Cyd-ddatganiad Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar reoli asbestos mewn adeiladau cyhoeddus
Annog sefydliadau gwasaaethau cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o reoli asbestos mewn adeiladau cyhoeddus.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Partneriaeth gymdeithasol deirochrog yw Cyngor Partneriaeth y Gweithlu, sy'n cynnwys yr undebau llafur, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru. Mae'n cwmpasu'r gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru a fforwm materion gweithlu'r gwasanaethau cyhoeddus hynny.
Mae WPC yn cyhoeddi'r Cyd-ddatganiad hwn i sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus datganoledig ledled Cymru i gydnabod y peryglon iechyd difrifol sy'n gysylltiedig â dod i gysylltiad ag asbestos a phwysigrwydd nodi asbestos a'i reoli'n ddiogel lle bynnag y deuir o hyd iddo mewn adeiladau cyhoeddus Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i godi ymwybyddiaeth o'r materion hynny sy'n gallu effeithio ar iechyd a llesiant gweithlu ein gwasanaethau cyhoeddus ac yn gofyn am ymrwymiad newydd gan sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus i reoli asbestos mewn adeiladau cyhoeddus, i amddiffyn y gweithlu a'r rhai a wasanaethir ganddynt.
Peryglon asbestos
Mae clefydau sy'n gysylltiedig ag asbestos yn lladd rhyw bum mil o bobl yn y DU bob blwyddyn. Yn aml nid yw presenoldeb asbestos yn hysbys nes iddo ddod i'r amlwg trwy draul neu ddifrod. Ers y flwyddyn 2000 mae'n anghyfreithiol defnyddio asbestos wrth adeiladu neu adnewyddu safleoedd yn y DU ond mae cryn dipyn o'r defnydd yn dal yn ei le. Er y gall asbestos achosi risg i'r cyhoedd a gweithwyr cyflogedig fel ei gilydd, gweithwyr sy'n ymwneud ag ailwampio neu gynnal a chadw adeiladau a masnachau tebyg eraill sy'n wynebu'r risg mwyaf.
Rheoli asbestos mewn adeiladau cyhoeddus
Hoffai WPC hybu adolygiad ac ymrwymiad newydd gan sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus i reoli asbestos yn eich ystadau. Mae'n cydnabod bod rheoli asbestos yn fater cymhleth ond mae'r bygythiad difrifol iawn y mae asbestos yn ei achosi yn golygu bod angen i sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus fod yn rhagweithiol a chanolbwyntio ar gamau i sicrhau bod asbestos yn caei ei reoli'n effeithiol.
Hoffai WPC sicrhau pawb sy'n cael mynediad i'n hadeiladau cyhoeddus bod y prosesau sy'n bodoli i'w hamddiffyn yn cael eu rheoli'n rhagweithiol a'u hadolygu'n rheolaidd, a bod mesurau priodol yn cydymffurfio â Rheoliadau Rheoli Asbestos (2012), Canllawiau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Chanllawiau Rheoli Asbestos mewn Ysgolion (diweddarwyd 2019) a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru.
Mae Ystadau Cymru, sef grŵp rheoli ystadau'r sector cyhoeddus, wedi ymrwymo i archwilio'r mater o reoli asbestos mewn adeiladau cyhoeddus. Mae is-grŵp penodol yn cael ei sefydlu i gynnal adolygiad strategol o'r mater.
Gwybodaeth bellach
Rheoliadau Rheoli Asbestos 2012 (Saesneg yn unig)
Chanllawiau Rheoli Asbestos mewn Ysgolion (diweddarwyd 2022)
Cyngor yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar Reoli Asbestos