Neidio i'r prif gynnwy

Y cyngor a roddwyd i Weinidogion Cymru gan y Prif Swyddog Meddygol ar lacio’r cyfyngiadau coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyngor y Prif Swyddog Meddygol ar aelwydydd estynedig

Yn sgil yr wybodaeth feddygol a gwyddonol bresennol, rwyf wedi cynghori y gellir llacio’r cyfyngiadau yn ofalus, fesul cam, ac mewn modd cymesur. Mae fy argymhellion diweddar wedi dangos gwerthfawrogiad o’r ffaith bod misoedd yr haf yn gyfnod pan allwn annog unigolion i wneud mwy o weithgareddau yn yr awyr agored. Gallwn wneud hynny yn sgil ein dealltwriaeth nad yw’r coronafeirws yn goroesi’n hir iawn yn yr heulwen, yn enwedig mewn amgylchedd cynnes, gyda digon o awyr iach.

Rwy’n parhau i fod yn ymwybodol o’r angen i alluogi ffrindiau a theuluoedd i gysylltu â’i gilydd unwaith eto mewn modd gofalus a chan gymryd un cam ar y tro. Yn ddiweddar, gwnaethoch gyhoeddi’r cam cyntaf o ganiatáu i unigolion deithio y tu hwnt i’r pum milltir i ymweld â theulu ar sail dosturiol. Y cam synhwyrol nesaf fyddai caniatáu i ddwy aelwyd ffurfio aelwyd estynedig, gyda’r gofyniad eu bod yn cadw cofnodion digonol rhag ofn y bydd angen olrhain eu cysylltiadau. Bydd y newid hwn o fudd arbennig i unigolion sy’n byw ar eu pennau eu hunain, sy’n teimlo’n ynysig neu sydd ag anghenion gofal neu ofal plant. Mae iechyd meddwl, ynysigrwydd ac unigrwydd yn bryderon yr wyf wedi eu codi dro ar ôl tro ac rwyf hefyd yn ymwybodol o’r heriau ymarferol y bydd llawer yn eu hwynebu wrth i ysgolion a gweithleoedd ailagor yn raddol dros yr wythnosau nesaf. O ran yr unigolion hynny sy’n gwarchod eu hunain, bydd angen cyfleu neges bwrpasol a phwysleisio’r angen i bwyso a mesur y risgiau a’r manteision sy’n gysylltiedig ag aelwydydd estynedig.

Yn fy marn i, mae’r cynigion i gyflwyno aelwydydd estynedig yn ffordd dderbyniol o ganiatáu i deuluoedd gysylltu â’i gilydd unwaith eto a chefnogi anghenion gofal plant. Rwy’n argymell bod hyn yn cael ei ategu gyda chanllawiau clir i’r cyhoedd ynghylch y ffaith bod angen iddynt gadw cofnodion a chadw at un aelwyd arall yn unig.

Yn olaf, wrth i’r cyfyngiad ‘aros yn lleol’ gael ei godi, nid oes lle i fod yn hunanfodlon; dylid bod yn gwbl glir ynglŷn â’r disgwyliadau o ran ymddwyn yn briodol pan fydd pobl yn cyrraedd pen eu taith (golchi dwylo a chadw pellter cymdeithasol).

 

Frank Atherton

Prif Swyddog Meddygol

Llywodraeth Cymru

30 Mehefin 2020