Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon ar gyfer mesur data cynhyrchiant llafur ar gyfer rhanbarthau islaw lefel Cymru ar gyfer 2002 i 2016.

Mae'r amcangyfrifon Enwau Unedau Tiriogaethol at Ddibenion Ystadegaeth 2 (NUTS2)

  • Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYC) fesul awr a weithiwyd (o’i gymharu â’r Deyrnas Unedig) yn Nwyrain Cymru a Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 86.4% a 79.5% o gyfartaledd y Deyrnas Unedig fesul awr a weithiwyd yn y drefn honno yn 2016. Rhwng 2015 a 2016, gostyngodd y GYC fesul awr a weithiwyd yng Nwyrain Cymru a Gorllewin Cymru a'r Cymoedd 0.1 pwynt canran o’i gymharu â chyfartaledd y Deyrnas Unedig.
  • GYC fesul swydd wedi’i llenwi (o’i gymharu â’r Deyrnas Unedig) yn Nwyrain Cymru a Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 84.8% a 77.2% o gyfartaledd y Deyrnas Unedig yn y drefn honno yn 2016. Rhwng 2015 a 2016, gostyngodd GYC fesul swydd wedi’i llenwi 0.1 pwynt canran yn Nwyrain Cymru o’i gymharu â chyfartaledd y Deyrnas Unedig, ac arhosodd Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yr un peth (i un lle degol).
  • Mae amcangyfrifon a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2017 yn dangos bod GYC y pen (o'i gymharu â'r Deyrnas Unedig) yn Nwyrain Cymru a Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 87.2% a 64.1% o gyfartaledd y Deyrnas Unedig y pen yn y drefn honno yn 2016. Rhwng 2015 a 2016, cynyddodd GYC y pen yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd 0.3 pwynt canran o’i gymharu â chyfartaledd y Deyrnas Unedig, tra cynyddodd yn Nwyrain Cymru 0.7 pwynt canran.

Mae'r amcangyfrifon Enwau Unedau Tiriogaethol at Ddibenion Ystadegaeth 3 (NUTS3)

  • Powys oedd yr ardal NUTS3 gyda'r GYC isaf fesul awr a weithiwyd yn y Deyrnas Unedig yn 2016, a Gwynedd oedd yr ail isaf (gyda 65.1% a 71.4% o gyfartaledd y Deyrnas Unedig yn y drefn honno). Ynys Môn, Conwy a Sir Dinbych, a De-Orllewin Cymru oedd y trydydd, pedwerydd a phumed isaf yn y Deyrnas Unedig (gyda 72.2%, 72.4% a 72.5% yn y drefn honno o gyfartaledd y Deyrnas Unedig). Y Cymoedd Canolog oedd yr ardal â’r safle uchaf yng Nghymru o ran NUTS3 (gyda 93.7% o gyfartaledd y Deyrnas Unedig).
  • Powys oedd yr ardal NUTS3 gyda'r GYC isaf fesul swydd yng Nghymru yn 2016 (66.0% o gyfartaledd y Deyrnas Unedig fesul swydd). Roedd hefyd yr  isaf yn y Deyrnas Unedig. Dilynwyd hyn gan Wynedd, Ynys Môn a De-Orllewin Cymru, sef y pedwerydd, chweched a seithfed isaf yn y Deyrnas Unedig (gyda 70.0%, 71.2% a 71.7% yn y drefn honno o gyfartaledd y Deyrnas Unedig fesul swydd). Sir y Fflint ac Wrecsam oedd yr ardal â’r safle uchaf yng Nghymru o ran NUTS3 (gyda 92.2% o gyfartaledd y Deyrnas Unedig).

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.