Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon ar gyfer mesur data cynhyrchiant llafur ar gyfer rhanbarthau islaw lefel Cymru ar gyfer 2002 i 2017.

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer Cymru(1)

  • Bod y GYC fesul awr a weithiwyd (o’i gymharu â’r DU) yn 2017 yn 83.6%; yr isaf o ddeuddeg, sef gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr. 
  • Bod y GYC fesul swydd (o’i gymharu â’r DU) yn 81.7% yng Nghymru. Dyma’r GYC isaf, fesul swydd, o blith y deuddeg, sef gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.
  • Bod amcangyfrifon a gyhoeddwyd fis Rhagfyr 2018 yn dangos bod GYC y pen (o’i gymharu â’r DU) yn 72.9%. Dyna’r GYC isaf y pen o blith y deuddeg, sef gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.

(1) Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi ffigurau ar gyfer Cymru fel rhan o’r datganiad blynyddol ar gynhyrchiant rhanbarthol ac is-ranbarthol yn y DU a’r datganiad chwarterol ar gynhyrchiant llafur. Caiff y ffigurau ar gyfer Cymru yn y ddau ddatganiad hyn eu cyfrifo gan ddefnyddio’r un fethodoleg ond maent wedi’u seilio ar ddwy ymagwedd wahanol o ran GVA. Mae’r ffigurau ar gyfer Cymru a gynhwysir yn y pennawd ystadegau hwn wedi’u cymryd o’r datganiad cynhyrchiant is-ranbarthol er mwyn bod yn gyson â gweddill y data a ddefnyddir yn y pennawd ystadegau hwn.

Mae'r amcangyfrifon Enwau Unedau Tiriogaethol at Ddibenion Ystadegaeth 2 (NUTS2)

  • Yn 2017 roedd y Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYC) fesul awr a weithiwyd yn Nwyrain Cymru yn 89.2% o ffigur y DU, ac yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd roedd yn 79.5% o gyfartaledd y DU. Rhwng 2016 a 2017, cynyddodd y GYC fesul awr a weithiwyd yn Nwyrain Cymru a Gorllewin Cymru a'r Cymoedd o’i gymharu â chyfartaledd y Deyrnas Unedig (i fyny 0.4 a 0.1 pwynt canran, yn ôl eu trefn).
  • Roedd y GYC fesul swydd (o’i gymharu â’r Deyrnas Unedig) yn Nwyrain Cymru a Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 87.5% a 77.4% o gyfartaledd y Deyrnas Unedig yn y drefn honno yn 2017. Rhwng 2016 a 2017, cynyddodd GYC fesul swydd 0.5 pwynt canran yn Nwyrain Cymru o’i gymharu â chyfartaledd y Deyrnas Unedig, a chynyddodd 0.2 pwynt canran (i un lle degol) yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd.
  • Mae amcangyfrifon a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2018 yn dangos bod GYC y pen (o'i gymharu â'r Deyrnas Unedig) yn Nwyrain Cymru a Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 89.9% a 62.8% o gyfartaledd y Deyrnas Unedig y pen yn y drefn honno yn 2017. Rhwng 2016 a 2017, gostyngodd GYC y pen yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd 0.3 pwynt canran o’i gymharu â chyfartaledd y Deyrnas Unedig, tra cynyddodd 0.2 pwynt canran yn Nwyrain Cymru.

Mae'r amcangyfrifon Enwau Unedau Tiriogaethol at Ddibenion Ystadegaeth 3 (NUTS3)

  • Powys oedd yr ardal â’r GYC isaf fesul awr a weithiwyd o’r 174 ardal NUTS3 yn y DU yn 2017 (sef 65.2% o ffigur y DU), a Gwynedd oedd y bumed isaf (gyda 71.9% o ffigur y DU). Sir y Fflint a Wrecsam oedd yr ardal â’r safle uchaf yng Nghymru o ran NUTS3 (gyda 96.4% o gyfartaledd y DU).
  • Powys oedd yr ardal NUTS3 â’r GYC isaf fesul swydd yng Nghymru yn 2017 (65.9% o gyfartaledd y DU fesul swydd). Sir y Fflint a Wrecsam oedd yr ardal â’r safle uchaf yng Nghymru o ran NUTS3 (gyda 96.4% o gyfartaledd y DU).

Nodyn

Fel y cytunwyd gyda’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, bydd yr ystadegau hyn yn cael eu diweddaru am 12.30yp ar y diwrnod y bydd SYG yn eu cyhoeddi.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.