Neidio i'r prif gynnwy

Mae cwmni o Drefynwy yn dangos enghreifftiau o ddylunio ac arloesedd Cymru yn Ninas Efrog Newydd mewn arddangosfa yn y Smithsonian Design Museum, Cooper Hewitt.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r ddau gynnyrch gan E2L wedi’u dylunio i bobl sydd â dementia gynnal eu gallu meddyliol, eu hunan barch a’u hurddas, gan eu helpu i adnabod eitemau pob dydd a pharhau i allu eu defnyddio.  Cafodd y ddau gynnyrch eu profi’n drylwyr gan bobl â dementia yn y DU.

Maen nhw’n rhan o gasgliad o 70 o ddyluniadau arloesol o bob cwr o’r byd sydd wedi’u datblygu yn ystod y degawd diwethaf i wneud arferion dyddiol yn haws. Maen nhw’n rhan o’r arddangosfa Mynediad a Gallu.

Cafodd E2L, sy’n Llysgennad ar gyfer Arloesi, gymorth gan Gronfa Datblygu Busnes Dramor Llywodraeth Cymru i ymweld ag Efrog Newydd, Florida a Mecsico.  O ganlyniad, cafodd y ddau gynnyrch eu dewis gan drefnwyr yr arddangosfa.

Y cynhyrchion dan sylw yw’r Simple Music Play, sy’n gallu gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ac sy’n hawdd ei ddefnyddio, a’r  Placemat for Dementia, sef mat bwrdd gwrth-lithr sy’n helpu pobl â dementia i ymdopi’n well a’u prydau bwyd.  

Mae’r cwmni’n arbenigo mewn dylunio cynhyrchion sy’n diwallu’r anghenion iechyd a nodwyd yn aml i’r cwmni gan ofalwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol; cynhyrchion sy’n ychwanegu at ansawdd bywyd cleifion ac sy’n gyfarwydd ac yn hawdd eu defnyddio.  

Dywedodd Lyndon Owen, Pennaeth E2L:

“Rydyn ni’n falch iawn o gael y cyfle i gyfrannu at yr arddangosfa hon sy’n dangos cynhyrchion sy’n helpu pobl sydd â dementia a’u teuluoedd.  Mae’n cynnyrch hefyd ar gael yn siop yr amgueddfa ac mae’n enghraifft ymarferol o’r math o gynnyrch peirianneg y mae E2L yn ei greu.”

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:

“Mae’n wych gweld y cynhyrchion arloesol hyn, sydd wedi’u dylunio a’u cynhyrchu yng Nghymru, yn yr arddangosfa enwog hon yn Efrog Newydd.  Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru yn gallu helpu’r cwmni i godi proffil eu cynhyrchion dramor, gan eu bod o fantais fawr i bobl sydd â dementia.”