Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon ar gyfer mesur data cynhyrchiant llafur ar gyfer rhanbarthau islaw lefel Cymru ar gyfer 2002 i 2019.

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer Cymru(1)

  • Bod y GYC fesul awr a weithiwyd (o’i gymharu â’r DU) yn 2019 yn 84.1%; yr ail isaf o ddeuddeg, sef gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.
  • Bod y GYC fesul swydd (o’i gymharu â’r DU) yn 82.3% yng Nghymru. Dyma’r GYC isaf, fesul swydd, o blith y deuddeg, sef gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.
  • Bod amcangyfrifon a gyhoeddwyd fis Rhagfyr 2019 yn dangos bod GYC y pen (o’i gymharu â’r DU) yn 72.6%.
  • Dyna’r GYC ail isaf y pen o blith y deuddeg, sef gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.

(1) Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi ffigurau ar gyfer Cymru fel rhan o’r datganiad blynyddol ar gynhyrchiant rhanbarthol ac is-ranbarthol yn y DU a’r datganiad chwarterol ar gynhyrchiant llafur. Caiff y ffigurau ar gyfer Cymru yn y ddau ddatganiad hyn eu cyfrifo gan ddefnyddio’r un fethodoleg ond maent wedi’u seilio ar ddwy ymagwedd wahanol o ran GVA. Mae’r ffigurau ar gyfer Cymru a gynhwysir yn y pennawd ystadegau hwn wedi’u cymryd o’r datganiad cynhyrchiant is-ranbarthol er mwyn bod yn gyson â gweddill y data a ddefnyddir yn y pennawd ystadegau hwn.

Amcangyfrifon is-Gymru(2)

  • Powys oedd yr ardal â’r GYC isaf fesul awr a weithiwyd o’r holl ardaloedd yn y DU yn 2019 (sef 57.6% o ffigur y DU), a Conwy a Sir Ddinbych oedd y pedwerydd isaf (gyda 71.0% o ffigur y DU).
  • Powys hefyd oedd yr ardal â’r GYC isaf fesul swydd yn y DU yn 2019 (60.6% o gyfartaledd y DU fesul swydd).
  • Sir y Fflint a Wrecsam oedd yr ardal â’r safle uchaf yng Nghymru o ran ar gyfer y ddau GYG yr awr a GYG y swydd (at 94.7% a 96.0% o ffigur y DU yn y drefn hyn).

(2) Lefelau Tiriogaethol Rhyngwladol (ITL) yw system ddaearyddol dosbarthiad newydd y DU. Mae hyn wedi disodli y system Enwau Unedau Tiriogaethol at Ddibenion Ystadegaeth (NUTS). Mae’r ITL yn ddosbarthiad daearyddol sydd yn gwahanu y DU i ranbarthau at dair lefel wahanol (ITL 1, 2 a 3, yn y drefn hyn, yn symud o unedau bras i unedau fach). Mae amcangyfrifion Is-Gymru uchod yn cyfeirio at ITL3.

Nodyn

Fel y cytunwyd gyda’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, bydd yr ystadegau hyn yn cael eu diweddaru am 12.30yp ar y diwrnod y bydd SYG yn eu cyhoeddi.

Adroddiadau

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.