Neidio i'r prif gynnwy

Y Gweithdrefnau ar gyfer y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.

Cyflwyniad

Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 ("y Ddeddf") yn sefydlu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cymru ("yr CPG") fel trefniant partneriaeth gymdeithasol deirochrog, a chanddo aelodaeth sy'n cynrychioli cyflogwyr, gweithwyr a Llywodraeth Cymru.

Mae'r Ddeddf yn darparu mai diben yr CPG yw gwella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol (gan gynnwys drwy wella gwasanaethau cyhoeddus) yng Nghymru. Er mwyn gwneud hyn, gall yr CPG roi gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r canlynol:

  • y dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol y mae Rhan 2 o’r Ddeddf hon yn eu gosod ar gyrff cyhoeddus ac ar Weinidogion Cymru
  • y gwaith o gyflawni nod llesiant “Cymru Lewyrchus” gan gyrff cyhoeddus wrth ymgymryd â datblygu cynaliadwy o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
  • y swyddogaethau caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol a roddir i awdurdodau contractio a Gweinidogion Cymru o dan Ran 3 o'r Ddeddf

Gall yr CPG ddarparu gwybodaeth neu gyngor ar y materion hyn o'i wirfodd, neu mewn ymateb i gais a wneir gan Weinidogion Cymru. Pan fo'r CPG yn cael cais gan Weinidogion Cymru, rhaid iddo ddarparu'r wybodaeth neu'r cyngor cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

Diben y ddogfen hon

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru bennu a chyhoeddi'r cworwm ar gyfer cyfarfodydd yr CPG a'r gweithdrefnau i'w dilyn gan yr CPG sydd heb eu nodi yn y Ddeddf ei hun.

Mae Rhan 1 o'r ddogfen hon yn nodi trefniadau'r cworwm ar gyfer yr CPG, tra bo Rhan 2 yn nodi'r gweithdrefnau gweinyddol a gweithredol ar gyfer yr CPG. Nodir darpariaethau perthnasol y Ddeddf yn Atodiad A.

Rhan 1: y cworwm ar gyfer cyfarfodydd yr CPG

Aelodaeth

Ac eithrio aelodau Llywodraeth Cymru, bydd yr CPG yn cynnwys 18 aelod a benodir gan y Prif Weinidog: 9 cynrychiolydd o blith cyflogwyr yng Nghymru ("cynrychiolwyr cyflogwyr") a 9 cynrychiolydd o blith gweithwyr yng Nghymru ("cynrychiolwyr gweithwyr").

Cworwm

Y cworwm lleiaf ar gyfer unrhyw gyfarfod o'r CPG fydd y mwyafrif o’r rhif cyfan o’r aelodaeth, heb gynnwys aelodau Llywodraeth Cymru. Hynny yw, 10 aelod wedi'u dosbarthu'n gyfartal ar draws cynrychiolwyr o blith gweithwyr a chyflogwyr (sef bod o leiaf pum chynrychiolydd gweithwyr a pum chynrychiolydd cyflogwyr yn bresennol).

Cyhoeddir nad oes cworwm ar gyfer cyfarfod o'r CPG, os nad oes digon o aelodau yn bresennol ar ddechrau'r cyfarfod, neu os nad yw dosbarthiad yr aelodau yn cynnwys digon o gynrychiolwyr gan bartneriaid cymdeithasol, sef cynrychiolwyr cyflogwyr a chynrychiolwyr gweithwyr (5 aelod o'r naill a'r llall). Os cyhoeddir nad oes digon o aelodau yn bresennol yn y cyfarfod ar gyfer cworwm, bydd y Cadeirydd yn gohirio'r cyfarfod nes bod cworwm yn bresennol. Os na fydd cworwm yn bresennol o fewn 20 munud, caiff y cyfarfod ei ohirio i ddyddiad ac amser a bennir gan y Cadeirydd.

Presenoldeb gan rai nad ydynt yn aelodau

Caiff y Cadeirydd, fel y gwelo'n ddoeth, wahodd unigolion eraill i gyfarfodydd yr CPG – er enghraifft pan fo'r CPG wedi comisiynu gwybodaeth gan sefydliad allanol ar fater penodol, gellir gwahodd cynrychiolydd o'r sefydliad hwnnw i gyflwyno neu gefnogi trafodaeth ar y pwnc dan sylw. Mae hefyd yn bosibl i sylwedyddion fod yn bresennol os yw’r Cadeirydd o’r farn bod hynny’n briodol (gallai sylwedydd fod yn rhywun sy'n bresennol ar ran aelod nad yw'n gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod, neu rywun sy'n dod gydag aelod).  Dylid gwneud cais drwy'r ysgrifenyddiaeth i sylwedydd fod yn bresennol mewn cyfarfod, a hynny cyn y cyfarfod perthnasol.  Ni chaniateir i sylwedyddion gymryd rhan ym musnes yr CPG, ac felly ni fyddant yn cyfrannu at y cworwm.

Rhan 2: gweithdrefnau'r CPG

Penodi aelodau a hyd y penodiadau

Mae adran 6 o'r Ddeddf yn darparu bod aelodau yn cael eu penodi gan y Prif Weinidog am gyfnod o dair blynedd. Gall aelod ymddiswyddo neu gall y Prif Weinidog derfynu ei dymor o dan rai amgylchiadau, fel y nodir yn nhelerau ac amodau'r penodiad.

Hyfforddiant a chyrsiau cynefino ar gyfer aelodau

Bydd pecyn cynefino a gwybodaeth gefndir yn cael eu rhoi i'r holl aelodau sydd newydd eu penodi i'r CPG. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am rôl a chylch gwaith yr CPG, trosolwg o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a gwybodaeth berthnasol arall.

Yr Ysgrifenyddiaeth

Bydd y gwaith o drefnu cyfarfodydd, dosbarthu papurau a materion eraill cysylltiedig yn cael ei wneud drwy swyddogaeth ysgrifenyddiaeth a ddarperir gan swyddogion Llywodraeth Cymru.

Pa mor aml y cynhelir y cyfarfodydd

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r CPG gwrdd o leiaf dair gwaith ym mhob cyfnod o 12 mis. Dyma'r gofyniad sylfaenol ac ni fydd yn atal yr CPG rhag cyfarfod yn amlach os bydd yr aelodau'n dewis gwneud hynny. Os bydd yr CPG yn penderfynu cynnal cyfarfodydd pellach yn ychwanegol at y gofyniad sylfaenol, bydd y trefniadau ar gyfer cworwm yr CPG yn dal i fod yn berthnasol.

Hysbysu am gyfarfodydd

Rhoddir o leiaf 4 wythnos o rybudd i'r aelodau gan yr ysgrifenyddiaeth ynghylch dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf, ac eithrio pan fydd cyfarfodydd yn cael eu galw ar frys neu o dan amgylchiadau eithriadol.

Agendâu a phapurau

Bydd agendâu drafft, y cytunwyd arnynt gan y Cadeirydd, yn cael eu dosbarthu i aelodau'r CPG o leiaf 14 diwrnod calendr cyn pob cyfarfod, ac eithrio pan fydd cyfarfodydd yn cael eu galw ar frys neu o dan amgylchiadau eithriadol. Bydd y Cadeirydd yn ystyried ceisiadau am unrhyw faterion busnes ychwanegol a gynigir gan aelodau sy'n dod i law o leiaf saith diwrnod calendr cyn dyddiad y cyfarfod.

Bydd papurau sy'n ymwneud â'r busnes sydd i'w wneud gan yr CPG ar gael i'r aelodau o leiaf 5 diwrnod gwaith (cynhwysol) cyn dyddiad y cyfarfod y maent yn perthyn iddo fel arfer. Gellir dosbarthu papurau o fewn cyfnod byrrach o dan amgylchiadau eithriadol.

Cofnodion

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn llunio nodyn o bob cyfarfod, gan gofnodi pwyntiau allweddol y drafodaeth a'r camau gweithredu. Bydd y cofnodion a'r camau gweithredu yn cael eu cynhyrchu a'u dosbarthu o fewn 10 diwrnod gwaith o'r cyfarfod. Anfonir y rhain at yr holl aelodau er mwyn iddynt wirio eu cywirdeb, ac at y Cadeirydd er mwyn cael ei gymeradwyaeth derfynol.

Cyhoeddi agendâu, papurau, a chofnodion

Bydd agendâu a phapurau cyfarfodydd sydd wedi'u marcio'n 'Unclasssified' yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr CPG.

Bydd dogfennau sydd wedi'u marcio'n 'Protect/members only' yn cael eu trin yn gyfrinachol, ac yn cael eu rhoi i'r aelodau yn unig i'w hystyried.

Lleoliadau cyfarfodydd a mynychu o bell

Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn medru cael eu cynnal wyneb yn wyneb neu drwy bresenoldeb o bell. Mae'r Ddeddf yn darparu y gallai'r CPG gynnal cyfarfod o bell, drwy gyfrwng unrhyw gyfarpar neu gyfleuster arall sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle i siarad â’i gilydd a chlywed ei gilydd (pa un a yw’r cyfarpar neu’r cyfleuster yn galluogi’r personau hynny i weld ei gilydd ai peidio).

Blaenraglen waith

Bydd ysgrifenyddiaeth yr CPG yn paratoi blaenraglen waith ddrafft i'w hystyried gan yr aelodau yng nghyfarfod cyntaf yr CPG. Caiff y rhaglen waith ei hadolygu ym mhob cyfarfod wedi hynny.

Darparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru

Prif ddiben yr CPG yw darparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r materion a gwmpesir gan adran 1 o'r Ddeddf (y dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol a sefydlwyd gan y Ddeddf, y gwaith o gyflawni nod llesiant "Cymru Lewyrchus," a chaffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol).  Mae'r swyddogaeth i ddarparu gwybodaeth a chyngor yn ehangach na dim ond cynghori Gweinidogion Cymru, a gallai gynnwys creu neu ddarparu, ymhlith pethau eraill, ystadegau, crynodebau ffeithiol, copïau o ddogfennau (boed ar gael i'r cyhoedd neu fel arall) ac yn y blaen. Nid oes unrhyw gyfyngiad penodol ar y math o wybodaeth neu gyngor y gall yr CPG ei ddarparu i Weinidogion Cymru.

Gall yr CPG ddarparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru at ddibenion gwella'r pedwar math o lesiant (economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol) a hyrwyddir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Mewn perthynas â rhoi cyngor ar nod llesiant "Cymru Lewyrchus," mae cylch gwaith yr CPG yn cynnwys mynd ar drywydd cyflawni'r nod hwnnw gan bob corff cyhoeddus y mae'n ofynnol iddynt sicrhau datblygu cynaliadwy o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.  Er enghraifft, gallai'r CPG ddarparu gwybodaeth neu gyngor i Weinidogion Cymru am gamau y mae cyrff cyhoeddus yn eu cymryd i wella llesiant Cymru os yw'r camau gweithredu hynny'n gysylltiedig â nod "Cymru Lewyrchus".  I bob pwrpas, bydd hyn yn caniatáu i'r CPG drafod materion sy'n cynnwys gwaith teg, a darparu gwasanaethau cyhoeddus i'r graddau y maent yn ymwneud â mynd ar drywydd cyflawni nod "Cymru Lewyrchus" (gan gynnwys pan fo'r gwasanaethau hynny'n cael eu darparu gan endid preifat).

Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer hyblygrwydd o ran sut mae'r broses o gael cyngor neu wybodaeth gan yr CPG yn cael eu hannog (gall yr CPG ei hun neu Weinidogion Cymru eu hannog).  Felly, gall yr CPG weithredu ar ei liwt ei hun os daw'n ymwybodol o bwnc y mae'n penderfynu y dylai ddarparu gwybodaeth neu gyngor mewn perthynas ag ef.

Bydd ysgrifenyddiaeth yr CPG yn gyfrifol am anfon gwybodaeth neu gyngor wedi'u cwblhau gan yr CPG at Weinidogion Cymru. Gellir hepgor deunydd sensitif o'r wybodaeth neu'r cyngor.  Mewn achosion lle mae'r wybodaeth neu'r cyngor yn ymwneud yn llwyr â mater sensitif, Gweinidogion Cymru fydd yn penderfynu a ddylid cyhoeddi gwybodaeth neu gyngor o'r fath fel y gwelant yn ddoeth. Yr unig eithriad fyddai yn sgil cael cais Rhyddid Gwybodaeth, lle byddai angen dilyn gweithdrefnau Llywodraeth Cymru.  

Presenoldeb ac ymddygiad yr aelodau

Mae gan aelodau'r CPG gyfrifoldeb unigol ac ar y cyd am sicrhau bod yr CPG yn cydymffurfio â'r holl ofynion statudol perthnasol. Wrth wneud hynny, bydd gofyn iddynt ddeall a dehongli gwybodaeth fanwl a rhoi cyngor a barn ar amrediad eang o faterion polisi a/neu weithredol er mwyn hyrwyddo'r swyddogaethau a roddir i'r CPG o dan adran 1 o'r Ddeddf. Bydd hefyd yn ofynnol i aelodau arddangos barn bwyllog a sgiliau cyfathrebu da, gan gynnwys y gallu i weithio mewn ffordd adeiladol ag aelodau eraill o'r CPG i gyflawni consensws cyffredin a hefyd ymgysylltu ag eraill i gefnogi gwaith yr CPG.

Mae disgwyl i'r aelodau fynd i bob cyfarfod. Os nad yw hynny'n bosibl, dylent hysbysu'r ysgrifenyddiaeth cyn gynted ag y bo modd. Gallai colli cyfarfodydd yn aml arwain at derfynu penodiad aelod o'r CPG.

Disgwylir i aelodau allu neilltuo digon o amser i'w dyletswyddau ar gyfer yr CPG a mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd (gan gynnwys cyfarfodydd yr is-grwpiau lle bo hynny'n berthnasol). Mae cymryd rhan yn y cyfarfodydd hyn yn rhan hanfodol o rôl aelod i sicrhau effeithiolrwydd yr CPG a'i is-grwpiau.  Rhoddir ystyriaeth i'r cofnod o bresenoldeb aelodau mewn cyfarfodydd pan fydd angen ystyried ailbenodi aelod.

Datrys anghytundebau rhwng aelodau

Rhaid i bob aelod sy'n bresennol yn y cyfarfod gytuno ar yr wybodaeth a'r cyngor sydd i'w cyflwyno i Weinidogion Cymru gan yr CPG, yn amodol ar baragraffau 31 a 32 isod.

Os na ellir dod i gytundeb, bydd yr aelodau'n cael cyfle i gyflwyno eu dadl er mwyn dod o hyd i rywfaint o gyfaddawd neu dir cyffredin. Os na ellir dod i gonsensws, yna mae angen cyfaddawd. Bydd hyn yn seiliedig ar benderfyniad mwyafrifol. Gellir cyflwyno cyngor i Weinidogion Cymru sy'n cynnwys cafeat nad oedd rhai o'r aelodau'n cytuno. Gellir hefyd gynnwys rhesymeg yr aelodau nad oedd yn cytuno, ac unrhyw ddull(iau) amgen a gynigiwyd.

Bydd anghytundebau ynghylch materion polisi neu weithdrefnau yn cael eu cofnodi yn y cofnodion. Bydd gwahaniaeth barn unigolion ar faterion y cytunwyd arnynt yn gyffredinol yn cael ei gofnodi ar gais unrhyw aelod.

Datganiadau o fuddiant

Wrth gyflwyno eitemau arfaethedig ar yr agenda, ac ar ddechrau pob cyfarfod o'r CPG, bydd gofyn i aelodau ddatgelu i'r ysgrifenyddiaeth unrhyw fuddiant sy'n berthnasol i'r eitemau ar yr agenda a'r trafodaethau dilynol – hynny yw, lle gallai fod achos canfyddedig neu wirioneddol o wrthdaro buddiannau.

Y Gymraeg

Er nad yw Safonau'r Gymraeg fel y'u nodir ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn berthnasol yn uniongyrchol i'r CPG, ni fydd yr CPG yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, a lle bo'n bosibl bydd yn cynnal ei fusnes yn ddwyieithog.

Cyn i'r aelodau fynd i'w cyfarfod cyntaf o'r CPG, gofynnir iddynt beth yw eu dewis iaith ar gyfer cyfrannu yn ystod y cyfarfodydd, ac ar gyfer unrhyw ohebiaeth, gwybodaeth a phapurau a gaiff eu hanfon atynt. Caiff cyfarfodydd eu trefnu yn unol â dewis iaith yr aelodau (e.e. drwy ddarparu cyfieithu ar y pryd a fersiynau Cymraeg o bapurau ar gyfer cyfarfodydd).

Bydd unrhyw bapurau sy'n cael eu cynhyrchu a'u comisiynu gan yr CPG yn cael eu cyhoeddi ar wefan llyw.cymru/gov.wales yn ddwyieithog.

Cyfrinachedd

Er mwyn hwyluso trafodaeth agored, bydd rhai o'r dogfennau i'w trafod yng nghyfarfodydd yr CPG yn cael eu marcio'n 'Protect/Members Only', ac fe'u cyhoeddir i'w hystyried gan yr aelodau yn unig.

Rhaid i aelodau beidio â chysylltu â'r wasg neu gyfryngau eraill i drafod unrhyw fater 'yn gyfrinachol' sydd wedi'i nodi'n 'Protect/Members Only', na'i drafod mewn unrhyw gyd-destun lle gall ddod yn wybodaeth gyhoeddus neu gael ei godi gan y wasg/y cyfryngau, heb gysylltu ag ysgrifenyddiaeth Llywodraeth Cymru yn gyntaf.

Fodd bynnag, os bydd y wasg neu'r cyfryngau yn cysylltu ag aelod i ofyn ei farn am waith yr CPG a/neu bryderon polisi'r CPG, dylent ymateb fel a ganlyn:

  • os yw'r cwestiwn yn ymwneud â chadarnhau mater y mae’r aelod yn hyderus ei fod eisoes ar goedd, dylai gyfyngu ei sylwadau i wybodaeth ffeithiol. Ni ddylai roi ei farn ar y mater gan y gellid ystyried honno fel barn gyffredin yr CPG ar y cyd. Dylai hefyd roi gwybod i'r Prif Weinidog a'r ysgrifenyddiaeth am y sgwrs yn syth ar ôl iddi ddigwydd
  • os yw'r cwestiwn yn amlwg yn sensitif a gallai'n hawdd gyrraedd tudalennau blaen y cyfryngau, ni ddylai'r aelod wneud sylw a dylai gyfeirio'r newyddiadurwr yn uniongyrchol at y Prif Weinidog a'r ysgrifenyddiaeth
  • os yw aelod yn gwneud sylwadau anfwriadol am yr CPG i rywun y mae'n sylweddoli yn ddiweddarach ei fod yn aelod o'r wasg neu o gyfryngau eraill, dylai hysbysu'r Prif Weinidog a'r ysgrifenyddiaeth cyn gynted ag y bo modd
  • ac eithrio yn dilyn cael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru, ni fydd aelodau yn gwneud unrhyw gyhoeddiadau i'r wasg nac yn cynnal unrhyw weithgareddau yn rhinwedd eu rôl fel aelod o'r CPG. Bydd yr amodau hyn yn berthnasol yn ystod cyfnod eu penodiad

Cofnodion cyhoeddus

Bydd yr holl gofnodion cyhoeddus a gedwir gan yr CPG yn dod o dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru, ac felly'n dod o dan bolisïau cofnodion cyhoeddus presennol.

Diogelu data

Nid yw'r CPG yn gorff cyfreithiol ar wahân. Felly, bydd unrhyw ddata personol sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru yn destun ceisiadau prosesu data a ddaw i law Llywodraeth Cymru yn y ffordd arferol.

Ceisiadau rhyddid gwybodaeth

Gall dogfennau, gan gynnwys nodiadau cyfarfodydd, fod yn destun ceisiadau am wybodaeth a wneir o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Os derbynnir ceisiadau o'r fath, dilynir gweithdrefnau Rhyddid Gwybodaeth safonol Llywodraeth Cymru.

Adolygu a diwygio gweithdrefnau

Caiff y gweithdrefnau hyn eu hadolygu bob tair blynedd. Fodd bynnag, yn dilyn ymgynghoriad rhwng Gweinidogion Cymru a'r CPG, gellir diwygio'r gweithdrefnau hyn ar unrhyw adeg. Bydd unrhyw newidiadau o'r fath yn cael eu cyhoeddi cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

Atodiad A: darpariaethau perthnasol i'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023

1. Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cymru

1. Sefydlir Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cymru (“CPG”).

2. At ddibenion gwella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol (gan gynnwys drwy wella gwasanaethau cyhoeddus) yng Nghymru, caiff yr CPG ddarparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag:

  • (a) y dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol y mae’r Ddeddf hon yn eu gosod ar gyrff cyhoeddus ac ar Weinidogion Cymru (gweler Rhan 2)
  • (b) ymgyrraedd at nod llesiant “Cymru lewyrchus” gan gyrff cyhoeddus wrth ymgymryd â datblygu cynaliadwy o dan DLlCD 2015 (gweler Rhan 2)
  • (c) y swyddogaethau a roddir i awdurdodau contractio a Gweinidogion Cymru o dan Ran 3 (caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol)

3. Caiff yr CPG ddarparu gwybodaeth neu gyngor ar fater y cyfeirir ato yn is-adran (2) ohono’i hun neu mewn ymateb i gais a wneir gan Weinidogion Cymru.

4. Pan fo’r CPG yn cael cais gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (3), rhaid i’r CPG ddarparu’r wybodaeth neu’r cyngor cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

2. Aelodaeth Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cymru

1. Mae’r CPG i gynnwys yr aelodau a ganlyn:

  • aelodau o Lywodraeth Cymru (“aelodau Llywodraeth Cymru”)
  • 9 cynrychiolydd cyflogwyr yng Nghymru (“cynrychiolwyr cyflogwyr”), ac
  • 9 cynrychiolydd gweithwyr yng Nghymru (“cynrychiolwyr gweithwyr”)

2. Mae aelodau Llywodraeth Cymru i gynnwys y Prif Weinidog a, phan wahoddir hwy gan y Prif Weinidog o bryd i’w gilydd:

  • unrhyw un neu ragor o Weinidogion eraill Cymru
  • unrhyw un neu ragor o Ddirprwy Weinidogion Cymru
  • y Cwnsler Cyffredinol
  • unrhyw aelod o staff Llywodraeth Cymru

3. Rhaid i’r Prif Weinidog benodi pob cynrychiolydd cyflogwyr a phob cynrychiolydd gweithwyr (gyda’i gilydd, “aelodau penodedig”).

4. Rhaid i’r Prif Weinidog gymryd pob cam rhesymol i benodi’r 9 cynrychiolydd cyflogwyr cychwynnol a’r 9 cynrychiolydd gweithwyr cychwynnol o fewn 6 mis gan ddechrau â thrannoeth y diwrnod y daw’r is-adran hon i rym.

5. Yn y Ddeddf hon, mae cyfeiriad at “Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cymru” neu “CPG” yn gyfeiriad at aelodau’r CPG yn gweithredu ar y cyd; yn unol â hynny, mae swyddogaeth a fynegir fel un o swyddogaethau’r CPG yn swyddogaeth i bob aelod na chaniateir ei harfer ond ar y cyd â’r aelodau eraill.

3. Cynrychiolwyr cyflogwyr

Mae’r cynrychiolwyr cyflogwyr i gynnwys unigolion y mae’r Prif Weinidog yn ystyried eu bod yn cynrychioli cyflogwyr cyrff cyhoeddus, cyflogwyr sector preifat, cyflogwyr sefydliadau gwirfoddol, cyflogwyr addysg uwch a chyflogwyr addysg bellach.

4. Cynrychiolwyr gweithwyr

Mae’r cynrychiolwyr gweithwyr i gynnwys unigolion y mae’r Prif Weinidog yn ystyried eu bod yn cynrychioli staff sy’n gweithio i bob categori o gyflogwr y cyfeirir ato yn adran 3.

5. Enwebu aelodau penodedig

1. Cyn penodi cynrychiolwyr cyflogwyr, rhaid i’r Prif Weinidog geisio enwebiadau gan bersonau neu gyrff y mae’r Prif Weinidog yn ystyried eu bod yn cynrychioli barn y categorïau o gyflogwr y cyfeirir atynt yn adran 3.

2. Cyn penodi cynrychiolwyr gweithwyr, rhaid i’r Prif Weinidog geisio enwebiadau gan y corff sy’n cynrychioli undebau llafur yng Nghymru a adnabyddir fel Wales TUC Cymru.

3. Wrth benodi cynrychiolwyr cyflogwyr, rhaid i’r Prif Weinidog roi sylw i unrhyw enwebiadau a wnaed o dan is-adran (1).

4. Wrth benodi cynrychiolwyr gweithwyr, ni chaiff y Prif Weinidog ond penodi unigolion sydd wedi eu henwebu o dan is-adran (2).

6. Cyfnod penodiadau

1. Penodir aelodau penodedig am 3 blynedd oni bai:

  • bod y Prif Weinidog yn terfynu’r penodiad drwy hysbysu’r aelod yn ysgrifenedig, neu
  • bod yr aelod penodedig yn ymddiswyddo drwy hysbysu’r Prif Weinidog yn ysgrifenedig

2. Rhaid i’r Prif Weinidog lenwi unrhyw swyddi gwag cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

7. Cyfarfodydd, gweithdrefnau a chymorth gweinyddol

1. Rhaid i’r CPG gyfarfod o leiaf 3 gwaith ym mhob cyfnod o 12 mis sy’n dechrau drannoeth y diwrnod y gwnaeth y Prif Weinidog yr holl benodiadau cychwynnol a grybwyllir yn adran 2.

2. Pan fo hynny’n bosibl, rhaid i’r Prif Weinidog gadeirio cyfarfodydd yr CPG.

3. Pan na fo’n bosibl i’r Prif Weinidog gadeirio cyfarfod, rhaid i un o Weinidogion Cymru neu un o Ddirprwy Weinidogion Cymru a enwebwyd gan y Prif Weinidog gadeirio’r cyfarfod.

4. O fewn 6 mis gan ddechrau â thrannoeth y diwrnod y daw’r is-adran hon i rym, rhaid i Weinidogion Cymru bennu a chyhoeddi:

  • y cworwm ar gyfer cyfarfodydd yr CPG, a
  • y gweithdrefnau i’w dilyn gan yr CPG, i’r graddau nad ydynt wedi eu pennu yn y Ddeddf hon.

5. Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â’r CPG, ddiwygio unrhyw beth a bennir o dan is-adran (4) a rhaid iddynt gyhoeddi unrhyw ddiwygiadau o’r fath.

6. Rhaid i weithdrefnau’r CPG gynnwys:

  • y gweithdrefnau ar gyfer trefnu cyfarfodydd gan gynnwys y rhybudd sydd i’w roi i’r mynychwyr a sut y caiff mynychwyr ychwanegu eitemau at agenda cyfarfodydd
  • y weithdrefn ar gyfer datrys anghytuno rhwng aelodau mewn perthynas ag arfer swyddogaethau’r CPG
  • y gweithdrefnau ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru

7. Rhaid i Weinidogion Cymru beri bod cymorth gweinyddol ar gael i’r CPG.

8. Is-grwpiau

1. Caiff yr CPG sefydlu is-grwpiau.

2. Caiff is-grŵp:

  • cyflawni unrhyw swyddogaeth a ddirprwyir iddo gan yr CPG
  • cynorthwyo’r CPG i gyflawni ei swyddogaethau mewn unrhyw ffyrdd a bennir gan yr CPG

3. O ran is-grŵp:

  • rhaid i aelod o’r CPG ei gadeirio, a
  • caiff gynnwys aelodau eraill o’r CPG ac unigolion eraill

9. Is-grŵp caffael cyhoeddus

1. Rhaid i’r CPG gymryd pob cam rhesymol i sefydlu is-grŵp caffael cyhoeddus o fewn 6 mis gan ddechrau drannoeth y diwrnod y daw’r is-adran hon i rym.

2. O fewn 6 mis gan ddechrau â thrannoeth y diwrnod y daw’r is-adran hon i rym, rhaid i Weinidogion Cymru bennu a chyhoeddi:

  • y cworwm ar gyfer cyfarfodydd yr is-grŵp caffael cyhoeddus, a
  • y gweithdrefnau i’w dilyn gan yr is-grŵp caffael cyhoeddus, i’r graddau nad ydynt wedi eu pennu yn y Ddeddf hon

3. Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio unrhyw beth a bennir o dan is-adran (2) a rhaid iddynt gyhoeddi unrhyw ddiwygiadau o’r fath.

4. Rhaid i weithdrefnau’r is-grŵp caffael cyhoeddus gynnwys:

  • y gweithdrefnau ar gyfer trefnu cyfarfodydd gan gynnwys y rhybudd sydd i’w roi i’r mynychwyr a sut y caiff mynychwyr ychwanegu eitemau at agenda cyfarfodydd
  • y weithdrefn ar gyfer datrys anghytuno rhwng aelodau mewn perthynas ag arfer swyddogaethau’r is-grŵp
  • y gweithdrefnau ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor i’r CPG a Gweinidogion Cymru

5. Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch cyfansoddiad yr is-grŵp caffael cyhoeddus (gan gynnwys at ddiben sicrhau aelodaeth sydd â chynrychiolaeth briodol), a rhaid i’r CPG roi sylw i’r canllawiau hynny.

10 Darparu gwybodaeth a chyngor i’r CPG gan yr is-grŵp caffael cyhoeddus

1. Caiff yr is-grŵp caffael cyhoeddus ddarparu gwybodaeth a chyngor i’r CPG ynghylch y swyddogaethau a roddir i awdurdodau contractio a Gweinidogion Cymru o dan Ran 3 (caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol).

2, Caiff yr CPG:

  • darparu i Weinidogion Cymru wybodaeth neu gyngor a gafwyd oddi wrth yr is-grŵp caffael cyhoeddus, neu
  • diwygio gwybodaeth neu gyngor o’r fath a darparu’r wybodaeth neu’r cyngor fel y’i diwygiwyd i Weinidogion Cymru

3. Os yw Gweinidogion Cymru yn gofyn am wybodaeth neu gyngor gan yr CPG ynghylch mater y cyfeirir ato yn is-adran (1), rhaid i’r CPG:

  • ceisio’r wybodaeth honno neu’r cyngor hwnnw gan yr is-grŵp caffael cyhoeddus, a
  • darparu’r wybodaeth neu’r cyngor, neu ddiwygio’r wybodaeth neu’r cyngor a’i darparu neu ei ddarparu fel y’i diwygiwyd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol

4. Os yw Gweinidogion Cymru yn ymgynghori â’r is-grŵp caffael cyhoeddus o dan adran 30(2)(d) neu 36(2)(d), rhaid i’r is-grŵp caffael ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth a chyngor y mae’n ystyried eu bod yn briodol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

5. Os nad oes is-grŵp caffael cyhoeddus wedi ei sefydlu eto o dan adran 9(1), caiff yr CPG serch hynny ddarparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru ynghylch mater y cyfeirir ato yn is-adran (1).

11. Cyfarfod o bell

Caiff yr CPG neu is-grŵp gynnal cyfarfod drwy gyfrwng unrhyw gyfarpar neu gyfleuster arall sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle i siarad â’i gilydd ac i gael eu clywed gan ei gilydd (pa un a yw’r cyfarpar neu’r cyfleuster yn galluogi’r personau hynny i weld ei gilydd ac i gael eu gweld gan ei gilydd ai peidio).

12. Treuliau

Caiff Gweinidogion Cymru dalu treuliau:

  • cynrychiolydd cyflogwyr
  • cynrychiolydd gweithwyr
  • aelod o is-grŵp

13. Pwerau atodol

Caiff yr CPG wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso arfer ei swyddogaethau neu swyddogaethau is-grŵp, neu sy’n ffafriol i hynny neu’n gysylltiedig â hynny.