Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor a gyflwynwyd i'r Prif Weinidog ar yr adolygiad rheoliadol o'r Rheoliadau Coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r sefyllfa bresennol o ran iechyd y cyhoedd ar gyfer COVID-19 ledled Cymru yn sefydlog, gyda chyfraddau achosion, cyfnodau yn yr ysbyty a marwolaethau COVID-19 yn isel ym mhob rhan o Gymru ac amddiffyniad cynyddol ar gyfer y boblogaeth drwy frechu. Mae’r cerrig milltir brechu yn parhau i gael eu cyrraedd ynghynt na’r disgwyl. Yr hiraf y gallwn gynnal cyfraddau achosion isel tra byddwn yn cynyddu'r ddarpariaeth frechu, y lleiaf yw maint tebygol trydedd don. Ond nid ydym eto mewn sefyllfa o hyder uchel na fydd niwed sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn cynyddu'n sylweddol pe bai trosglwyddiad yn cynyddu.

Ochr yn ochr â hyder y darlun hwn mae meysydd o ansicrwydd yn weddill. Yn Lloegr mae'r amrywiolyn a nodwyd gyntaf yn India, a ddynodwyd yn ddiweddar gan Sefydliad Iechyd y Byd fel yr amrywiolyn “delta”, yn dangos cyfradd trosglwyddiadau uwch nag amrywiolion blaenorol, gan achosi i gyfraddau achosion godi’n gyflym mewn rhai ardaloedd er gwaethaf y cyfyngiadau presennol. Mae tebygolrwydd cymedrol mai'r amrywiolyn delta fydd yr amrywiolyn amlycaf ar draws Lloegr a'r DU yn ehangach.

Ar hyn o bryd, dim ond nifer cyfyngedig o achosion hysbys o'r amrywiolyn delta sydd yng Nghymru, yn gyffredinol mewn clystyrau sy'n deillio o achosion sy'n gysylltiedig â theithio. Ein profiad yn y gorffennol yw y bydd amrywiolion yn lledaenu o Loegr i Gymru i Loegr ymhen amser. Felly, mae hyn i'w ddisgwyl, ynghyd â chynnydd mewn cyfraddau trosglwyddiadau ac achosion cysylltiedig ac o bosibl cyfnodau yn yr ysbyty a marwolaethau.  Mae'r graddau y bydd ein rhaglen frechu ragorol yn arafu trosglwyddiad yn parhau i fod yn anhysbys. Mae'r amddiffyniad a ddarperir gan ddau ddos yn erbyn yr amrywiolyn hwn yn llawer mwy nag ar gyfer un dos. Felly, mae'r amddiffyniad rhag haint yn parhau i fod yn gyfyngedig i lawer yn y boblogaeth ar hyn o bryd.

Mae'r Prif Economegydd yn nodi bod yr economi yng Nghymru a ledled y DU bellach yn adfer yn sydyn. Mae hynny yn ôl y disgwyl, o ystyried llwyddiant y rhaglen frechu a'r gostyngiad o ran lefel y cyfyngiadau. Mae'r effeithiau andwyol yn y farchnad lafur, lle teimlir niwed economaidd COVID ar eu mwyaf difrifol, wedi bod yn llai difrifol na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol. Mae hynny'n bennaf oherwydd y cynlluniau cymorth dros dro a roddwyd ar waith gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, erys lefel uchel o ansicrwydd ynghylch y rhagolygon ar gyfer y farchnad lafur dros y tymor canolig, wrth i'r pandemig esblygu ac i’r cynlluniau cymorth gael eu dileu.  Mae'r tebygolrwydd o niwed economaidd-gymdeithasol tymor hwy, sy'n deillio o 'greithiau' yn y farchnad lafur a'r system addysg, ac sy'n effeithio'n anghymesur ar bobl o gefndiroedd difreintiedig, yn parhau'n uchel, er y bydd ei raddau'n dibynnu ar lwybr yr adferiad yn y dyfodol a'r mesurau a gymerir i adfer y difrod.  

Prin iawn yw'r dystiolaeth hyd yma bod mwy o gymysgu a achoswyd gan y camau llacio blaenorol o Lefel Rhybudd 4 i 2 wedi cynyddu trosglwyddiad yn sylweddol. Ond dyma ganlyniad disgwyliedig mwy o bobl yn treulio amser gyda'i gilydd o hyd, yn enwedig mewn lleoliadau dan do sydd wedi'u hawyru'n wael gyda chadw pellter cymdeithasol annigonol.   

Felly, er bod y cyfraddau achosion isel presennol yn caniatáu llacio'r cyfyngiadau ymhellach, yr wyf yn parhau i gynghori pwyll ac yn cefnogi parhad o'r dull graddol, fesul cam yr ydym wedi'i ddefnyddio drwy gydol y pandemig. Mae'r risg o drosglwyddiad mewn lleoliadau awyr agored yn parhau'n sylweddol is nag o dan do, felly byddwn yn cefnogi mwy o ryddid ar gyfer gweithgareddau awyr agored ar yr adeg hon pan fydd y tywydd yn gwella, ond dull mwy pwyllog o hyd mewn lleoliadau dan do, o leiaf nes bod effaith yr amrywiolyn delta yn fwy hysbys ymhen ychydig wythnosau. Gallai'r dull graddol hwn, dros gyfnod hwy o amser, fod yn gysylltiedig â nifer isel parhaus yr achosion ac yn gysylltiedig â cherrig milltir brechu pellach a gyflawnir.

Yr wyf hefyd yn hollol sicr bod ymddygiadau amddiffynnol sylfaenol yn parhau i fod yn hanfodol bwysig, yn enwedig profi, olrhain a diogelu ar gyfer y rhai sy'n symptomatig. Mae golchi dwylo’n aml, defnyddio gorchuddion wyneb dan do, a chadw pellter cymdeithasol yn parhau i fod yn bwysig wrth liniaru'r risg o drosglwyddiad.

Dr Chris Jones
Dirprwy Brif Swyddog Meddygol
4 Mehefin 2021