* |
Lot 3: Trwyddedu a Thanysgrifiadau |
Lot 4: Clyweledol |
Lot 5: Atebion |
*Noder, mae lot 2 wedi cael ei ddyfarnu'n rhannol. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu cyn gynted ag y bydd ar gael.
Mae pob lot wedi cael ei osod ar sail Cymru gyfan.
Sut i ddefnyddio'r fframwaith hwn
Mae manylion am sut i ddefnyddio pob lot y fframwaith, a'r cyflenwyr a ddyfernir i bob lot ar gael ar Gofrestr Contractau GwerthwchiGymru (mewngofnodwch i’r cyfrif GwerthwchiGymru cyn cyrchu’r ddolen).
Panel Rheoli Prynwyr >Cofrestr y Contract (o dan Sefydliad)>Gweld Contractau Cyhoeddus>Chwiliad Manylach>Teipiwch deitl y fframwaith> Dewiswch y blwch 'Cynnwys Contractau Cydweithredol'>Chwilio
A fyddech cystal â rhannu'r wybodaeth bwysig hon o fewn eich sefydliad.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: NPSICTCategoryTeam@gov.wales