Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol: camau sy’n codi - 1 Chwefror 2024
Camau gweithredu sy'n codi o gyfarfod 1 Chwefror 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Cam
Ysgrifenyddiaeth i adolygu ac ailrannu’r ddogfen gweithdrefnau’r CPG ar gyfer sêl bendith ar ôl ystyried y pwyntiau a godwyd gan (DW a GL ym mharagraffau 7, a 12 yn y drefn honno) cyn cyfarfod nesaf y Cyngor.
Arwain: Ysgrifenyddiaeth CPG
Diweddariad: Bydd trafodaethau ar ddiwygiadau posibl i weithdrefnau'r CPG yn cael eu cynnal y tu allan i gyfarfodydd gyda'r bwriad o gyflwyno'r ddogfen derfynol i gyfarfod y Cyngor fis Gorffennaf.
Statws: Parhaus
Cam
Swyddogion Llywodraeth Cymru i drafod cyfranogiad y TUC yn ysgrifenyddiaeth CPG fel y'i codwyd gan DW gyda chynrychiolwyr y gweithwyr.
Arwain: Swyddogion Llywodraeth Cymru
Diweddariad: Mae swyddogion Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd Cyffredinol Cymru y TUC wedi trafod a bydd yr ysgrifenyddiaeth yn sicrhau bod y secondai presennol yn ymwneud â’i waith.
Statws: Cwblhau
Cam
Cytunodd AC i fwydo trafodaethau o'r cyfarfod ar gasglu data ar lefel awdurdodau lleol ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol gyda Phrif Ystadegydd Llywodraeth Cymru fel rhan o adroddiad Llesiant Blynyddol Cymru.
Arwain: Swyddog Llywodraeth Cymru
Diweddariad: Mae'r Prif Ystadegydd wedi cael gwybod am drafodaethau'r Cyngor.
Statws: Cwblhau
Cam
Cytunodd DMSP i rannu'r 56 adroddiad partneriaeth gymdeithasol gan gyrff cyhoeddus (pan fyddant ar gael) gyda'r adroddiad cryno ar gyfer 2024/25 pe bai aelodau’r CPG yn dymuno eu gweld.
Arwain: Ysgrifenyddiaeth CPG
Diweddariad: Gweithredu pan fydd yr adroddiadau wedi'u cyhoeddi.
Statws: Parhaus
Cam
CPG i ystyried sefydlu is-grŵp i edrych yn benodol ar gaffael meddalwedd Deallusrwydd Artiffisial a'i effaith ar y gweithlu.
Arwain: Aelodau’r CPG
Diweddariad: Disgwylir i is-grŵp Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar Ddeallusrwydd Artiffisial adrodd ym mis Tachwedd ac mae potensial i'r adroddiad gael ei gyflwyno yn y cyfarfod CPG nesaf ar ôl ei gyhoeddi fel y gall y CPG ystyried ei gamau nesaf er mwyn osgoi dyblygu gwaith.
Statws: Parhaus
Cam
SH i ystyried y ffordd orau o sicrhau bod y CPG yn cael ei ddiweddaru ar ffurf briffiau technegol ar faterion caffael yn ogystal â datblygu'r Is-grŵp Caffael.
Arwain: Swyddog Llywodraeth Cymru
Diweddariad: Mae diweddariad wedi'i ddarparu i gyfarfod mis Mehefin fel papur i'w nodi. Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu fel y bo'n briodol.
Statws: Parhaus
Cam
Ychwanegu 'Y potensial i Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 gefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle' at agenda cyfarfod nesaf y CPG.
Arwain: Ysgrifenyddiaeth CPG
Diweddariad: Gohiriwyd y papur hwn i gyfarfod mis Gorffennaf, er mwyn sicrhau bod amser ar gyfer trafodaeth lawn, mae agenda mis Mehefin yn canolbwyntio ar ymgynghori â'r CPG ar flaenoriaethau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ac adolygu amcanion llesiant.
Statws: Parhaus
Cam
Nododd DMSP y byddai eitem 11 (Blaenraglen Gwaith) yn cael ei hychwanegu at yr agenda CPG nesaf.
Arwain: Ysgrifenyddiaeth CPG
Diweddariad: Cyflwynwyd rhaglen waith amlinellol i'r dyfodol fel papur i'w nodi ar gyfer cyfarfod mis Mehefin cyn trafodaeth lawn yng nghyfarfod mis Gorffennaf.
Statws: Cwblhau
Cam
Aelodau i gyflwyno unrhyw gynigion ar gyfer agenda'r cyfarfod CPG nesaf i ysgrifenyddiaeth CPG.
Arwain: Aelodau CPG
Diweddariad: Gofynnwyd i'r Aelodau gyflwyno cynigion ar yr agenda pan rannwyd cofnodion drafft y cyfarfod cyntaf, a chawsant eu hatgoffa o'r cais pan gadarnhawyd dyddiad cyfarfod mis Mehefin.
Statws: Cwblhau
Cam
Aelodau CPG i rannu eu dewisiadau ar gyfer dyddiad, lleoliad a fformat cyfarfod nesaf y Cyngor i Ysgrifenyddiaeth CPG
Arwain: Aelodau CPG
Diweddariad: Gofynnwyd i'r Aelodau am eu barn pan ddosbarthwyd cofnodion drafft y cyfarfod cyntaf.
Statws: Cwblhau
Cam
Ysgrifenyddiaeth CPG i gydlynu trefniadau ar gyfer cyfarfod nesaf y Cyngor.
Arwain: Ysgrifenyddiaeth CPG
Diweddariad: Anfonwyd gwahoddiad at yr aelodau ar 17 Mai.
Statws: Cwblhau