Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor a gyflwynwyd i'r Prif Weinidog ar adolygu trefniadau’r cyfyngiadau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyngor y Prif Swyddog Meddygol ar Adroddiad Interim 7 Awst 2020

Rwyf wedi adolygu'r diwygiadau arfaethedig i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 sy'n cynnwys y canlynol

  • ailagor adeiladau:
    • Pyllau nofio
    • Canolfannau hamdden, canolfannau ffitrwydd dan do a champfeydd
    • Mannau chwarae dan do
  • eithrio mynd i ddosbarth ymarfer corff neu sesiwn gyda hyfforddwr personol o'r Rheoliad ynglŷn ag ymgynnull dan do
  • gwneud diwygiad technegol a fyddai'n caniatáu i ganolfannau cymunedol ailagor ar gyfer yr holl weithgareddau a ganiateir yn y Rheoliadau ac iddynt ddarparu gwasanaethau cyhoeddus heb orfod ceisio cymeradwyaeth gan awdurdodau lleol.
  • cytuno i ddiwygio'r prif Reoliadau i gryfhau'r darpariaethau ar orfodi.

Cyngor Cyffredinol

Rwy'n argymell mabwysiadu’r diwygiadau hyn ochr yn ochr â'r cyfundrefnau glanhau priodol a'r mesurau cadw pellter cymdeithasol sydd ar waith fel y nodir yn y canllawiau perthnasol ar gyfer y lleoliadau penodol hyn.

Ystyriaethau Penodol

Mae cyfradd drosglwyddo’r coronafeirws yng Nghymru yn parhau i fod yn sefydlog; mae'r gyfradd twf yn gostwng 3-5% bob dydd ac mae nifer bach parhaus o brofion positif bob dydd. Mae'r gyfradd farwolaethau yn parhau i ostwng a nodaf fod cyfanswm y marwolaethau tymhorol cyffredinol yn is na'r cyfartaledd.

Mae cynnydd sydyn wedi bod mewn achosion o'r coronafeirws mewn ardaloedd lleol, ac mae'r system Profi, Olrhain a Diogelu wedi bod yn effeithiol wrth ymateb i frigiadau yn Ynys Môn a Merthyr. Mae brigiadau yn Wrecsam ar hyn o bryd ac mae amrywiaeth o bartneriaid yn cynorthwyo, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Ar ben hynny, mae profion cymunedol yn cael eu cynnal ledled yr ardal i ddod â’r brigiadau mewn safleoedd penodol i ben.

Mae'r amodau cyffredinol hyn a'r systemau gwyliadwriaeth sydd gennym ar waith erbyn hyn yn golygu ein bod yn gallu llacio rhai o'n cyfyngiadau cenedlaethol ymhellach. Nodaf, fodd bynnag, brofiadau gwledydd eraill fel Sbaen, yr Almaen, Gwlad Belg ac Awstralia, sy'n gorfod ailgyflwyno rheolau llymach, fel cyfyngu ar nifer y bobl sy'n cael ymgynnull, gosod cyrffyw a gwneud gwisgo gorchuddion wyneb yn orfodol, yn sgil nifer cynyddol o achosion, cynnydd sydyn mewn achosion a brigiadau pan godwyd mesurau’r cyfyngiadau yn y gwledydd hynny. Mae gwledydd eraill yn ceisio ymdopi â brigiadau heb eu rheoli, fel rhannau o'r UDA, nifer o wledydd De America, gwledydd yn y Balcanau ac India. Mae'n bosibl bod y gwledydd hyn wedi llacio eu cyfyngiadau yn rhy gyflym. Ar y llaw arall, mae’n bosibl bod yr agwedd ofalus y mae Cymru wedi’i mabwysiadu wedi arwain at reolaeth dynnach ar y pandemig, sy'n caniatáu mwy o gyfle i lacio cyfyngiadau ar hyn o bryd.

Yn nes at adref, gwelwn fod cyfyngiadau lleol wedi’u gosod yng Ngogledd Lloegr ac rwy'n ymwybodol o bryderon yn yr Alban a Gogledd Iwerddon gan fod nifer yr achosion yn cynyddu, o bosibl oherwydd bod mwy o bobl yn dod i gysylltiad â'i gilydd drwy'r sector lletygarwch. Ail-agorwyd y sector lletygarwch yma yng Nghymru yr wythnos hon: Rwy'n cydnabod y manteision cymdeithasol ac economaidd a ddaw yn sgil hyn, yn enwedig oherwydd bod y sector yn cyflogi nifer mawr o bobl ifanc a phobl o amrywiaeth o gefndiroedd lleiafrifol. Bydd yn cymryd amser i asesu'r effaith y bydd ailagor y sector yn ei chael ar iechyd y cyhoedd. Bydd rhaid monitro hyn ynghyd â newidiadau eraill fel y mewnlif o dwristiaid i Gymru, dinasyddion Cymru yn dychwelyd i weithio neu o wyliau dramor a phlant yn dychwelyd i'r ysgol yn yr hydref yn ofalus a'i reoli fel ein bod yn parhau i atal y feirws. Bydd angen i ni fod yn barod i ymateb yn gyflym i ail don bosibl o'r haint.

Casgliad

Rwy'n cefnogi'r agwedd ofalus, barhaus sydd wedi cael ei mabwysiadu tuag at y broses o lacio'r cyfyngiadau; mae hyn yn caniatáu ar gyfer monitro'r newidiadau araf a graddol hyn mewn ffyrdd a fydd yn helpu'r economi i adfer ac yn caniatáu inni ystyried ymhellach codi cyfyngiadau dan do.

 

Dr Frank Atherton
Prif Swyddog Meddygol

7 Awst 2020