Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor a roddir i Weinidogion Cymru ar gyfyngiadau cloi gan Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf wedi adolygu’r diwygiadau arfaethedig i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 ac rwy’n credu eu bod yn cynnwys camau addas a gofalus ar gyfer ailagor bywyd cyhoeddus yng Nghymru.

Mae fy nghyngor wedi’i hysbysu o hyd gan farn Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau (SAGE) a Chell Cyngor Technegol Cymru (TAC), a thrwy drafodaethau gyda Phrif Swyddogion Meddygol y pedair gwlad a’r Prif Gynghorydd Economaidd yng Nghymru. Mae’r diwygiadau arfaethedig wedi’u cefnogi gan leihad parhaus yn nhrosglwyddiad coronafeirws yng Nghymru, gwell gwyliadwriaeth, llwyddiant sefydlu ein Rhaglen Profi Olrhain Diogelu, a’n llwyddiant i adnabod a rheoli achosion diweddar o coronafeirws yng Nghymru.

Mae’n debygol y bydd rhaid inni fyw ochr yn ochr â’r rhagolygon o don newydd o haint coronafeirws am beth amser, a’r ffordd orau o’n diogelu ni ein hunain o hyd yw i hyrwyddo ymddygiad priodol gan y cyhoedd, monitro profiadau rhyngwladol, sicrhau gwyliadwriaeth effeithiol i ganfod achosion newydd o’r haint, rheoli achosion a chysylltiadau’n effeithiol, ac adnabod a rheoli achosion yn gadarn.

Cyngor cyffredinol

Rwy’n argymell y dylid mabwysiadu’r diwygiadau arfaethedig.

Nodaf fod gwneud y newidiadau hyn i lacio’r cyfyngiadau yn risg dderbyniol ar hyn o bryd gan fod yr achosion o coronafeirws yn isel ac yn lleihau; dylai unrhyw gynnydd mewn trosglwyddiadau feirol arwain at ailwerthusiad a dylem gynllunio a pharatoi i wyrdroi’r camau llacio hyn yn rhannol neu’n gyfan gwbl os oes angen. 

Cyngor penodol ar gadw pellter cymdeithasol

Mae nifer o’r diwygiadau’n golygu lleihau pellter cymdeithasol islaw’r canllawiau cyfredol o 2 fetr. Mae’r dystiolaeth dros gadw pellter cymdeithasol o 2 fetr yn gwbl glir o ran yr effaith uniongyrchol ar iechyd; mae cadw 2 fetr yn rhoi mwy o ddiogelwch nag 1 metr (tua 2-5 gwaith y diogelwch yn absenoldeb mesurau lliniaru). Ond rwy’n cydnabod bod dadleuon economaidd a chymdeithasol cryf dros leihau’r pellter o 2 fetr mewn rhai lleoliadau a bod yr effeithiau economaidd-gymdeithasol niweidiol sy’n deillio o’r cyfyngiadau yn debygol ynddynt eu hunain o gael effaith negyddol hirdymor ar iechyd a llesiant. Rwy’n deall y bydd rhaid i Weinidogion ystyried y canlyniadau hyn. Rwyf hefyd yn cydnabod yr anawsterau sy’n wynebu’r cyhoedd wrth geisio deall gwahanol benderfyniadau polisi yng Nghymru o’i gymharu â gwledydd eraill y DU.

I’w reoli yn ddiogel, mae lleihad o’r fath yn gofyn am roi pwyslais o’r newydd ar gyfrifoldeb ac ymddygiad y cyhoedd, yn ogystal â chreu amgylcheddau cefnogol. Mae’r ffactorau a fydd yn cefnogi lleihau pellter cymdeithasol yn cynnwys:   

  • Gwneud yr addasiadau angenrheidiol i weithleoedd a mannau cyhoeddus fel eu bod wedi’u diogelu rhag COVID-19 a chyhoeddi canllawiau perthnasol ar gyfer amryw o leoliadau.
  • Darparu addysg barhaus i’r cyhoedd i gefnogi cydymffurfiaeth â chamau diogelu; hylendid dwylo, osgoi cyswllt cymdeithasol yn ystod salwch, ac osgoi amgylcheddau sy’n arwain at fwy o risg. Ni ddylai unrhyw lacio o’r cyfyngiadau roi sicrwydd ffug o ddiogelwch i’r cyhoedd.
  • Sefydlu dulliau olrhain cysylltiadau a rheoli digwyddiadau effeithiol i adnabod a rheoli achosion newydd.

Cyngor pellach ar orchuddion wyneb

O ran defnydd y cyhoedd o orchuddion wyneb, does dim byd newydd yn y llenyddiaeth wyddonol sy’n newid fy marn y gall fod manteision a risgiau posibl o ganlyniad i orfodi’r defnydd o orchuddion wyneb mewn sefyllfaoedd lle nad yw’n bosibl i gadw 2 fetr o bellter cymdeithasol. Fy nghyngor felly yw y dylid argymell gwisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau prysur dan do lle nad yw’n bosibl cadw digon o bellter cymdeithasol.

Ond rwy’n sylweddoli y dylai unrhyw benderfyniad ar y defnydd gorfodol o orchuddion wyneb yng Nghymru gael ei hysbysu gan ystyriaethau gwyddor cymdeithasol ehangach gan gynnwys manteision sicrhau cysondeb polisïau trawsffiniol (sy’n arbennig o berthnasol i’r sector trafnidiaeth), ac ymgysylltu diweddar â’r cyhoedd (sy’n dangos cefnogaeth gryf ar gyfer mwy o gyfarwyddyd). Ar ôl pwyso a mesur, os yw’r Gweinidogion yn dymuno gorfodi’r defnydd o orchuddion wyneb mewn sector penodol o ganlyniad i’r ffactorau hyn, bydd yr ystyriaethau canlynol yn berthnasol:

  • Mae angen i’r diffiniad o orchudd wyneb fod yn glir; Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn nodi y dylai fod yn orchudd wyneb tair haen ac mae diffyg tystiolaeth sylweddol bod un haen o gotwm yn rhoi unrhyw ddiogelwch.
  • Bydd rhai amgylchiadau lle na fyddai gorchuddion wyneb o unrhyw ddiben, er enghraifft mewn cerbydau gwag, ardaloedd aros ac ati.
  • Mae angen esbonio unrhyw faterion gorfodaeth.
  • Gall gorchuddion wyneb sy’n cael eu taflu fod yn fioberygl ac mae angen ystyried sut i’w gwaredu’n ddiogel.
  • Bydd angen llunio unrhyw ddeunydd cyfathrebu i’r cyhoedd i osgoi sefyllfa lle mae unigolion â symptomau’n defnyddio masgiau i geisio lleihau’r risg i eraill, a hefyd i sicrhau nad yw’r defnydd o orchuddion wyneb yn cynyddu ymddygiad sy’n arwain at risg.
  • Bydd angen ystyried neges a dull cyson ar gyfer y sectorau ar wahân i’r sector trafnidiaeth, gan gynnwys siopau, ysbytai, gweithleoedd, sinemâu, ysgolion ac ati.
     
  • Gan ein bod yn debygol o fod yn byw ochr yn ochr â coronafeirws am gryn amser, bydd yn bwysig inni ystyried sut a phryd y gallwn roi’r gorau i orfodi eu defnydd.

 

Frank Atherton

Prif Swyddog Meddygol

Llywodraeth Cymru

8 Gorffennaf 2020