Anerchiad agoriadol gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, dydd Gwener 24 Chwefror
Mae pobl sy’n gallu trawsnewid dyfodol y Gymraeg yn y gynhadledd heddi.
Mae’r gwaith maen nhw wedi ei wneud yn barod—eich gwaith chi yng nghanolfan Bedwyr ac eraill—wedi creu storfa o drysorau technoleg iaith mae ieithoedd eraill yn cenfigennu wrthyn nhw.
Ewch ati i wneud y mwyaf o’r trysorau hynny. Chi, gynadleddwyr heddi, yw’r bobl sydd â’r sgiliau technolegol i wneud hynny.
Dwi’n hoff o dechnoleg, ond nid technoleg er ei mwyn ei hun. Dwi’n awyddus i glywed eich syniadau am sut mae technoleg yn gallu cynyddu faint o Gymraeg ry’n ni’n ei defnyddio bob dydd. Technoleg i helpu siaradwyr Cymraeg mewn cymru sy’n ddwyieithog.
Prin yw’r diwrnodau gwaith lle dwi jyst yn siarad Saesneg, neu jyst yn siarad Cymraeg. Dwi’n switsio, fel mae’r rhan fwyaf’ ohonon ni yn ei wneud. Ac mae technoleg yn gorfod helpu i ni ddefnyddio’r ddwy iaith ar yr un pryd.
Meddyliwch am synthesis llais er enghraifft. Prifysgol bangor sy’n cynnal y digwyddiad yma heddiw wrth gwrs. Ac yn lle creu lleisiau synthetig uniaith Gymraeg, maen nhw ar fin rhyddhau rhai dwyieithog: Cymraeg a Saesneg. Bydd hyn yn golygu, er enghraifft, bod person dall sy’n gwrando ar destun Cymraeg yn dal i glywed llais yr un ‘person’ fel petai, pan maen nhw’n mynd i ddarllen erthygl Saesneg. Neu efallai dyna’r lleisiau a glywn ni ar orsafoedd trên yn y dyfodol. Pwy a ŵyr?
Mae m-sparc, ar ynys môn, sy’n rhan o’r brifysgol yma, wedi cynnal dwy ‘hacathon’ gyda’n nawdd ni. Dyma gystadleuaeth yn gwahodd syniadau newydd i gael mwy o bobl i ddefnyddio mwy o Gymraeg.
Un o’r enillwyr oedd ‘darllen.co.’, prosiect i helpu teuluoedd i ddarllen gyda’u plant, beth bynnag yw gallu’r rhieni yn Gymraeg. I’r rhai sy’n ddi-Gymraeg, neu’r rhai dyw’r Gymraeg ddim wedi bod yn rhan o’u rwtîn ers sbel, mae’r llyfrau digidol yma yn cynnwys cyfieithiad Saesneg. Diolch i’r dechnoleg, mae modd gweld pa mor hir a faint o lyfrau mae’r plant yn eu darllen gyda’u rhieni. Dyma un ffordd i dechnoleg helpu cynyddu defnydd—a falle magu hyder y rhieni hefyd. Oes syniad tebyg, neu well gyda chi heddiw?
Gyda’n nawdd ni, mae prifysgol bangor wedi creu trawsgrifiwr Cymraeg. Mae’n ‘gwrando’ ar bobl yn siarad Cymraeg ac yn teipio beth maen nhw’n ei ddweud. Mae’n gallu creu isdeitlau Cymraeg awtomatig i fideos. Bydd hyn yn creu ffordd o wybod beth sydd mewn rhaglenni archif a fideos eraill. Gobeithio y bydd o ddefnydd mawr i ddarlledwyr. O ran hynny, byddai’n briodol sôn ein bod ni wedi creu partneriaeth newydd ag S4C ychydig wythnosau’n ôl, a thechnoleg yn rhan ganolog ohoni.
Mae’n siŵr eich bod chi wedi sylwi ar ddatblygiadau deallusrwydd artiffisial, ‘a.i’. Er enghraifft, mae chat g.p.t. Wedi synnu lot ohonon ni. Rhaid inni wneud yn sicr bod yna dechnoleg felly sy’n gweithio’n dda yn y Gymraeg hefyd. Ac mae prifysgol bangor wrthi’n gweithio ar hyn gyda’n nawdd ni.
Dwi’n falch hefyd ein bod wedi ariannu prifysgol bangor i rannu Cysill—gwirydd sillafu a gramadeg am ddim. Hwb i hyder bobl wrth sgwennu Cymraeg. Ac mae isie hyder arnon ni!
Ac mae isie’ch help chi arnon ni.
Dwi ‘di sôn am rai o’r adnoddau ry ni wedi eu hariannu. Mae lot yn bodoli. Ond dyw bodoli ddim digon. Rhaid i’r pethau ry’n ni yn llywodraeth —chi drethdalwyr cymru—wedi talu amdanyn nhw gael eu defnyddio mewn rhaglenni a sefyllfaoedd eraill. Felly beth gallwch chi wneud?
Wel yn y lle cynta’, beth am ledu’r gair am beth sydd ar gael i ddatblygwyr?
- Ewch at ein gwefan ‘helo blod’. Gwefan i fusnesau yn benna yw hi. Tynnwch sylw busnesau technoleg at yr adran technoleg, mae na restr o rai o’r cydrannau technegol i chi ddefnyddio yno.
- Beth oedd busnesau yn ei ddweud wrthon ni hefyd odd bod dim lle oedd yn crynhoi sut mae cynnig gwasanaeth Cymraeg da ar dechnoleg. Felly ry’n ni wedi creu un. Mae’r ‘toolkit’ yna hefyd ar wefan helo blod ac yn crynhoi ac yn dysgu o brofiad lot ohonon ni. Y nod yw helpu i bobl ddeall sut mae cynllunio gwasanaethau dwyieithog sy’n gweithio yr un mor dda yn Gymraeg a Saesneg. Rhannwch y gair!
- Mae M-Sparc wedi dechrau cynnal cystadlaethau hac y Gymraeg. Beth am pitch-io eich syniadau yn yr un nesaf?
Fe wnewch chi glywed yn y gynhadledd yma heddiw am ddatblygiadau newydd, cyffrous i’n hiaith ni. Chi yw’r bobl sydd â’r sgiliau a’r wybodaeth i’w rhoi nhw ar waith. Chi yw’r bobl sy’n gallu neud yn siŵr bod nhw’n ein helpu ni i ddefnyddio mwy ar y Gymraeg. A dwi’n gobeithio cewch chi’r ysbrydoliaeth heddiw i fynd amdani! Pob lwc i chi i gyd a diolch yn fawr iawn.