Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector: amdanom ni
Mae Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector yn ein helpu ni i weithio gyda mudiadau gwirfoddol i ddatblygu gwell polisïau a gwasanaethau.
Cyflwyniad
Caiff y Cyngor ei gadeirio gan y Gweinidog sy’n gyfrifol am Gynllun y Trydydd Sector ac mae'n cynnwys cynrychiolwyr o rwydweithiau trydydd sector sy'n gweithio ar draws 25 o feysydd gweithgareddau'r trydydd sector ynghyd â Phrif Swyddog Gweithredol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Bydd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector yn:
- ystyried materion sy’n gysylltiedig â swyddogaethau ac amcanion strategol Llywodraeth Cymru ac sy’n cwmpasu buddiannau’r trydydd sector, a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru;
- cytuno, monitro ac adolygu’r Fframwaith ar gyfer Ymgysylltu;
- cynghori ar weithredu, monitro ac adolygu Cynllun y Trydydd Sector gan gynnwys creu dangosyddion ar gyfer gwerthuso’r Cynllun;
- hwyluso’r gwaith o ymgynghori â sefydliadau Trydydd Sector a chyrff cyhoeddus perthnasol ar weithredu, rheoli ac adolygu’r Cynllun;
- helpu gyda’r trefniadau ar gyfer adolygu’r Cynllun o bryd i’w gilydd.
Egwyddorion
Mae gweithio mewn partneriaeth fel hyn yn golygu bod y Trydydd Sector:
- yn cael cyfrannu i’r camau ffurfiannol a gymerir wrth ddatblygu polisïau a rhaglenni ar draws Llywodraeth Cymru. Hefyd mae ei gynigion yn cael eu hasesu yn erbyn yr un meini prawf â’r rheini a ddefnyddir ar gyfer y sector cyhoeddus;
- yn cael cyfle i roi ei farn ar y gweithdrefnau gweinyddu adnoddau, a hefyd ar y blaenoriaethau a bennir ar gyfer dyrannu adnoddau i’r Trydydd Sector;
- yn cael trefnu ei wybodaeth a’i hyfforddiant ei hunan, ynghyd â gwasanaethau ac adnoddau sy’n cynyddu ei gapasiti; a
- yn cael y cyfle i arwain yn y meysydd lle mae yn y sefyllfa orau i wneud hynny.
Mae gan Gymru enw da yn rhyngwladol fel gwlad lle mae’n hawdd cysylltu â Gweinidogion a’r rheini sy’n gwneud polisïau, a bod hynny’n hyrwyddo llywodraethu da. Mae’r Trydydd Sector yn cyfarfod gyda phob un o Weinidogion Cabinet Llywodraeth Cymru i drafod y materion sy’n berthnasol i’w portffolios unigol, yn ogystal â Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector sy’n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn i drafod materion sy’n berthnasol ar draws y Cabinet.