Neidio i'r prif gynnwy

Y cyngor a roddwyd i Weinidogion Cymru gan y Prif Swyddog Meddygol ar lacio’r cyfyngiadau coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf wedi edrych ar y newidiadau sy’n cael eu cynnig i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 a fydd yn caniatáu ymhlith eraill:

  • i hyd at bedair aelwyd ffurfio aelwyd estynedig fel signal bod cwmpas yr aelwydydd estynedig yn cael ei ehangu: i gynnwys hyd at bedair aelwyd fel rhan o un aelwyd estynedig o dan drefniant iddynt hwy eu hunain yn unig o 22 Awst
  • dathliadau dan do ar gyfer priodas, partneriaeth sifil neu angladd mewn eiddo ar gyfer hyd at 30 o bobl, yn amodol ar y mesurau rhesymol a ddisgrifir yn y canllawiau o 22 Awst
  • treialu digwyddiadau awyr agored ar gyfer hyd at 100 o bobl, yn amodol ar gytundeb Gweinidogion Cymru ac ar yr amodau y byddant yn eu gosod

Rwyf wedi adolygu hefyd signalau’r newidiadau a gynigir i’r un prif Reoliadau er mwyn: 

  • caniatáu ymweliadau dan do â chartrefi gofal i ailddechrau ar 29 Awst
  • caniatáu casinos i ailagor ar 29 Awst
  • ystyried yn ystod cyfnod yr adolygiad hwn sut y gallai mwy o weithgareddau dan do gael eu cynnal, gan ganolbwyntio ar wasanaethau a ddarperir mewn cartrefi a lleoliadau sy’n cael eu rheoleiddio

Rwy’n cefnogi’r cynigion hyn am eu bod yn gyson â’r ymagwedd ragofalus rydym wedi’u mabwysiadu at lacio’r cyfyngiadau yng Nghymru. 

Mae’r cynigion yn fach ac mae’r risg iddynt arwain at gynyddu trosglwyddiadau cymunedol yn isel; mae hyn yn bwysig o gofio’n cynlluniau i ailagor ysgolion cyn hir; symudiad a ddylai gael blaenoriaeth uchel iawn yng Nghymru. 

Ymddengys fod y cyfraddau trosglwyddo yng Nghymru’n parhau’n isel a sefydlog ond rwy’n dal yn bryderus ynghylch y cynnydd yn nifer yr achosion yng ngwledydd eraill y DU, yn Ewrop ac yn rhannau eraill y byd.  A ninnau newydd ailagor y sector lletygarwch ac o weld rhagor o dystiolaeth o drosglwyddo’r feirws o fewn aelwydydd, rwy’n cael fy annog i gredu mai ychydig iawn o le sydd gennym ar gyfer rhagor o lacio ar hyn o bryd.  Pryder arall i mi yw ein bod yn gweld nifer o achosion mewn teithwyr sy’n dychwelyd adref, hynny er y trefniadau cwarantin ac rwyf wedi gofyn i’r Grŵp Cynghori ar Ddiogelu Iechyd drafod y mater hwn er mwyn llunio argymhellion i wella’r mesurau rheoli.  Yn yr wythnosau i ddod, rwy’n rhagweld y byddwn yn debygol o weld rhagor o achosion a chlystyrau o’r haint y bydd angen eu nodi a’u rheoli yn unol â Chynllun Rheoli’r Coronafeirws rydym newydd ei gyhoeddi. 

Er bod yr amodau iechyd yn gyffredinol yn parhau’n sefydlog, mae ehangu’r aelwydydd estynedig fel y gall mwy o bobl gwrdd yn nhai ei gilydd yn dderbyniol cyn belled ag y parheir i gadw at y gofynion: 

  • ni chaiff neb fod yn aelod o fwy nag un aelwyd estynedig, ac eithrio plant sy’n byw mewn dau gartref (er enghraifft am fod eu rheini wedi gwahanu a bod ganddynt warchodaeth ar y cyd)
  • rhaid i’r holl unigolion mewn un cartref berthyn i’r un aelwyd estynedig
  • rhaid i holl oedolion pob aelwyd gytuno i ymuno â’r un aelwyd estynedig
  • unwaith y bydd aelwyd estynedig wedi’i ffurfio, chaiff neb adael yr aelwyd estynedig i ffurfio un newydd

Rwy’n credu ei bod yn rhesymol ac yn risg isel caniatáu rhai seremonïau i ddathlu priodasau, partneriaethau sifil neu angladdau o hyd at 30 o bobl cyn belled â bod y dathliad dan do wedi’i gyfyngu i bryd bwyd (â rhai ychwanegiadau fel areithiau). 

Er fy mod yn cytuno nad yw’n briodol eto caniatáu ailddechrau digwyddiadau mawr awyr agored yn gyffredinol, bydd darparu ar gyfer nifer gyfyngedig o ddigwyddiadau gyda hyd at 100 o wylwyr gyda chaniatâd penodol Llywodraeth Cymru a chyda mesurau lliniaru priodol y cytunwyd arnynt gyda Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfle i ddysgu sut y gall mesurau lliniaru weithio’n effeithiol yn y dyfodol. 

Rwy’n cydnabod ei bod yn bwysig i les trigolion cartrefi gofal eu bod yn cael derbyn ymweliadau gan anwyliaid o ddydd Sadwrn, 29 Awst cyn belled â bod yr amodau yng Nghymru’n parhau’n sefydlog.  Ni ddylid caniatáu ymweliadau dan do oni bai bod darparwyr y cartref gofal yn cadw at yr ystyriaethau llym sy’n cael eu gosod yn y canllawiau.  Mae’r rheini’n cynnwys cyfyngu ymweliadau dan do i ymwelydd dynodedig er mwyn cadw nifer yr ymwelwyr â’r cartref yn fach, parhau i annog ymweliadau awyr agored os medrir a sicrhau bod ailddechrau ymweliadau dan do yn dibynnu ar gyfraddau trosglwyddo lleol. 

Dr Frank Atherton
Prif Swyddog Meddygol 
21 Awst 2020