Dadansoddiad o'r cwestiynau cysylltiedig â'r rhyngrwyd er mwyn nodi i bwy, beth, ble, pam a sut mae cynhwysiant ac allgau digidol yn digwydd ar draws Cymru ar gyfer Ebrill 2012 i Mawrth 2013.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Y rhyngrwyd a'r cyfryngau (Arolwg Cenedlaethol Cymru)
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Mae gan 73% o aelwydydd Cymru fynediad at y rhyngrwyd, i fyny o 70% yn 2012.
- Mae 77% o oedolion Cymru (16 oed ac yn hŷn) yn defnyddio'r rhyngrwyd yn y cartref, yn y gwaith neu mewn man arall. O blith y 23% o oedolion Cymru nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd ar hyn o bryd, mae mwyafrif sylweddol (85%) heb ddefnyddio'r rhyngrwyd erioed. Ychydig llai na 20% o oedolion Cymru neu tua 550,000 o oedolion. Gellid ystyried y grŵp hwn fel y grŵp craidd sydd wedi ymddieithrio'n ddigidol.
- Yn 2012-13, gliniaduron oedd y ddyfais fwyaf cyffredin a ddefnyddiwyd gan oedolion ag ymwybyddiaeth ddigidol i ddefnyddio'r rhyngrwyd, gyda 76% yn defnyddio'r ddyfais hon. Mae gwahaniaeth arbennig rhwng carfannau hŷn ac iau o ran defnyddio ffonau clyfar, gyda'r grwpiau hŷn â lefelau is o ddefnyddio ffonau clyfar.
- Mae'r rhai sydd wedi ymddieithrio'n ddigidol yn bennaf yn cynnwys y rhai dros 65 oed, sy'n gymharol gysurus yn ariannol, yn anghymesur o debygol o gael salwch sy'n cyfyngu a dim cymwysterau, ac yn gweithio â'u dwylo (neu wedi ymddeol o swydd o'r fath).
- O'r tua 20% o oedolion yng Nghymru sydd wedi ymddieithrio'n ddigidol yn y tymor hir, dewis personol yw hyn ar gyfer dwy ran o dair ('digidol ynysig') tra mai cyfyngiad o ryw fath sy'n effeithio ar y traean arall ('allgáu digidol').
- Diffyg sgiliau yw'r rhwystr mwyaf cyffredin o bell rhag ymgysylltiad digidol i'r rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol yn erbyn eu hewyllys: roedd 75% o'r rhwystrau rhag ymgysylltiad digidol a nodwyd yn ymwneud â phrinder sgiliau. Oedolion heb gymwysterau oedd 56% o'r grŵp hwn, dros 100,000 o oedolion.
Adroddiadau
Cynhwysiant digidol (Arolwg Cenedlaethol Cymru) Ebrill 2012 i Mawrth 2013 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 717 KB
PDF
Saesneg yn unig
717 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: arolygon@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.