Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor a gyflwynwyd i’r Prif Weinidog ar adolygu trefniadau’r cyfnod atal byr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n cydnabod bod angen cadw at yr ymrwymiad cenedlaethol y bydd y cyfnod atal byr yn dod i ben ar 9 Tachwedd, ac rwyf wedi adolygu’r cynigion ar gyfer y trefniadau a ddaw i rym ar yr adeg honno.

Mae’n rhy gynnar i asesu pa effaith y bydd y cyfnod atal byr yn ei chael ar lefel trosglwyddiad COVID-19, ond gallwn ddisgwyl i’r duedd am i fyny sydd wedi cael ei gweld yng Nghymru ers mis Medi, sefydlogi rhywfaint. Nodaf fod rhai rhannau o Gymru wedi gweld dirywiad ar lefel gyflymach na’r disgwyl, gydag ardaloedd ym Myrddau Iechyd Lleol Cwm Taf Morgannwg ac Aneurin Bevan bellach yn gweld lefelau hynod o uchel o’r feirws yn cael ei drosglwyddo yn y gymuned, sy’n effeithio ar y system iechyd a gofal o ganlyniad. Mae Ymgynghorwyr Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy sy’n cefnogi’r ardaloedd hyn yn mynegi lefelau uchel o bryder am gapasiti’r system Profi, Olrhain, Diogelu o ran ymdopi â’r galw presennol a’r galw yn y dyfodol. Mae perygl y gallai’r patrwm hwn ymestyn i rannau eraill o Gymru.

Yn y cyngor blaenorol a roddais am y cyfnod atal byr, dywedais mai cyfnod o bythefnos fyddai’r cyfnod byrraf a fyddai’n debygol o gael effaith, a nodais y byddai cyfnod hwy yn cael mwy o effaith. Yn ddiweddar, rydym wedi gweld bod yr ymyriadau a waned yng Ngogledd Iwerddon (a oedd yn cynnwys cau’r diwydiant lletygarwch am gyfnod o bedair wythnos) wedi arwain at leihad sylweddol yn yr Rt, a bod rhai o’r tueddiadau difrifol mewn perthynas â’r gwasanaeth iechyd wedi’u gwrth-droi. Nodaf fod Lloegr wedi dewis rhoi cyfyngiadau symud cenedlaethol yn eu lle am fis, a dylem barhau i fonitro effaith hyn.

Mae’r cyd-destun hwn yn cefnogi’r cynnig ar gyfer llacio trefniadau ein cyfnod atal byr yn raddol yn hytrach nag yn gyfan gwbl. Mae’n hollbwysig ein bod yn osgoi cadwyni hir o lawer o aelwydydd yn cymysgu mewn naill ai lleoliad preifat neu leoliad cyhoeddus. Mae caniatáu dwy aelwyd yn unig i ddod ynghyd i ffurfio un aelwyd estynedig yn fesur priodol. Mae ceisio taro’r cydbwysedd iawn wrth ystyried y niweidiau posibl yn parhau i fod yn ystyriaeth bwysig, ac er y bydd gweithgarwch economaidd yn dychwelyd ar ryw lefel, mae’n anochel y bydd ail-agor y diwydiant lletygarwch yng Nghymru yn arwain at gynnydd yn nhrosglwyddiad y feirws. Bydd caniatáu 4 unigolyn yn unig i ddod ynghyd yn y lleoliadau hyn, ynghyd â’r gofynion eraill ar y sector yn helpu i liniaru hyn, ac hefyd caniatáu pobl i gymysgu’n gymdeithasol mewn lleoliadau a reoleiddir.

Dim ond os gallwn ymrwymo mewn contract cymdeithasol gyda phobl Cymru fel bod pawb yn gweithredu mewn ffordd sy’n lleihau’r risg o drosglwyddo’r feirws, y bydd y trefniadau newydd hyn yn llwyddiannus. Mae hyn yn gofyn am newid rhywfaint ar ymddygiad y boblogaeth, mewn modd na welwyd o’r blaen o ran graddfa na chyflymdra. Rwy’n rhagweld ein bod yn debygol o weld cynnydd pellach yn lledaeniad y feirws yn y cyfnod ar ôl y cyfnod atal byr, a bydd angen i ni barhau i fonitro’r data a chryfhau ein rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu a’r capasiti o ran epidemioleg maes. Bydd hyn yn ein galluogi i gynllunio a chyflwyno ymyriadau pellach ar lefel ranbarthol a chenedlaethol pe na bai’r sefyllfa’n gwella yn ôl y disgwyl, neu’n gwaethygu.

Dr Frank Atherton
Prif Swyddog Meddygol Cymru
3 Tachwedd 2020