Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor a gyflwynwyd i'r Prif Weinidog ar adolygu trefniadau’r cyfyngiadau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Brif Weinidog,

Rwyf wedi adolygu'r diwygiadau arfaethedig i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 sy'n cynnwys:

  1.    Caniatáu i leoedd penodedig ailagor:

  • pob llety hunangynhwysol arall sydd â chyfleusterau a rennir, megis safleoedd gwersylla
  • sinemâu, amgueddfeydd, orielau a gwasanaethau archifau dan do
  • gwasanaethau cysylltiad agos ac eithrio triniaethau ar rannau risg uchel o'r corff (wyneb a gwddf). Mae'r rhain yn cynnwys: salonau ewinedd a harddwch; parlyrau tylino; a sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau lliw haul, tyllu’r corff, tatŵio, electrolysis neu aciwbigo, gan gynnwys y gwasanaethau hyn mewn sbas
  • agor y farchnad dai yn llawn
  • arcedau difyrion (canolfannau gemau oedolion a chanolfannau adloniant teuluol)
  • atyniadau tanddaearol

  2.    Eithrio hamdden dan oruchwyliaeth ar gyfer plant a phobl ifanc dan 18 oed o'r Rheoliadau ynglŷn ag ymgynnull yn yr awyr agored a dileu'r darpariaethau ar weithio gartref o'r Rheoliadau.  

  3.    Diwygio'r Rheoliadau i'w gwneud yn orfodol gwisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus. 

Cyngor cyffredinol

Rwy'n argymell mabwysiadu'r diwygiadau hyn.

Ystyriaethau penodol

Ar hyn o bryd, rydym yn parhau i weld lleihad yn lledaeniad ac effaith y coronafeirws yng Nghymru ac mae gennym raglen Profi, Olrhain a Diogelu sefydlog ac effeithiol ar waith. Rwy'n nodi â phryder y gallai cyfradd y lleihad mewn heintiau fod yn gwastatáu. Rwy'n nodi bod ein systemau gwyliadwriaeth wedi'u cryfhau fel y gallwn ganfod a rheoli clystyrau o achosion newydd. Mae'r datblygiadau hyn yn creu'r cyfle i wneud newidiadau arfaethedig heb beryglu iechyd y cyhoedd yn ormodol.

Er bod y niwed uniongyrchol i rywun sy'n cael ei heintio â COVID-19 yn parhau i leihau, rwy'n dal i bryderu bod y cyfyngiadau presennol yn arwain at effeithiau negyddol sylweddol ar iechyd meddwl a lles. Mae'r effeithiau hyn yn arbennig o ddwys ar bobl ifanc, a'r rhai sy'n ei chael yn anos deall yr angen am newid i'w bywyd bob dydd megis plant ifanc neu bobl ag awtistiaeth. Gallai parhau i adfer gweithgarwch economaidd mewn meysydd sydd o bwys i'r cyhoedd (er enghraifft, gwasanaethau personol, y farchnad dai, lleoliadau adloniant a diwylliant a chaniatáu i bobl fynd ar wyliau) helpu i leddfu'r effeithiau hyn.

Rwy'n nodi barn y Prif Economegydd ei bod

bron yn sicr bod cynnydd mawr iawn mewn diweithdra yn anochel bellach. Mae gwaith dadansoddi yn dangos bod y rhai sydd fwyaf tebygol o deimlo effaith negyddol diweithdra hirdymor, sef y ffurf fwyaf niweidiol, yn cynnwys pobl ifanc sy'n dechrau arni yn y farchnad lafur, pobl mewn swyddi â chyflog isel a swyddi sy'n gofyn am lai o sgiliau, a phobl sydd dan anfantais yn y farchnad lafur am resymau eraill gan gynnwys iechyd gwael, anabledd a/neu wahaniaethu yn eu herbyn.

Y grwpiau hyn sydd hefyd yn y perygl mwyaf o effeithiau 'creithio' hirdymor a allai gael effaith ar weddill eu bywydau o ran iechyd, lles a disgwyliad oes, a hynny ar ben yr effeithiau mwy uniongyrchol ar eu hincwm yn y dyfodol a'r perygl o ddiweithdra rheolaidd. Mae'n debygol iawn mai un o'r canlyniadau fydd ehangu anghydraddoldebau ymhellach dros yr hirdymor. Felly, mae'n bwysig iawn bod camau yn cael eu cymryd i adfer lefelau o weithgarwch economaidd cyn gynted â phosibl, ond gan wneud hynny yn gyson â diogelwch y cyhoedd yn y tymor byr.

Rwy'n nodi bod y cynigion hyn i lacio'r cyfyngiadau yn cael eu gwneud ar adeg pan ddylid annog y cyhoedd i dreulio rhagor o amser yn yr awyr agored lle mae trosglwyddiad y feirws yn llai. Rwy'n dal i bryderu bod risg uwch o drosglwyddo'r feirws dan do ac rwy'n cynghori ein bod yn parhau i argymell i'r cyhoedd wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoedd prysur dan do lle mae'n amhosibl cadw pellter cymdeithasol digonol.

Dros y misoedd i ddod, rwy'n disgwyl gweld clystyrau, achosion a brigiadau o'r coronafeirws ac mae'n bosibilrwydd go iawn y bydd cynnydd sylweddol mewn trosglwyddiadau feirysol. Bydd hyn yn rhoi pwysau wedyn ar y system iechyd ac yn effeithio ar iechyd y cyhoedd tuag at ddiwedd y flwyddyn. Rwy'n argymell yn gryf ein bod yn cryfhau ein negeseuon i'r cyhoedd fel y bydd dinasyddion Cymru yn deall nad yw risgiau pandemig y coronafeirws wedi diflannu, mai cadw pellter cymdeithasol a hylendid anadlol yw'r ffyrdd gorau o'n diogelu o hyd, ac y gallai fod angen ailosod cyfyngiadau ar fywyd cyhoeddus yn lleol neu'n genedlaethol pe bai yna ail don o'r clefyd. 

Dr Frank Atherton

Prif Swyddog Meddygol

Llywodraeth Cymru

23 Gorffennaf 2020